Y Talwrn-http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Crannog V Y Rhelyw

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Crannog

http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Crannog

Y Rhelyw

Y Rhelyw

Cwpled Caeth ar yr odl 'is'

Glaniodd chwilen ym mhen Miss -
Mae eisiau bod yn Mrs.

Hywel Rees.
8 pwynt

Cwpled Caeth ar yr odl 'is'

I'r diwedd, fe gei'r dewis,
ond Duw ei hun biau'r dîs.

Dafydd Williams.
8 1/2 pwynt

Pennill Ymson- Ar Ynys unig

Des yma dros gyfnod y lecsiwn A heip y teledu i gyd Ac rwyf yn bwriadu bod yma
Hyd ddiwedd Cwpan y Byd.

Dai Jones.
8 1/2 pwynt

Pennill Ymson- Ar Ynys unig

Mae mewnfudwyr heddiw'n broblem; ar yr awel, clywais si
fod dros ugain mil am darfu ar fy nefoedd fechan i.

Hari Williams.
8 pwynt

Cywydd- Brwydr

(Er cof am Hywel Heulyn Roberts , Cynghorydd Sir am hanner canrif a heddychwr ) Dros ei wlad fe fu'n gadarn,
Y cryfa' oll, croyw ei farn,
A'i arfau oedd geiriau gwâr
A thân y llwyfan llafar,
Cadfridog heb fidogau
Yn arwain cyrch heb ddwrn cau.

'Roedd ynddo ddur naturiol,
Haearn iaith y di-droi-nôl.
Unai bawb drwy bwyntio bys
Ac agor llygad gwgus.
Nid oedd, o argyhoeddiad,
Eisiau gwn ar faes y gad.

Idris Reynolds.
10 pwynt

Cywydd- Brwydr

ar y noson y daethpwyd o hyd i gorff Iwan Llwyd, ro'n i'n gwarchod fy nai ac yn trio ei suo i gysgu
Yn ei grud, mae Iago'r hil
yn anniddig o eiddil,
a'i fodryb sydd heb fedru
si-lwli-lw'r nosau lu:

Ar elor Bangor mae'r byd
a'i brifardd briw o hefyd,
crwydryn sy'n cario adref
eiriau'r iaith yn ei farw ef:

A gwnaf, gofynnaf innau
i'r un duw sy'n rhannu dau,
i ba obaith, ba wybod,
fy neffro i beidio â bod?.

Karen Owen .
10 pwynt

Englyn yn cynnwys llinell adnabyddus

Y dylif o hylifau - eto rêd
Drwy hollt tua'r glannau
A hen gof sy'n methu'i gau
' O dan y môr a'i donnau.'

Idris Reynolds.
9 pwynt

Englyn yn cynnwys llinell adnabyddus

Ni feiddiaf, trwy ryfeddod, - â sylwi
dros waliau fy nghyfnod;
hen linell bell nad yw'n bod
yw lawnt undydd plentyndod.

Geraint Roberts.
8 1/2 pwynt

Cân - Dyddiadur wythnos

Dydd Sul, dydd Llun, dydd Mawrth
Mi es rownd y byd am dro,
Dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener
Mi wnes yr un peth 'to.
Dydd Sadwrn es i rownd y ffordd arall
Rhyw unwaith neu ddwywaith neu dair,
Saith diwrnod yn llawn o ddifyrwch
Yn nyddiadur pysgodyn bach aur.

( Yn ôl Dewi, a'r rhai sy'n gwybod, pum eiliad yw hyd cof pysgodyn aur, )

Dewi Pws.
9 pwynt

Cân - Dyddiadur wythnos

Roedd pedwar ugain mlynedd yn y llwch
anadlodd dan fy llaw o'i gloriau o,
a gwynt ei blygion llaith o'm cylch yn drwch
fel pe bai pobol ddoe ond rownd y tro.
A minnau ar ryw berwyl, dyma droi
at wythnos ddechrau Ebrill, pan oedd Taid
yn llefnyn wrth ei waith ac yn ymroi
i gadw'r ffyrdd yn gymen, fel roedd rhaid.
Roedd yno sôn am dywydd mwyn a glaw,
am ollwng ambell oen o'r drysi'n rhydd,
am weithio'r Bwlch, am dorri ffos â'i raw,
a cherdded llwybyr cul y seithfed dydd.
Dim byd o werth i hanesyddion gwlad
dim ond mai hon oedd wythnos geni 'Nhad.

Mari Lisa.
9 1/2 pwynt

Limrig yn ymwneud â phrynu

Es i mewn i'r siop rhag y glaw
A sbecian fan hyn a fan draw
Ond nawr rwy'n difaru
Na wnes i ddim prynu
Y gyfrol limrigau ail-law.

Owen James.
9 pwynt

Limrig yn ymwneud â phrynu

Bargeiniodd 'r hen Ifan yr Hafod
am wraig ar y wefan un diwrnod;
ond beth gafodd yn Gatwick
ond cythraul o banic -
roedd bol dan ei thiwnic yn barod.

Hari Williams.
8 1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Y mae'n wrth fod gennym mi
Yn y dur lawer stori

0 pwynt.

Ateb llinell ar y pryd

Y mae'n wyrth fod gennym ni
fôr o ddawn i farddoni

1 pwynt.

Englyn Cywaith-Llosg fynydd-

Mae 'na bryder amserol - yn llechu
Yn y llwch cyn-oesol
A hen wae aeonau 'nôl
Yn ei fwg anorchfygol.

Owen James.
10 pwynt

Englyn Cywaith-Llosg fynydd-

 ninnau mor hunanol - yn mo'yn mwy'n
y mynd technolegol,
mae'r briwiau mor barhaol:
natur, nawr, sy'n taro'n ôl.

Geraint Roberts.
10 pwynt

Telyneg-Crefft

( Lluniwyd y gadair gan Glan Rees ac fe'i comisiynwyd gan Deulu'r Hendre. Er fod iechyd Dic yn gwaelu cafodd y ddau gyfarfod buddiol iawn i drafod y cynllun )
Yng ngweithdy celf 'roedd gair a phren yn un
Ar fainc y saer wrth iddo naddu'i gerdd
A gwyddai'r bardd fu'n trafod llif a chŷn
Fod yn y graen gywyddau'r ddaear werdd.
Bu profiad hanner canrif yn llyfnhau
Y trist a'r llawen yn eu hawen hwy
Gan roddi ffurf i weledigaeth dau
Nes troi y grefft yn rhywbeth llawer mwy.
A weithiau daw y doniau hyn ynghyd
I drafod llun a delwedd gylch y bwrdd
A rhoi i'r weledigaeth led a hyd,
Yn ôl y drefn pan fo meddyliau'n cwrdd.
'Roedd angen bardd a saer a ffwrwm waith
I lunio cadair sydd tu hwnt i iaith.

Idris Reynolds.
10 pwynt

Telyneg-Crefft

Ar gwr y tŷ, rhyw fore braf,
fe welais rwyllwaith sidan
yn wincio diemwntau lu
a pherlau aur ac arian.

Fe sefais i am ennyd fach i wylio a rhyfeddu,
ac estyn bys yn dyner iawn
gan gymaint oedd i'm denu.

Mae eto we nas gwelaf i -
gwe'r twyllwr amyneddgar -
a ddysgodd bopeth am ei grefft
gan rwydwr hyna'r ddaear.

Mari Lisa.
9 1/2 pwynt

Englyn ar y pryd- Camgymeriad

Mae'r 'cartre' sy'n fy ngwaed- yn dannod,
'Rhen donnau di-deimlad;
Ym mhen ei lôn mae na wlad
A môr o gamgymeriad

Dai Jones.
9 pwynt

.

CYFANSWM- 83 1/2 PWYNT.

Englyn ar y pryd- Camgymeriad

(Tippex)
Ynot mae inc y blotyn- yn ddu iawn
Ar ddeunydd dy lyfryn,
Eto'i gyd dan y paent gwyn
Mae'r gallu i'w wadu wedyn

Karen Owen.
9 pwynt

CYFANSWM- 82 1/2 PWYNT.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.