Y Talwrn- Tywysogion V Tegeingl
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth-ar yr odl 'os'
Mae beirdd broc. Mae beirdd cocos.
Ond, o'r beirdd, Gerallt yw'r bós.
Meirion Macintyre Huws
8 pwynt.
Cwpled Caeth-ar yr odl 'os'
Synhwyro beth sy'n aros
Yw'r hen wae yn nyfnder nos.
Dafydd Morris
8 pwynt
Pennill Ymson-Wrth wylio S4C
Cymraeg 'di'r iaith, ond Saesneg di'r dôn.
Maen nhw'n sgleiniog a del, ond pan maen nhw'n sôn
am gampau rhyw slob a selebritî
mi hoffwn gael newid i'n sianel ni.
Guto Dafydd
8 1/2 pwynt.
Pennill Ymson-Wrth wylio S4C
Rwy'n edrych ar hysbyseb
Ar sianel fach fy ngwlad-
"Dros goron Lloegr gyfiawn
Dewch Gymry dewr i'r gad."
Rwy'n gwrando'r gwynt tu allan
 dirmyg lond ei gri,
Yn edliw llysoedd pa ryw wlad
Enillodd hon i ni.
Glyn Jones
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yfory
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Yfory
Sylla`r llygaid tanbaid du
Yn oeraidd, a`i yfory`n
Llawn dial, wedi galwad
Rhyw iasol lais dros ei wlad.
Gan warchod gwell dyfodol,
Rhoi`i hud a wna heb droi`n ôl.
Yn y lladd di-gyfaddawd
Un â`i ffydd sy`n llunio`i ffawd;
A rhyddid saetha drwyddo
Trwy dynged ei weithred o.
Er ei gred, ni thrugarha`r
Diwyneb dan fandana.
Marc Lloyd Jones
8 1/2 pwynt
Englyn yn enwi dau fynydd
A gollwyd Moel y Gelli? A rywfodd
yw Tryfan 'di'i cholli?
A yw'r gorwel a weli
yn dir neb, ta'n dir i ni?
Guto Dafydd
8 pwynt
Englyn yn enwi dau fynydd
Af adre i gôl Garn Fadryn a'r Eifl
Bob tro y bydd mymryn
O hiraeth fel marworyn
Yn y nghof yn dal ynghyn.
Moi Parry
8 1/2 pwynt
Can: Y Camsillafiad (heb fod dros 20 llinell)
Wrth yrru i fynu'r elltydd,
ar ôl mynd rownd y tro
daeth arwydd i'm rhybuddio
am ryw'abnormal load
Ond 'llwythau anarferol'
sydd i'w cael fan hyn-
rhai sy ddim fel chi a fi
(heblaw eu bod nhw'n wyn).
Mae nhw'n nabod eu cymdogion,
yn canu emynau o'r fron
ac yn sgwennu rhyw englynion-
mewn iaith sy'n farw, bron.
Mi frysais yn fy mlaen-
rhoi traed i lawr, a morol
na chawn i mo 'nal yn ôl
gan lwyth bach anarferol.
Guto Dafydd
8 1/2 pwynt
Can: Y Camsillafiad (heb fod dros 20 llinell)
Dewch Gymru dirodres i wrando yr hanes
Am anffawd a ges i ryw dro.
Am fod Mam yn swnian doedd gen id dim Hogan
Rhois notis ym mhapur y fro.
Sgrifennais mewn chwinciad y chwiliwn am gariad
Deniadol a gweithgar a glân,
A fedrai ddal llygod a saethu cwningod
Ac arni fy hoff enw - Siân.
Am ddeg bore wedyn daeth boi draw i'r tyddyn,
Un blewog a tyff ugain stôn.
Mi dynodd fy notis o boced ei drwsus
A wincian "Hylo, fi di-Siôn."
A chyn i mi regi mi ganodd 'Myfanwy'
A 'ngwasgu fi'n erbyn y drws.
Mi ddeudodd fod gen i groen llyfn fel croen babi
A chlustie rhyfeddol o dlws.
O gwrandwch fy neges pob llencyn a llances
A'i chofio, beth bynnag a bo.
Y poendod sy'n dilyn sgrifennu'n rhy gyflym
A chymysgu 'a' gydag 'o'.
Glyn Jones
8 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â Gwleidyddiaeth
Cyngor i Athro Ysgol
Plant dwl yn sy dosbarth? Wel, wir!
Gofala am 'rhain am yn hir,
Bydd gwrtais a chlên,
A'u cyfarch â gwên:
Y rhain fydd dy Gynghorwyr Sir.
Sian Northey
9 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â Gwleidyddiaeth
'Rôl etholiad ar fferm yn y fro
Roedd y defaid a'r ieir bron o'u co,
Er statws y ceiliog
A'r maharen talentog
Unwaith eto etholwyd y llo.
Moi Parry
8 1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Anodd iawn bod yn ddoniol
yn y ffau ar destun ffol.
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Anodd iawn bod yn ddoniol
heno haws oedd dal yn ol.
1/2 pwynt
Englyn Cywaith-Tony Blair.
Mae o'n gwybod wrth nodio - a gwadu,
bod gwaed ar ei ddwylo,
a bod, yn iawn neu beidio,
bwledi Duw o'i blaid o.
Meirion Macintyre Huws.
10 pwynt
Englyn Cywaith-Tony Blair.
Moliannwn y miliwnydd sy â'i sêl
Dros sosialaeth beunydd.
Rhagrithiwr ac areithydd
Rhad ei air, rhyfelgi'r dydd.
Moi Parry.
9 pwynt
Telyneg.- Gwrthod.
Mi wnes i fwy na hanner cynnig, y diwrnod hwnnw.
Tri chwarter efallai?
Saith deg wyth, saith deg naw y cant...
Mi welais yn dy wên
dy fod ti wedi deall,
ac am eiliad,
rhwng dau wydryn,
bu petruso.
Dychmygwyd pethau -
amrannau,
botymau,
blaenau bysedd.
Ond wn i ddim hyd heddiw
os bu bron
i ti dderbyn
rhyw hanner cynnig.
Sian Northey.
8 1/2 pwynt
Telyneg.- Gwrthod.
Mae geiriau yn gyfeillion,
Eu dawns yn llon a lleddf,
Caf ias yn eu cyfeillach,
A'i cariad yn fy ngreddf.
Ond peidiwch a gofyn i mi,
Eu rhannu gyda chwi,
Dim ond ar ambell foment
Mae hynny'n hawdd i mi.
Ond weithiau meant yn elyn
Ac felly bu o'r crud
Yn gwrthod ildio mymryn
O'i diawledigrwydd mud.
John Gruffydd Jones.
9 pwynt
Englyn ar y pryd- Cof.
Yn ôl mewn bar gwin wyf innau- a merch
yn mynd, a blas dagrau,
â'r un dim i rannu dau
ond gloddest o gelwyddau.
8 1/2 pwynt
CYFANSWM- 77 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Cof.
"Paham nad yw Mami yma'n awr?
yma'n nos hen ledi?....."
...yn y man,estyn mae hi
eilwaith am fraich ei doli.
8 pwynt
CYFANSWM-77 1/2 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

