Penllyn V Berwyn
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth-ar yr odl '?l'
Heddiw, pwy fase'n meddwl
Fod dyn cynghaneddu'n c?l?.
Dylan Davies
8 pwynt.
Cwpled Caeth-ar yr odl '?l'
Garbej o raglen garbwl
dyna beth oedd 'Istan Bwl.'
Ifan Wyn
8 pwynt
Pennill Telyn -Clywais ddweud gan wybodusion'.
Clywais ddweud gan wybodusion
Mai gwaed a chyhyr ydi calon,
Ond all neb esbonio imi
Sut ma'i'n curo ar ôl torri.
Beryl Griffith
8 pwynt.
Pennill Telyn -Clywais ddweud gan wybodusion'.
Clywais ddweud gan wybodusion
am rinweddau gwlad y Saeson,
digon teg ond paham felly
fod cynifer yma Nghymru.
Delyth Humphreys
8 1/2 pwynt.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell)-Chwefror.
Onid oes, ymhob dwsin
Un ?y drwg ? Nid hawdd ei drin
Mo'r ariangar Iscariot
Hwnnw'n yr ardd a'i sws rôt'
Tithau Chwefror, o orfod,
Y mis cleta' byrra'n bod
Yn claddu ein clai eiddil
Tra'n di-huno daffodil.
Ein mis bach! Mae dy achau
Yn y lloer nad yw'n pellhau,
Ti yw gwir fis y misoedd
Plygwn fel un, codwn floedd !
(Ystyr mis yw'r cyfnod rhwng dau leuad llawn, a'r mis bach sy'n cadw at yr egwyddor yma - wel tri thro allan o bedair beth bynnag. ).
Iwan Bryn Williams
8 1/2 pwynt.
Cywydd(heb fod dros 12 llinell)-Chwefror.
Y mae'r w?l ym meirioli
ei manion hatgofion hi,
a chynefin y llinach
heb arian byw yr oen bach
i erlid brath yr hirlwm
a mwytho cur maith y cwm.
Ond mae'r rhew'n dadmer o hyd
ar dwf yr hadau hefyd,
a daw y myrdd flodau mân
yn eilfyw o'u dirgelfan.
Er i'r mis offrymu'i ôd
ym Mawrth y mae ei wrthod.
Gruffudd Antur
8 1/2 pwynt
Englyn-Hunanfeddargraff.
Unwaith yr oeddwn yna - ar y tir
Lle'r wyt ti yn prowla,
Ar y daith, tithau ?r da,
Yn ddi-amod ddoi yma.
William Jones Williams
8 1/2 pwynt
Englyn-Hunanfeddargraff.
Mae Arwel wedi marw - och alar!
Rhowch elor i'w ludw,
Rhowch drymder yr arch dderw
i hedd y bedd. Bw hw hw.
Arwel Emlyn
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Beth aeth o'i le?
Hwn oedd y peiriant roedd pawb yn ei chwennych
Y cerbyd coch newydd yn nwylo'r eurych
Allai droi pob argyfwng i'w felin ei hun
A throi ei elynion yn ffyliaid di-lun.
Teithiodd drwy'r gwledydd am ddegawd a mwy
Â'r injan yn hymian o blwy i blwy.
Ond fe flinodd y gyrrwr ac fe welodd draw
Bod y ffordd yn dirywio a bod llaid a baw
Yn britho ei lwybr, roedd hi'n bryd iddo ffoi .
Ei gydymaith ffyddlon oedd yr union foi
I gydio'n yr olwyn 'Mi gwnei di hi'n hawdd'.
Ond cyn iddo eistedd roedd Brown yn y clawdd.
A byth ers iddo gydio yn llyw y car coch
Rhyw lusgo mae Gordon, a'r bobl yn groch
Yn beio'r gyrrwr am gyflwr y wlad,
Am brinder arian, am waed maes y gad.
Tybed gawn ni wybod cyn diwedd mis Mai
Ai'r car yntau'r gyrrwr neu'r wlad oedd ar fai?
Beryl Griffiths
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell):Beth aeth o'i le?
Eisteddai offeiriad Pabyddol
Ar fainc yng nghanol y Llan,
Pan ddaeth meddwyn i eistedd ato
Yn ogleuo dros bob man.
Fe ddarllenai hen bapur newydd
A chan o gwrw'n ei law,
Hen finlliw yn staen ar ei wyneb
A'i wedd dan grachen o faw.
'Hei be sy'n achosi cricmala?'
Gofynnodd i'r tad yn syn,
'Byw'n ofer, mercheta ac yfed
Fy mab yw'r achos am hyn.'
Ond teimlai'r offeiriad dosturi
Ac meddai 'maddau i mi,
Am fod mor galed, y cricmala
Ers faint y mae arna ti?
'O na' meddai'r meddwyn yn styriol
'Nid yw yn fy mhoeni i,
Ond mae'r Pab nol stori'n y papur
Yn diodde'n ddrwg wyddoch chi.'
Huw Dylan Jones
8 pwynt
Limrig-'Daeth dau dîm o Benllyn un noson.....
Daeth dau dîm o Benllyn un noson
Yn benben ar lawr yr ymryson
Wnai dau o'r un fro
Mewn ffeinal mo'r tro
Rhaid felly deneuo'r goreuon.
William John Williams
8 1/2 pwynt
Limrig-'Daeth dau dîm o Benllyn un noson.....
Daeth dau dîm o Benllyn un noson
I'r Bermo'i ehangu gorwelion,
Efo parti cywennod
O Brymis gor-barod ...
Dim teilyngdod, ddaeth neb drwy'r rhagbrofion!
Ifan Wyn
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Ai gobaith ein heniaith ni
am safon f'englynion i.
0 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd
Hen wragedd sydd yn rhegi
am s'afon f'englynion i
1 pwynt
Englyn Cywaith- R.S.P.C.A
Cymdeithas a thynged asyn - a chi
A chath a phob mochyn,
Da ei feudy, dafedyn
Mwy na dim, namyn y dyn.
William John Williams
8 pwynt
Englyn Cywaith- R.S.P.C.A
Lle bu gwrthod gormodol - wedi'r ofn
A cham drin beunyddiol
Yr un na all daro'n ôl,
ei anwesu'n fynwesol.
Arwel Emlyn
8 1/2 pwynt
Telyneg-Gadael
(Cadw'r trimins)
Bregus ydynt
- glychau bach y 'dolig,
fe'u codaf
o'r canghennau gwyw
yn dringar
rhwng bys a bawd -
fel wyau bychain cain.
Codaf un at oleuni'r calan,
a gweled ynddi
adlewyrchiad meddal
yr eira dilychwin.
Lapiaf ei sglein yn saff
dan haen o bapur sidan
i'w dad-lapio rhyw dro efallai -
mor hawdd ei chleisio,
mor frau ei phlisgyn.
A thrwy rew y gwydr
gwelaf olion traed
yn sathru budreddi'r pridd
yn friwiau llidiog
hyd wyneb yr eira.
Haf Llewelyn
9 1/2 pwynt
Telyneg-Gadael
Os bu dyhead unwaith ynot ti
i agor cloriau aur y gorwel pell
a gwasanaethu'th wlad i geisio'th fri
a gwneud y byd ychydig bach yn well,
ac os y buost wrol dros dy frawd
a theimlo hen orfoledd yn dy waed
wrth gynnig crystyn oer i'r bachgen tlawd
a chlirio'r holl ysbwriel dan ei draed,
dychwelaist, do, i glod dy aelwyd falch;
yn ôl i fynwes mam o'th antur faith,
ond 'dyw'r holl gysur ond yn taflu calch
i guddio'r archoll ddofn a gwynnu'r graith.
Er gadael gwlad i adfer math o drefn,
dychwelaist ti a'r beichiau ar dy gefn.
Gruffudd Antur
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd
Degawd ar ddegawd ddugodd,- eto hwn
i'r tu hwnt gymerodd
yr hufen, ninnau rywfodd
aros yr ym, aros rhôdd.
Dylan Davies
8 pwynt
CYFANSWM-75 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd
Er i'r ddraig hir ddarogan ein rhyddid
y mae'r waedd yn fudan
Ond cawn ofal mewn calan
a chawn o'i law lechen lân.
Delyth Humphreys
8 1/2 pwynt
CYFANSWM-77 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

