Cadw'r Ffin V Dinbych
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth-yn cynnwys y gair Hwyr
Rhy hwyr, fab, rôl dadmer iâ,
ein hiraeth am ddyn eira.
Siôn Aled
8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth-yn cynnwys y gair Hwyr
'N ara deg daw'r diogyn
yn hwyr i'w angladd ei hun.
Berwyn Roberts
8 pwynt
Pennill Ymson-Mewn aduniad Ysgol
Wel dyna ni, tu ôl i'r sied feiciau
'M ond Jennifer Evans a fi.
Does 'na ddim aduniad swyddogol;
Jyst y ddau ohonon ni.
Les Barker
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson-Mewn aduniad Ysgol
Mae 'nacw wedi britho -
ond ddim yn foel fel fi,
a hithau wedi twchu,
ond 'mod i'n fwy na hi;
mae yntau'n dechrau cloffi,
a finnau ar bwys fy ffon,
a'r sbectol yma s'gen i'n
fwy trwchus nag un hon.
Ond wrth 'mi ddechrau suddo
mewn pwll o hunan-dosturi,
rwy'n cofio am ddau ddireidus
fydd ddim yn y llun eleni.
Eifion Lloyd Jones
8 pwynt
Cywydd- Tâl
O hogiau Copenhagen;
Ysgwyd llaw, eich baw ar ben,
Wedi gadel, tawelwch
Diflino, lluchio i'r llwch
Eich pres mân; o eich pris mawr!
Cedwir cwrs eich pwrs, persawr
Ond drud. O byd, o bobl bach,
Hen gusan gas 'nagosach.
Mor rhad yw lleihad eu llu;
Talent y tlawd yw talu.
Les Barker
8 pwynt
Cywydd- Tâl
(er cof am Dafydd Whittall, cyfaill oes a chyn-aelod o dîm Talwrn, Dinbych, a fu farw ddydd Calan. Y tâl i mi oedd cael ei gyfeillgarwch)
Tregarth sy'n bentre o gur,
Dafydd, gwmnïwr difyr,
yn ifanc aeth o'i lwyfan
o raid, ar ganol ei ran.
A rhyfedd fydd pob Prifwyl.
heb le i'w b'rablu a'i hwyl.
Yn raenus, gyhoeddus, g?r
oedd ddiysgog addysgwr.
Gwelai werth diwyllio gwlad,
a'i geiriau oedd ei gariad;
ei wlad wâr a'i aelwyd o
a roddodd gysur iddo..
John Glyn Jones
9 1/2 pwynt
Englyn yn cynnwys dwy dalaith
Dylanwad dy lol anwar - yn Helmand;
Hola i 'mond am watwar
Hanes dyfal; daw galar
Cyn daw hedd i Kandahar.
Les Barker
8 pwynt
Englyn yn cynnwys dwy dalaith
Seren Miss World eleni - yn ddi-os
Oedd y ddol Miss Wri,
Neis iawn, ond fy newis i
Y siapus Miss Issippi.
Berwyn Roberts
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Adduned
Addewais "Pan ddaw heno
a'm gwaith i gyd di'i wneud
bydd sbel go lew i chwarae" -
wel, dyna wnes i ddweud.
"Ond os nad heno, wel'di,
dydd Sadwrn ddaw. Cawn sbri
ar unrhyw gêm a fynni" -
wel, dyna ddwedais i.
"Olreit, olreit, daw'r gwyliau
cei weld, mewn fawr o dro,
â dyddiau maith o chwarae" -
wn im a goeliodd o.
"A r?an dwi'n ymddeol,
c'mon ..." I mi fy hun
adleisiaf fy adduned
a'r crwt yn awr yn ddyn.
Siôn Aled
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Adduned
Dwi heb golli 'nhymer,
Na dangos fy nicter
Hyd yma yn Nwy Fil a Deg,
Heb fod yn hunanol
Na'n farus uffernol,
Heb yngan gair cas, na'r un rheg.
Aeth 'run darn o siocled
Na fferen na bisged
I lawr fy nghorn gwddw so ffar;
Dwi heb wario'n wirion
Ar sothach fargeinion,
Heb smocio, na photio mewn bar.
Er hynny, dwi'n poeni
Bydd pethau'n gwaethygu.
Yn raddol rwyf yn colli ffydd.
Bydd rhaid i mi godi
A gadael fy ngwely
Rhyw ddiwrnod eleni, yn bydd?.
Gwenno Davies
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud a newid Hinsawdd.
Mae dyfodol y byd o dan gwmwl;
Todda iâ y pegynau, dw i'n meddwl,
Coda'r môr, sudda'r tir;
Gawn ni weld cyn bo hir
Graffiti sy'n deud 'Cofia Lerpwl'.
Les Barker
9 pwynt
Limrig yn ymwneud a newid Hinsawdd.
Amdano, fe wisgodd Rodrigo
Bump ponsio a phedair sombrero,
Roedd o'n dechrau poeni
Rôl gweld ar y teli
Mai 'Chilli' a fyddai hi'n Mecsico.
Gwenno Davies
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
yn llesg dan y fantell wen.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yn ein bro a honno'n hen.
1/2 pwynt
Englyn Cywaith- ALLWEDD.
Pob rhagfur cyfrifiadurol - a gwymp
o gael 'rallwedd geiriol:
ond ni roed 'run gair hudol
i minnau ddwyn hithau 'nôl.
Siôn Aled
8 pwynt
Englyn Cywaith- ALLWEDD.
Mewn oedi mae 'na adeg - i newid
a saernïo brawddeg
yn gall cyn agor dy geg
a chyn i ti ddweud 'chwaneg.
Berwyn Roberts
8 1/2 pwynt
Telyneg-Trothwy
Brasus yn sgleinio'n ddi-ffael
Pan steddwn ar y rhiniog
Yn ista, gwenu efo 'Nhad
I awdur y sglein gael cymryd llun.
Camu'n ifanc, ddi-feind dros y gloywder
Adeg achub y byd
Pan oedd pethau pwysicach na pholish
A chadw ty.
Cario'r plant yn garcus i'r ty
I gyfarch Nain
A gweld golau ei gofal
Yn sgleinio'n eu llygaid hwythau.
Camu, yn Nain fy hun, dros yr un trothwy
Yn arafach fy nghamau
Ond yr un mor sicr
O sglein ei chariad.
Meg Elis
9 pwynt
Telyneg-Trothwy
(i gofio Bob Davies, adeiladwr, gan gynnwys ein t? ni, a threfnydd angladdau, gan gynnwys ei un ei hun)
Wrth groesi'r trothwy acw, fe fydd llu
Yn dotio at fanylder crefft ei law
Sy'n tystio i'r ymroddiad llwyr a fu
Ym mhob cymwynas fach a di-ben-draw;
Yn wylaidd gadarn, yn fonheddig fud
Wrth agor sylfaen ac wrth agor bedd,
A dafnau o ddoethineb hen y byd
Ym mwynder dwys ei lais, ei gam a'i hedd.
Er ymgeleddu'i wraig drwy'i gwaeledd blin,
Bu'n rhaid gwahanu'n oerfel y mis bach,
Ond llwynog oedd yr haul drwy'r haf ar fin
Y cancr a ddaeth i reibio dyn mor iach,
A'i lusgo yntau'n unig tua'r tân
Sy'n ysu i uno'r ddau oedd ar wahân
Eifion Lloyd Jones
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd
Rhoes ei wynder a'i syndod-yn fendith
Ddi-ffeind fy mhlentyndod
Bendith a droes yn boendod
I ddyn wrth i henaint ddod.
Sion Aled.
8 1/2 pwynt.
CYFANSWM- 76 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd
Un bluen wen hamddenol- yn ysgafn
Ddisgyn yn ysbeidiol
A wna i ni droi yn ol
Wna esgus i gau'r ysgol.
John Glyn Jones.
8 1/2 pwynt.
CYFANSWM-77 1/2 pwynt
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

