Howgets v Aberhafren

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gynderfynol y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'INC':

O raid, nid camp gyffredin
cael cwpled red â'r gair 'inc'.

Annes Glynn
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'INC':

Nid oes tawch drymed â stinc
môr-salwch stemar Sealinc.

Ifan Pleming
8½ pwynt

PENNILL YMSON 'AR WELY ANGAU'

Roedd Lewis y twrna'
Ar ei wely anga'
Yn darllen y beibl o glawr i glawr
Nid ei fod o'n dduwiol
Ond chwilio am 'loophole'
Cyn iddo wynebu yr olaf awr!

Endaf ap Ieuan
8½ pwynt

PENNILL YMSON 'AR WELY ANGAU'

Caf wybod mod i'n werthfawr,
caf wên gan bob un ffrind,
a gwelaf mai lle da yw'r byd
a minnau ar fin mynd.

Mari George
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - ANIFAIL ANWES

Mae'n hen, yn byw fel brenin,
a'i wegil ef, ar ei glin,
yn llyfn lle bu ôl ei llaw'n
ei anwylo'n anhylaw,
ei rwndi'n gwmni'n y gwyll,
yn daw ar hunllef dywyll.

Bu ganddi blentyn unwaith,
ei oes syn ar ben yn saith,
a'i war o'n fodrwyau aur,
yn oleuni melynaur...

Dan ei llaw, cudynnau llanc
a dyfant mewn byd ifanc.

Annes Glynn
9½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - ANIFAIL ANWES

I'r ardd gefn, yn gerddi i gyd,
y daw yr adar diwyd
efo'r awen foreol,
gan barablu'n hy yn ôl
a galw ar ei gilydd
mewn aduniad doriad dydd.

Ni chlywant felan canu
o'r tu ôl i ddrysau'r t?,
lle mae un ohonyn nhw,
un anwylach, yn galw
wrth edrych draw o gawell
ar y byd a'i weld mor bell.

Rhys Iorwerth
10 pwynt

ENGLYN YN ENWI DWY GYNGHANEDD

Rhaid yw meithrin yr hyder - i geisio
Croes o gyswllt seinber
I ennill clod, a noder
Nad yw'r Sain yn gain gan Ger.

Rhys Llwyd
8½ pwynt

ENGLYN YN ENWI DWY GYNGHANEDD

Mynwent

Hen lach y glaw ar lechi - yn cario
ar draws cerrig beddi,
a min gwynt croes drwy'r meini:
mae hyn yn fy nychryn i.

Rhys Iorwerth
9½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y CLWB

Buasai popeth yn iawn petai Nain ddim mor flêr â cholli ei sbectol ddarllen
Wrth archebu ei gwyliau ym mhellteroedd Ffrainc, ar lannau y Med, yn yr Heulwen.
Cael hanes gwrthryfel Mil Wyth Cant Tri Deg, am gael trip addysgiadol oedd hi,
A hyd heddiw nid ydwyf yn si?r wnaeth hi ddallt ei bod efo'r Clwb Eighteen - Thirty.
Y bore cyntaf ar lannau y pwll, yn chwarae rhyw gemau go ffrisgi,
Roedd nain yn grediniol mai blas bach oedd hyn o ddiwylliant yn eighteen thirty.
Cafwyd potel o ddiod am ddim gan y 'rep', stwff gwyn wedi ceulo fel gwenwyn,
A phawb yn troi'i wyneb, wel, pawb heblaw Nain, oedd yn meddwl ei fod fel llaeth enwyn.
Ymhen hir a hwyr fe aeth pethau yn flêr, wedi mwy fyth o 'liquid lunch',
A phan dagodd hedfanodd ei dannedd drwy'r aer a glanio'n y bwced punch.
Roedd hi'n fflyrtio â'r barman, yn dawnsio ben bwrdd, a'i rhegi'n troi'n fwyfwy anghynnes
Ond y ffeinal i bawb oedd pan fynnodd ei bod am dorheulo - a hynny yn topless!
Fe alwyd llysgennad i'w hebrwng yn ôl i'w chartref ym mhentref y Gaerwen
Ond fe gymrodd Nain ffansi at hwnnw mewn chwinc - mae o bellach mewn seilam yn Llunden.
A heddiw, a hithau 'di dod nôl i'w choel, yn sobor, ac eithaf di-anaf,
Mae hi newydd gyhoeddi, â thinc yn ei llais: "Dwi 'di bwcio i fynd nôl flwyddyn nesaf!"

Endaf ap Ieuan
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y CLWB

Ar fin y palmant llychlyd
ar gongl lom o'r dre,
a lleithder stêl hen frethyn
yn hongian hyd y lle;
mae un o glybiau hyna'r fro
a fu'n ymgynnull ers cyn co'.

Mae'n rhydd i bawb ymuno,
aelodaeth sy'n ddi-dâl;
fe gei di becyn croeso
pan aiff pob dim ar chwâl,
a meddu ar dy focs dy hun
o dan dy flanced wleb, ddi-lun.

Osgoi y caniau gweigion
yw defod mynd i'r gwaith,
a dal i gerdded heibio
wna'r siopwyr ar eu taith,
heblaw am ambell un a ddaw
i boeri arnat yn y glaw.

Aron Pritchard
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â SAETHU

O bellter fe deithiodd y tima'
Yn barod i saethu llinella',
A'u bwriad yw sgorio,
A fyddant yn llwyddo?
Wel Gerallt sydd biau'r shot ola'.

Rhys Llwyd
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â SAETHU

Mor c?l oedd 'rhen Jac-y-Do
yn eistedd mor hy ar y to,
arweinydd y gang
nes clywodd o fang,
a nawr mae 'di mynd. Ho. Ho. Ho.

Owain Rhys
8 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Aeth Wil yn syth i'w wely
A diawcs, nid yw yn ei d?

1 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Aeth Wil un syth i'w wely
Ar ôl dwy awr ar êl du

ENGLYN CYWAITH: CROESO ADREF

O ganol gwres y gynnen, y dychwel
O dawch câd ddiangen
A baner gwarth yn garthen
Drosto, fel pe'n serio'r sen.

Llyr Gruffydd
8½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: CROESO ADREF

Mae'n nos, ac i fan anwel, at yr ofn,
at yr ias rwy'n dychwel,
at y llais tywyll, isel
sy'n dweud ei ddweud, doed a ddêl.

Owain Rhys
9 pwynt

TELYNEG: DEALL

Mae ganddi flwch, ac ynddo'n haen ar haen
fe orwedd geiriau'i garu o'n ddi-staen,
yn dawnsio'n llafar i alawon hardd,
yn pefrio'n eofn â brwdfrydedd bardd.

Mae'i eiriau'n brin fel perlau erbyn hyn,
brawddegau'n cloffi'n flêr, yn glymau tynn,
ond er y seibiau hir a'i dafod gwyw
gall hi ddehongli ei farddoniaeth fyw.

Annes Glynn
9 pwynt

TELYNEG: DEALL

Heddiw
mor wag yw'n caffi ni.
Dim ond dau löyn byw
yn caru mewn cylchoedd
yn y golau.

Syllwn ar lwyau glân ar liain plastig
a gweld ein ddoe yn syllu'n ôl
wyneb i waered.

Cofiaf fel y dawnsiai ein llygaid ni
yn nyddiau
gwybod y cyfan.

Dyddiau heb 'sgidiau,
heb oriawr
nac amser cau...

Ond heddiw,
a'n llygaid yn gwisgo siwtiau,
rhyngom nid oes ond sibrwd dall
am hwn a'r llall
sy'n clatsio heibio
a'r glöynnod yn taro'r gwydr.

Rwy'n chwilio amdanaf
yn dy lygaid
ac am eiliad dw i yno
ond
dw i'n gweld fy hun
yn codi
a cherdded
drwy'r atgofion.

Mari George
9½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD - CERYDD:

Hynt Aelod yw mantoli - ei lwfans
A'i lif i'w bocedi;
Ar ddydd y fôt rhoddaf i
Ei naïfrwydd i'r cyfri'.

9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD - CERYDD:

(ceryddu plentyn bach)

Er dweud â brath rhyw dadol awdurdod,
a dwrdio'n fygythiol;
y bachgen o 'ngorffennol
llawn ei wên sy'n syllu'n ôl.

9 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'INC':

Dyna sioc - o dan y sinc
Yn yfflon roedd fy nghyfflinc.

O'n i'n sâl a 'mhen 'n y sinc
Yn hwylio efo 'Sealink'

Rhys Llwyd

Weithiau peth doeth yw 'rethink'
Un dwl iawn ry dasg odl 'inc'

Endaf ap Ieuan

I arbed yr hen eurbinc
Coler Twm rydd lawer tinc

Llyr Gruffydd

Os cimwch dry'i chwch mewn chwinc
Haws hwylio efo Sealink.

Nid Duw heriwyd gan Darwin
Cans o'i law cawn naws y linc.

Meirion Jones

Wigley hybodd y coglinc
Hywel yw un egyr glinc!

Ieuan Parri

PENNILL YMSON 'AR WELY ANGAU'

I'r carn bum yn sosialydd o Gymro
Ac i Lafur fe roddais fy llw,
Ond heddiw ymunais â'r Toris,
Wel, os marw, gwell colli un o'u rhai nhw.

(Gydag ymddiheuriadau i Oscar Wilde)

Rwy'n gaeth i olygfa f'ystafell
Heb wybod faint mwy gallaf ddal;
Ni wn i pa beth yr â gynta'
Ai myfi neu y papur wal.

Meirion Jones

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - ANIFAIL ANWES

Rwyt hwyl, yn un o'r teulu,
 hen hawl cei fod yn hy;
Dy awen yw ein henaid,
Ac amser arfer sy'n rhaid
A'th fwydo cyn mwytho mwy;
Traethiad o fewn ein trothwy
A hyder, sicrwydd ydwyt,
Ymrwymiad pob eiliad wyt.

Geiriau fydd ôl dy gariad
A hi'n hwyrhau heb barhad.
Byddwn ar goll o'th golli
A neb yn ein deall ni.

Meirion Jones

ENGLYN YN ENWI DWY GYNGHANEDD

Ddoe ei Urdd, heddiw i Erddi Covent
Lle cafodd ei gyfri'
O Fôn ar draws i'r Fenni
Sain ei nod a'n swyna ni.

Llyr Gruffydd

Fôt y goelbren bu 'leni - a'n hofnau
Yn ddefnydd i'r Natsi,
Mynd ar draws sy'n haws i ni
Na'r groes a ry'r goroesi.

Meirion Jones

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y CLWB

Cyn ymaelodi ag unryw glwb golff
Mae'n well i un ddysgu y termau
A deallwch chi rwan nad sôn am y sgôr
Os waedda i 'fore' dros y lawntiau.

Fis Mai aelod newydd a ddaeth i'n clwb ni,
Sef hwntw o ardal Glynarthen,
Yr iaith oedd y broblem, 'doedd pawb ddim yn dallt
Pan soniai am shot efo'i wejen.

'Doedd dim trafferth deall wrth drafod y sgôr,
A geiriau fel 'eagle' neu 'bogie',
Ond sylwodd sawl un fod o'n gwenu yn slei
Bob tro byddai'n sôn am gael 'birdie'.

'R ôl gorffen ei rownd, ar ei union i'r bar
Aeth boio i yfed a sgwrsio,
A gwthio'n ddigwilydd at griw o'r rhyw deg
Gan nid ar y cwrs roedd o'n sgorio.

Mae'n dda gen i ddeud fod pob birdie yn saff,
Symudodd o'n ôl i Lynarthen,
'R ôl cael ei ddiarddel fel aelod o'r clwb
Am frolio par cariad y capten.

Rhys Llwyd

LIMRIG YN YMWNEUD Â SAETHU

Bu cwpwl, arferai reoli,
Yn beryg fel gwn am eirioli,
Os Tony oedd ffraeth
Cherie oedd fel saeth -
Fo'n tanio, hi'n gwneud y bwledi.

Aeth Gerallt i'r goedwig a helodd,
A dynes noethlymun a welodd;
Gofynnodd mewn stêm
Os oedd hi yn gêm,
Atebodd ei bod, ac fe'i saethodd.

Meirion Jones

Aeth Robin a Marian b'nawn Mercher
I'r goedwig i chwilio am swper.
Wrth 'nelu at ddraig
Mi saethodd ei wraig.
Medd hithau "I'm all of a quiver".

Llyr Gruffydd

ENGLYN CYWAITH: CROESO ADREF

Doe dy aur fu'n agor dorau - i fyd
Drodd yn faich heb ffrindiau,
Yn yr hwyr, edifarhau,
Cyn gwawr ein cinio gorau.

Meirion Jones

Rhyw faddau sydd mor rhyfeddol - yw'r hyn
Wna rhieni'n reddfol
I ni efo'u 'Croeso'n ôl'
O gariad gwir ragorol.

Rhys Llwyd

TELYNEG: DEALL

Eisteddem ar y balcon
Fy wyres fach a ni
Yn gwylio gwyllt brysurdeb
Ar eira llethrau'r sgî
Trodd taid i athronyddu
Am Lowry a'i grefft slic
O rywsut animeiddio
Llond stryd o bobol pric!

Deg gair oedd gan y fechan
Yn ei hystorfa hi
Ond tri o'r deg oedd ddigon
I dynnu llun i mi.
Tra gwyliai'r traphlith symud
Wrth ddisgwyl mam a thad
Syml oedd ei neges fach -
Dim ond "mynd a d?ad".

Llyr Gruffydd

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'INC':

Am bryd enbyd, hufenbinc!
Syrth, semolina, lawr sinc!

Owain Rhys

Yn y bôn, nid yw ji-binc
(yr hollbeth) yn wir hollbinc.

Aron Pritchard

Fe gaiff 'rhen chwannen a'i chwinc
wobli wrth agor weblinc!

Llion Pryderi Roberts

PENNILL YMSON 'AR WELY ANGAU'

Rwy'n blasu dafnau'r heli llaith
sy'n dweud mai'r môr yw pen y daith,
ac erfyn wyf o'r erchwyn mawr
ar griw i fwrw'u hangor lawr,
gwrando'n astud, lleddfu'r lli,
a maddau'r hyn na allaf i.

Owain Rhys

(ymson Gelert)

Nid clwyfau'r blaidd na thrawiad y cledd
ddaw ag awr fy marwolaeth i,
ond chwalu fy nghalon pan syllaf i fyw
dau lafn dy amheuaeth di.

Llion Pryderi Roberts

Nid yw yfory'n dal un difyrrwch
â mi yma, arhosa fy nryswch
i fwyta fy mêr, yn gancr o flerwch,
yma a'i ias yng nghrasder fy mheswch,
wyf yn lleddf cyn trof yn llwch - mor arw
ydyw i farw mewn edifeirwch.

Aron Pritchard

ENGLYN YN ENWI DWY GYNGHANEDD

Bwthyn

Er symud y cerrig mudan draws gwlad
a rhoi sglein i'r cyfan,
mae'r gwir, y bwrlwm a'r gân
dan huddug ffug Sain Ffagan.

Owain Rhys

LIMRIG YN YMWNEUD Â SAETHU

Mewn ennyd ryfeddol o ffôl,
fe saethais fy hun drwy 'mhen ôl;
ers hynny mae cerdded
lein syth yn job galed
a hunlle 'di eistedd ar stôl.

Rhys Iorwerth

A glywsoch am fardd o Fethesda
aeth i'r ardd i saethu fo'i ffrindia,
ond trodd petha'n flêr
pan fu i'w wraig, Claire,
gael affêr 'fo dynes drws nesa'.

Ifan Pleming

Mi saethodd rhyw giamifardd o Besda
y Meuryn bach clên rhwng 'i goesa,
a geiriau'r Howget
yn dalog oedd "Bet
am fwlsei y caf ddeg o farcia."

Ifan Pleming

Roedd bardd oedd yn byw yn y Dolau
yn cael marciau mor wael am gywyddau,
un diwrnod ar frys
fe gododd ddau fys
a'r Meuryn a gafodd Shotolau.

Mari George

Roedd Ciwpid di meddwi un noson
a methodd ei annel yn gyson,
a nawr fod y Meuryn
mewn cariad â phobun
rwy'n siwr y caf ddeng marc er nad yw'r limrig ddim yn gorffen nac yn odli'n iawn!

Llion Pryderi Roberts

ENGLYN CYWAITH: CROESO ADREF

(y tro cyntaf wedi colli aelod o'r teulu)

Aeth y barrug, ond deil hugan - o rew
cadair wag i loetran
dros hin y gegin, a'i gwân
o gesair yn y gusan.

Llion Pryderi Roberts

(wrth baratoi i symud t?)

Down adref o'n Mehefin - ond heno,
ar ôl gwagio'r gegin,
troi a wnaeth ein cartre ni'n
aeafol anghynefin.

Rhys Iorwerth

(y Mab Afradlon)

A'i sen mor ddigamsyniol - ar y tir,
yd hyll y gorffennol,
awn yn awr, o'i gael yn ôl
i hau hadau'r dyfodol.

Aron Pritchard

TELYNEG: DEALL

Rhyw ddydd, rhyw fis yn ôl,
fe feddwais, fe sylwais, fe sgwennais
lythyr at dad, a'i holi...

Ti'n cofio Dôl Feredydd
yn drwm dan lygaid y dydd?
Y farf a'r ferfa
pêl-droed am oria'?
Perllan yn Gae Ras
a hanner amser byth yn dod?

Ti'n cofio'r ysgol dan ei sang?

Y tri ar ddeg
yn chwarae, dysgu, brifo, bod?
Gari Tryfan a'r Llewod?
Roy Race a'r llong ofod?

Awr Fawr o brofi'n byd...

Nes i deulu'r teledu
bwyso botwm
Armagedon.

Poen y golled, ing y cof.
Cariad wedi darfod,
plant yn peidio â bod.

A ninnau'n colli 'nabod.

Ond heddiw,
er y moroedd rhyngom,
mae haul ar D?r yr Eryr,
a thair alarch ar ddeg
yn llifo
rhwng Porth yr Aur a'r Foryd.

Rhyw ddydd, rhyw fis yn ôl,
fe feddwais, fe sylwais,
fe sgwennais
lythyr at dad,
a llonni...

Owain Rhys

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.