Y Talwrn- Tanygroes V Crannog
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth ar yr odl "es"
Ar yr iard nid hyd y rhes
O fuchod a wna fuches.
Emyr Jones
9 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl "es"
Yn ddistaw rwy'n dweud 'Na-wes'
Pan fo'r byd yn dwedyd 'Wes'.
Dewi Pws
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: "Ceffyl Blaen"
Gadewch i'r ceffyl blaenaf
Gael mynd â'i strancio ffôl,
Waeth mae'n "Red Rum" wrth arwain,
Ond "MURDER" o'i droi'n ôl.
Ken Griffiths
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: "Ceffyl Blaen"
Pan mae'r harnesi yn tynhau
'R un blaen sy'n cael y pwyse
A phan ddaw hwn i ben ei rawd
Mae'r lleill yn gweld ei eisie.
Owen James
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Ymson Milwr"
Daw heno'r un hen stori
A mwynhawn ei chwmni hi.
'Os cyfaill, achos cyfiawn'
Yw stori rwydd mêts triw iawn;
'Os mêts, mêts' sy 'ma o hyd,
Yn unfarn trwy'n cyfanfyd.
Mae'r hogiau'n gorff mor agos
Ond un yw un yn y nos:
Ni all awen y lleuad
Droi 'y nghof rhag stori 'nghad.
Ni hawlient 'r hyn a welaf,
Ni rannan nhw'r hyn a wnaf.
Philipa Gibson
9 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): "Ymson Milwr"
O'r uchelgaer lle mae'r llys
yn eistedd, be' ŵyr ustus
am wydrau bach yn fflachio
drwy y Queen's o frwydrau'r co,
am fariau tre'r hunlle hon
a lanwyd gan elynion.
Yn unig, heb gwmni gwn,
meddwi ar fomiau oeddwn,
a ffrwydriad o sgrechiadau
oera' cyrch droes amser cau'n
nos o waed, a thybiais i,
ar hyn, mai'n Helmand rown-i.
Idris Reynolds
9 1/2 pwynt
Pennill Telyn yn ymwneud â chariad
Nid danteithion angerdd eirias
Ydyw'r serch sy'n creu in balas;
Bara sgwrs a halen chwerthin
Ydyw'r serch sy'n llond ein cegin.
Arwel Jones
8 1/2 pwynt
Pennill Telyn yn ymwneud â chariad
Buom unwaith wrthi'n casglu
Cregyn gwyn ar draeth Cwm Tydu,
Es yn ôl i chwilio droeon
Ond ni welais ddim ond gwymon.
Hywel Rees
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Torri rheol"
Wrth odre Mynydd Seina, lle twrio am olew bu,
O hyd fe ddowd i lechen 'da bwced JCB.
Y gyrrwr a'i cyfieithodd i iaith 'pyn bach fwy slic
Ar gefn ei deimshît sgwennodd i lawr â'i feiro Bic:
Na fyth â ddwyn tystiolaeth 'rôl gwylio y TV
Gyfreithiwr â gwên afiach yn dweud, "No win, no fee".
Na ladd a na ladrata a rhodia'r llwybyr cul,
Ond ambell gleren boenus neu ffowlyn ar ddydd Sul.
Na chymer dduwiau eraill ond ar wahân i Fi:
Dim gigs, na doli rwber, na neb sy' ar page three.
A chofia ddydd y Saboth o nawr hyd 'r oes a ddêl:
Ewch bawb i oedfa'r bore ond dim i gar bŵt sêl.
Dyw twyllo treth yr incwm na'r VAT ddim yn beth neis,
Yn gwylio o bost 'lectric yn sicir fydd Zacheus.
Wrth rodio'r paith â'th asyn, paid byth ag agor mas
Os camel sy'n dy ddilyn, un lwmp â golau glas.
Wrth yrru dy Ddaihatsw wrth ochr meinwen bêr,
Paid gadael Satan demtio dy law wrth newid gêr.
Os cwymp rhyw botel wisgi yn Tesco o dy gôl,
Yn wir, yn wir, dywedaf, paid byth ac edrych nôl.
Arwel Jones
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): "Torri rheol"
Iechyd a diogelwch! Pla newydd ein gwlad fach ni
- Mor hawdd yw torri rheole a bod yn 'non Pi Si,'
Cyn hir rhaid cael trwydded i beswch
Neu wersylla dros nos yng Nglanllyn
A bydd Santa yn colli ei hawl, pŵr dab,
I ddod gyda'i sach dros y bryn,
Rhaid gwisgo rhaffe a chrampons i ddringo'r stâr bob nos,
Gemau rygbi ar feysydd o rwber rhag ofn i'r chwaraewyr gael lo's,
Dim ysgwyd llaw rhag trosglwyddo baw
A surgical masc i gusanu,
Bownsars i warchod mewn talwrn
I stopo y meuryn rhag brathu,
Papur doctor i wylio'r teledu, un arall i gysgu 'da'r wraig
Ac adroddiad seiciatrig os ych chi'n moyn siarad Cymraeg,
Gwisg o ddur i 'whare bowls, menig i ganu'r delyn
A chyn cychwyn â'r babi am wâc yn y pram
Rhaid ei lapio mewn tâp du a melyn.
Stamp swyddogol wrth DEFRA i dyfu eich tato eich hun
Ac i blygu i weddïo'n yr eglwys, bobo lythyr wrth ELPAPA a'r Cwîn.
Mae'r byd 'ma mor beryglus a ninne'n feidrolion mor dlawd
Ond diolch i'r drefen bod San Steffan yn gefen
I'n cadw ni i gyd dan y bawd.
A dyna fi wedi mynd ymla'n ac ymla'n
Ac wedi torri'r rheol - ugain llinell yw cân.
Dewi Pws
9 pwynt
Limrig yn cynnwys y frawddeg, "Wrth i mi fynd adref o Hermon"
Bydd Arwel a Ken a Jon Meirion
A finne, wrth gwrs, a Miss Gibson
Yn galw i hyfforddi
Beirdd Crannog 'rôl colli
Wrth i mi fynd adref o Hermon.
Emyr Jones
8 1/2 pwynt
Limrig yn cynnwys y frawddeg, "Wrth i mi fynd adref o Hermon"
Rwy'n mynd drwy Drefach, yna Saron,
Llandysul, Croeslan, Capel Cynon,
I sgwâr Synod Inn
A throi am Bryngwyn
Wrth imi fynd adref o Hermon.
Dai Jones
8 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

