Y Rownd Cyn Derfynol- http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Crannog V http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Aberhafren.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd cyn derfynol o gyfres y Talwrn.
http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Crannog
http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Aberhafren
Cwpled Caeth ar yr odl "at"
Rhwyfo i harbwr preifat
Wnaeth Noa ar Ararat.
Dai Jones
8 1/2 pwynt
Cwpled Caeth ar yr odl "at"
Y bêl a lamodd o'r bat
a brifo dwy sy'n breifat.
Rhys Iorwerth
8 1/2 pwynt
Pennill mawl/dychan - Sêr
On'd yw plant Cymru'n lwcus,
I'r ysgol fe gânt fws
I ddysgu 'lyrics' Charlotte Church
A cherddi Dewi Pws.
Owen James
8 1/2 pwynt
Pennill mawl/dychan - Sêr
Un nos glir fe ddisgleiriant,
tanio'n wych; tywynnu wnânt
un ennyd - a diflannant.
Aron Pritchard
8 1/2 pwynt
Cywydd - Sgwrs rhwng dau
'Fi sy'n syrffio, Romeo'r we.'
'A Non yw'n enw inne.'
'Cawn rannu'n horiau unig.'
'A sgwrs mor felys a gig?'
Cawn siarad fel cariadon
Ar y lein.'
' Nid lawr y lôn!'
'Agorwn fyd ar sgrîn fach.'
'Gan bwyll! Chi'n drigain bellach?'
' Mae'r fflangell o bell mor bur.'
'Byw o hyd yw'r dyn budur.'
' Gawn ni ddianc yn ddioed?'
' A thagu gwên pymtheg oed.'
'A thagu gwên pymtheg oed.'
Hywel Rees a Elsi Reynolds
9 pwynt
Cywydd - Sgwrs rhwng dau
Mehefin a'i win, unwaith,
ar y dŵr fu'n sibrwd iaith:
hwyrddydd haf a'i fwrdd i ddau'n
cynhesu cân y nosau,
a geiriau swil y sgwrs oedd
yn fyw'n y dirgelfaoedd.
Erbyn hyn, pan ddaw o'n ôl
ei hun, mae'r lle'n wahanol:
rhannu gair â'i heno gynt,
rhannu heddiw'r hyn oeddynt,
a'r Mehefin fu'n uniaith
yn un ennyd fud o faith.
Rhys Iorwerth
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw unrhyw ddiledyn
Ar daith drwy'r geiriau dethol - dilynaist
Lawenydd yr heol
Cyn mynd adre'n foreol
Tua'r wawr - a'r het ar ôl.
Idris Reynolds
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw unrhyw ddiledyn
(Gweddw)
Aiff draw, a chynnig yn llawen y got
wisgai ef mor gymen,
ond o'i rhoi, eryda'r wên
yn loes y siop elusen.
Aron Pritchard
9 1/2 pwynt
Cân - Arall gyfeirio
Fy mwriad yw arallgyfeirio, a cheisio bywyd gwell,
Mae digon o bres i wneud , medde nhw, a sdim ishe teithio'n bell.
Efallai af yn ffermwr a chynaeafu gwynt
Bob tro mae'r felin fach yn troi, byddai'n saff o ennill punt.
Mi ellen ni fynd yn weinidog, dim ond gweith'o ar ddy' Sul,
Bedydd fan hyn, angladd fan draw a phriodase rownd y rîl.
Cael grant i foddi Lerpwl, ac un arall ym Manceinion,
P'ido talu dim am y dŵr, a'i werthu e nôl i'r Saeson.
Neu syniad gwell o lawer bydde rhentu bobo gannwyll
I aelode http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Aberhafren , a'u cerddi tywyll, tywyll.
Ha! warden traffic milain, ym mhentre bach Tresaith
A'n llyfyr coch dieflig, yn canu wrth fy ngwaith, -
Bwcio ceir y' G. B.' , sy' wedi parco'n rhacs,
Rhoi tocyn bach gan wenu, a'i alw'n 'twrist tax'.
Codi arwydd uniaith , 'Teithie rownd y Bae',
Bod y ffeind i'r fisitors a chofio dweud 'Shwmai'.
Yna hwylio mas am hanner awr, mewn gwyntoedd oer a grymus,
Codi chweugain yn Gymra'g, ond ugain punt i'r Brummies'.
Ond na! Arhosaf innau'n glown hen jôcs a geiriau chwim,
Mae'n gwneud i'm gwraig i chwerthin, a smo fe'n costi dim.
Dewi Pws
9 pwynt
Cân - Arall gyfeirio
Ym myd amaethyddiaeth roedd pethau'n o ddu,
y prisiau yn plymio, ac felly y bu
tan aeth Dai i gynhadledd ffermwyr y fro
a chlywed am arallgyfeirio wnaeth o
Gwrandawodd ar ddarlith am bŵer y gwynt
a'r cyfle i'r ffermwyr gael gwneud ambell bunt
drwy blannu peilonau, nid dilyn yr og,
a ffarmio melinau i ddenu y gog.
Ond dros de efo dyn bach o Hafod-y-Pŵ,
mi glywodd 'rhen Dai am wynt y mŵ-mŵ,
roedd Dai yn chwilfrydig, ac aeth ati ar ras
ar ôl cyrraedd adref i destio'r gwynt mas.
Bu'n ddyfal ailweirio pob tŷ yn y llan
at ben ôl ei fuchod, a sawl mini-fan,
ond na, nid electrics oedd cryfder 'rhen Dai,
ac oblegid malfunction aeth popeth sky-high.
I fyny'r aeth o yn syth at y sêr
a hyd y dydd heddiw, nid yw'n filionêr,
aeth y gwartheg yn ôl i bori fel cynt -
peth peryg yw poetsian â phŵer y gwynt.
Ifan Pleming
9 pwynt
Limrig - yn ymwneud ag agor potel
Fe agorodd e botel o win
I anghofio ei wraig fawr a blin,
Fe yfodd e'r cwbwl,
Yna dechre gweld dwbwl-
Mae 'na ddwy yno nawr lle bu un.
Dewi Pws
9 pwynt
Limrig - yn ymwneud ag agor potel
(mewn llais cryg)
'Rôl ennill y Talwrn prynasom
un botel siampên a dathlasom,
ond och, aeth ei chorc hi
yn sownd yn fy llwnc i
a 'na pam dwi'n swnio mor wirion!.
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Swn y tren sy'n tarannuYn nes fyth o'r oes a fu
1/2 pwynt
Ateb llinell ar y pryd
Swn y trên sy'n tarannu
Tua bedd y diwedd du
1/2 pwynt
Englyn Cywaith- Ystlumod
Eglwysi'r gwagle oesol - yw eu hawnt,
A'r tenantiaid gwibiol
Fyn hedfan i oedfa'n ôl Ar eu radar ysbrydol.!
Hywel Rees
10 pwynt
Englyn Cywaith- Ystlumod
(ar noson braf o haf)
Symudiad; ac er gwadu yr hen ofn
ddechrau'r nos, tynghedu
fy esgyrn i derfysgu
wna'r gawod oer o'r gwaed du.
Llion Prdyeri Roberts
9 1/2 pwynt
Telyneg - Achos
( Geraint Jones v Radio Cymru - 19 Mai 2010 )
Pan fydd calonnau oer yn troi i eiriogi
I gadw lleiafrifoedd yn eu lle,
Bydd byddin gudd, a'r cyllyll wedi'u hogi,
Am ddangos i ni'r Cymry be' 'di be'.
Ar lawr y llys yr euog yw'r erlynydd
Sy'n anwybyddu'i Siartrer ef ei hun
Ac yn y doc gosodir y diffynydd
I sefyll yn y bwlch dros hawliau dyn,
I ddweud ar goedd yng ngwyneb materoldeb
Y grymoedd sydd yn llunio'r rhaglen waith
Fod gan y Sianel hithau gyfrifoldeb
I fod yn rhan o'r frwydyr dros yr iaith,
Gan ddangos eto fod 'na rai gwrandawyr
Na fyn i'r siwtiau llwyd ddifwyno'r awyr.
Dai Jones
9 pwynt
Telyneg - Achos
Rhoddaf bunt
o weld
plentyn bach yn chwysu sgrech
ar sgrin lachar.
Babi neb sy'n hawdd ei 'nabod.
Rhoddaf
i dagu
hunllefau
pob un ohonom
a sychu'r cywilydd
o olion mwd ein traed.
Am fod pob babi
yn ei dro yn mynd
o'n breichiau
i grwydro.
Gwelaf wedyn
ddrysau'n agor,
beics
ar ras
rownd y bloc
fin nos
a gwybed eu sbort yn y gwynt.
Gweld plentyndod
mewn caeau gwag,
ac ar frigau rhacs mewn coedwigoedd.
Byrddau o wenau
a gwelyau o gwsg.
Ie,
rhoddaf bunt
o heulwen
i bylu lluniau
a diffodd sgrin.
Mari George
10 pwynt
Englyn ar y pryd- Llais
Fy mhraidd ym mhoer yr oernynt- yn Ionawr
Main iawn eu clyw ydynt;
Yn awel y dehenwynt
Yn nyddiau'r haf, byddar ynt.
Dai Jones
9/12 pwynt
CYFANSWM- 83 PWYNT
Englyn ar y pryd- Llais
Refferendwm y cynulliad 2011)
 llaw wasaidd, awn a lleisio-ungroes
lle clywn gri mab Marro;
awn a dal yn ein dwylo
hyfer tri, a chodi'r to.
Mari George
9 pwynt
CYFANSWM- 83 1/2 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

