Y Talwrn - Glannau Menai V Penllyn
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl "wch"
Y lli oer a'r cwmwl llwch
A ddaw ag oes o ddűwch.
Elinor Gwynn
8 1/2 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl "wch"
Nid yw'n hawdd denu heddwch
I drefi sy'n llosgi'n llwch.
Dylan Davies
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan - Ysgolion Bonedd
Bu'n rysait am addysg arbennig
Mewn gwestai i'r dethol rai
I ddysgu llyncu hyder
A gwrthod humble pie;
Buont wrthi'n paratoi bwydlen
Drwy oesoedd y ddwy Cwin Bess,
A chwcio sut i reoli
I ni gael eu Eton mess.
Meirion Jones
8 pwynt
Pennill Mawl/Dychan - Ysgolion Bonedd
Dim cyfrifoldeb o fath yn y byd
A rhyddid blynyddoedd o haf ar eu hyd,
Dim ond gofalu fod pres yn y banc
I ateb galwadau yr ysgol a'i gwanc.
Williams Jones Williams
8 pwynt
Cywydd - Athrylith
Athrylith (Ludwig von Beethoven)
O'i adfyd daeth cân Ludwig,
A bu ei rawd hyd y brig;
I donfedd yn ei feddwl
Deuai poen ei glustiau pŵl.
I'n clustiau, ei seiniau sydd
Yn wiw, yn ffres, yn newydd
Yn oesol agor drysau
I fynnu in wir fwynhau.
Ei alaw, hi a hwyliodd
Ar ei hynt i ni yn rhodd,
Ei fawl yw cân gorfoledd,
Creu o'i boen, a choncro'r bedd.
Ieuan Parri
8 1/2 pwynt
Cywydd - Athrylith
Rhew ac ias yr eira gwyn
Heddiw ar drothwy'r flwyddyn.
Noeth yw'r byd heb fynd un wen,
Yn ddi olau, ddi deilen,
a Gwewyr du y gaeaf
Yn bwrw'i wae ar hin braf.
I lawnt o flaen y ty
Daw i ddwyn, a diddanu'r
Teulu a'i gampau talog
Cun y criw dan becyn crog
Yn hedfan o fyd lledfyw
I sioe fawr y syrcas fyw.
Dylan Davies
9 pwynt
Englyn Beddargraff- Ci
Ei esgyrn nawr sy'n cysgu - ac aros
A gorwedd heb chwyrnu,
Yn y bon, wedi 'bennu,
Ei gwt del sy'n ei gwt du.
Meirion Jones
8 pwynt
Englyn Beddargraff- Ci
Hen gymar anodd i'w gymell--fu hwn
I fannau anghysbell.
I heidio fy niadell
Mae'r "suzuki" 'n gwmni gwell.
Iwan Bryn Williams
8 1/2 pwynt
Cân - Newyddion Bro
Croeso
Fe sylwch ar lidiart Ty'n Winllan
bod enw bach newydd tu allan
Rhown groeso i Liz a John Ramage
ddaeth atom i fyw yn Wine Cottage
Dywedant y gwnant ymgartrefu
yn heddwch a mwynder 'rhen ffermdy
a threulio'u holl amser a'u harian
ar gyrsiau Welsh Learners fel Wlpan
Yr ysgol
Bu c'warfod rheolwyr yr ysgol
yn chwilio am un ychwanegol
Yn unfryd penodwyd 'rhen Joni -
am addo rhoi mil yn y kitty
Golff
Bu gornest maes golffio yn Henllys
ar ddiwrnod y nawddsant, sef Siorys
Y wobr oedd 'Cwpan Wine Cottage'
a roddwyd gan Lisabeth Ramage
Dalier sylw
Symudir dydd c'warfod ein Cyngor
i fore dydd Sul, ar ôl Chwefror -
gan nad yw John Ramage yn aros
- na Liz chwaith - yn ystod yr wythnos
Llŷr Gruffydd
9 pwynt
Cân - Newyddion Bro
Croeso
Yn nyddiau hir y sgwrsio bobtu'r tân,
A phawb mewn bro yn deulu neu yn gâr,
Roedd edau'r straeon hyn yn bwythau mân
Yn cydio brethyn pob cymdogaeth wâr.
Pan ddoi newyddion da, cyd lawenhau,
A newydd drwg yn gwmwl llethol du.
Ac os dôi tamed blasus, rhwng y ddau,
Fe âi o geg i geg, o dŷ i dŷ.
Ond heddiw, yn ein moeth, rhwng muriau gwyn
Eisteddwn, bawb â'i stafell, un wrth un,
Yn rhythu ar storïau'r "sêr" yn syn,
Nad ydynt, yn y bôn, yn ddim ond llun.
A rhyngom yn ein hannibyniaeth ffôl
Collasom rywbeth na ddaw byth yn ôl.
BERYL GRIFFITHS
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â chysgu
Aeth cybudd i gysgu un noson
Yn poeni nad oedd ganddo ddigon
Ni chlywodd y daran
Na chwyrnu'r hen wreigan
Ond clywodd hi'n ffidlan 'fo'r cloeon.
Llŷr Gruffydd
Llyr Gruffydd
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â chysgu
Mi geisiwn pan oeddwn yn dysgu
Ymgadw rhag syrthio i gysgu.
Wrth fyned yn hyn
Nis gwn prun yw prun
Rhyw gythrel o beth yw cymysgu .
Iwan Bryn Williams
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yn oesol â hi'n nosi
O'r buarth daw gyfarth ci.
1 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Hen ast oedd awydd w'sti
O'r buarth daw gyfarth ci.
0 pwynt
Englyn Cywaith - Priodas Aur .
Yn y llan gwnaed cynlluniau - a'ch cariad
A'ch ceraint fu'ch seiliau,
Adeilad eich profiadau
A'i do aur yw cartre'ch dau.
Meirion Jones
8 pwynt
Englyn Cywaith - Priodas Aur .
Natur a'i Hydref eto, - ond y Nhw
Taid a Nain sy yno:
A'r hen archif yn rhifo
Hanner cant yn nhir y co.
William Jones Williams
8 1/2 pwynt
Telyneg - Traeth .
Rhwng teid a theid tyrd am dro
drwy'r gronynnau mân i grwydro
hyd ddalen lefn, ar fin y lli,
cei ddarlun o genedl yno.
Yn y bae mae 'na seiat 'di casglu,
Mulfranod du mewn siwtiau'n ymsythu,
Adenydd ar led, yn chwyddo'u plu
rhag i'r dyfroedd hallt eu boddi.
Haid o bibyddion yn nhrochion yr heli
yn dowcio'n ufudd a'u bryd ar ymdoddi'n
dorf ddi-nod, hyd nes draw bloedd,
yna'n gwmwl o igam ogamu.
Gwylanod hy' sydd eto'n cylchu,
yn stompio'r swnd nes i'r abwyd godi,
wrthi'n ddyfal yn sbrotian a chwalu,
dychan a gwae yn sgrech eu crechwenu.
Ymhell i ffwrdd, sŵn morloi'n udo,
yn swrth, di-hid, a'r awel yn chwipio
crychni'r don o'u cylch yn lleng,
Eu dydd ar drai, a'u haul yn ceulo.
Draw acw, gwel, mae'r llif ar dro,
Yn y cerrynt mae 'na gyffro.
O lannau Fflint i'r Hafren lwyd
mae'r llanw'n symud eto.
Rhwng teid a theid fe fu taith
o draethell lom anobaith
hyd sarn at orwel newydd, nes,
at wawr yn deffro eilwaith..
Elinor Gwynn
9 1/2 pwynt
Telyneg - Traeth .
Mae'n aros cwch i groesi i'r ochor draw
a'i gadael hi â'r haul yn llond ei gwallt,
mae'n gwenu arni, ac yn codi llaw,
dim ond tan fory,ac fe wyr y daw
hithau a'i haur i gôl ei ynys wen.
rhaid aros cwch i'w chroesi o'r ochor draw;
mae llond eu hafflau nawr, bwced a rhaw
a chamau bach yn dawnsio tua'r cei.
mae'n gwenu arni, ac yn cydio llaw;
diwedd yr ha', mae'n gandi ffloss a glaw,
rhaid hel y geriach adre, cynnau tân,
aros maer'r cwch i'w croesi i'r ochor draw.
Rhyw felyn gwan yw'r haul hen wylan, - taw,
mae'r ynys wen yn oer, o'r traeth ymhell.
rhaid aros cwch i'w chario i'r ochor draw,
mae'n gwenu arni, ac yn dal ei llaw.
HAF LLEWELYN
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd - Damwain.
Potel i Dad a bwyd i'r adar-saig
at y Sul i'r bolgar
ond spel ar ôl dod o Spar,
y wisgi sydd ar wasgar.
8 pwynt
CYFANSWM 77 PWYNT.
Englyn ar y pryd - Damwain.
Gyrru i'r Dre ar bigau'r drain- wnâi Lottie
Ar stilletoes pigfain;
Mae'n tynnu am neinti nein
Dyma'i chi rysait damwain
8 pwynt
CYFANSWM 78 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

