Y Talwrn - Bro Alaw vs Tywysogion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair "clo"
Ni fynnaf gynefino
 gwlad a gedwir dan glo.
Geraint Jones
8 pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair "clo"
I gywydd ar fin gwywo
Da yw clamp o gwpled clo.
Guto Dafydd
8 pwynt
Pennill mawl/dychan - Y Glymblaid
Mae'n orchest cael undod rhwng pleidia
Yn Llundain neu'i lawr yng Nghaerdydd 'na
Ond cael cyd-addoli
Ac uno'r capeli
Bobl bach! Dyna beth fyddai gwyrthia'.
Ioan Roberts
8 1/2 pwynt
Pennill mawl/dychan - Y Glymblaid
Mae hofercrafft dybiwn
yn gynllun di-fai,
yn mynd hyd y traeth
boed lanw neu drai.
A sawl peth tebyg,
ddim yn un nag yn llall,
yn gweithio yn iawn,
yn syniad reit gall.
Ac eto dwi'n sicr
wrth sbïo ar San Steffan,
mai rhywbeth i'w ddifa
yw mihifyn-mahafan.
Sian Northey
8 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Y Parc Cenedlaethol
Oherwydd gall dy weryd
Alw'i gof fy hawliau'i gyd
dros y tir a hir barhad
rhamant ein hen ymrwymiad
Cei barch, mynnaf warchod
Dy dlysni tra byddi'n bod.
Ond pan welaf di'n gafael
Llaw yn llon a'r estron hael,
A'i hudo fel rhyw hoeden
Benchwiban goman a gwên
Dy groeso, rwy'n gwylltio'n gas,-
harddwch yw cadw'r urddas!.
Richard Parry Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Y Parc Cenedlaethol
'Mae'n gas gen i dirlun heb bobol ynddo...' Iwan Llwyd.
Ar bob mawnog a chlogwyn,
Pob llech ac afon, pob llwyn
A mynydd, y mae enw;
Nid enwau hud ydyn nhw,
Ond enwau o ben dynion
Fu ar hyd yr henfro hon
Ar ddau droed o ffridd i draeth,
 dwy law'n gwneud chwedloniaeth.
A dagrau oer ar hyd grudd
Yw'r meini ar y mynydd.
Twm Morys
9 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys enw gêm
Ni ddaeth mab y cwîn i'r cinio - yr oedd
'nol ei wraig 'di myllio
ers spel, roedd ei grys polo
yn styc rhwng ei glustiau o.
Geraint Jones
8 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys enw gêm
Mae'n Roulette arna i eto; - uwch olwyn
rwy'n chwil drwy obeithio,
ac rwy'n wag lle bynnag bo'r
bêl wen yn dechrau blino.
Mei Mac
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Drws nesaf'"
"Fe ddwedai wrthyt pam rwy'n ffonio"
Medd "Phil the Greek" yn hwyr nos Lun
"Ma Wil yr ŵyr a'i Gêt am briodi
Dwi angen ffafr - a chdi 'di'r dyn!
Ma Wil yn Beilat yn y Fali
Ag isio cartra yng nghefn gwlad
Ond teulu Cêt sy'n brin o geiniog
Di tai yn Lannerch-medd yn rhad
Ryw feddwl tybed wnei di werthu
Darn fflat o dir heb graig na ffos
Ar gyfar tŷ, a lle i barcio
Ei helicopdar gyda'r nos.
A cofia chwthu 'nghlustia'r Planning
Daw OBE's os caiff rhen Wil
Ei fynglo bach naw llofft a bidet
I olch'i draed - mi ffwtiai'r bil.
Ma Brenda wedi deud dy hanas
Ac fel yr rwyt yn ffrind i ni
Mae Wil a'i Gêt 'di mopio'u penna
Ac isio byw drws nesa'i chdi!" .
Geraint Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Drws nesaf'"
Daeth yma i fyw o Ipswich
I'n rhes bach teras ni,
Gadawodd bron i ddeunaw mis
Cyn torri gair â mi.
Daeth acw wythnos dwutha
Y fo a'i wraig a'r gath.
(Mae maint y lownj sy'n eu tñ nhw
A lownj tñ ni 'run fath).
Gofynnodd i mi'n swta
Sawl rôl o bapur wal
A brynais i addurno'r lownj,
Wel, fedrwn i'm â dal,
"Wyth rôl yw'r hyn a brynais.
Wyth rôl a dyna'r gwir!"
Gadawodd heb na siw na miw
Ond mi ddaeth yn ôl cyn hir.
"Prynais wyth rôl o bapur,
Wyth rôl fel soniaist ti.
Ond mae gen i bedwar rôl ar ôl!"
"A finna!" medda fi.
Mei Mac
9 pwynt
Limrig - "Un noson mi es draw i Drefor"
Un noson mi es draw i Drefor,
Fe'm holwyd gan ddyn wrth fy ochor,
Ces sawl cwestiwn anghall
Paham na all ddeall
Mae'r Geraint Jones arall 'di'r cerddor?
Geraint Jones
8 1/2 pwynt
Limrig - "Un noson mi es draw i Drefor"
Dywedodd fy nain "Hidia befo'r
Hen dacla'. Dos yno. Dos efo'r
Twelf bôr yn dy law."
Ac felly, tua naw
Un noson mi esh draw i Drefor.
Mei Mac
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Anodd iawn cael llinell da
A rwan dwi'n meuryna.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
I Foniars fel nhw'n fanna
Anodd iawn cael llinell da
1 pwynt
Englyn Cywaith-Banciau
Gallwn ennill wrth golli - yn y siec
Bonws hael sydd inni
I'n gwarchod ym mhob tlodi
Gwnawn arian o'ch arian chi.
John Wyn Jones
8 1/2 pwynt
Englyn Cywaith-Banciau
Ceiniog yn rhith ceiniogau: - taro bet,
Troi'r bunt yn ugeiniau.
Ennill ein ffortiwn ninnau
I gyd gydag arian gau.
Guto Dafydd
9 pwynt
Telyneg- Gorffwys
Tyn atat ana'l eiliadau na fu;
Atat, ochneidiau'r dychymyg du;
Na hola, mewn lludded, beth tybed sy'n bod?
Nac oedi uwch lluniau sydd eto i ddod.
Yma, yn llonydd, cau lygaid ar fyd
O fagu gofidiau, sy'n bryder i gyd,
A thyn atat garthen o gyntun prynhawn
Yn drwm i'th gysuro bydd popeth yn iawn.
Tyn atat eiliad; tyn atat ddwy;
Gollwng di heddiw. Daw 'fory â mwy.
Sian Owen
9 pwynt
Telyneg- Gorffwys
Pan oedodd Sisiffws am chydig,
pum munud i gael ei wynt ato
ac ymestyn ei gyhyrau blin,
a sylwodd ar y torfaen rhwng y creigiau
a'r cigfrain yn chwarae ar y gwynt?
Pan bwysodd Ercwlff am ennyd ar ei raw
wrth droi dwy ffrwd trwy'r stablau,
tybed a wirionodd
ar geinder y gwe pry cop o'i flaen
a gosgeiddrwydd gwenoliaid rhwng y distiau?
Ond dwi'n amau bellach
na welwyd
dim ond tail at glun,
a maen yn bygwth llithro.
Sian Northey
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Cwsg
Fe wn na chysgaf heno- ac effaith
hen gaffîn yn cicio
Y tric i gael cwsg bob tro
Yw nos Sul pregeth Seilo.
Sian Owen
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Cwsg
Tyner, Tyner yw'r tennyn- yn ei law
Ar y lôn drwy'r dyffryn,
Ond toc, mi fydd brawd Huwcyn
Yn dod- mae o'n g'letach dyn.
Twm Morys
9 pwynt
CYFANSWM- 79 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

