Hogia'r Ynys V Howgets

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Cwpled Caeth-ar yr odl 'al'

Er ei wead anwadal,
I'w rwyd y'm denwyd a'm dal.

Annes Glynn
8 pwynt.

Cwpled Caeth-ar yr odl 'al'

Styrbio wnes gweld dynes dal
Yn rhannu fy iwreinal. Yn Ffrainc.

Robin Huws
8 1/2 pwynt

Pennill Mawl/Dychan- Y fi fy hun

'Does dim mor rhyfedd â phobol,
Pawb felly, ond ti a fi,
Ond wrth feddwl amdanom rwan
'Dwi'm yn siwr ohonot ti.

Meirion Jones
8 1/2 pwynt

Pennill Mawl/Dychan- Y fi fy hun

Peidiwch â meio am ganmol fy hun
Ni does gennyf berthynas rhwng fan'ma a Llyn
Can's bachgen bach oeddwn a luniwyd gan glôn
Adawodd Goronwy ar ôl yn Sir Fôn
A dyna pam 'rydwyf yn sgwennu yn awr
Ar batrwm Goronwy fu'n byw yn Rhos Fawr
'Rwy'n gallu pregethu a llunio penillion
A lladd pob ryw ellyll a sefyll dros safon
'Rwy'n aelod o'r Talwrn a hoffwn feuryna
Ond dwi ddim cweit ddigon da i ddewis y Marcia
Er hynny rwyn credu mod i'n un sydd yn dallt
Ac unlliw ar meuryn yn wir yn fy ngwallt.

Robin Huws
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Olew

Yn haen ar haen, lluniodd hwn
â'i olew wlad a welwn
o'r newydd, ynni'n cuddio
yn nwfn ei dirluniau o.

Hyder oes drodd baent yn drwch,
o'i ddwylo ffodd eiddilwch
ac â'i gyllell sgrafellai
y gynfas; troi'n eirias wnâi

.Nod 'KW' dan fachlud coch
yw atgof o fôr gwaetgoch,
copa rhew'n lliw addewid,
Eryri'n Gyffin i gyd.

Annes Glynn
8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Olew

Gyrr dynion drwy'u troeon trwch
Anwyliaid i anialwch;
I estron dir gan hir hel
Rhai i ryfyg rhyw ryfel,
Can's 'r awron mae'u ffynhonnau
I gyd fel pe'n araf gau;
Nid oes olew pris isel
A sbeit yw Prydain ers sbel,
Ac yn achos cur nosol,
Yn eu heirch daw rhai yn ôl
I urddas Wooton Basset
A ni'n saff yn gwylio'n set.

(Ystyr y gair trwch yn y llinell gyntaf y cywydd yw:-Ysgeler, trist, gwaradwyddus, anfad, toredig.) Gan fod seren wrth y gair teimlais y byddai'n gymorth i'r werin sy'n gwrando i weld yr ystyr. Mae i'r llinell olaf yn y cywydd ddau ysytyr sef:- y rhai sy'n gwylio'r set deledu, ond nid hynny'n unig ond rhai'n gwylio yn ddideimlad..hen griw set fel y byddai'r hen oes yn arfer ei ddweud.

Machraeth
8 pwynt

Englyn yn cynnwys dwy afon

Bro Alwen hoff roes offrwm - bro eu cur,
bro Ceirw a Llangwm
Echelau eu troliau trwm
ddygodd i'r crach ei ddegwm.

Llyr Gruffydd
8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys dwy afon

O'u morwyndod dod mae dwy- yn nwyfus
At Neifion a'i wobrwy,
Mae Amason a Chonwy
Yn lli'r môr yn llawer mwy.

Machraeth
8 1/2 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y diwrnod olaf

Heddiw cyrhaeddodd y 'decree nisi', ond eisoes fe fûm yn eithriadol o fisi,
yn barod i fentro ar ddiwrnod olaf y ddegawd hon, fy anturiaeth ffolaf.

Bûm wrthi'n ddyfal yn cribinio'r papurau, ymuno'n frwd â phob math o glybiau.
Mi es ar sawl taith gyda'r Clwb Mynydda ond weles i ddim ond llygaid a thrwyna'.

Ac fe es i i ddosbarth Yoga am damed, ond golwg go od sydd ar bawb ben 'i waered.
'Small ads' amdani ac o! y fath ddewis, ac addewidion am fywyd cynhyrfus!

Y 'Farmers' Weekly' yw'r lle am fecanig a'r 'Guardian Soulmates' os am fardd academig.
Fe synnech chi faint, yn ystadegol, sy'n ddoniol, yn hardd a chelfyddydol.

Ond gwefan 'Sws' gynigiodd y pecyn a'm dwyn i yma, i'r union lecyn,
i gyfarfod â'r dyn a fyddai'n cynnig y bywyd perffaith i grwydryn unig.

Fe'i 'nabyddais yn syth dros ei baned de, ei wên 'nabod ti' a 'rhown y byd yn ei le'
Fy ngherddwr c?n, mistar DIY, fy nhrefnwr gwyliau nad yw byth yn gweld bai.

Ar ôl i mi grwydro byd posibiliade', llawn tecach oedd edrych yn nes tuag adre'.
A dysgais wrth chwilio yn daer iawn am ddêt mai gwir y dywediad, 'Os mêt, mêt'.

Elinor Gwynn
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y diwrnod olaf

Y Diwrnod olaf i Marc Huws-Cyn Reolwr Tîm Dinas Manceinion.

Tîm dinas fawr Manceinion gadd fanna fel o'r nef
Roedd Arab wedi eu prynu, bu'n waredigaeth gref;
A Chymro fu'n ymroddgar i'w wlad ar hyd ei oes
Apwyntiwyd yn reolwr , un cryf o ddawn a moes.

A buan sylweddolwyd fod Marc am wneud ei farc
Drwy ddod â'r gw?r Robinho a Teves draw i'r Parc,
Fe wariwyd dau gan miliwn ac ni wnaed hyn o'r blaen,
Gan efelychu'r Eidal a thimau mwyaf Spaen.

Ac O! Y fath orfoledd i dîm y glas a'r gwyn
A fu, ond i'r rheolwr fe gadwai'r oll yn syn,
Nid ennill un a cholli a fynnai'r g?r â'r pres
Ond ennill, ennill, ennill a dod i'r brig yn nes.

Caed dirgel ddadansoddiad,' rôl dadlau am sawl gwaith,
Chwaraewyd dwy ar bymtheg, ac ennill dim ond saith,
Ond o edrych ar y tabl, cyfartal a fu wyth
Ac er mai dwy a gollwyd, yr Arab dalodd bwyth.

A daeth y diwrnod olaf; ni wyddai Huws am hyn
Ac yntau wedi curo a'r dyrfa oll ynghynn;
Fel suddas gynt bradychwyd rheolwr fu'n llawn gwres
Gan Arab. Pam? gofynnwch, a'r ateb ydoedd,....'PRES'.

Eurfon Griffiths.
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â datganoli

Roedd lodes mewn caffi'n Nhy Ddewi
Yn cario llawn gormod o bwysi
Ond fe wyddai yn nêt
Petai'n sownd yn ei sêt
Gallai decstio i dat ga' nôl 'i.

Llyr Gruffydd
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â datganoli

Mae Wmffra fy nghefnder yn Grimsby
Yn uchel ym myd datganoli,
Mae o'n feistr ar genod
Sy'n hoffi rhoi lledod,
Mewn halen yn barod i'w rhewi.

Eurfon Griffiths
8 1/2 pwynt

Englyn Cywaith: Colli

Codais grachen ei orffennol - a gweld
yn ei gof adfeiliol
bod llun un yno ar ôl,
a hithau yno'n fythol.

Llyr Gruffydd
8 1/2 pwynt

Englyn Cywaith: Colli

Nid geiriau ar lwyd garreg- a gofiaf
Ond gofid diatreg
O ryw ddoe yn un ar ddeg
Na roddwn mewn un frawddeg.

Robin Huws
8 1/2 pwynt

Telyneg: Aberth

Dychwelant heb eu lifrai,
llwch Helmand lond eu crud,
yn powlio i ben eu siwrnai,
y blodau'n tagu'r stryd.
Hysbyswyd teulu, tad a mam,
a'r wlad yn holi'n ddyddiol: "Pam?"

Gadawsant yn eu lifrai,
y band, y ffeiff a'r drwm
yn gân ar ddechrau'r siwrnai
er gwae'r colledion trwm
yn Ypres, Korea a Fietnam...

A'r byd, o hyd, yn holi "Pam?"

Annes Glynn
9 pwynt

Telyneg: Aberth

Chwi dduwiau holl grefyddau'r cread crwn
Ni fedrais atal wylo'r nos o'r blaen,
Wrth edrych ar ganlyniad erchyll hwn
A'r ddinas a ddinistrwyd faen wrth faen,
A phlentyn bach yn cropian drwy y llaid,
Na fedrai godi i gerdded hanner cam,
A minnau'n gofyn, os oedd hyn yn rhaid,
O'r duwiau oll, oes un all ddwedyd pam?
A chylwais laid o rywle'n f'ateb i
Drwy ofyn imi beth wnei di am hyn?
A beth olyga'r Pasg, anghofiaist ti
Mor fuan ar ôl g?yl Nadolig gwyn?
Ac yn y darlun gwelais ?r a chroes
Yn hongian am ei wddf, oes ateb? Oes.

Machraeth
8 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd:Trychineb

Heidia'r byd i droi cyd-ddyn-yn bennawd,
yn boen ôl-ddaeargryn,
er ein hawch â'r stori'n h?n
daw dinodedd troednodyn.

Meirion Jones
9 1/2 pwynt

CYFANSWM- 77 1/2 PWYNT

Englyn ar y pryd:Trychineb

Natur yn troi'n ynfytyn- a rhwygo
Y creigiau fel brethyn,
A'n byd yn gweled wedyn
Le'i bob braich ddwyn baich bob un.

Eurfon Griffiths
8 1/2 pwynt

CYFANSWM- 76 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.