Cwpled Caeth ar yr odl 'oed'
Y rhai iau sy'n ddoeth erioed,
Y rhai annoeth yw'r henoed.
Emyr Jones9 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl 'oed'
Yn wahanol i'r henoed
y rhai iau sy'n iawn erioed.
Tudur Dylan Jones9 pwynt
Pennill Ymson: "Ar Saffari"
I beth rwy'n mynd ma's i Affrica fawr
I geisio rhyw lew yn ei chanol?
Mewn lle pum llath sgwâr, er hala deg awr,
Rwy'n methu cael hyd i fy sbectol.
Wynfor Jones8 1/2 pwynt
Pennill Ymson: "Ar Saffari"
Rôl talu ffortiwn i fynd ar daith
i weld y creaduriaid
yn rhochian a gorwedd a chodi ffeit
yn wich ac yn ochenaid,
sylwais nad yw'r olygfa hon
ddim cweit mor anghyffredin,
mae'n union fel hyn bob hanner nos
ar y sgwar yn nhref Caerfyrddin.
Tudur Dylan Jones8 1/2 pwynt
Cywydd- Paith
Rwyf ar daith dros baith y byd
Yn wylaidd heb f'anwylyd.
Ni welaf ôl camelod
Nac un dyn o'r wig yn dod
I roi llaw i'r teithiwr llwm
I'w gadw rhag ei godwm:
Yno'n hynt rhewynt yr haf
Parhau mae'r oriau araf,
Cans mae'r galar am aros
Fel y sêr yn nyfnder nos,
Aros i'm rhoi i'm gweryd
Wedi'r daith dros baith y byd.
Emyr Jones9 1/2 pwynt
Cywydd- Paith
Lle bu llwythau dechrau'r daith
yn rhannu pob gwawr unwaith,
a'r llwybrau oll heb yr un
adwy na rhwystr wedyn,
a'r fforddolion aflonydd
ar dywod aur hyd y dydd....
dod i ganol digonedd
y rhai hyn, i dorri'r hedd
a wnawn ni, dod eto'n ôl
yno i heidio'n wastadol,
dwyn eu gwên, a'u gwneud yn gaeth,
a dwyn olew dynoliaeth.
Tudur Dylan Jones10 pwynt
Englyn yn cynnwys math o danwydd
'Colsyn'
Mae gwrid ynof sy'n cofio - am ei wres
er mor oer yw carco'r
lludu gwyn, - a'r colsyn co'n
byw o hyd i'm tanbeidio.
Phillipa Gibson10 pwynt
Englyn yn cynnwys math o danwydd
Yr Heddwch yn Derry
Yn lle'r petrol tân-gole, ma' rhai iau
am roi oel mewn lampe,
ond i rai yn stade'r dre
y ffrwydron yw'r ffor' adre.
Ceri Wyn Jones9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Dweud Ffortiwn"
Mewn pelen grisial gwelaf ym mhabell Gipsy Lee
Helyntion y Taeogion, cans syfrdanwyd fi.
Rwy'n gweld nhw nawr mewn mynwent, yn dwyn englynion maent -
Y nefoedd ! Pwy feddylie, a rhain mor fawr eu braint.
Nawr canlyn, cosb gymuned, rwy'n gweled nawr o draw
Rhain nôl 'run man yn gywir, â phladur yn eu llaw.
Yn teithio'n hwylus am Gaerdydd mae tîm o Dan-y-groes:
Derwyddion llwm a cham eu gwar a llawer afrwydd goes.
Yn canu maent alawon wrth deithio tua'r de,
Mewn tiwn 'da'r cluniau plastig: hip, hip, hip hip hwrê !
Yn codi mae y cwestiwn, gan siwrne sydd mor faith,
A fydd y beirdd i gyd yn fyw cyn cyrraedd pen y daith.
A meddai'r sipsi'n Saesneg, 'A bard obese I spy,
With spectacles on forehead - what is the reason why?"
Bardd arall yn ei ochor, gan hwn does fawr o wallt:
Mae ganddo fersiwn od o'r iaith - ei farnu gaiff yn hallt.
Rwy'n clywed rhyw delyneg - di-odl iawn yw hon:
'Run fath â chawl heb halen, neu fugail heb ei ffon.
Mi welaf bâr o wellingtons: mewn peryg ydwyf i -
Hen afon yr Iorddonen: mae'n rhaid ei chroesi hi.
Arwel Jones9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Dweud Ffortiwn"
Yr oedd mam-gu yn credu
Yng nghyfrinachau'r te;
Fe welai mewn dail Tetley
Yfory'n dod i'w le.
Rhagwelodd hithau glymblaid
Rhwng Tori a Lib-Dem;
(Mae'n rhaid bod salwch meddwl
Yn dechrau drysu'i threm).
Fe ddwedodd fod gwleidyddion
Am gymryd mwy na'u siâr;
(Rhaid bod mam-gu'n anghofio
Y pils oedd yn ei drâr).
Proffwydodd fod ysgolion
Cymraeg Caerdydd yn llawn,
A'r Cyngor fel rhyw asyn..
(Does bosib bod hi'n iawn).
Pan ddwedodd y cawn innau
Ddeg marc am gân fach frith,
Fe ffoniais garte'r Hafod
I'w chludo bant yn syth!
Emyr Davies9 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â Bwgan .
Roedd bwgan y brain y cae ŷd
Heb lwyddo i ddychryn dim byd,
Ond gwisgais e'n unswydd
Mewn gwisg yr Archdderwydd,
A nawr mae e'n dychryn ni i gyd.
Ken Griffiths 8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â Bwgan .
Yn neintin nôt ffor aeth hi'n fain
ar fwgan ym mhentre Llangain,
ca's ddiwygiad syfrdannol,
a dilynai'n llythrennol
yr adnod, 'Ystyriwch y brain.'
Tudur Dylan Jones8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Wn i ddim a ydyw'n ddoeth
I annog y rhai annoeth
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Wn i ddim a ydyw'n ddoeth
Ni wn, am mod i'n annoeth
1 pwynt
Englyn Cywaith- Gwely.
(Wedi sylwi ar hysbysebion yr NSPCC).
Pob awr i'r wawr yw aros - i'r rhaib oer,
pan dry'r bŵl daw beunos
wên lugoer o law agos
drwy y niwl fel lleidr y nos.
John Meirion Jones8 pwynt
Englyn Cywaith- Gwely.
Gwely Haul.
Ni waeth am boen y creithie a hawliodd
Mewn salon am orie;
Ni waeth: fe hawliodd hithe
Y lliw haul gore'n y lle.
Emyr Davies8 1/2 pwynt
Telyneg- Cwmni.
Nid oeddet yn fy nenu ar y pryd
A finnau am gael cwrdd â wyneb gwell,
Ond gwrthod hel dy bac a wnest o hyd
Pan geisiwn i dy gadw di ymhell.
Symudaist mewn, sliperi wrth y tân,
A thynnu stôl i rannu pryd fy mwrdd.
Fe'i rhannwn a gweld bod i bob brân frân
Ac erbyn hyn fe wn, pan wyf yn cwrdd
 dylni'r rhai sydd am fy nghwmni i,
Na fynnaf byth i rywun arall ddod
Rhag colli gweld dy wedd gyfarwydd di,
Cans yn dy gwmni bellach rwyf am fod.
Ond holi'r pan af gyda thi am dro,
"Ai wrth dy hunan rydwyt, unwaith 'to?".
Ken Griffiths9 pwynt
Telyneg- Cwmni.
Mae tri o fois yn browlan
a brolio yn eu tro,
a'r bar yn gorfod diodde'u
doethineb unweth 'to,
pan draethant am y byd a'i gwrs
gan ddweud eu dweud heb gynnal sgwrs.
Mae tri hen ŵr yn ishte
mewn cornel tywyll, clyd
tri distaw o'r un ddeall
yn drachtio cwrs y byd,
gan ddod ynghyd heb ffws na ffair
i gynnal sgwrs heb ddweud un gair.
Ceri Wyn Jones10 pwynt
Englyn ar y pryd- Maneg.
A briw dy reg a'm bwriai draw, oedaf
Er ein hadeg lawlaw,
Cyn im estyn yn ddistaw,
I geisio lapio dy law.
Philipa8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 80 PWYNT
Englyn ar y pryd- Maneg.
I Muhammed Alli
Yn ei gof mae'i faneg e'n- dal i fynd,
dal i fod y gore,
a'r gwr rhy wag o eirie
yn dal i ddweud â'i law dde.
Emyr Davies9 1/2 pwynt
CYFANSWM- 83 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

