Y Talwrn- Crannog V Taeogion
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
CWPLED - OCS
O losgi egni Magnox,
Ddydd a ddaw daw'r baw o'r bocs.
Owen James8 pwynt
CWPLED - OCS
Onid oes rhyw baradocs
Yn acenion y Kinnocks?
Emyr Davies.8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - MYFYRWYR
Cawsom unwaith wersi caled,
Dysgwyd ni rhag mynd i ddyled,
Ond mae rhaid i'n plant, er hynny,
Fynd i ddyled er mwyn dysgu.
Hywel Rees8 1/2 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - MYFYRWYR
(Mehefin 1989)
O dafarn i'r tywyllwch difyr yr aem
dros yr iaith yn baentwyr
ar chwarae plant o antur
a gwneud marc ar gnawd y mur.
'Rôl paentio'n ôl i Panty yr aem oll,
er mwyn y gorchestu,
heb weled ar deledu
Wang Wei Lin a'i engyl lu.
Ceri Wyn Jones9 pwynt
CYWYDD - NATUR.
(Llwybr Barddoniaeth Dic Jones ).
Awn o wib ein priffyrdd ni
Am ennyd i Gwmhowni.
Bydd gallt o gerdd i'w cherdded
O ddarn i ddarn, rhai a ddwed
Am ôl dyn, am leuad wen,
Am fwlch ac am fwyalchen
A ganai yn y Gwanwyn
A'r llais clir yn llonni'r llwyn.
Bydd daear fyw'n byw a'n bod
Yn dyfiant o gerdd dafod
A'r llwybrau a geiriau'r gân
Yn y cof yn gylch cyfan.
Idris Reynolds9 1/2 pwynt
CYWYDD - NATUR.
(i'r ddau fab hynaf ar lan y môr).
Panso, panso fel pensaer
a wnei di wrth godi'r gaer
â'th raw goch, a'i thyrrau gwyn
a'i gwrogaeth o gregyn
a rhwysg ei baner risgil
sgi-wiff yn tystio i'th sgil
ddiddymchwel, fel dy bont fach
a'i meini o wymonach.
Er hyn, ni fynn dy frawd fod
yn daeog i'th gaer dywod
ddydd o Awst, a thry'n ddistaw
i'w sarnu'n rhacs â'r un rhaw.
Ceri Wyn Jones8 1/2 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS 'HENO' DDWYWAITH.
Heno, heno mae dynion - yn bachu
Hen blant bach i'r cyrrion
 gwên un switsen ddi-sôn,
 loes eu holl felysion.
Idris Reynolds9 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS 'HENO' DDWYWAITH.
Camgymeriad.
Na ddywed 'anfaddeuol' â'r fath awch,
Â'r fath wên derfynol;
A ga'i heno eto'n ôl?
A ga'i heno gwahanol?.
Emyr Davies8 1/2 pwynt
. CÂN - Y GYSTADLEUAETH
Roedd dau deulu posh, ofnadw o falch,
Yn trigo mewn tai ar ben rhiw
Y Joneses oedd'u henwe, yn chwilio pob cyfle
I gystadlu'n eu ffasiwn o fyw.
Pan brynodd un teulu set radio ddrud
Mi brynodd drws nesa deledu
A phan wedon NHW bo nhw'n mynd i gael Sky
Atebodd y lleill 'Ry'n NI wedi'.
Aeth y teulu Jones rhif un i'r dre
A phrynu gwely micro-don mawr-
Gyda hwn o'dd hi'n bosib ca'l wyth awr o ryw
Mewn llai na thri chwarter awr.
Stretch limo oedd y nesa' i gyrraedd,
Horwth mawr, hirfaint a ffol,
Yn hwn roedd Jones Dau yn cyrraedd y dre
Ugen mumud cyn ei wraig yn sêt ôl.
Ac yna dechrau ymestyn y tai,
A âi'n fwy ac yn fwy yn slow bach,
O'dd rhaid cael noddwr i gerdded i'r parlwr
A dala tacsi i fynd i'r tŷ bach.
D'odd dim taw ar eu gwario gwastraffus,
O'r diwedd aeth y gêm yn rhy ddrud,
Buont farw yn dlawd - mor greulon yw ffawd,
Yn waglaw gadawsant y byd.
Erbyn hyn mae nhw 'i gyd yn gyfartal
Yn byw yn y nefoedd uwchben,
Yng nghwmni'r Creawdydd, pob un a'i adenydd,
A thelyn a chwmwl, Amen.
Dewi Pws Morris10 pwynt
. CÂN - Y GYSTADLEUAETH.
Cynhaliwyd 'The Apprentice' yn lle'r Talwrn am un rhaglen
A'r bos, y pennaeth, fel erioed oedd Gerallt Lloyd 'Sugar' Owen.
Gosodwyd y gystadleuaeth i'r timoedd yn ddioed
Sef mynd mynd ati'n syth i lunio'r gerdd waethaf fu erioed.
Roedd head start mawr gan Crannog yn y dasg, mae hyn yn ffaith,
Maent wedi cyrraedd y safon hon yn eu cerddi lawer gwaith.
Ond y tro'ma roedd rhaid cyrraedd yr iselfannau is,
A holwyd jyst y person o Ffostrasol, sef Dai Rees.
Aeth hwnnw i chwilio'i ddroriau, a'i ffeils, a'i ben yn grwn,
Cyn aros i fyfyrio, a rhoi y cyngor hwn:
'Os oes angen cerdd ddifrifol, un enw sy'n rhaid ei ddweud.
Ffoniwch Emyr Oernant, mae o wedi arfer gwneud.'
Er bod Crannog mewn cyfyngder, doedd y cymorth ddim ar ga'l,
Nôl Oernant rhaid wrth athrylith i lunio cerddi sâl.
Yn y diwedd doedd dim i'w wneud ond i Grannog ddod ynghyd,
A do, fe luniwyd, gyda hyn, gerdd waetha'r iaith i gyd.
Mae hi'n ffitio'r bil yn berffaith, mae hi'n sâl ac yn newydd sbon,
A chi rwan yn mynd i'w chlywed, yr un sydd yn erbyn hon.
Tudur Dylan Jones.10 pwynt
Limrig- Cefn Gwlad.
Rwy'n byw ym mhlwy Llidiad Nennog,
Ugain milltir i ffwrdd mae Llangadog,
Llanllwni a Brechfa,
Ffair-fach a Llanwrda.
Ble celech chi le mwy canolog!
Dai Jones9 pwynt
Limrig- Cefn Gwlad.
Mae na son fod na fferm ar bwys Cei
a honno yr unig un, glei
drwy Gymru yn grwn
A turwch y byd hwn
sydd heb wenud Cefn Gwlad gyda Dei!
Ceri Wyn Jones9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Ein hawen yw Nihewyd
Yn y bôn sy'n dim byd.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Ein hawen yn Nihewyd
Yw mamgu y tîm i gyd.
1 pwynt
ENGLYN CYWAITH - DEALL
( 'Poetry is best when partly,but not wholly, understood ' )
Yn eu hawydd anniwall - i'n herio
Gŵyr y geiriau cibddall
Y daw awen, o'i deall,
O gerdd i gerdd yn rhy gall.
Hywel Rees8 1/2 pwynt
ENGLYN CYWAITH - DEALL
(cynefin)
Drwy'r hen fref, cyn bod llefydd ar y map,
cyn creu mur a hewlydd,
fe wyddai defaid y dydd
mai eu hŵyn biau'r mynydd.
Tudr Dylan Jones9 pwynt
TELYNEG - URDDAS
Torrodd yr awyren ei siwrne
Er mwyn i ddeiliad y Tŷ Gwyn
Gael cyfle
I hel ei achau
A chodi peint o Guinness
Yn nhafarn Monegal.
Glanio wedyn yn rhwysg
Palas Britannia
A sylw'r byd arno.
Tybed a glywai llygaid duon ei gymar
Sŵn cadwyni'r cathweision
Yn nhincial y gwydrau
A godent
I gyfarch
Y Frenhines?.
Dai Jones9 pwynt
TELYNEG - URDDAS
Mewn angladd
Roedd drudwns llwyni'r eglwys braidd yn ewn,
A'r heulwen yn fwy llachar nag oedd rhaid,
Fel 'taen nhw'n dyall y dwyster oddi mewn,
A'r brain gerllaw yn gwatwar yn ddi-baid.
Dyn dierth a ddarllenai'r 'gair neu ddau',
A'r emyn dôn yn ddierth i bob un;
Fe grynai'r deyrnged weithiau drwy'r coffáu
Ar ddalen oedd yn crynodebu'r dyn.
Wrth iet yr eglwys, y tu ôl i'r arch
Fe ddaeth y wraig a'i gorchwyl wedi'i wneud
Heb gynnal sioe, heb geisio cymell parch,
Gan ddwedyd dim am nad oedd dim i'w ddweud.
Ar erchwyn ein diddymdra, rhaid wrth drefn,
Fel gallom glywed trydar Mai drachefn.
10 pwynt
Englyn ar y pryd- Fferm Organig
Techneg sy'n gemeg i gyd-all roi lliw
Ar y llain ddioglyd
Ond er hyn, aeddfeda'r ŷd
O ddoeau'r ddaear ddiwyd
9 pwynt .
CYFANSWM- 80 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd- Fferm Organig
Mae'r rhai iau'n ymroi i'r had yn unol
â'r hen hen draddodiad,
gan drin daear yn arad
fel fy nhaid,nid fel fy nhad.
9 1/2 pwynt .
CYFANSWM- 83 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

