Y Rownd Cyn Derfynol-Bro Alaw V Caernarfon

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd cyn derfynol o gyfres y Talwrn.

Cwpled Caeth ar yr odl "ill"

Awen yw llunio pennill
Yn grefftwaith o fewn saith sill.

Arwyn Roberts
8 pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl "ill"

Mynnodd, ar ôl fy mhennill,
Fy Nain yr hawl i sawl sill.

Robin Evans
8 1/2 pwynt

Pennill ymson - Wedi damwain

Y fi yw'r brif soprano
Yn Covent Garden heno,
Er mod i, cyn hen ddamwain gas,
Yn basso tra proffwndo.

John Wyn Jones
8 1/2 pwynt

Pennill ymson - Wedi damwain

(Wrth wely Manon yn yr Uned Gofal Dwys, wedi iddi dderbyn Caesarian brys i achub bywyd ein babi, ac yna ddwy lawdriniaeth argyfwng i atal y gwaedu yn sgîl hyn. Yng nghwrs y ddwy lawdriniaeth derbyniodd ddeunaw uned o waed mewn trallwysiadau.)
Ni wyddys pam, yn anterth bloedd dy wewyr
Y pylodd sain y galon yn dy fru.
Geni gofidiau ydoedd gwanu llafur,
A'th suo o'th gryndod i gaethiwed du.
Ni chlywaist yn dy lesmair gân angylion,
Fel cigfrain tyner a'u si-lwli croch,
Ar gyrch di-ildio i dagu sugn bodlon
Yr angau fynnai dodro'n rhuthur coch.
Ac wedi'r drin, yng ngrio'n dy grud annynol
A'th einioes ar edefyn bogail brau:
O'th encil mud, rho glust i'm llef ddirdynnol
A boed i'w thaer hwiangerdd dy ryddhau -
F'anwylyd, ganed iti ferch ddi-nam.
Dychwel, fy myd, clyw Cadi'n galw'i mam.

Emlyn Gomer
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Neithiwr

Ni bu haul yn llenwi'n byd
Na haf heb derfysg hefyd;
Lle bo awel, dychwelyd
A wna'r gwynt yn dwrw'i gyd.
Neithiwr, bu fel gŵr o'i go'
Yn herian a bytheirio;
Sŵn ei ddwrn ar ddrws yn ddig,
O'r llawr, sŵn treisiwr lloerig,
Y curo brwnt yn creu braw
Ag erlid, cyn troi'n gurlaw;
Yna cilio mewn c'wilydd
Yn ei warth i darth y dydd.

Richard Parry Jones
8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Neithiwr

Neithiwr, ar gwr y gorwel
Ar elor môr yn ymhèl
Daeth terfyn dydd hirddydd haf;
Noswyl yr alban nesaf-
Pan ddaw heulwen Gorffennaf

Yng ngwatwar lliwgar y lli
Mae yr haul yn meirioli
Fel ieuenctid yn gwrido
Y daw ei ddiflaniad o;
Yn rhuthr aur anterth yr haf
Tiriodd y machlud hwyraf.

Ifan Prys
9 pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'ofer'

Er fod Siôr am gipio'r Gwpan - yn hyf,
Ofer chwifio'r lluman
Yn y gwynt; mae'r sgôr a'r gân
Yn well â'r Saeson allan.

Arwyn Roberts
8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys y gair 'ofer'

Ofer yw beio'r cerrynt - neu roi bai
Ar bob chwa ogorwynt,
Ni reolir yr helynt
 BP'n cyfri bob punt.

Ifan Prys
8 1/2 pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell]: Pobl bwysig

I helpu pobl fod yn bwysig
mae gennyf lyfryn ar y gweill
sy'n cynnwys llawer o ganllawiau
ar sut i fod yn well na'r lleill.

Rhaid bod yn hwyr ym mhob cyfarfod
i dynnu sylw atoch 'hun.
'Sgrifennwch bwt i'r papur lleol
gan roi eich enw efo'ch llun.

Rhaid dysgu siarad efo'r werin
a swnio'n posh ar Post Prynhawn;
mae prynu Country Life a Barddas
'n eich cadw ar y trywydd iawn.

Mae'n talu troi yng nghylch yr Orsedd a sefyll i 'God Save the Queen'; rhaid dysgu'r grefft o foesymgrymu
sy'n gwneud hi'n haws i lyfu tîn.

'Dach chi 'm yn amau eich pwysigrwydd
ond argyhoeddi'r byd yw'r gamp;
cewch ateb yn fy llyfr am ddecpunt
sy'n cynnwys costau'r inc a stamp.

Geraint Jones
8 1/2 pwynt

Cân [heb fod dros 20 llinell]: Pobl bwysig

Mae'n briliant bod yn bwysig, mae'n agor drysau lu,
gan gynnwys rhai trosiadol, nid dim ond drws y tŷ.
Ond sut mae bod yn bwysig? Oes yna gwrs ar gael
fel B.A. Astudiaethau Pwysigrwydd i Feidrolion Gwael?
Na, does dim angen cymwysterau mawr na bod yn saint,
ond mae hi'n help os ydych yn ddiffygiol o ran maint.

Roedd Hitler yn ddyn bychan, a hefyd Genghis Khan,
Napoleon a Stalin, a Dai Jones Siôn a Sian,
A fasa'm rhaid i'n Dirprwy Brif Weinidog blygu lot
mewn cystadleuaeth limbo efo Jonsi a Pol Pot.

Ond er mor hynod bwysig ydi'r bobol hyn i gyd
mae dau lumanwr sy'n bwysicach fyth yng nghwrs y Byd.
Y cyntaf - Tofik Bakhramov o wlad Azerbaijan
sy'n arwr mawr gan bawb a gâr gyfiawnder ym mhob man.
Ei lygaid barcud o oedd 'runig rai a welodd gôl
'nillodd Gwpan Byd i Ingerland flynyddoedd maith yn ôl.
Mauricio Espinosa ydi'r llall, o Uruguay;
daeth Lloegr adre'n gynnar 'leni, ac ar hwn mae'r bai.
Dihiryn gwaeth na Hitler, Genghis Khan a Nigel Havers,
am weddill ei oes difaru wnaiff nad aeth o i Specsavers.

Geraint Lovgreen
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â phostio llythyr

Wel, sori, mae'n well ychwanegu
Rhyw nodyn, rhag ofn i mi bechu:
Mi 'stynais bum punt
Heb feddwl yn gynt
Ond rŵan, mae'r gliw wedi sychu.

Sian Owen
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â phostio llythyr

Pan ddoi i lythyra roedd Bedwyr
Yn fachgen heb lawer o synnwyr
Mai'n ddigon o gamp
Postio llythyr heb stamp
Ond bostiodd o'r stamp heb y llythyr!.

Emlyn Gomer
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Llumanwyr dall mae'n rhaid ynt
Rhai hwylus i greu helynt
0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

O'u couau mae'r choedd
Llumanwr dall mae'n rhaid oedd
1 pwynt

Englyn Cywaith: Cydymdeimlad

[Lladdwyd gor-wyres Mandela yn 13 oed mewn damwain car ar y ffordd adref o gyngerdd Cwpan y Byd, lle disgwylid iddo siarad yn y seremoni agoriadol drannoeth.

Anodd fu dal dy alaeth - yn nyddiau
Anniddig alltudiaeth;
Am or-wyres mae'r hiraeth
Yn dy henaint gymaint gwaeth.

Richard Parry Jones
10 pwynt

Englyn Cywaith: Cydymdeimlad

Dadrith yw'r dyfod adra-a hen dro
wedi'r heip i'r hogia.
Ffarwèl i'r vuvuzela
gan dîm nad oedd ddigon da.

Robin Evans
9 pwynt

Telyneg : Cwmni

"Dos," meddai'r dyn ar ei daith,
wrth i lun ei lethu -
daeth atgof yn sŵn rhyw gytgan,
hanner llun o fywyd llawn;
un o'r lluniau ddaw, fel glaw,
i'w glwyfo,
yn ddiferion o fyd arall
lle'r oedd dau
a hyd yn oed mewn drycin,
dawns.

Yn y car, mae'r radio
yn dal i daflu dagrau
a daw nodau'r gytgan eto
yn un gawod o gofio.
"Dos," meddai,
wrth gwmwl o gân;
"Dos," heb eisiau'i diffodd.

Sian Owen
10 pwynt

Telyneg : Cwmni

(I Iwan)

Gyda'r machlud yn glais uwch yr Eagles dyna'r noson gynta inni ganu hebot ti

Dan oleuadau a ddiferai yn lliwiau anwadal o'r to
roedd merched mewn ffrogiau clybio

ar eu ffordd stileto i'r Dre, a gwragedd a'u gwŷr mewn crysau glân yn crŵnio karaoke o'r seti,

a phawb yn gwybod geiriau "Dan ni yma o hyd",
ond roedd bwlch yn y rhengoedd
a'r gân yn gelwydd i gyd

Ac aethom ragom, o dafarn i dafarn, a sŵn "yr angylion yn hedfan heibio" yn mynnu bylchu pob sgwrs.

Dro ar ôl tro a ninnau'n mud wylio
Guiness arall yn setlo.

Ifor ap Glyn
10 pwynt

Englyn ar y pryd- Enw

Er aros yn Eryri-fe wyddom
Na feddwn mohoni
Ond mynnwn fod ei meini
Yn cadw ei henw hi.

Geraint Jones
9 pwynt

CYFANSWM- 80 PWYNT

Englyn ar y pryd- Enw

Mae enaid ac mae wyneb- y mae dauMae dogn o ffraethineb
Yn herio'r hen ddihareb
Y byddwn i hebddori neb.

Robin Evans
9 pwynt

CYFANSWM- 82 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.