Y Talwrn- Tywysogion V Criw'r Ship

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.

Cwpled Caeth - yn cynnwys dau rif

Libya
Celanedd. Mil o feddau.
Un heb yr hawl i barhau.

Guto Dafydd8 1/2 pwynt

Cwpled Caeth - yn cynnwys dau rif

Wedi tri mae'n storïwr
Ac mae'n ffaith wedi saith siwr.

Nici Beech 8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan- Cyfoethogion

Er fod y llogau yn isel
a'u harian yn sefyll yn dawel,
Ac er fod 'na rai'n dal i gredu
fel Marx fod angen eu chwalu.
Er bod ambell un ohonynt
yn gwynebu rhyw bwt o helynt,
Mae gen i ofn fod rhain yn union,
yn union 'run peth a'r tlodion.

Sian Northey8 pwynt

Pennill Mawl/Dychan- Cyfoethogion

Rhaid yw rhwystro miliwnyddion
Rhag cyfrannu at y tlodion.
Byddai pres yn gwneud nhw'n ddiog
Ac, yn waeth fyth, yn gyfoethog.

Arwel Roberts8 1/2 pwynt

Cywydd- Dyn

Hwn ydi pawb ohonom:
Â'i draed ar y ddaear drom
Gwelai adar y gwledydd
Yn esgyn; ar derfyn dydd
Rhôi'r sêr ryw ias o hiraeth,
Ac yn ei awch am gyrraedd gwnaeth
Iddo'i hun aderyn dur:
Trech yw nag entrych awyr...

Ddoe dros fy mhen aeth gwennol
Ar ras, a'm gadael ar ôl.

Twm Morys 8 1/2 pwynt

Cywydd- Dyn

(Mawrth ac Ebrill 2011)

Gyrr lluoedd y gorllewin
eu bloedd uwchben gynnau blin.
Parod ydyw'r pwerus
i edliw bai a dal bys
ar hil eiddil a rhoddi
llaw dur yn ei lludw hi.

Twyll seiat democratiaeth
a geiriau gwag mewn gwawr gaeth
sy'n sgogi polisiau
ein byw rhwydd a'n cyfoeth brau
yn enw rhyddid annidwyll,
a byd sy'n colli ei bwyll.

Gari Wyn8 pwynt

Englyn yn enwi lle ym Mhen Llyn

Hen Gariad

Ni fedraf ddweud 'Garn Fadryn', - a daw hi
gyda'i haul i'm canlyn.
Mae Tudweiliog yr hogyn
yn dal i gynhyrfu'r dyn.

Mei Mac9 pwynt

Englyn yn enwi lle ym Mhen Llyn

Thomas Roberts1765- 1841

O Lwynrhudol ei fabolaeth,rhodio
strydoedd radicaliaeth
oedd ei ran.A'i wasanaeth
yn 'Gˆwyn' dros ei werin gaeth.
(ei waith enwocaf oedd 'Cwyn yn erbyn gorthrymder'.)

Gari Wyn8 1/2 pwynt

CÂN - Y Daith

Ymlusgiad wedi laru dan y dãr,
yn chwilio am fwy na dim ond llanw a thrai,
c'readur dwl yn mofyn gwell mae'n siãr,
yw pam ein bod ni yma yn ôl rhai.
Mwncïod wedi blino byw'n y coed,
medd rhai'n ddi-os oedd cychwyn cynta'r daith,
a drodd yn ddyn â barf at ei ddwy droed,
yn yfed gwaed â phastwn iddo'n iaith.
Pa bynnag gychwyn fu bu'n siwrne fawr,
ac os oes erchyllterau wedi bod,
y gred gyffredin yw daw eto wawr
a dal i droi i'n mantais wnaiff y rhod.
Rwy'n credu wedyn, yn ein ffwdan ffôl,
ein bod ni eisoes ar y daith yn ôl.

Mei Mac9 pwynt

CÂN - Y Daith

Daeth Criw'r Ship i fin y cei i giwio,
Hufen beirdd y Dre sy'n mynd i forio.
Meistri glew 'di pacio'u bagie
Ac am hwylio'n fore,
Abermenai, Belan, Dinas Dinlle.

Ifor ap a ddaeth, a Lovgreen
I godi cap i'n doniau anghyffredin.

Pontllyfni, yna Clynnog Fawr i'w ganlyn,
A fatha cwmni bysus, Trefor wedyn.
Mynd â'n llwyth o gerddi gwychion
Dan yr hwyliau gwynion,
Boed vers libre neu gynganeddion.

Suddo wnawn ein gwrthwynebwyr.
Tywysogion? Nage wir, rhyw fân-uchelwyr.

Heno, ym Mryn Cynan a'r Nanhoron,
Bydd y sgwrs i gyd am golli coron;
Am Mei Mac a Twm a Guto,
A Sian Northey'n cilio
I lyfu'u clwyfau draw ger Ceidio. .

Beirdd o'r gogledd ddaeth i'w dychryn,
Beirdd a ŵyr lot mwy na'r ffordd i Nefyn.

Arwel Roberts8 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â chelwydd

Gen i liw haul o draethau San Malo
ac mae ngwallt i i gyd yn dal yno,
fy mysyls a 'mhecs-i'n
drybeilig o secsi -
diolch byth 'mod i ar raglen radio.

Guto Dafydd8 pwynt

Limrig yn ymwneud â chelwydd

Mewn cilfan tu allan i Nefyn
Mi sleifiais ugeinpunt i'r Meuryn.
Addawodd yn deg
Y cawswn i ddeg -
Ond nid am ddau bump 'nes i ofyn.

Arwel Roberts9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Rhoes fy serch ar Ferch o Fôn
Un nad yw'n hoffi dynion.

0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Rhoes fy serch ar Ferch o Fôn
Un o Gemaes- un gomon.

1 pwynt

Englyn Cywaith -Urddas

Yn gelwydd yn y gwely- nid yw byw
ond bod.Rwyf am fynnu mynd o wae fy mhoenau du
a gollwng. Nid wy'n gallu.

Guto Dafydd
8 1/2 pwynt

Englyn Cywaith -Urddas

Sylwedd ein hetifeddiaeth a'n hanes
yw poen ein bodolaeth,
Ond ein gwefr yw bod yn gaeth
i hualau'n gofalaeth.

Gari Wyn
9 pwynt

Telyneg- Camp

Dawn yn glir ar dualen,
Crebwyll ymhleth â chystrawen
yn creu byd hud o eiriau
sy'n denu fel cusannau.
Mae'n wâr, mae'n wych, mae'n wreiddiol,
crefft fel petai'n naturiol
a phawb ohonom yn dotio.
Ond yn ei gwmni heno
gwn fod rhwng ei linellau
remp na allaf ei faddau.

Sian Northey8 pwynt

Telyneg- Camp

Holl sgrech dy eni newidiodd ein byd
Gwawr dy fodolaeth yn wyrth i ni'n dau,
Andalu parhad, ein hystyr mewn crud
Cariad yn bryder fod pethau mor frau.
Camau dy brifiant a lamodd o'n blaen
Swp o ddyddiadau, cofnodion mewn llun
Siapio cymeriad fesul haen wrth haen
A'n tras yn gymysg gyda ti dy hun.
Tithau'n gwneud synnwyr o'n holl synnau ni
Swsn dy orffennol dros wefusau llaith
Siapiaist a stumio llythrennau di ri
Gan glymu geiriau a deall yn iaith.
Neithiwr o nunlle fe loriaist ti fi
D'eiriau cyn cysgu, "nos da, caru ti".

Nia Môn8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd

Hen Stori

Yn fab, yr oedd gennyf i-un hudol;
Fy nhad a'i rhoes imi
Yn dad fy hun, d'wedaf hi
Nes daw wyr...mae'r hen stori.

Twm Morys10 pwynt

CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd

Hen Stori

Hwyrach wna'r ymddiheuriad wahaniaeth
heno.Ond hen drawiad
Yw hwn, a hen eglurhad
a'i ddweud yn hen draddodiad.

Nici Beech8 1/2 pwynt

CYFANSWM- 78 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.