Y Talwrn- Glannau Teifi V Cwps
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth ' -ai'
Fe gaem urddas petasai.
'R cyfoethog â'u llog yn llai.
Gwen Jones
8 pwynt.
Cwpled Caeth ' -ai'
Gwn heb os nac oni bai:
Moel wyf heddiw, moel fydda' i.
Huw Meirion Edwards (Y Cŵps)
8 1/2 pwynt.
Pennill mawl/dychan - Addysgwr
Mae arweinwyr y pleidiau am addysgu'r werin
Er mwyn sicrhau eu pleidleisiau wedyn;
Aiff y gorau ohonynt ar eu pen i drwbwl
O wybod dim, a deall y cwbwl.
Joan Thurman
8 1/2 pwynt.
Pennill mawl/ Dychan- Addysgwyr.
(a dychan o ystyried parodrwydd ysgolion i gau yn y tywydd garw diweddar)
A'r gwynt yn fain a'r eira'n lluwch
Dros lwybr serth ei addysg ddrud,
Cyrhaeddodd ddrws ei ysgol lom
A meiciau llawn ei ddosbarth clud.
Arwel Jones
8 1/2 pwynt.
Cywydd- Gwarchod.
(Hydref 2009) Ar ddiwrnod gwlyb yng ngardd goffa Tower Hill, Llundain, cofeb i'r morwyr a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau ryfel byd. Coffeir fy ewythr, Emlyn Thomas o Rydlewis, ar un o'r meini. Bu farw ar fwrdd yr Emiliano ym 1942, wedi ei tharo gan dorpedo)
Eiliad fach ganol Tachwedd
I gof un heb garreg fedd.
Glaw mân yn gloywi meini
Yn yr ardd, fy seintwar i;
Geiriau glân ar garreg lwyd
I gofio'r golled gafwyd.
Yno, ym mysg yr enwau,
Un a'i ffawd rwy'n ei goffau;
Pêl dân 'r Emiliano
Â'i hysodd, a'i hawliodd o.
Eiliad fach ganol Tachwedd
I gof un heb garreg fedd.
Terwyn Tomos
9 pwynt.
Cywydd- Gwarchod.
Gwae'r dyn sy'n tagu'n y tarth
Mewn syched am win Sycharth.
Ni wêl hwnnw'n cadw'r co'
Un arwydd i'w gyfeirio;
Ni chlyw chwaith ond bratiaith brain
I'w dywys i dŷ Owain.
Daw heb ganllaw drwy Gynllaith,
'Mond i weld ym mhen y daith
Ryw fryn glas didresmas draw
Yn ddiystyr o ddistaw:
Gweld ein gwlad yn glwyd dan glo
A'n hanes dan chwyn yno.
Huw Meirion Edwards (Y Cŵps)
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell - 'Yn fynych yr af yno'..
Dwy wyres, ac o dario! O mor bell.
Mae'r rhai bach yn trigo -
Bum sawl gwaith ar daith, O do,
Yn fynych yr af yno..
Gwen Jones
8 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell - 'Yn fynych yr af yno'.
I'r ddôl a'i choed ar ddeilio, - i adeg
Cyn i'r blodau grino,
Yn fynych yr af yno
Draw i'r cwm hyd erwau'r co'.
Iwan Bryn James - Y Cŵps
8 pwynt
Cân - Iechyd a diogelwch
Torri nghoes dan fêl o wair, troi fy migwrn yn y ffair,
Dala mriach yn yr haff shafft, mynd i'r sbyty i gael grafft;
Dyfod adre, mas am dro, dringo cloddie wna i sbo,
Disgyn ar nyth cacwn cas, nhw a fi yn rhedeg ras;
Health and Safety yn y tŷ yn disgwyl am fy ngweled i;
Mynd i gwato dan y co'd, storm o d'rane draw yn dod,
Gan daro'r goeden yn ei hanner, ac ar fy mhen disgynnodd gwiwer.
Nôl am adre, hala'r ci mas i'r beudy i neud pi pi,
Cay y cathod yn y cêj, rhain yn sgrechian, llawn o rêj;
Cael intsructions pendant felly gan y bois o'r 'Health and Safety' -
Rhoswch yn y tŷ yn gyson, wrth eich hunan, heb gysuron;
Peidiwch byth a chare concers, gall eich hala chi yn boncers,
Os cewch eich taro ar eich pen, falle bydd hi yn Amen.
Cyn bo hir ni fydd dim byd a gawn ni wneuthur ar y cyd;
Ma'n nhw'n whilo pethe dwl a rheiny gyd yn llawn o 'bull';
Mynd i'r capel ar fy rownd, ond mae'n llofft ni owt of bownd;
Sdim hawl dringo lan y grisie rhag in gwmpo ar ein penne,
A mwy na hynny gallwn sgwasho ein gweinidog ni a'i fflato.
Ma'r 'Health and Safety' am ein rhwystro rhag mynd i'r nefoedd am ein credo,
Rhag ofn fydd Pedr ger y gatie wedi torri rhai rheole.
Gwen Jones
8 pwynt
Cân - Iechyd a diogelwch
Ymson Swyddog Iechyd a Diogelwch Rhuthun Medi 1400
Rhyw waith di-ddiolch oedd o. Treulio f'oes
Yn ofer siarsio'r dre am bla a thân.
Ni welai'r dorf ddi-ddeall ond gŵr croes
Oedd ag obsesiwn od am gadw'n lân.
A hyn er fod budreddi hyd y stryd
A'r llygod yn gloddesta yn y grawn,
Ofn y Farwolaeth Fawr yn llenwi'n byd
A'n teios brau yn llosgi'n amal iawn.
Ond heddiw daeth fy ofnau oll yn wir
Pan ruthrodd milwyr Owain ar y dref,
A thrwy'r ymraefael gwaedlyd clywn yn glir
Gasineb y canrifoedd yn eu llef.
Mae'r lle'n un coelcerth eirias, ac nis gwn
Os gwelir diffodd byth ar dân fel hwn.
Dafydd Morgan Lewis
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â dyddiadur
Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher
Ni wnes i ddim byd, nôl fy arfer;
Fe wnes i fwynhau
Gwneud dim byd Ddydd Iau,
Ac fe wnes i fe eto Ddydd Gwener.
Gwen Jones
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â dyddiadur
Mae gen i gyfrolau difesur
Sy'n nodi pob meddwl a murmur
Dwi wrthi trwy'r dydd,
Ac un cofnod sydd,
'Dwi wrthi yn cadw dyddiadur'.
Arwel Jones (Y Cŵps)
8 pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
Nid wyf yn dda ar lwyfan
syn wyf a nhgoesau'n wan)
1/2 pwynt
Ateb Llinell ar y pryd
Yr wyf yn ofni'r llwyfan
Heno'n gaeth mewn Talwrn gwan
1/2 pwynt
Englyn cywaith - Craith
Tybed a oes atebion - y geiriau
Roddai gur yn gyson,
A'r bwlio yn brifo bron
A'i ôl yn nwfn y galon.
Gwen Jones
8 pwynt
Englyn cywaith - Craith
Ei hôl sydd wedi cilio, - aeth y clwyf,
Aeth y clais, ond eto,
Ei hanaf sy'n dal yno
Ynghudd yng nghelloedd fy ngho'.
Iwan Bryn James - Y Cŵps
8 1/2 pwynt
Telyneg- Perthyn
(I nhad)
I beth yr ymbalfalaf am dy nabod
a thithau'n ddim i mi ond llun mewn ffrâm?
a'th fyw
yn ddim ond cysgodion mewn caddug
yng nghilfachau atgofion
y rhai a gydgerddodd â thi.
I beth y ceisiaf ddeall?
ni all atgofion benthyg
osod fy llaw yn dy law dithau,
na llonyddwch llun roi ias y perthyn i ni'n dau
Ond, ym mhellter y blynyddoedd,
gwn i mi dy nabod unwaith,
ac i tithau fy nabod innau'n dda.
Terwyn Tomos
9 pwynt
Telyneg- Perthyn
(Ychydig yn ôl roedd CADW yn chwilio am 'ofalwr' i Gastell Dolbadarn. Doedd dim sôn am yr angen i allu siarad Cymraeg yn yr hysbyseb.)
Mae angen Porthor i warchod y tŵr
a chadw'r hen le yn daclus a glân
ac i gadw trefn ar gysgodion dŵr
Padarn a Pheris heb gynnau'r un tân.
Mae angen Porthor ar ein 'castell ni'
wrth ymyl Cwm Eilir, yng ngolwg Nant;
gwneud pethau'n haws i'r ymwelydd a'i gi,
gwneud siwr fod y llwybrau'n addas i blant.
Mae angen Porthor sy'n gwybod yn iawn
am grefft yr enciliwr nad yw'n gwneud ffys,
un sy'n cydnabod cynildeb fel dawn
wrth weld fflyd arall yn camu o'u bys;
sy'n gwybod ei le yn wyneb pob rheg,
rhaid wrth Borthor nad yw'n agor ei geg.
Dafydd John Pritchard (Y Cŵps)
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Michael Foot
Roedd frenin i'r gwerinwr, - i eraill
Yn wir, roedd yn fradwr;
Ond y llew oedd ddidwyll ŵr
Yn unol â sgwennwr.
Gwen Jones
8 pwynt
CYFANSWM- 75 PWYNT
Englyn ar y pryd- Michael Foot
Ni hawliodd neb ei focs sebon- fel hwn
Dô'i ei floedd o'r galon
A ffydd ddiwyro ei ffin
Yn rhy daer, yn rhy dirion.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
CYFANSWM-77 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

