Ffair Rhos V Beca
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.
Cwpled Caeth- Enwi Dilledyn
Un glew a'i gap pig loyw
Yn ei arch, o'u rhyfel nhw.
Emyr Jones
8 pwynt.
Cwpled Caeth- Enwi Dilledyn
Nadolig 2009
Â'r oes yn siopa ar y we
Synais cael pâr o sane.
Eifion Daniels
8 1/2 pwynt.
Pennill Dychan-Dechrau Blwyddyn.
Does gen i ddim amynedd
At rai , bob Calan fydd
Yn llunio addunedau
Er cael cydwybod rhydd
Ddim ond i'w torri wedyn
Ymhen rhyw wythnos fer,
Pobol rhy wan yw'r rheiny
Na all wynebu her.
Ni wnaf ond un adduned-
Un syml iawn yw hon-
Llwyddais i gadw ati
Gydol pob blwyddyn gron.
Y mae'n adduned bendant,
Fe'i gwnaf ble bynnag rwy.
Sail yr adduned honno
Yw na wnaf yfed mwy.
Petawn i yn ei thorri,
Fe syrthiwn ar fy mai
Er tyngu na wnaf yfed mwy,
Ni wnaf, chwaith, yfed llai.
Lyn Ebenezer
8 a 1/2 pwynt.
Pennill Dychan-Dechrau Blwyddyn.
Nid llog ar ein harian
A gostwng pris trydan
A chartref i'r truan
A lot llai o law,
Ond gwleidydd goludog
A'i dreuliau celwyddog
A'i farn unllygeidiog
I'r flwyddyn a ddaw.
Terry Reynolds
8 a 1/2 pwynt.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell)-Gwrthryfel.
Cathod, mewn atalnodau,
Yn y T? sydd yn tewhau,
A rheolau eu treuliad
yn glwy i gyllid ein gwlad
O geisio'u hail forgeisi
Hwyl a wnânt o'n ffiol.
Nesi mae'r lecsiwn nesaf,
A chreu ing ar ddechrau haf
Wnaiff dicter dwys y werin.
Yn fuan daw bloeddian blin
Eu dial hwy am shwd lol
Ers noddi'r criw seneddol.
Emyr Jones.
8 a 1/2 pwynt.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell)-Gwrthryfel- Pasg 1916
Hanes hir y ddinas hon,
Ei meirw a'u murmuron
Sydd heddiw'n mud gyniwair
A'u poen yn artaith y pair
Y graith fu i rywrai'n groes
Yn Nulyn ddyddiau'r dduloes
A chofiwn y Pasg hwnnw,
Y gw?r llen yn gwirio'u llw
A'u hangerdd hyd at angau
I feithrin Erin o'i hiau.
Oes dirnad mor ofnadwy
Mor brydferth eu haberth mwy?.
Rachel James.
8 a 1/2 pwynt.
Englyn yn cynnwys 'un nos'
Mae hiraeth yn ymaros, a finnau
Erfyniaf bob hirnos-
Egwyl i'w gael yn agos
Yma yn ôl- am un nos.
Emyr Jones
8 pwynt.
Englyn yn cynnwys 'un nos'-Berlin (9fed Tachwedd 1989)
Un nos mi welais Nessie- yn y d?r
A'r don yn ei golchi,
Camra!Mor ara' bum i,
Darwinaidd o drueni.
Eifion Daniels
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell)-Yr ateb (Cân Garnetaidd).
Treuliau Aelodau Seneddol?
Mae'r mwyafrif yn haeddu cael shot
Ond mae'r ateb i'r cwbwl yn syml
Sacwch y blydi lot.
A 'hoodies' y cyllyll a'r gynnau
Sy'n hawlio ein strydoedd bob man
'Sy' nhw eisiau stabio a saethu
Ewch â'r diawled mas i Affgan.
Mae'r NIMBY's yn erbyn bob newid
O unrhyw fath yn y byd,
Meliynau gwynt neu yr Wylfa
Rhowch bobo gannwyll 'dd'nhw i gyd.
Beth ddaw i ni gyd yn y wlad'ma,
Rwy'n credu cyn byddwn i'n sâff
I gerdded ein strydoedd min hwyr
Bydd raid i ni ddod nôl a'r rhâff.
Beth yn wir ydyw'r ateb
Nyni yn ei gofal nhw?
Pan mae clowns yn rhedeg y syrcas
A'r mwncis yn rheoli'r s?.
Raymond Osborne Jones.
8 1/2 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell)-Yr ateb
Gofynnais i fy hunan, paham fod Duw'n ddi-lyth
Yn creu llygoden fechan, a chath i'w dal yn syth?
A pham fod buwch yn gorwedd o hyd ar ddiwrnod teg?
A pham na chaf gan Gerallt, ambell i farc o ddeg?
Pam fod angen addysg i redeg gwlad a thre?
A pham fod'na gymysgwch i weld gylch y lle?
Pam na fyddai Adda wedi gorffen gwneud ei waith
Yn lle'n bod ninna eto yn slafo ar ein taith?
Pam fod pensiwn gwladol ddim yn ddigon iddyn fyw?
A pham fod sychedig fwncis i PG Tips yn driw?
Paham fod rhaid i'r bancwyr gael bonysis mor fawr?
A'r wlad mewn math drybini yn cael ei thynnu lawr.
Paham fod angen ymladd i weled pwy sydd ben?
A chyrff y rhaid a laddwyd yn dychwelyd mewn bocs pren.
Pam fod f'athrawes ysgol, yn llanw'n llyfr i
A chisis coch ar waelod pob ymgais oedd gen i?
A oedd hi yn fy ngharu,yr annwyl Miss Ding Dong?
Yr ateb meddai mami,eu bod nhw i gyd yn rong!
Mae'r cwestiynau'n dal i aros heb ateb yn ddiau
A'r cwestiwn nawr sy'n sefyll arnai i mae'r bai?.
Howell Mudd.
8 a 1/2 pwynt
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
Pwy, tybed yw'r corach'ma ddâth
Im herio i , gawr mawr dair llath?
Fe'i blingai fe'n fyw
Mewn eiliad, wir dduw,
Myfi yw Goleiath o Gath!.
Lyn Ebenezer.
9 pwynt.
Limrig yn seiliedig ar stori Feiblaidd
Roedd Samson yn fachan go nerthol
Gan Job, roedd amynedd rhyfeddol,
Ar lan afon Nil
Oedd moses a'i hil
A chrocodeils mowr yn ei chanol.
Howell Mudd.
9 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd
Mor rhwydd yr aeth y flwyddyn
Ac mor frau yw dyddiau dyn.
1/2 pwynt.
Ateb llinell ar y pryd
Mor rhwydd yr aeth y flwyddyn
A phrinhau wna dyddiau dyn
1/2 pwynt.
Englyn Cywaith-Bargen-G?r a gwraig o Gasnewydd wedi ennill dros ddeugain miliwn o bunnoedd ar y loteri rai wythnosau yn ôl.
Heb ased o buaswn - i heno,
Rôl ennill shwt ffortiwn,
Am hala'r deugain miliwn
Ar glefyd y byd a'i bwn.
Emyr Jones.
8 pwynt.
Englyn Cywaith-Bargen.
Slogan slic yw eu tric bob tro-a'u dawn
Yw ein denu ato
Y ddidwyll ffordd o dwyllo,
Dewch a phrynwch-talwch'to.
Eifion Daniels.
8 1/2 pwynt.
Telyneg-Cadw.(Cerddi'r Ymylon -J R Rees)
Mae geirfa, idiomau hen ddoeau
Tyddynwyr, bythynnwyr fy myd
Yn fyw ac iach mewn ieithwedd
Ar glawr yn awr i ni gyd.
Cloriannwyd nhw efo cynildeb
Byd cyfarwydd, bron sydd ar gôll
Cyn i academyddion hanes
ein San Ffaganeiddio ni oll.
Raymond Osbore Jones.
8 1/2 pwynt.
Telyneg-Cadw.
Y mae muriau
na fynnem eu hail godi,
lle gorwedd sgerbydau
cyfrinachau ddoe.
Y mae muriau
na fynnem i'r estron
droedio a'i gamau
o ddifrawder.
Y mae muriau
na fynnem i lygaid
yn rhythu sarhaus
ddinoethi eu clwyfau.
Rhowch lonydd i'r cerrig
anwylo'u gorffennol
dan urddas eu hamwisg
o gen cyntefig.
Hwynt hwy yw'r colofnau
sy'n gwarchod peth cyfrin
y cof, Y mae muriau
Rachel James.
9 1/2 pwynt.
Englyn ar y pryd- Aelodau senyddol.
Twrw'r holl bleidiau'n taeru- ei hen s?n
Wna siam a dadleudy,
Ac nid od na syndod sy'
o'r undod mewn ariandy.
Ted Jones
8 pwynt.
CYFANSWM- 75 1/2 PWYNT.
Englyn ar y pryd- Aelodau senyddol.
Wedi'r addo daw'r rhyddid- i wneuthur
Unrhyw beth, oblegid
Heddiw ddaeth a'i ffordd ddi-hid,
Nid yw ddoe ond addewid..
Wyn Owens
9 pwynt.
CYFANSWM- 79 PWYNT.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

