Tir Mawr v Taeogion

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gynderfynol y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'WNC':

Ces er fy lles ambell lwnc
Ond trallod wedi trillwnc.

Gareth Williams
8½ pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'WNC':

Yn llwyr, er caru'r un llwnc
fe ddiawliaf y ddeulwnc.

Tudur Dylan Jones
8 pwynt

PENNILL TELYN YN DECHRAU EFO 'MI WN...'

Mi wn fod natur fy niawlineb
Yn llechu ynof dan yr wyneb,
Ond rwyf bob dydd yn dal i gredu
Mai dim ond fi sy'n gwybod hynny.

Huw Erith Williams
9 pwynt

PENNILL TELYN YN DECHRAU EFO 'MI WN...'

Mi wn fod nant y mynydd
Yn troelli tua'r pant;
A gwn 'run modd mai 'weirdos'
Sy'n mynd i'r ?yl Gerdd Dant!

Emyr Davies
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - NEWYDD DA

'The boys are safe'.

(Teligram anfonwyd o Kilkeel, Iwerddon i'r Swyddfa Bost, Tudweiliog, yn sicrhau bod dau o hogia'r pentre' fu ar goll ar y môr am dridiau, yn ddiogel)

Y stryd fu'n aros dridiau,
Arni hi, sgwrsio'n prinhau,
A doi'r boen yn nhyndra'i byd
I osgo'r pennau'n ysgwyd.

Heb lanw'n gogrwn ei gur,
Nac ateb gan bysgotwyr,
A'r weddi hir heb ryddhad;
Amlen yn ffrwydro'n deimlad.

Yn y wefr o'u cael yn ôl,
Â'i nwydau cyfnewidiol
Hen fôr o hyd sadia'r fron,
Ni waeddwyd y newyddion.

Gareth Williams
9½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - NEWYDD DA

(Daeth y mab â 'newydd da' adref o'r ysgol un diwrnod)

O do, fe wthiais bob dydd
holl iaith Cyw a llaeth cywydd,
a'th fwydo â thafodieth
uwd-a-mêl idiome, wêth;
a, bob nos, fy maban i,
gorddais yr hwiangerddi:
"heno, heno" dy heniaith
yw "fory, fory" fy iaith.

Ond 'nôl o'r ysgol, er hyn,
er gwaetha' dy dad wedyn,
dest fel sgolor â'th stori
fain tua thref: "One-two-three."

Ceri Wyn Jones
9½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'OND ER HYN'

Mae heno'r niwloedd mynydd - yn isel;
Ceir noson o stormydd;
Yfory ddaw'n fawr o ddydd,
Ond er hyn mae 'na drennydd.

Myrddin ap Dafydd
9 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'OND ER HYN'

Michael Jackson

Yr oedd canu galar heddi drwy'r wasg,
Ond er hyn, drwy'r crygni,
Amau wnaf y troesom ni
Ei ddoluriau'n ddoleri.

Emyr Davies
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YR ANFFAWD

Roedd Mot 'di dweud ei badar a'n cysgu dan y nen
Pan faglodd Now Siop Siambar yn t'wllwch ar ei ben.
Roedd Now'n gweld llai nag arfar r'ôl diota'n hir a brwd,
A'n ymddiheuro'n hawddgar pan ruthrodd Mot i'w gwd.

Fe waldiodd Now y creadur ac ar ôl cic golew
Yn gelain aeth drwy'r awyr i ardd gefn Neli Dew.
Ei gladdu ger y rwdin oedd bwriad Now'n reit siwr
Ond Nel o'r ffenest landin'a alwodd Wil ei g?r.

I'r ardd daeth William Fisgrall, yn welw - wyn gan fraw,
Yn crynu 'fath ag ysgall, pot siambar yn ei law
R'ôl deufys yn ei lygaid a phoncan efo'r pot
Roedd g?r Nel Dew'n ddi-enaid ar lawr wrth ochor Mot.

Yn sydyn, Haleliwia!, yn rhuo 'fath'a llew
A'n edrych fel llong hwylia' cyrraeddodd Neli Dew.
Ac yna bu ymladdfa fel ffeit mewn ffilm John Wayne
Y Dew'n defnyddio'i dyrna', a Now'n defnyddio'i ên.

R'ôl derbyn dwrn o sylwedd ac ergydion chwim di-ri
Roedd tri mewn twll yn gorwedd, Siop Siambar, Wil a'r ci.
Mae Nel yn awr mewn carchar. Pob nos, yn ôl drachefn
Daw ysbryd Now Siop Siambar i drwsio'r gola cefn

Gareth Jones
10 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YR ANFFAWD

Tri anffawd sydd yn poeni meidrolyn fatha fi
Sef talu am forgeisi rhyw ddau neu dri Em Pi,
Ac edrych yn y drych bob dydd gan ddisgwyl gweld Beyonce
Ond yn ei lle gweld Mrs. Mills 'di croesi hefo Jonsi.

Ond does na'm byd i gyffwrdd a'r anffawd a gaf i
Pan glywai'r geiriau yma: "Rhain yw dy dasgau di -
Cân am Dy ry ry ry a Limerig am Bla di bla"
Mae'n sefyllfa dra anffodus, mae'n anffawd mod i 'ma!

Ac o'r eiliad gythrel honno does dim yn llenwi'm mhen
Ond be gai roi i'r Meuryn fydd yn hawlio'r pyrffect ten.
Be gai ddeud y tro ma sy rioed 'diw ddeud o'r blaen?
A be sy'n odli hefo blaen heblaw am "jaen" a "straen"?

A hyd yn oed petawn ni'n cael y syniad gora'n byd
A ddaw y gerdd amdano i'm rhan i mewn da bryd?
Achos os fydd hi mewn yn hwyr caf anffawd gwael ar frys
Rhyw "Ddamwain" wedi 'i threfnu gan Chief y Talwrn Police.

Ac yna fe ddaw'r syniad fydd yn siwr o blesio'r Meuryn
Ond yna yn anffodus y Tir Mawr fydd yn ein herbyn,
Ac felly dyma yw fy nghri, Gerallt, rhowch farciau tila
Fel na chawn ni - "yn anffodus" - fynd drwodd i'r rownd nesa.

Caryl Parry Jones
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSGU

Ac meddai T.L. cyn pregethu
I gwt hanner gwag yn Llanfaethlu
"Fy nhestun i heno..."
Bu raid iddo sdopio
Roedd pawb a oedd yno 'di cysgu

Gareth Jones
8½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSGU

Absennol oedd Myrddin ap Dafydd
A rhoed Jôs i lefaru ei gywydd,
Aeth drwy bennill rhif un
A dau neno'r dyn
Ond mi gysgodd cyn gorffen y trydydd.

Tudur Dylan Jones
8½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Mae criw dwl ym Mae Caerdydd
Mae gwlad ond does dim gwleidydd

½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Mae criw dwl ym Mae Caerdydd
A nhw yw'r Gymru newydd.

½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: HAPUSRWYDD

Daw, drwy'r glaw, o'r rhesi gwlydd; - yn ei law
Mae gwledd y diwetydd
A'i groen, yn rhychiog, a rydd
Wên iau na'i datws newydd

Huw Erith Williams
9½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: HAPUSRWYDD

(Ym mis Mehefin eleni, bu i fachgen ysgol 17 oed o Lechryd grogi ei hun mewn coedwig gyfagos)

Dôi i'r allt, ac o flodau'r drain, creai ef,
fel crwt, gadwyn firain
yn y gwair a'i chau'n gywrain
am ei wddf yn gwlwm main.

Ceri Wyn Jones
9 pwynt

TELYNEG: CRWYDRO

Iddewes oedd y trefnydd, âi â ni
yn ôl a blaen drwy warchodfeydd y ffin
o'r deml aur i Fethlem dre; rhôi fri
ar gadw ar y rêls - ni châi rwtîn
y milwyr ffrwyno'r angen i wneud gwaith
y sioe Nadolig, er na lithrai'r lens
i gynnwys lluniau twr y gynnau chwaith
uwch sgwâr y stabal: rhaid i'r 'hedd' wneud sens.
'Di-blan yw'r Palestiniaid,'meddai - map
ar glun a watsh ar arddwrn, yn llawn gras
tra ffilmiem fugail âi â'i braidd ar hap
fan hyn, fan draw ar ôl y blewyn glas.
'Llys Herod!' traethodd, pan ddaethom 'nôl i'w threfn...
Ymlwybrodd yr holl oesau'n ôl drachefn.

Myrddin ap Dafydd
9½ pwynt

TELYNEG: CRWYDRO

Eisteddai â'i gof yn pallu
yn sgwrsio ag ef ei hun,
a mynd dros ddoe'r hen lwybrau
a'i eiriau'n lliwio'r llun,
ac wrth ei ymyl, gyfaill
yn hanner ar ddi-hun...

...yn gwrando, heb agor llygad
na chodi'i ben ychwaith,
oedd eto'n gweld y cyfan
a nabod pob cam o'r daith;
heb ddweud dim byd, ond dilyn
gyda gwên, a llygad llaith.

Tudur Dylan Jones
9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD - CYFIAWNDER:

I Ffred Ffransis

Aed â Ffred trwy'r drws eto - ni all Bwrdd,
ni all Bae ddiffinio
'r bai yn hwn - na dderbyn o
hyd ei hedd, ond a haeddo.

Myrddin ap Dafydd
8½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD - CYFIAWNDER:

(Gwrthododd yr Unol Daleithiau roi fisa i Arfon Gwilym)

Rwy'n holi, wir, ai'r un un wlad yr oedd
ganddi freuddwyd wastad
yw'r wlad fawr yn awr a wâd
i hawl sifil ei safiad

8½ pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'WNC':

Hen beth cas yw temtasiwn:
Colli llong er mwyn cael llwnc.

PENNILL TELYN YN DECHRAU EFO 'MI WN...'

Mi wn nad ydyw yn fy nabod
Er na wn be mae yn wybod,
Llwybrau cul yw teithiau'r meddwl
A cholli rhain yw colli'r cwbwl.

Mi wn y rhois f'addewid eto
Ac na wnes i gadw ato,
A gwn yn hwyl fy sbri a miri
Y bydd rhywun yn cael ei siomi.

Mi wn i ac fe wyr hithau
Beth ddigwyddodd i fyny'r grisiau,
A chan na wnaeth neb arall ffendio
Ma gen i awydd ei wneud eto.

Mi wn i, o gwn mi wn
Y gwelaf Feuryn mwy na hwn,
Ond hyd nes bydd y dydd yn dod
Fo sy'n deud sut mae hi fod.

Mi wn, o gwn mi wn i,
Gwn, gwn mi wn dy hynt di,
A gwn mai'r gwn sydd genni
Yw'r gwn wna'n ail uno ni.

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - NEWYDD DA

'Newydd da heddiw i dai!'
y llwydwas a ddarlledai:
'Sôn bod y prisiau'n codi
'n nes at seis fy morgais i!'

Ymhell o'r stiwdio mae haf
y newydd yn troi'n aeaf,
yn y wlad ddi-aelwydydd
mi gawn, gyda'i phroblem gudd,
Gymru wag o gamerâu
heb 'wneud' y prif benawdau
a thai sydd â'u trothwyon
haen y tu hwnt i blant hon.

ENGLYN YN CYNNWYS 'OND ER HYN'

Rhes o gics yn mynd ar sgiw, - i'r gelyn,
Pedair gôl - mae'n chwilfriw;
Mae'r diwedd yma heddiw:
Ond er hyn mae'r ffans yn driw.

(gwareiddiad y Gorllewin sy'n siarad)

Yn wâr, rhof bunt a'i gyrru, a rhof faith,
A'r fam wedi'i llethu;
O raid dof a'r oen i'r t?,
Ond er hyn ei drywanu.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSGU

Cysgu'n y bath wnaeth Wil Nant
Pan ddeffrodd edrychai tua cant
Am wythnos bu'n sychu
Mae n'awr 'di crebachu
A'n gwisgo hen ddillad y plant

A dyma'r gerddorfa'n tarannu
A'r dawnsiwr i'r llwyfan yn llamu
o'r m?g, cyn ymlusgo
O gwmpas fel morlo
Roedd coesau Alfonso 'di cysgu

Bu ffrwydriad mewn plasty'n Llanbêr
Syr Huw ddaeth i'r fei yn San Clêr
Yn ôl be dwi'n ddeall
Ar waelod gallt Rhuallt
Y cafwyd ei ddau dedi-bêr

Fe ddeffrodd ar ôl cael ei suo
Gan ddeintydd amheus o Langaffo
Roedd hwnnw, yr uffar
'Di gadael y gadar
A mynd efo'i ddillad a'i gar o

Roedd Miles wrthi'n canu'r bas dwbwl
Rhyw drefniant yn "D" rydwi'n meddwl
Yn sêt wyth deg tri
Roedd Meinir t? ni
Yn chwyrnu'n "Top C" dros y cwbwl

Roedd Wil yn ei wely ers ddeg
Pan ffrwydrodd ei dent ym Mhrenteg
Fe laniodd y brawd
Fel sached o flawd
Ym Moduan a'i fawd yn ei geg

Roedd o'n lledan wrth ochr y ci,
A galw am y meddyg wnaeth hi
Meddai hwnnw'n ddi lol
'Oes alergedd gan Col'
'Dim ond i alcohol' medda fi

ENGLYN CYWAITH: HAPUSRWYDD

Waeth faint ei swm, na'r cwmni a'i rhannodd
A'r wyneb yn gloywi;
Nid yw yn fy enaid i,
Ond Duw, a minnau'n tewi.

TELYNEG: CRWYDRO

Pan ddoi Garni adra ers talwm
Yn hael hefo'i faco o'r môr,
Er holi, ni dd'wedai rhyw lawer
Am Dropics na rhew Labrador.

Dim ond awgrym a gawn i wedyn
Ac yntau gryn dipyn yn h?n
Yn criwio ar longau Dun Laoghaire,
Ar shifftia bum niwrnod o L?n.

Mor chwithig ei weled neithiwr
Ar y ward yn ffwndrus ei ael,
Yn rhaffu wrth gei mewn rhyw borthladd,
Ond doedd'na fawr chwaneg i'w gael.

------------------------

Mae'n gafael yn y llyw o'r gadair lonydd,
Yn stwyo ac yn werio hyd y bae,
A simio'r gwynt, tynhau y rhaff a'i llacio
Tra'n codi marciau oddiar sgubor, corn a chae

Mae'n tynnu pig ei gap i lawr o flaen y ffendar,
A hefo'i lawes yn sychu'r sug o'i geg,
Cyn brathu'r cetyn nes ei fod yn clecian,
A gwyro i'sgoi y b?m a tharo rheg

Mae'n gweld yr adwy ble mae'r ras yn darfod,
Yn newid tac a chydio'r tiler a'i law dde,
Yr hwyliau allan o flaen gwynt ar glec yn aros,
Ar trobwll yn diflannu yn ei gwpan de.

CYNIGION YCHWANEGOL:

PENNILL TELYN YN DECHRAU EFO 'MI WN...'

Mi wn fod rhaid i minnau
Gael addysg gan fy ngreddfau;
Ond gwn 'rôl llawer profiad
Fod athro da yn eithriad.

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YR ANFFAWD

Cwestiwn mewn arholiad - 'Beth oedd enw iawn Llywelyn ap Gruffydd?'
Ateb plentyn 11 oed: 'Gavin'!

Caed anffawd mewn arholiad ddoe, a'r ateb gaed gan rywun
oedd fod gan Gymru fach un waith dywysog o'r enw 'Gavin'.

Mi chwiliais yn Hanes Cymru, do, Y Gwyddoniadur a phob man,
ni welais gyfeiriad at unrhyw 'Gav' yn unlle gan John Bwlch Llan.

Ac er mwyn cywirdeb ein hanes ni, rhaid bwrw ati i ofyn
Yn enw ysgolheictod pwy yn union ydoedd 'Gavin'.

Roedd cap pêl fasged ar ei ben efo'r pig yn mynd am nôl.
ac am rywbeth fel polisi tramor gwlad, doedd o'n deall bygyr ôl

Roedd o'n mynd ar skateboard i bob man, ac roedd stud yn ei glust a'i dafod,
roedd ringtone Sugar Babes ar ei ffôn a Westlife ar ei ipod.

Roedd o'n gwisgo hwdi a bagi jeans ar y sgwâr yn Abergwesyn,
ac yn gwisgo cadwen arian fawr efo'i enw arni, 'Gavin'.

Roedd ei dad a'i fam wedi dysgu Gav yn gwrtais i ddweud helo,
ond erbyn pymtheg y cwbwl oedd hwn yn ei ddweud wrth bawb oedd 'yo'.

Ond wrth sglefrfyrddio'n hir un dydd, a gwrando ar gerddoriaeth,
fel Saul o Tarsus ar ei daith fe gafodd droedigaeth.

Fe glywodd lais o fewn ei ben, 'Mae deunydd arweinydd ynot,'
A gwelodd Gav oleuni mawr, rhwng Merthyr a Phort Talbot.

'Rhaid cael ceffyl yn lle skateboard, a choron yn lle cap,
A rhaid newid dy enw o Gavin i rwbath yn cynnwys 'ap'.

Newidiodd ei enw wedyn o 'Gav' i Llywelyn ap Gruffydd llawn,
a dyna pam fod yr ateb a roed ar y papur arholiad yn iawn.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHYSGU

Mewn breuddwyd un noson aeth Deiniol
I gwarfod â'i gariad tragwyddol,
Daeth y freuddwyd yn wir
Ac fe brododd cyn hir
 dyn â mwstash o Ffostrasol.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.