Y Talwrn- Penrhos V Tir Mawr

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'eto'

Y dasg yn ei gwpled o-
Ateb hen drawiad, eto!.

Lyn Davies
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'eto'

A ddaw'n ôl i'n blwyddyn ni
Eto haf heb hwyl Teifi?

Huw Erith
8 1/2 pwynt

Pennill Mawl/Dychan-Eistedddfod yr Urdd

Wedi cl'wad C-Y-D-A-D-R-O-D-D
Fel malwod mewn tar
Diolch i'r drefn
Am gael peint yn y bar.

John Ogwen
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan-Eistedddfod yr Urdd

Arweinydd y bore yn baglu
A'r stiward yn siarad yn dew,
Y beirniad llefaru yn canu
Gan alw am ragor o rew,
Rhieni drwy'r rhagbrawf yn giglan
A'r llywydd â'i wyneb yn wyrdd
A phob telynores yn rhigian -
Rhaid 'mod i yn Steddfod yr Urdd.

Gareth Williams
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cymeriad

I gofio Hywel Teifi Edwards

Cymêr, ac un o'r werin,
Cawr di-daw draw yn drîn;
Cofiadur y cyfoedion
Cywir, ar dir a thros don;
Cof tyner ei Aberarth,
Cof dibaid, cof Deheubarth:

Calon y geiriau gonest,
cadno â'i fro ar ei frest;
câr gweldig Ceredigion,
câr teyrngar yr henwlad hon:
carodd feirdd, ac cariodd i'w fedd
ei ddaear hyd ei diwedd.

Iwan Llwyd.
9 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cymeriad

(Geraint Ysgubor Fawr)

Gwr bychan y gair bachog
a'i lygadau barbiau og:
gyda gwên gyhyd â giât
saethai'i wit yn syth atat.

Ei stydi fu ffenest fan:
un wêf, cyn cloi'r lôn gyfan
i roi'i farn, ac araf wr
i facio fu'r pryfociwr.

Wrth adwy, porthai eidion:
'y golau ddyddiau - mi ddôn'
(a'i siom 'fyny'i lawes o).
Un Ionawr, nid oedd yno.

Myrddin ap Dafydd.
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw dwy Goeden

Rhoddaf sycamorwydden- yn anrheg.
I unrhyw hen hoeden,
Ond oriau a nerth derwen
A gaf yn gysur i Gwen.

John Ogwen.
8 1/2 pwynt

Englyn yn cynnwys enw dwy Goeden

Rhowch imi'r awel firain, hen alaw
Drwy'r helyg o'r Plygain,
O s?n y 'mynd' yn Llundain
A'i nodau roc fel brath drain.

Myrddin ap Dafydd.
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Râs.

Saith yn ormod oedd yn y ras.
Wir yr, nes i drio fy ngora glas,
Roedd Lefftenant-Cyrnol Pilkington Smythe,
Tori Hen Bres ond cybyddlyd braidd.
A Wil 'Dwn i'm be di o' o'r Hen Lafur Newydd
Weithia'r Chwith, Weithia'r Dde. A cwyno'n dragywydd.
A Boi Plaid y Bobol y Volvo a'r Delyn
Sy'm yn si?r be'di liw o, Gwyrdd ynta melyn.
A dynas oedd isio gwneud Secs yn gyfreithlon
Rhwng Bab?ns o Borneo a Merchaid Aberdaron.
A rhyw Ddynas Dena Dena oedd yn gwisgo Siwt Brethyn
Isio ail-gylchu bob dim cyn'i fyta fo wedyn.
A Dyn Plaid Cyhoeddi Lot o lyfra i Blant
Oedd yn cefnogi Pob Dim fedra fo gael efo Grant.
A Dynas fu unwaith ar daith yn Nepal
Oedd, oherwydd ei phrofiad, isio dwad a Crogi yn Ol.
A creadur Ecsentrig fuo'n byw yn Ostrelia
Oedd isio mewnforio'r Cangar? a'r Koala.
A fi.Annibynnol.Cynrychioli Dim Byd
Ddaeth yn wythfad, ac ola, o'r rhein'na i gyd.

John Ogwen.
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Râs.

Wel mae'r dyrfa wedi setlo, mae 'ma gannoedd ar fy llw
Fe ddaeth diwedd ar y betio...Dyna'r gwn! I ffwrdd â nhw.

Gyda triban ar y cychwyn mae Y Manion ar y blaen
Ac yn ail r'ôl pennill delyn mae rhif tri, Penisarwaun

Mae'na glwstwr ar eu sodla' yn barddoni drwyn wrth din
Ond yn baglu dros eu hodla' mae Y C?ps a Cadw'r Ffin

Bro Tryweryn sydd yn methu sgwennu cân o unrhyw fath
Bydd yn mynd, ben bore 'fory i'r mashîn i wneud bwyd cath

Ac mae ffefryn mawr y bwci, Penrhosgarnedd , t? tw wan
Wedi disgyn ar ei hôl hi ar ôl Pennill Ymson wan

Wrthi'n dod yn gryf dan chwythu dyma'r C?ps a Beirdd y Byd
Ma' nhw i lawr! y ddau 'di methu gorffen llinell ar y pryd

O! 'r Taeogion sydd yn proestio! ac i'r blaen daw Tan y Groes
Ond mae hwnnw yn camdreiglo dros y ffens a'n torri'i) goes

O! Trychineb ar yr englyn! Lawr â Beca, lawr â'r Glêr
Lawr a phawb sydd yn eu dilyn yn un twmpath barddol, blêr

Dim ond pedwar nawr sydd ynddi yn limriga dan y chwip
Y Tir Mawr a Bro Dysyni, Yr Howgets a Criw y Ship

Yn wir, wrth groesi'r linall, mae y pedwar drwyn wrth drwyn
Gwell ini alw Gerallt, y stiward annwyl, mwyn.

Gareth Jones.
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â darllen.

'Roedd chdi'n gyrru gormod sti, Gweirydd,
I mi ddarllen be oedd o'n ddeud ar yr arwydd.
Roedd'na rwbath am 'bend'
A dw i'n si?r bod 'dead end'....
Mi gladdwyd y ddau yn Clawddnewydd.

John Ogwen.
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â darllen.

Mae dyn yn ein pentra bach ni
Sydd fymryn yn ddwl ddwedwn i
Mae'n bell dros ei ddeugian
Ac eto heb orffan
Ei 'Ddarllen a chwarae Llyfr tri'.

Gareth Jones.
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Teyrnged i Wali Tomos

Rhyw ddyn heb ddawn barddoni
Dy-dy-dy-dy ydw i.
0 pwynt

Ateb llinell ar y pryd.

Mae lob wrth fy ymyl i
Rhyw ddyn heb ddawn barddoni.
1 pwynt

Englyn Cywaith: Llyfr Lloffion.

Agor y drôr, dan y sborion- mewn llwch
Mae'n llechu'n ei chalon;
Ond edliw heddiw i hon
Yw gafael mewn atgofion.

John Ogwen.
9 pwynt

Englyn Cywaith: Llyfr Lloffion.

A broc môr ei drysorau'n melynu,
Mae'i lanw'n troi'ngruddiau
Ymaith dan gochi weithiau;
Yr wyf h?n ar gwr ei fae.

Gareth Williams.
9 pwynt

Telyneg- Gofyn.

Paham mae un yn llamu
Yn dyner i'r dyfnder du,
A blas ei bywyd o'i blaen?

Ai dyna mae duw'n ei daenu?

Paham mae angau'n tramwy
Yn bla ar ambell i blwy,
Ar dir y caeth a'r gwirion?

Fel ton ar afon Conwy:

Paham 'mod innau'n amau
Y dweud difeddwl rhwng dau,
Yr edau rhwng cariadon-

Calennig torcalonnau.

Iwan Llwyd.
9 1/2 Pwynt

Telyneg- Gofyn.

(Bydd cwestiwn yng Nghyfrifiad 2011 yn holi pa mor dda yw safon Saesneg pob dinesydd. Mi ddigwyddodd rhywbeth tebyg adeg y Tân yn Llundain.)

Gwaedodd briw y Tân yn Llundain i ddwr
Tafwys; dridiau bu'r dre yn ferthyr mwg
a fflam a llwch - a rhai yn gweld pob twr
yn pwyntio bys at Dduw, mai fo oedd y drwg.
Llygadu'r tyllau du ar hyd y cei
wnaeth eraill, amau'r rhai a ddaeth yn sgil
y llygod mawr i'r lan a llithro'n slei
i'w mysg, yn llawn o wenwyn hyll eu hil.
Er mwyn cael ateb Saesneg, hel yn griw
a wnaent, a holi am y tân a'r tywydd
wrth wyneb oedd a'i barddu'n ddieithr ei liw,
gan fesur pa mor fain, pa mor dafotrydd
oedd y prae wrth drafod eu cwestiynau,
gan ddal tu ôl i'w cefnau eu pastynau.

Myrddin ap Dafydd.
10 pwynt

Englyn ar y pryd-Ymchwiliad.

Y neges nad yw'n agor y celwydd
Sy'n celu 'mhob tymor
Y ddoe sy'n cloi a chau'n ddor
Yn heddiw di-egwyddor.

John Ogwen.
9 pwynt


CYFANSWM- 80 pwynt

Englyn ar y pryd-Ymchwiliad.

(Tony Blair o flaen ymwchwiliad Irac.)

Gwenodd ar godi bwganod ,-osgodd
A;i hen sgil bob cysgod
O weld bai, gan bledio bod
Drymiau Duw'n ei storm dywod.

Gareth Williams.
10 pwynt


CYFANSWM- 85 pwynt

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.