Y Talwrn - Dinbych V Cadw'r Ffin

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled Caeth ar yr odl 'in'

Ar "Cefn Gwlad", lled gyffredin
yw i Dai fod ar ei din.

Berwyn Roberts
8 1/2 pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'in'

Bydd Yncl Dafydd Franklin
Yn eitha boi yn syth bin.

Dafydd Franklin Jones
8 pwynt

Pennill Mawl / Dychan - Yr Heddlu

Yn sgîl y gor-gynilo,
at sŵn hen oes awn eto:
sŵn gwadnau 'sgidiau ar y lôn,
nid ffôn neu hedfan heibio.

Eifion Lloyd Jones
8 1/2 pwynt

Pennill Mawl / Dychan - Yr Heddlu

Nhw sy'n gwneud eu gorau glas
I'n gwarchod ni rhag lladron cas,
Pob bygythiad, a phob byrglar -
Ond mae'r ffôrs yn llai o'r hannar.
Gwnaed toriadau effeithlonrwydd:
Crwcs sy'n dawnsio mewn llawenydd!
Cwyno? Ewch at eich cynghorydd....
Wps! Na - sori - Comisiynydd.
Rhwydd yw canu clod yr heddlu
Anodd, anodd yw eu talu.

Alun Evans
8 pwynt

Cywydd: Dyled (Ffred Ffrancis)

Mewn oes, y mae yna un
na wêl gryfder y gelyn
na'styried anhawsterau;
un ar ras i gario'r iau.
Ei farn yn gadarn trwy'r gwawd
a'i waedd yn ddigyfaddawd.

Ni y rhai sydd ofn troi'r drol
yn mwydro yn gymhedrol
am wlad, am iaith, ac ymhlith
yr euogrwydd mae rhagrith.
Ein dewis, bod yn daeog,
yn rhy llwfr i dalu'r llog.

John Glyn Jones
9 1/2 pwynt

Cywydd: Dyled

I Gardi roedd ei gerdyn
Yn nef. Pa ryw swyn yw hyn?
Mwynhad oes yn M and S
O wên lydan ei lodes
Yn dewis gwisg rôl gwisgoedd
a gwario dim- gwir hud oedd!

Rol gwenu wrth brynu bra,
Dewis nôs Next sy'nesa-
Pyjamas del i'r gwely,
Te hael cyn mynd nôl i'r tŷ.
Mwy noeth fu trannoeth mwynhad
O dialedd methdaliad.

Sion Aled
8 1/2 pwynt

Englyn Beddargraff

O ddrws i ddrws nid oedd yr un - ddynes
na ddenai'n go sydyn:
Yn unig aeth er hynny'n
hen lanc i'w wely ei hun.

John Glyn Jones
8 1/2 pwynt

Englyn Beddargraff

Cowntiais ar ddosbarth cyntaf- o fywyd
Ond ni fu.Derbyniaf
Finnau mai'r gorau a gaf
Yw ail-da beth yr ildiaf.

Meg Ellis
8 pwynt

Cân: Diwrnod i'w Gofio

Roedd Jini Jones yn nainti, yn weddw ers cyn co',
A'r unig gwmni ganddi, oedd ei chath fach ffyddlon, Jo.
Un tro, tra'n llnau y brasus 'fo Brasso'n braf ei byd
Fe welodd debot diarth, a hwnnw'n llwch i gyd.
O'i rwbio gyda'i chadach, fe glywodd ddiawl o glec.
Daeth mwg o'r tebot bychan. Medd Jini, "Fflipin hec,
Dwi'n mygu, Jo, be wnawn ni?" Roedd yntau 'di cael braw.
Y cyfan fedrai dd'wedyd, 'nei gryndod oedd "Mi-aw".
Rôl sychu'r sbectol drwchus, a'i gwisgo'n ôl mewn strach
Fe welodd ddyn glas gloyw yn dod o'r tebot bach.
"Nac ofnwch, Genie ydwyf," medd wrth y wraig yn cŵl,
Medd hithau "Paid a rwdlan, y fi 'di Jini'r ffŵl."
"Cewch gen i ddau ddymuniad," cyhoeddodd y dyn glas
"Dwi isho bod yn brydferth," medd Jini fach ar ras,
"A dwi'sho'r gath ma s'gin i, i gael ei throi yn ddyn."
Ac ar ôl clec fawr arall, roedd Jini'n hardd ei llun.
Nid oedd ei chymar bellach yn bwsi meri mew,
Roedd o yn ddyn golygus, a'i gorff o yn ddi-flew.
Ond roedd o'n gwisgo lipstic, a sgert. Ga'th Jini 'fflip',
Roedd hi yn llwyr ddifaru i Jo y gath gael 'snip'.

Gwenno Davies
8 1/2 pwynt

Cân: Diwrnod i'w Gofio

Cawsom ddiwrnod i'w gofio pan briododd y ferch
Efo'r priodfab mor dalsyth yn wrthrych ei serch.
Roedd na sôn basa traffarth efo'r teulu-yng-nghyfarth:
A siarad yn blaen, maen nhw yn rai reit ddiarth.
Ei dad o a'i fusus (rhif dau) yn reit glên
Ond ei daid o'n rêl bwbach anfoesgar, di-wên.
Hi'r nain - dynas grand - 'di'r bòs yno, wrth gwrs
A phawb yn cow-towio: ganddi hi y mae'r pwrs.
Ond mae'r hogyn ei hun yn iawn, 'nôl pob sôn
Er ei fod o yn gweithio i ffwr' - yn Sir Fôn.
Roeddan ni wedi meddwl am briodas fach ddel
Mewn tŷ mawr yn y wlad neu rhyw westy go swel;
Ond na, rhaid cael eglwys - y crandia'n y plwy -
A do, gostiodd hynny ryw geiniog neu ddwy,
Heb sôn am y ffrog oedd yn ddrud fatha pupur,
Ond o, roedd y lluniau yn neis yn y papur.
Gododd jôcs y gwas priodas (ei frawd) ambell wrychyn,
Ond be dach chi'n ddisgwl gan sowldiwr o gochyn?
Dyna hanas y briodas yn daclus mewn pennill
Ond yn ôl y sibrydion, bydd un arall fis Ebrill.......

Meg Elis
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â ffasiwn

Bu Adda ac Efa'n cynhyrchu
Dilladach ar gyfer eu gwerthu,
Ond daeth pethau i stop,
Aeth yr hwch drwy y siop,
Doedd neb arall o gwmpas i'w prynu.

Berwyn Roberts
8 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â ffasiwn

Mae'r esgid yn gwasgu
A'r cnawd o'r holl blygion yn tasgu
Fydd hi byth yn seis dim
Ond â diet go chwim
Gwnaiff i Ferched y Wawr genfigennu.

Meg Elis
8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Ni wellaf ers ei cholli
Y mae lon oer o 'mlaen i.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

A'r awen bron a rhewi
Y mae lon oer o 'mlaen i.

0 pwynt

Englyn Cywaith: Traeth

Ynof y mae broc o gofio - dyddiau
diddig a diddarfod;
Rhwydo hwyl y mynd a'r dod
ein doeau ar ei dywod.

Berwyn Roberts
9 pwynt

Englyn Cywaith: Traeth

Tawel yw tir neb y tywod- heddiw
dyma hedd y darfod
rôl gweld ton ar don yn dod;
gelyn o gantre'r gwaelod.

Meg Elis
9 pwynt

Telyneg:Wyneb

(ar ôl darllen am fachgen bach sy'n methu gwenu oherwydd cyflwr meddygol, ac felly'n gwgu'n barhaus, druan)

Heb wên i dorri'r garw,
mae'r byd yn gwgu'n ôl;
a'i rieni'n gweld dim...
sut mae o'n teimlo
er mwyn ei gysuro
a chael cysur ganddo.

Yntau'n gaeth
i'w wyneb,
yn methu
rhannu'i gariad -
na dangos ei ddicter,
weithiau.

Eifion Lloyd Jones
9 pwynt

Telyneg:Wyneb

"Eli, Nain, eli!"
A'i bysedd dwyflwydd yn sbona'n y potyn,
yn arbrofi'r hufen dros lyfnder croen
sy'n sgleinio â diniweidrwydd.

Gyda bysedd doethach
mesuraf y ddogn iawn
i gydbwyso'r croen,
powdro dros unrhyw sglein.
Cyn sbio'n y drych
ar yr wyneb gorffenedig
a chwilio am y plentyn.

Meg Elis
10 pwynt

Englyn ar y pryd- Trafnidiaeth

Mae ymffrost mewn e-bostio-ein hanes
lawr y lein yn gryno
yn ei bryd, ond angen bro
yw gwersi sut i sgwrsio

John Glyn Jones
9 1/2 pwynt

CYFANSWM- 80 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd- Trafnidiaeth

Er cof am drên Wrecsam- Marleybone
Ni wnaeth i ni hiraethu- am y tren
Mae y trac yn rhydu
Yn ei seidin does wadu
Joio nawr mae'r virgin hy'
9 pwynt

CYFANSWM- 77 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.