Y Talwrn- Y Cwps V http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Aberhafren
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Y Cwps
http://www.bbc.co.uk/radiocymru/safle/talwrn/2010/Aberhafren
Cwpled caeth ar yr od 'il'
Anhapus a diepil
Yw y sawl sydd yn rhy swil.
Iwan Bryn James
8 pwynt
Cwpled caeth ar yr od 'il'
A wyddom am rai eiddil
y tu hwnt i gloch y til?
Aron Pritchard
8 1/2 pwynt
Pennill Mawl/ Dychan - Heddlu
Glewion Dyfed-Powys!
Rhai clenia'r wlad yw'r rhein.
Bob tro dwi'n pasio'u faniau
Mi glywaf: "Diwrnod ffein!"
Geraint Williams
9 pwynt
Pennill Mawl/ Dychan - Heddlu
Melltith fy mywyd
pan oeddwn yn iau,
nawr yn angylion
â hithau'n hwyrhau.
Owain Rhys
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffîn
Mae eto heno yng Nghanaan Epil dwy hil ar wahân, Dwy hil fu'n byw dialedd, A fu'n byw yn ofn y bedd.
A rhyngddynt hwy mwy rhoed mur
Sy'n gosod swyn ei gysur
Ar y ddaear Iddewig -
A hen fraw tu hwnt i'w frig.
Troi Palesteina'n Annwn,
Cancru'r tir wna'r concrid hwn.
Gyrrwn ni ddaeargryn hedd
Drwy'r goror didrugaredd.
Huw Meirion Edwards
9 1/2 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffîn
(er cof am Iwan Llwyd)
Oni ddaw cawodydd haf
yn greulon â'r gair olaf,
clwyddau fyddai'r hafau hyn,
annidwyll o hyd wedyn.
Roedd eleni'n driw, Iwan,
geiriau Mai yn ddagrau mân,
er bod i'w weld stribedyn
ar ôl o'r haul hwyr ei hun.
Os wyt yno'n barddoni,
am dro drwy dy heno di
y down ni, er duo'n haf,
a dal y machlud olaf.
Rhys Iorwerth
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw mynydd.
Oerodd, pan ddaeth dy arian byw i ben,
Bob awch. Rhynnodd Tryfan
Trwyddo i gyd. Treiodd y gân
Yn dawel. Nos da, Iwan.
Huw Meirion Edwards
10 pwynt
Englyn yn cynnwys enw mynydd.
(Uluru yw'r enw brodorol ar fynydd sanctaidd yr Aborigine, Ayres Rock)
Os am y môr heno'r af - tua'r Eifl
ac at draeth, ni chlywaf
ond twrw'r holl bentre haf,
twrw haul y tir olaf.
Rhys Iorwerth
10 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ateb.
Hen ŵr fe heriaist deyrn a'th ateb taer,
Yr un oedd am ddileu dy fymryn gwlad,
Mynnaist y byddai'r bröydd hyn yn gaer
I'r iaith Gymraeg ar waethaf trais a brad.
Pe llifai'r môr dros dir, pe syrthiai'r sêr,
Pe chwelid ein gwareiddiad bob yn ddarn,
Hawliaist yn gryf mai yn ein heniaith bêr
Y tystiem ger bron Duw ar Ddydd y Farn.
A'n cymunedau heddiw'n llesg a brau
A'r iaith ar ddarfod o'i chynefin dir
Pa ddiben bellach sydd i ni barhau
Tybed na fuom yma yn rhy hir?
A'r geiriau dewr lefaraist tithau gynt
Fe'u collwyd rhywle yn y pedwar gwynt.
Dafydd Morgan
9 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Yr Ateb.
(Cyflafan Cumbria)
Ni wyddai haul Mehefin na'i ddydd gwaith
wrth estyn gwres y bore dros y bryn
am lôn yr un â dicter yn ei daith
yn gyrru'i wae drwy'r cymunedau hyn.
Mor ddiarwybod oedd dyfodiad hwn
a'i gawod o fwledi dros bob tref;
y strydoedd gwag yn atsain sŵn y gwn
a'r ofn o beidio gwybod ble'r oedd ef.
Ond wedi'r arswyd hir a'r tywallt gwaed
a dwys alaru'r rhai a gafodd gam,
wrth ddadansoddi ias yr hyn a wnaed
parhau wna pawb yn syn i ofyn 'pam?'
A suddo'n ddyfnach a wna'u heulwen hwy
o wybod na ddaw'r ateb iddynt mwy.
Aron Prichard
9 1/2 pwynt
Limrig yn ymwneud â bwyta.
Mae 'mhen i ar blât yn y Congo
Yn swper i ganibal honco.
Mae'n bwyta fy moch
 joch o sôs coch,
A 'nhrwyn i, a 'nhafod.
Geraint Williams
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â bwyta.
Rho nionod a madarch a ffilet
o stêc, caws a gwin a chrympet -
ac yna Soufflé
a photiad o de
i be? I'w fflysho lawr toilet!!
Aron Pritchard
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yn Antioch prynais Fochyngen i hawl i 'Nghawl fy llun.
0 pwynt
Ateb llinell ar y pryd.
Yn Antioch prynais fochyn
Hwnnw'n llawn twrw mewn tin.
1 pwynt
Englyn Cywaith: Galwad Ffôn.
Mor ddyfal yw'r deialu yn fy mhen,
gan fy mod yn ysu
bachu dêt; mae'r llyfr bach du
yn ôl...a'r inc yn pylu!
Iwan Bryn James
9 pwynt
Englyn Cywaith: Galwad Ffôn.
Os bu i'w llais hi bellhau, bob yn saib
yn sych yr es innau
wrth i daith a hiraeth dau
hyd y ffôn godi ffiniau.
Owain Rhys
9 1/2 pwynt
Telyneg : Trosedd.
...ac yna'r nesa, ffermwr, sy'n digwydd bod yno,
yn digwydd bod yno'n torri gwrych,
yn digwydd rhoi trefn ar anialwch o dyfiant
mewn haf yn ei anterth a thywydd sych.
...hithau wedyn yn cario'i neges, yn digwydd
bod yno mewn pryd i gyfarfod â hwn,
i gyfarfod â bwriad hap y bwledi
ac amcan di-amcan y gwn.
...a thro'r pensiynwr sy'n digwydd seiclo
a'i ofalon i gyd, fel ei ben, yn y gwynt,
sy'n digwydd ei gynnig ei hun yn ddi-feddwl
wrth bedlo yn araf i'w hynt.
Un bore o haf, ac o ddigwydd a darfod,
ac eiliadau di-drefniant yr oed
yn treiglo'n hamddenol nes fferru;
yn fferru fel bu'r hanes erioed.
Dafydd John Pritchard
10 pwynt
Telyneg : Trosedd.
Ar ôl clywed eitem newyddion am ferch a roddodd enedigaeth i blentyn dyn y cafodd ei threisio ganddo.
Mae hi'n magu
ei phoen . . .
Ei dywys
yn sigledig o gryf
drwy ei fyd o gamau
a'i ben i lawr.
Yna ei godi
a galw ei enw.
Cariad ei anadl yn ei chlust
a chasineb ei phenderfyniad
wedi ei hen guddio
yn ei chroth.
Tan iddo yntau
godi ei ben,
estyn ei freichiau
a'u clymu amdani,
a cherdded yn ddewr
at ddrych ei ddyfodol . . .
A gwêl hithau
y gorffennol
yn wên
hyd ei wyneb.
Mari George
9 1/2 pwynt
Englyn ar y pryd- B.P.
Ni all hanes droi'r llanw'n- drai i gyd, wedi'r gwaedu chwerw Nia all eli'r holl elw Lanhau'r ôl o'u dwylo nhw.
10 pwynt
CYFANSWM- 84 PWYNT
Englyn ar y pryd- B.P.
Clywn ni alargan llanw- yn torri,
hyd y tiroedd marw;
y môr yn wylo'r elw
i'r glannau oer glywan nhw.
10 pwynt
CYFANSWM- 86 PWYNT
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

