Y Talwrn- Manion o'r Mynydd V Llanrug
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl 'er'
Taith yw'n hoes, loes a phleser
drwy'r tir am filltir fach fer.
Dafydd Williams
8 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'er'
A fo iach, gwel awr yn fer,
I'r simsan erys amser
Phyllis Evans
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson-Ym mhegwn y Gogledd
Rwy'n eistedd yma yn dechrau cael panic
yn methu cael rhew i'r gin and tonic.
Dafydd Williams
8 1/2 pwynt
Pennill Ymson-Ym mhegwn y Gogledd
Poni weli di'r Pegwn yn toddi?
Poni weli di'r Gogledd yn boddi?
Poni weli di'r môr yn adennill ei dir?
Bydd pawb cyn bo hir yn Eryri! .
Edgar Parry Williams
8 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Anifal Anwes
Ym Methel caf fy mwytha'
gan feistres o ddynes dda;
ar f'aelwyd mae'n fy mwydo
taenu gwledd o flaen tân glo.
O storm a'i harswyd o hyd
i'w chôl y caf ddychwelyd.
Neu caf flasu'r awyr iach
allan ym mharc cyfeillach
barddas, dros ambell lasiad,
crwydro'n rhydd lonydd y wlad.
Hael iawn i anifail anwes
yw'r gwych o gartre â gês.
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Anifal Anwes
I gofio Angharad Jones a fu farw yn oerfel Ionawr 2010
Yng nghur dy ddydd, Angharad,
Ym mhawen nos 'roedd mwynhad,
Y nos, a'i thylluan wen
Yn wylo oedd dy heulwen,
Ti a hi dan gysgod dydd
Yn gwylio dros eich gilydd,
Hi'r ffrind pan nad oedd ffrindiau,
Hi'r diawl fu'n ysgaru dau,
Hi dân dy ddisgleirdeb du,
Hi fwriad diyfory,
Ac mewn daear, Angharad,
A rydd hon i ti ryddhad?
Nia Powell
10 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell- Unwaith y roeddwn innau'
Unwaith y roeddwn innau - yn daer iawn
am droi tros y tonnau;
ond bodlon wyf a'm rhwyfau
ar bwys Eryri a'r bae.
Richard LLoyd Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys y llinell- Unwaith y roeddwn innau'
Unwaith yr oeddwn innau - yn hen iawn,
yn oes o brofiadau,
yn wlad o hen deimladau
yn awr yr wyf i yn iau.
Nia Powell
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Prawf gyrru.
Yn y byd sydd ohoni hanfodol o beth
Yw fod pawb ym mhob man yn gyrru'n ddi-feth;
 fory'n y fantol does dim methu i fod,
A phasio'r Prawf Gyrru i bawb ydi'r nod.
Mae Rheolau'r Ffordd fawr i'w cael mewn sawl iaith
I helpu trigolion pob gwlad ar y daith;
O'u dilyn â synnwyr gallaf ddweud ar fy ngwir
Fod siawns i bob un fwynhau oes go hir.
Yr arwyddion sy'n amlwg waeth ble 'rych chi'n byw
A'r un yw'r gofynion wrth gydio'n y llyw;
"Arhoswch" ac " Ildiwch" cyn rhuthro yn hy'
Lawr lôn na fydd posib ' troi'n ôl arni hi.
Gochelwch rhag poethi yr injan ei hun
( Mewn gwres ni fydd teithwyr bob tro yn gytun);
Ac wrth losgi eich tannwydd ac ysu am fwy
Rhowch gip yn y drych i weld chwydfa eich nwy.
Mae'r theori'n hawdd i'w chadw mewn co'
I ddreifar deallus , ble bynnag y bo;
Y prawf ymarferol ddangosith yn glir
Fydd 'na le i ni'i gyd ar y siwrna hir.
Dafydd Whiteside Jones
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Prawf gyrru.
Reit ar y cychwyn
Aeth pethau yn flêr,
Gafaelais yn ei glun
Wrth chwilio am y gêr.
Cyn tynnu allan
Am yr A naw wyth tri
Gofynnais i'r boi
"'Di'n glir d'ochor di?"
Pa hawl sy' gan blismyn
I dynnu allan ar frys,
Wnes i'm ond tynnu tafod
A chodi dau fys.
Yna cofiais yn sydyn
Bod gwin rhad yn Co-op.
- Tydio'n rhan o bob prawf
I wneud emergency stop.
Ond pasio a wnes i
- Doedd o, wir, ddim yn ffêr -
Ond cyffyrddais ei glun
Wrth chwilio am y gêr.
Cynan Jones
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud a chofio.
Clywais englyn am rywle ger Oslo
A rhywbeth am daith mewn rhyw foto';
Unai hynny neu feic
Ac roedd rhywbeth am streic,
Duw, hoffwn 'i glywed o eto.
Dafydd Whiteside Jones
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud a chofio.
Mae ganddo ni Feuryn dymunol
A'i wên fach bob amser mor siriol,
Un sionc ar ei droed
Yn awr fel erioed,
 chofio ei oed, mae'n rhyfeddol.
Edgar Parry Williams
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Er y lluwch a rhewi'r llyn
I dir Gwynedd daw'r Gwanwyn
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Lle bu'r rhew yn lleibio brwyn
I dir Gwynedd daw'r Gwanwyn
1 pwynt
Englyn Cywaith- Llanast.
I Haiti daeth natur, yn undon
o gryndod di-dostur.
A oes cist all brisio cur
I dalu biliau dolur?.
Dafydd Williams
9 pwynt
Englyn Cywaith- Llanast.
Rhai o wleidyddion Yr UDA yw prif gyfranddalwyr cwmnïau arfau y wlad , ac hefyd y cwmnïau sydd yn ail adeiladu Iraq .
Y mae elw draw ar ymylon - y gad,
Ac aur yw adfeilion
I wyr y grym , tra bo'r gro'n
Dal i waedu dyledion.
Cynan Jones
10 pwynt
Telyneg-Hawl.
Ysbyty Gwynedd : Ionawr 25, 2010
Ben bore yn y ward derbyn
mor ffri yw'r sgwrs
o rygbi i effaith yr eira;
A tic-toc y cloc
yn mesur ein hofnau dan y wyneb
fesul eiliad
nes cael yr alwad.
Nid oes trefn oed na hil,
pawb wedi Nye
a'i hawl
i obaith o wellhâd.
Ar deledu'r ward daw'r lluniau cignoeth
o frwydrau ysbytai Haiti.
A'r ymdrech di-flino
yn crynu'r emosiynau
uwch obenydd glân Bangor.
Fesul un fe'n gelwir
i gerdded dan nerth ein hunain
ar draws tir neb
i wynebu'r gyllell.
Yn oes yr hawliau,
a oes Un yn rheoli'r dewis
a chymeryd cyfrifoldeb
dros
'yr hawl i fyw' ?
Richard Lloyd Jones
8 1/2 pwynt
Telyneg-Hawl.
Daeth eira i'r fro
gan gofleidio'r pridd
ac anwesu'r cerrig.
Pob adwy'n
llawn lluwch
a'r ffiniau bellach
yn gysgodion gwynion glan.
Nes i'r gwynt droi
a daeth glaw i feddiannu'r
hen derfynau,
llafnau'r gawod
yn treisio'r tir
gan adael esgyrn eira
i bydru
yng ngeseiliau'r
graig.
Cynan Jones
8 1/w pwynt
Englyn ar y pryd-Cymwynas.
Daw heb ddichell na chymhelliad - o dir
Tosturi a chariad,
Na fynn air o gyfiawnhad
Yn wir addurn gwareiddiad
Dafydd Williams
8 1/2 pwynt
CYFANSWM - 77 1/2 PWYNT
Englyn ar y pryd-Cymwynas.
Yn ein grym cawn gynnig y rhodd- a gwen
I'r gweiniaid o'n gwirfodd
Am mai hawdd yw rhoi o'n modd
Derbyn hyn sy'n anodd
Phyllis Evans
8 1/2 pwynt
CYFANSWM -80 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

