Y Talwrn- Y Rhelyw V Crannog
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys 'Olwyn
Un olwyn sy'n dwyn y daith,
un olwyn na ddaw eilwaith.
Geraint Roberts 8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth yn cynnwys 'Olwyn
Yr olwyn a ddifwyna
Y glannau hun a'i glanha.
Hywel Rees.8 1/2 pwynt
Pennill Mawl/Dychan- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Dyna lwc fod gennym ni,
A'n gwlad dan fygythiada',
Em o Dî sy'n teithio'r byd
i gyd i daro gynta'.
Mari Lisa 9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Eu tasg yw cadw ffiniau moeth
Trethdalwyr balch Britannia
A dyna pam eu bod yn awr
Yn gwarchod gwerin Libya
Dewi Morris9 pwynt
CYWYDD - yn dechrau gyda "Mi wn..."
Hen wraig yng ngwasanaeth coffa'r Blits ar Abertawe (Chwefror 19-21, 1941), Eglwys Santes Fair
Mi wn, yn yr emynau,
daw i hon wahanu dau;
daw yr ofn 'nôl dros y dref,
dod iddi wna'r dioddef
'lawr i'r cwm yn alaw'r côr
a chyfri' saith deg Chwefror;
a daw difrod i hofran,
daw angau'n dalpiau o dân,
crater hyll yw cartre' hon
a gaeafau'i hatgofion;
yn adlais llais yn pellhau
tair noson sy'n troi'n oesau.
Geraint Roberts 9 pwynt
CYWYDD - yn dechrau gyda "Mi wn..."
(Er cof am Abraham, brawd Mam, a fu farw yn 1999 )
Mi wn fod Abraham ynof,
Hen gwmnïwr cwrw'r cof,
A fyn ddod i'm diod i
Yn gerdd sy'n dal i gorddi,
A'r galar rhwng bar a bedd
Yn llawn o firi llynedd.
Ni weithiais gân amdano
I'w rhoi ar brint papur bro
A chwaith, mi a wn na chadd
Englyn ar ddydd ei angladd
Ond mae dalen i'w llenwi'n
Dannod fy mudandod i.
Idris Reynolds9 1/2 pwynt
Englyn yn enwi anhwylder
Ymweliad yr awen
Ces gaca cur yr acen - a phoenau
â phennill i'r goben,
yna gwendid llid fy llên
a diarrhoea'r awen.
Geraint Roberts8 1/2 pwynt
Englyn yn enwi anhwylder
Yn ddi-hwyl fe drown at Dduw - i enwi'n
Anghenion unigryw,
Ond wedyn ergyd ydyw
Ei gael Ef yn drwm ei glyw.
Hywel Rees.9 pwynt
CÂN - Y Diwrnod Mawr
Os ydi y Meuryn yn credu fy mod i
am wneud pwt o gân i Ceti a Wili,
mae'n gwneud camgymeriad, achos ar yr un dyddiad
bydd hwch berta 'rioed yn gollwng ei thoriad,
yn dawel, gobeithio, wedi tri mis a thair wythnos -
mor hir ydyw'r disgwyl, mor hir yw pob aros.
Dwy lamp inffra-red i roi gwres yn y cytia'
sydd yno yn barod yn nho y feithrinfa;
ceir byrnau o well i wneud siŵr fod y gwely
yn addas i dderbyn i'r byd y shwt deulu.
Daw sylwebaeth i'r ty yn gyson drwy'r dydd Gwener,
Charles Arch a Dai Jones a chamerâu cudd.
Mae'r sbinwch Gymreig o dras uchel ael -
yn Sioe Fawr Llanelwedd, does dim pertach i'w chael.
Bydd diwrnod o wyliau i'r plant i gael parti,
ceir dau bownsi casyl a chlown i ddweud stori;
bydd y wraig 'cw a fi fel dau o'r hôm gard
yn paredian yn ôl ac ymlaen hyd yr iard.
Ceir rhywbeth yn debyg yn Westminster Abbey, ond bydd ein diwrnod mawr ni'n llawer iawn gwell na hynny.
Harri Williams8 1/2 pwynt
CÂN - Y Diwrnod Mawr
Dydd Gŵyl y Banc
Bydde well 'da fi orwedd dan Sherman Tank
Na bod yn Nhresaith ar ddydd Gŵyl y Banc.
Ma'r lle'n llawn o Brummies, Geordies a Jacks
A menywod Treforys a'u lager- packs
Mae'n nhw'n eistedd trwy'r dydd yn siarad â'u cŵn
A'u teganau digidol yn cadw sŵn.
Mae'r pentre fel syrcas yn llawn dop o 'freaks
Gyda'u radios a'u jetskis a'u plant yn llawn cheeks,
Trôns nofio Btitannia a deck- chairs San Siôr
A chwyno bob munud fod y dŵr yn rhy o'r,
Parcio 'mhob man ar leins melyn dwbwl
A chael tocyn dwyieithog a gwên am eu trwbwl,
Gorlenwi y Ship gyda'u gweiddi a'u stŵr
Ac yfed y dablen sy'n fawr well na dŵr,
Talu crocbris am pizza a chips wedi rhewi'...
Mae'n Dachwedd bron iawn cyn i'n pentref dewi.
Rwy'n meddwl symud i Brighton Gŵyl y Banc
Gyda llond bws mwncïod o'r sŵ
A chael pleser o'r mwya 'da'r Saeson bach neis
Wrth wneud yr un peth iddyn nhw.
Dewi Morris8 1/2 pwynt
Limrig- "Aeth rhywbeth o'i le ar fy nghar i"
Pan oedd fy llaw chwith ar lin Sali
aeth rhywbeth o'i le ar fy nghar i:
wrth newid y gêr
es ychydig yn flêr
a slipiodd y clytsh, dyna biti.
Harri Williams8 pwynt
Limrig- "Aeth rhywbeth o'i le ar fy nghar i"
Un noson pan fues i mas yn caru
Aeth rhywbeth o le ar fy nhar i
Aeth y springs yn y back
Yn hynod o slack
Nid croten chwe stôn ydoedd Mari.
Dai Jones8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Tybed a ddaw yr awen?
Yn y parc rwy'n crafu pen.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Yn waglaw ar y siglen
Yn y parc rwy'n crafu pen.
0 pwynt
Englyn Cywaith-Teulu
Hen fam-gu yn croesawu ei gor-ŵyr a enwyd ar ôl ei diweddar ŵr
Ar enw mae'n gwirioni, - ar y wên
ar fraich mewn blancedi;
ef fydd y cyntaf iddi,
ei gor-ŵyr, fel ei gŵr hi.
Geraint Roberts8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith-Teulu
Ar y gangen mae'r genyn - yn deilio
Yn waedoliaeth gyndyn
Hyd yr allt, daw'r derw a'r ynn
Yn goed, cyn gwywo wedyn.
Owen James9 pwynt
TELYNEG - Gorffwys
o flaen y teledu
Mae'n rhaid fy mod i'n hepian
un nos o flaen y sgrîn
pan ddygwyd oddi arna' i
y rhaglen olaf, flin.
Mae'n rhaid fy mod i'n mwydro
rhwng cwsg ac effro'r byd
pan wasgwyd botwm pedwar
a chwalu'r lliw i gyd.
Mae'n rhaid fy mod i'n diogi.
a'm batri bach yn wan
pan drodd y llun yn eira
cyn diffodd yn y man.
Mae'n rhaid, mae'n rhaid, mae'n rhaid mai fi
a gysgodd trwy ein sianel ni.
Karen Owen9 pwynt
TELYNEG - Gorffwys
Heuodd ei enw, a fawr ddim arall,
Ar erw o bapur T.G.A.U.
Cyn rhoi, fel Ffan, ei ben ar ei balfau,br>
A'r llygaid yn hanner cau.
Trafodai'i gymdogion o'r desgiau cyfagos
Eu cnydau yn nhrymder prynhawn.
Aeth yntau i gysgu er mwyn cael mynd adref
I gynaeafu'r maes llafur go iawn.
Idris Reynolds10 pwynt
Englyn ar y pryd- Rhy Hwyr
Dannod mae'r bunt Brydeinig- genedl
a gân ar ychydig,
mor ddof ydyw'r Gymru ddig,
rhy ddiweddar a ddiddig.
Karen Owen9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 79 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Rhy Hwyr
Cwmwl glaw ddaw â'i dduwch- o obaith
ond i feibion tristwch
mae dial yr anialwch
Yn egin llosg yn y llwch.
Dai Jones9 pwynt
CYFANSWM- 80 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

