Aberhafren v Tir Mawr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd derfynol y Talwrn.

Aberhafren.

Aberhafren.

Tir Mawr.

Tir Mawr.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'YSG'

Athrawon doeth sy'n meithrin dysg
â ffeithiau ac amau'n gymysg.

Ann Pritchard
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'YSG'

Yn gymaint ag ?m gymysg,
Un math, yw pawb yn ein mysg.

Huw Erith
8 ½ pwynt

PENNILL TELYN - SERCH A SIOM

Mi a gerais ferched lawer
do, cyn cwrddyd â fy mhartner,
ond â hi'n y gynulleidfa
well i minna stopio'n fan'na!

Llion Pryderi Roberts
8 pwynt

PENNILL TELYN: SERCH A SIOM

R'ôl gweld llun o nghariad i
Mynd a wnes i gwrdd â hi
Roedd y llun yn hen ma' raid
Roedd hi'n debyg iawn i 'nhaid

Gareth Jôs
8 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL 'MAE RHAI YNG NGHYMRU O HYD'

Cymraeg yr unfed ganrif ar hugain

Er y cleisiau'n ein geiriau i gyd, - a'r iaith
fel pe'n brathu hefyd,
mae rhai yng Nghymru o hyd
yn ei hawlio'n anwylyd.

Llion Pryderi Roberts
8 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL 'MAE RHAI YNG NGHYMRU O HYD'

Os bu gormesu bywyd yn hanes
Yr hen anesmwythyd,
Adeg y lord yn d'wedyd;
Mae rhai yng Nghymru o hyd.

Gareth Williams
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD A CHYSTADLU

Eleni ni chodwn 'run gynnen
os collwn, 'mond joio ein hunen;
does dim ots gennym ni
pa dîm aiff â hi,
ond fod yr enw yn gorffen â 'Hafren'!

Ifan Pleming
8 ½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSTADLU

Cyflawnodd uchafbwynt ei yrfa
Fe redodd i ben ycha'r Wyddfa
Mi fyddai 'di arbed
Cryn drafferth 'sa Aled
'Di rhedeg yn syth i'r amlosgfa

Gareth Jôs
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): PAWB Â'I FARN

(Despenser Gardens)

Ynghanol strydoedd llwyd Caerdydd mae llain
sy'n lloches i sawl hil, a chwarae plant
yw crwydro dan y deiliach, tra daw sain
y chwerthin iach o dop y sleid, neu siant
rhyw gêm na wn ddim byd amdani,
curiadau'r geiriau'n sgipio'n sionc drwy'r tes
at sgwrs rhieni lu sy'n ymddiddori'n
hanes hwn a'r llall, ac mae 'na wres
trafodaeth rhwng y llafnau ddaw i'r fan,
o bris y farchnad stoc i wella'r dre,
o gostau rhyfel wast Afghanistan
i'r posiblrwydd fod y parc yn lle
i ddawnsio gyda'n gilydd yn y gwlith
a dathlu ein bod oll yn adar brith.

Owain Rhys
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) - PAWB Â'I FARN

R'ôl cychwyn i lawr o Lwyndyrus i dalwrn i lawr yn y de
"Lawr fa'ma" medd Huw yn Fourcrosses ac aethom ar goll sdrêt awê

Fe ddaethom r'ôl sawl cyfarwyddyd at chwarel ger Penisarwaun
A'n fano fe gafodd Huw syniad a tarodd y Satnaf ymlaen

"I'r with" ebe'r Satnaf "yn fanco." Medd Myrddin "Cer syth yn dy flaen"
A phawb oedd pen dwy-awr yn sbio ar fachlud ym mae Abergwaun

"Ffordd rwan?" "Ffordd acw!" "Ffordd yma!" "Chwith pia'i!" Aeth Gareth i'r dde
R'ôl gyrru o gwmpas am oria' fe ddaethom yn ôl i'r un lle

"Rhowch stop ar eich dadla'" dywedais "Mi rydych yn cecru fel chwid
A gwrandwch ar hon sy'n y ddyfais.Mae'n gwybod yn well na chi i gyd"

"Wêl, jiolch yn fowr", ebe'r hogan, "ar ôl f'anwybyddu cyhyd
Cewch ddod mâs o'r picil ma'ch hunain" Fe sorrodd a chau dweud dim byd

I lawr yng nghwt band Llangydeirna, rhyw hanner awr arall o daith
Roedd Dwynwen fel gafr ar darana', a'r Talwrn 'di cychwyn ers saith.

Gadawyd y Satnaf maleisus i bwdu ar ochr y lôn
A'r Prifardd yng nghiosg Alltwalis i adrodd ein stwff lawr y ffôn

Pan ruthrom i gwt Llangydeirna r'ôl crwydro Shir Gâr ar ei hyd
Doedd gennym ond 'chydig eiliada' i ateb y lein ar y pryd

Mi ddudis i "Lledrod, Llangybi, trwy Lanbed a'r llefydd na'i gyd"
Ond 'na fo 'mond un farn sy'n cyfri Un Gerallt, Fe gafo' ni stid

Gareth Jôs
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU EFO'R GEIRIAU'Y MAE'

Allan yng Nghaernarfon
(adeg G?yl Arall, 17 Gorffennaf)

Y mae twrw'r criw d?ad
a'u gweiddi a'u rhegi rhad
heno'n aros dros bob stryd,
yn haf pob tafarn hefyd,
ond gan fod heulwen Menai
yn dal i llnau toeau'r tai
a llanw effro'r Foryd
yn rhoi her i'r trai o hyd,
mi ddown a maddau heno:
hi yw ein tref, am y tro.

Rhys Iorwerth
9 ½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU EFO'R GEIRIAU 'Y MAE...'

(Liam McDonagh, cyd weithiwr, ddechrau'r saith degau)

Y mae o heno ymhell,
Can eco'i lais fel cnocell,
Ddrymiwr y gatrawd ddrama,
Geiriau a mwg o Armagh!
Â'i gaib, neu'n gaib yn gwybod
I'w fêr, un'Werddon sy'i fod.

I drawiad yr un straeon
Unai'r wlad yn nraeniau'r lôn;
Chwysai o dros ei chwe sir,
Ond ei waed i'w deheudir.
Â'i faled neu'i fwledi
Y mae o'n agos i mi.

Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYFIEITHWYR

Gall unrhyw un gyfieithu
o fedru mwy nag un iaith,
ond 'di hynny ddim yn golygu
y DYLAI pawb chwaith!

Llion Pryderi Roberts
9 pwynt

PENNILL DYCHAN: CYFIEITHWYR

Ni fu 'Raised Manhole Covers' fawr iawn
O drafferth i'r Adran Gyfieithu,
Mae'r Gymraeg yn dysteb i'w dawn,
'Caeadau Twll Dyn ar i Fyny'.

Gareth Williams
8 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: TWYLL

Heno, mor betrus yw f'anwes - o gael
un wên gam yn ernes
y daw haul drachefn â'i des
o gelwydd ar ein Gwales.

Aron Pritchard
8 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: TWYLL

(hysbysebion y fyddin)

Dweud wyched y gweithredu; - dweud am hud
Y mêts a'r gwamalu;
Dweud eilwaith, 'Y mae'n deulu'
Heb ddweud am y ffos wleb, ddu.

Myrddin ap Dafydd
8 Pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD

Gan amlaf fe fyddaf fi
Yn ddienw'n barddoni.

ATEB LLINELL AR Y PRYD

Gan amlaf fe fyddaf i
Yn yr haf yn lliw grêfi.

1 pwynt

TELYNEG - GWRTHOD

Af adre weithiau ar ddydd Sul,
drwy'r coed afalau
a sawr atgofion
yn chwythu'n fachlud hyd y caeau.

Gwylio fy rhieni yn gosod eu cariad
yn saff
mewn basgedi...

Af gyda nhw i'r capel
i rwgnach hyd y lloriau pren,
a chlywed fy adnod, eto,
yn rholio dan y sêt
a'r gwadu'n glynu'n brint
ar gledr boeth...

Sgwrs amser te yn cael ei thaenu
dros bastai 'falau a bara jam a thebot
a'm styfnigrwydd
yn friwsion dros liain glân.

Ysaf am y dydd
pan na fydd dim ond eco'r llwch
yn sibrwd o'r lloriau pren
ac y bydd y bwrdd di-liain
yn gylchoedd te
o onestrwydd.

Ysaf i weld y basgedi'n
wag o drefn
a phryd hynny y byddaf i
yn chwilio fy llwybr fy hun
yn wenynen o feddw
trwy'r gwair hir
rhwng yr afalau chwâl.

Ond gwn y trof yn ôl,
er gwaetha' popeth,
a chodi ambell afal
i'm côl.

Mari George

10 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79

TELYNEG - GWRTHOD

Na, Taff, chymera'-i mo dy bapur sglein
Yn denu 'mhlant am swae i mewn i'r tanc
Sy'n pwyntio'i fys recriwtio i lawr y lein;
Dwi'n hidio dim am swagar sgwodis, llanc.
Be' mae dy ddillad martsio'n da fan hyn
Ar faes y Sioe? Pwy na fedrodd gofio'n glir
Ei bod hi'n gyson wedi bod yn dynn
Rhwng ffarmwrs a dy leng ynglyn â thir?
Brifodd fy 'Na' y llygaid pymtheg oed
O dan y cap, a chefais gip ar hwn,
Y 'ffrind poblogaidd', 'hogyn gora' rioed'
Fel dwed pob teyrnged goffa ar faes y gwn.
O dan y lifrai, gwelaf fab a brawd
A gweld mor hawdd i'w gleisio ydi cnawd.

Myrddin ap Dafydd
10 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'YSG'

Rownd y d?r yn rhannu'u dysg
yn hirben aiff fy eurbysg.

Heddiw, nid braint yw addysg,
ond derbyn rhyw docyn dysg.

Heddiw, er gwâr ein haddysg;
y dyn, nid yw'n derbyn dysg.

Ein gwinllan sydd dan genllysg,
a moch sy'n twrio'n ein mysg.

Yma o hyd, mae'n ein mysg
lu heddiw heb gael addysg.

PENNILL TELYN - SERCH A SIOM

Yn fy llaw mae'r ffôn yn crynu,
ac mae'r galon fach yn llamu,
ar y sgrin goleua'r neges,
hollta'r galon dan fy mynwes.

Owain Rhys

Wyt ti'n mynd â hi i grwydro
hyd yr hafau poeth o gyffro?
Wyt ti'n dweud yr un hen eiriau
wrthi, dan ein seren ninnau?

Mari George

Tywysoges sydd yn mynnu
hawlio 'nghalon ydyw Cymru,
ond o roi fy serch mor oriog
nid yw hon yn fwy na thaeog.

Llion Pryderi Roberts

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL 'MAE RHAI YNG NGHYMRU O HYD'

Bod

Mae rhai yng Nghymru o hyd na welan
nhw'r heulwen yn machlud,
dim ond byw, byw eu bywyd
a byw heb ots am ddim byd.

Rhys Iorwerth

Rhai bach

Rhai bach fu'n rheoli'r byd, o'r cerrig
i'r car; bu rhai enbyd
yn Rhufain enfawr hefyd:
mae rhai yng Nghymru o hyd.

Owain Rhys

Sul y cofio

Mae rhai yng Nghymru o hyd - rhai a fu
ar faes lladdfa enbyd
a'u hunllef byth a hefyd
yn mynnu gwaedu i gyd.

Aron Pritchard

John Hartson

Mae'n drech na'r un afiechyd, yr hen gawr,
yn ei gae'n ymaflyd;
arwr nad aiff i'w weryd -
mae rhai yng Nghymru o hyd.

Owain Rhys

Ar wasgar

Mae rhai'n Dubai a phen draw'r byd. Mae rhai'n
meurynna'n dra diwyd
yn Rhufain, Rio hefyd.
Mae rhai yng Nghymru o hyd.

Rhys Iorwerth

LIMRIG YN YMWNEUD A CHYSTADLU

Roedd efeilliaid yn byw yn y pentra
yn cystadlu 'mhob dim am y gora';
diota, chwaraeon,
mercheta, hel straeon,
ond yr ail un i'r bedd oedd y doetha'.

Ar gerrig yr orsedd bu sgarmes
rhwng llenor a bardd dros ryw ddynes,
wrth geisio'i serenedio
roedd y lodes yn dawnsio
yn borcyn - wel am beth anghynnes!

Roedd tenor o fardd o Lanuwchllyn
yn canu'n ddi-baid ar ffurf englyn,
ond wrth fynd am C dop
aeth ei drowsus o POP,
a gwelodd pawb fawredd gwawdodyn!

Bu gornest go fawr ar Lyn Bala
rhwng Tegid a Nessi a minna',
ond pwy ddaeth i'n styrbio
ar gwch yn mynd heibio
ond Gerallt, a fynta yn 'sgota.

Yn fachgen âi Wil bach mor nerfus
wrth ganu, nes bron llenwi'i drowsus;
am flynyddoedd bu'n gorfod
cystadlu 'mhob steddfod;
dim rhyfedd fod ganddo niwrosus!

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): PAWB Â'I FARN

Mae gen i duedd ryfedd: dwi'n hoffi genod blond;
mi faswn yn y nefoedd hefo nhw bob dydd, dim ond
fy mod i hefyd weithiau'n ffansïo rhai gwallt brown
ac unwaith yn fy nglasoed, yn annoeth, gwn, mi rown
mewn cariad dros fy nghlustiau (mewn cariad ofer dall)
â merch reit od o rywle nad oedd na'r naill na'r llall.
Rhyw borffor-goch a mymryn o ddu-las oedd ei gwallt:
roedd ganddi fwng pedwarlliw nad oeddwn yn ei ddallt.
Mor braf y byddai weithiau bod fel fy ffrind i, Rhun;
mae o yn berffaith fodlon, os caiff o ambell ddyn.
Ta waeth, ym myd y genod, y steil sy'n mynd â'm bryd
yw gwalltiau tywyll-olau wedi'u pyrmio oll i gyd:
yn gyrliog a modrwyog, yn troelli tua'r llawr,
a chwarae efo'r tyllau sy'n creu difyrrwch mawr.
Dro arall pan edrychaf ar ferched â gwallt syth,
fy mreuddwyd fydd eu denu yn glyd i mewn i'm nyth,
heblaw'r rhai gwalltiau cwta - nid ydw i fel dyn
yn hoffi i'm cariadon gael gwallt fel fi fy hun.
Ond wedyn, yn fy mhenbleth, rhaid cofio'u bod i gyd
yn foel fel roeddwn innau pan ddaethon nhw i'r byd.

Rhys Iorwerth

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU EFO'R GEIRIAU'Y MAE'

Lludw
(Lakanal House, Camberwell, lle lladdwyd chwech mewn tân mawr, 3-4 Gorffennaf)

Y mae ôl fflamau'n ddolur
a mwg yn staen ar bob mur;
y t?r llwyd a fflatiau'r llwch
yn rhes ar res o ddryswch
a s?n sy'n drech na sgrechian
oer a fydd yn hawlio'r fan;
eco'r rhai tu fewn, eu cri
yn esgyn gyda'r llosgi;
bonllefau eneidiau'r nos
yn udo mewn marwydos.

Aron Pritchard

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYFIEITHWYR

'Modrwywch am gymorth'?
'Diferion go serth'?
'Mochelwch eich ymborth'?
'Twll dyn yn llawn nerth'?
'Llid ar y bledren cyn disgyn i lawr'?
'Cwrw a gwinoedd, ysbrydion i gawr'?
Wn i ddim byd am y grefft o gyfieithu
Ond hoffwn i chydig o be' ma' nhw'n smygu!

Owain Rhys

Diolch i chi gyfieithwyr,
ia, thank you very much;
mae'r Susnag ddigon blincin gwael
ond mae'r Welsh 'tha double dutch!

Llion Pryderi Roberts

ENGLYN CYWAITH: TWYLL

Ar yr wyneb, rwy'n ?r hynod ddedwydd,
o wadu pob diwrnod
fod neb yn fy adnabod,
fod gwacter ym mêr fy mod.

Yn hen, ac yno ei hunan, ni wêl
gelwydd rhyw ddyn trydan
yn ymweld, ac yn y man
fe aiff o i wario'i harian.

(Storm Awst)

 ni oll yn ymgolli yn yr haul,
mor hawdd peidio â sylwi
yng ngwres y tes arnat ti'n
dod ar gerdded, ar gorddi.

TELYNEG - GWRTHOD

Ar drywydd adfeilion
down o Sadwrn Crughywel
i droedio'r allt,
a'r prynhawn
fel ninnau'n teimlo'i oed.

Cyrraedd y castell,
a gweld 'mysg ei gerrig llwyd
haearn a phlastig parc
yn gweiddi'i goch a glas,
a herio'r hynafiaeth.

Down a darllen
am gad a gorthrwm,
gan lygadu'r siglen wag,
cyn agosáu
a diosg ein degawdau.

Yn ôl a blaen
ar adain blynyddoedd
yr awn,
a'r rhyddid yn ein gwthio
uwch gwaith a gwynegon
at eiliadau o las
sy'n gynilach.

Ac wrth wisgo'r
siwmper aeddfed drachefn,
trown i edrych
ar y dwylo anwel
sy'n dal i suo cadwyni'r gwacter,
a'r awel
yn chwerthin drwy'r dail.

Llion Pryderi Roberts

(Mari Jones o'r Bala)

 chynnwys ei silff lyfrau'n peri loes
pan welai nad oedd Beibl yno'n bod,
yn wyneb llymder garw dyddiau'i hoes
fe wyddai mai cynilo oedd y nod,
ac mor ddidostur fu'r llafurio trwm
a'r arbed diwyd dros y cyfnod maith,
hyd at ewfforia'r awr o gyfri'r swm
oedd angen arni cyn mynd ar ei thaith.

Ond fe'i poenydiwyd wedi'r siwrnai hir
â dolur gwaeth na'i holl bothelli gwael
pan orfu i Thomas Charles ynganu'r gwir
nad oedd un Llyfyr Sanctaidd mwy ar gael.

Ni fedrai ef, yn ei thorcalon hi
â gwrthod dweud 'Fe gei fy Meibl i.'

Aron Pritchard

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'YSG'

Mae rhai mwll, Gymru, ymysg
Graddau dy Bwyllgor Addysg.

Yn gymaint ag ?m gymysg,
Un math ddaeth Edward i'n mysg.

Ein harfau rown rhag terfysg
Y mae ei waed yn ein mysg.

Oen Duw yw'r Un a'n dysg,
y diarfau ei derfysg.

PENNILL TELYN: SERCH A SIOM

Aur ei hwyneb a'm gwirionodd,
Aur ei hafal lyncais rywfodd,
Sbyda f'aur rhwng Marks a'r tacsi,
Hawlia hon le'r sarff eleni.

Llethwyd fi gan eneth greulon
Carreg oeraidd oedd ei chalon
Fe adfywiais ar ol sylwi
Fod ei mham hi yn beth handi

Mae fy nghariad yn dymuno
Mynd i garu yn y Peugeot
Yn anffodus iddi hi
S'gen i'm tax na Em O Ti

Mor angerddol oedd fy nghariad
Codais iddi wych adeilad
Yn anffodus dan y llawr
Roedd 'na bla o lygod mawr

Sgwenais lythyr at fy nghymar
Paid â mynd i ffwrdd ddydd Merchar
Fe gawn fyw'n gytûn ein dau
'Nath o'm cyrraedd tan ddydd Iau.

Meddwl bod y pren yn union
Wrth ddwyn ffrwyth yn ein dwy galon
Nes darganfod yn y berllan
Fod y goeden yn ei chwman.

Plannu gwinllan ar y mynydd
Aeth â'n bryd pan oedd hi'n hafddydd;
Ond ar frathiad gwynt yr hydre'
Aeth y dail yn fwg i rywle.

Rhedeg at y ffôn sy'n canu,
Gaddo siarad eto fory;
Mae hi'n dro i minnau alw -
Ond mae'r lein yn hollol farw.

Rhannu'r daith oedd ar ein meddwl -
Aem o'r unfan wedi'r cwbwl;
Dim ond cam neu ddau oedd eisiau -
Gweld mai croesi roedd ein llwybrau.

Golau'r hafan yn y llanw
Yn sillafu mêl dy enw;
Tarth y bore'n drwm gan halen -
Nid oes yno'r un llythyren.

Daw Serch, o'i siom, yn ôl i 'mreichiau,
Ac ailadrodd ei gelwyddau
Ond pan ddwed ei fod am aros,
Ni wnaf i ond pledio'i achos.

Er mai'r diwedd fu ei cholli,
er na ches i ddim mohoni,
mae gorffennol eto rhyngddom
na all dyfodol ddwyn oddiarnom.

Rhannu'r cyfan, rhannu gwely
rhannu'r byd oedd cael bod felly,
ei gadael wnes yn cysgu heno
pan es yn ôl roedd arall yno.

Os am garu, caru i'r eithaf,
caru brwd nid caru araf,
caru heb ystyried fory
nid diben heno yw difaru

I Radio Cymru

Ffoli wnes ar ei huodledd,
roeddem ni ar yr un donfedd,
ond fe aeth ei sidan rhywiog
heb adael dim ond bratiau carpiog

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL 'MAE RHAI YNG NGHYMRU O HYD'

O'r hunllef! Yn farwnllyd o oeraidd,
Y Meuryn ry'r ddedfryd;
Un wyf o'r Gwylliaid hefyd,
Mae rhai yng Nghymru o hyd.

Y beirdd unllawr, barddonllyd, - crin eu dawn,
Croendenau, cwynfanllyd,
Criw y leins unlliw, swnllyd:
Mae rhai yng Nghymru o hyd.

(Plant Owain)

O niwloedd y coed celyd - y deuent
Fel duwiau o'r cynfyd,
Trwy argae'n taro ergyd -
Mae rhai yng Nghymru o hyd.

Eu dyddiau'n llawn dedwyddyd-roedd elw
ar ddwylo eu golud;
tu clyta'r clawdd mewn hawddfyd
mae rhai yng Nghymru o hyd.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSTADLU

Y parti cyd-adrodd ddaeth ola'
Ni chawsant ond deunaw o farcia'
Roedd deuddeg o'r rheini'n
Ddyledus i Heidi
Oedd yn y rhes ffrynt yn gneud stumia'

Yn pwyso o leia' chwe chant
I'r llwyfan daeth Neli 'Tir Nant'
Ar ôl iddynt drwsio
Y llwyfan a'i frwsio
Enillodd y ddeuawd gerdd dant

Fe aeth heb un eitem hanfodol
I'w fedd yn y rownd gyn-derfynol
Pan gafodd o homar
O slap efo concar
A fynta heb het amddiffynnol

Enillodd Miss Tandy Rhydgaled
Y ras i bensiynwr ar foped
Cychwynodd Miss Tandy
A gorffen reit handi
O'r herwydd roedd ganddi hi roced

Huw Erith ddechreuodd 'neud synna'
Roedd Gerallt 'di gyrru'r testyna'
Aeth Gareth i grynu
A thaflud i fyny
A Myrddin i ffwrdd ar ei wylia'

Nos Wener aeth Now i gystadlu
Mewn gornest dal-gwynt-heb-anadlu
Ar ôl dod yn gyntaf
Mae yn y môrg 'gosaf
A'r trefnwyr yng ngorsaf yr heddlu

Un gry' di Nans gwraig Alwyn
Mae ganddi nerth dau stalwyn
Fe gurodd Nans
Y Tour de France
Yn reidio beic tair olwyn

Heb grysbas na fest roedd Huw Denna
Ar lwyfan yn 'steddfod Treganna
Cyfeiliai Wil Wirion
Drwy daro morthwylion
I fyny a lawr ar ei senna

Ac wedyn daeth baswr o Garno
I lwyfan y Brifwyl i udo
Ond rhywsut y biano
Ddaeth lawr am ei ben o
A 'nawr mae o'n fezzo soprano

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU EFO'R GEIRIAU 'Y MAE...'

Tafarn T? Newydd, Aberdaron

Y mae un lle ym Mhen Ll?n
na hawliodd yr hen elyn,
lle steilus, llys y dalaith,
lle hen win, a llanw'n hiaith
o'i swmer i'w seler sydd -
ein t? ni yw T? Newydd.

Walio amser ar deras,
bugeilio ?yn y bae glas
a sbel cyn i'r gorwel gau,
rhwydo i unnos dridiau
a dw' innau'n dallt pam dwi'n dod
eto i'r t? ar y tywod.

(yn nechrau'r pumdegau mi fu hogyn o Fynydd Nefyn farw ym mreichiau ei fam wrth iddi redeg â fo am y lle doctor ar ôl brathiad gwiber)

Y mae olaf gyw melyn
yn dal yn fy moch yn dynn,
byd oer yn ei wyneb du
a'i anadl yn ewynnu.

Maith yw'r llechwedd at feddyg,
garw yw'r ras; gadael grug
mae'i wanwyn, gadael mynydd;
gadael dwy ael y mae'r dydd.

Rhoch hir yn fy mreichiau i
a'i waedd a drof yn weddi'r
galon: clyw hon, y duw clên
a duw'r neidr yn ein Eden.

PENNILL DYCHAN: CYFIEITHWYR

Myfanwy! come quick up to me
And look who is fly to the sea
The bird I show you
Is the Shoemaker Blue
Sad Hermit, up there! Can him see?

Rwy'n cymryd y jargon a'r rhethrag
A'i droi i'r Gymraeg neu i'r Susnag
D'wn im pam dwi'n trio
Does neb sy'n ei weld o
Yn debyg o'i ddallt o beth bynnag

Arferwn reportio i'r Sun
Fe gefais i dolops of fun
These days dwi'n cyfieithu
A ydwi'n syrffedu?
Wel nac ydw dydwi ddim yn

Yn rhinwedd fy swydd rwy'n cyfieithu
Drwy gydol y dydd rydwi'n sgwennu
Cyfrolau i'r cyngor
Sy'n mynd heb eu hagor
I sgipiau'r ganolfan ail gylchu.

Rhyw ambell air o'r jargon cwango
Dwi'n ddallt yn iaith y Saeson,
Ond o'r Gymraeg mae'r rhain 'di'i phoetsio
Does modd gwneud pen na chynffon.

Scroll right down if you want
Y neges hon yn dy iaith;
Tick this box for mail in Welsh
(Ni chei ddosbarth cynta' chwaith);
Hold the line, we'll get a speaker
All ddatrys be' ti'n trio'i ddeud;
Take a seat, we won't be long...
Hir pob aros; dal i wneud.

Y Prinz, 'Big Brother', Lludw Lloegar gaf
Ar fwletinau o Landaf;
Er bod y cyfan yn fy iaith,
Nid radio i Gymry ydi-o chwaith.

Troi d?r diogi dysgwyr
i'w felin ei hun er lles,
a throi yr anealladwy
iddo'n symbolau pres

Cowdel ydi cyfieithu
a deud yr un peth eto
dwi'n meddwl baswn wedi dallt
pe basai di translatio

Troi iaith yn iaith arall
troi geiriau yn pres
troi coed mawr yn papur
fesul tunell mewn rhes,
mor llonydd ac y buon erioed
mor llonydd ac yr oedd y coed.

ENGLYN CYWAITH: TWYLL

Wael, anaeddfed, sglein hawddfyd eu llyfryn
Wna'r holl lifrai'n ddelfryd;
A'i byw wnei'n ffiniau bywyd,
Eiliad bell o'weld y byd'.

(lleuad newydd)

Yr hen gryman sidan sydd - fis ar fis
yn ias fain gan glochydd
y wlad oer heb olau dydd,
ond i ni - lleuad newydd.

TELYNEG - GWRTHOD

Ni fu o fewn ei fur erioed
A gredai bob un gair;
Ni ddenir nacw chwaith i'w ddrws
Drwy rwystrau'r gwe a'r gwair.

Os osgo fyddar sydd i'r dyn
Wrth bwyso ar y glwyd,
Mae'n syllu'n hir ar golofn-faen
Dan yw y fynwent lwyd.
Ond sytha'i ben a brysio'mlaen
O fwrw'i hiraeth dro;
Dymunwn innau basio'r lle
A gweld y drws heb glo.

Braf cael denig - merch,
Bawd-ym-mawd â'i mam,
Linc-di-lonc drwy'r hwiangerddi, law a cham,
Heb dad na brawd dan draed
Cael cynnig pnawn yn 'dre,
Sudd a chrempog fêl yn Gwalia 'wneith i de;
Mae'n taflu ll'gadau poethion; glas yn toi pob man
A mwclis tylwyth teg ar balmant Stryd Pen-lan.

Dacw Tomos Huw;
Dacw Llinos Haf;
Ar eu pennau'u hunain, rhydd i grwydro'n braf.
Datod braich, dal draw;
Dau gam i ffwrdd, neu dri,
'Nôl yn ferch â thyllau yn ei chlustiau hi;
Awyr lwyd uwch ben a golwg tywydd gwan,
Dim ond cerrig oer yw palmant Stryd Pen-lan.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.