Manion o'r Mynydd v Aberhafren
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gogynderfynol y Talwrn.
CWPLED YN CYNNWYS Y GAIR 'OFER':
Oni ddewisi fyw'n ddoeth
Ofer yw byd o gyfoeth
Nia Watkin Powell
8½ pwynt
CWPLED YN CYNNWYS Y GAIR 'OFER':
Mor ofer fo'th dynerwch
wedi rhoi dy gleisiau'n drwch
Llion Pryderi Roberts
8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - TECHNOLEG
Mae e-bost yn fendith
I yrru i'w hynt
Y tasgau i'r Talwrn
I gyrraedd yn gynt
Os nad yw y trydan
Yn mynd efo'r gwynt.
Phyllis Evans
8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - TECHNOLEG
A minnau 'di prynu compiwtar mawr newydd,
'na ffodus 'dw i mod i'n nabod technegydd
sydd wastad wrth law pan fydd problem beiriannol,
ond dwn 'im be wna'i pan ddechreuith o'r ysgol!
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - DINAS
(I Ysgol Gymraeg Bryntaf, Caerdydd. Yr oedd yr ysgol, pan oeddwn i'n ddisgybl yno, o fewn ychydig lathenni i ffin ogleddol y ddinas, a'r caeau.)
Ni ddaeth mwy nag un neu ddau
 chred i'r dechreuadau
Law yn llaw, yn groes i'r llif
Yn holl lifrai lleiafrif,
Rhyw res fain o'r oes a fu
A'u hysgol wedi'i gwasgu
I eithaf ffin y ddinas
Yno i fod ar y tu fâs,
Ond, er rhoi pob rhwystr i'w hynt,
Ebrill o weddill oeddynt,
Egin glas dinas Caerdydd,
Y nhw yw'r Gymru newydd.
Nia Watkin Powell
10 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - DINAS
Y mae trawiad nos Sadwrn
yn dod i Lundain mewn dwrn,
un llafn yng nghanol y llu
ar unwaith sy'n trywanu,
i droi holl fonllefau'r stryd
yn adlef olaf waedlyd.
Ym mhen amser, daw cerydd,
arllwys dagrau dechrau'r dydd
wna torf wedi'r weithred hyll
ar goll mewn bro o gyllyll,
yn dorf sydd â'i phryder dwys
yn tyfu ar lan Tafwys.
Aron Pritchard
8½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YN ARAF IAWN YR AF I"
Huno'n hollol borcyn o'n i - am awr
Ar 'y mol yn poethi,
Â'm dwyfoch wedi cochi
Yn araf iawn yr âf i!
Cynan Jones
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YN ARAF IAWN YR AF I"
Cancr
Yn araf iawn yr af i; o fymryn
i fymryn, mynd ati
yn dawel tan y deui
i'm teimlo'n dy hawlio di.
Rhys Iorwerth
9½ pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y DEG GORCHYMYN
10 Gorchymyn - (i wleidydd uchelgeisiol)
1.Pan fydd cwestiynau gan yr holwyr cas
Yn cymell ynot ryw hen eiriau bras - Gwena
2.Pan fydd un o deulu'r Plas dan ryw anhwylder
Cofia ddangos dy fod ti yn llawn pryder - Cydymdeimla
3.Pan gei di'th wâ'dd i hwylio'r Caribî
Ar gwch rhyw swltan neu filiwynydd mawr ei fri - Derbynia
4.Os cei di rywdro gyfle i 'sgwennu llyfrau
A'th ddesg yn bentwr mawr o gytundebau - jest Arwydda
5.Pan fydd 'one of our boys' yng ngwaelod ffos
A'i deulu'n methu gweld gwawr trwy oriau'r nos - Galara
6.Pan fyddi di angen inc i'r cyfrifiadur
Neu dalu i g'neither nain i gadw dy ddyddiadur - Clêmia
7.Os cei di gyfle i ganlyn rhyw seleb
A thithau yn ei hoffi - wel, mwy na heb - Prioda
8.Pan gei dy ddal yn gwneud rhyw bethau drwg
A'r wasg yn amau nad oes tân heb f?g - Ymddiheura
9.A phan fydd pethau wedi mynd reit i'r pendraw
A ffrindiau ffyddlon hefo cyllell ym mhob llaw - Ymddiswydda
10.Ac os yw pethau yn dal i fynd yn waeth
Gâd dy sgidiau a'th holl ddillad ar ryw draeth - a Diflanna
Cynan Jones
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y DEG GORCHYMYN
Daeth Moses i lawr o'r mynydd
â cherrig ar ei gefn
yn rhefru a tharanu
fod Duw yn dweud y drefn.
Pan holwyd am ryw reswm
edrychodd yn reit syn,
'Mae'r ateb wedi'i sgwennu'n
y blip-ing cerrig hyn!'
'Ond Moses, does 'na'm sillaf
'di gerfio ar y graen',
medd un delw-addolwr
yn amlwg dan y straen.
'O blip-ing blip!', medd Moses,
anghofiais dalu'r ffi,
a doedd gen i ddim signal
pan sgwrsiodd Duw â fi.'
Felly beth yw'r deg gorchymyn
yw'r cwestiwn, beth yw'r sgôr?
Dim rhyw, dim bwyd, dim joio?
O blip, o dyna bôr.
Owain Rhys
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD AG ENWOGRWYDD
Mae'r miloedd sy'n dod i Borthmadog
Yn gwybod yn iawn am law Stiniog,
Bedd Gelert, gi ffyddlon,
Yr Wyddfa, Portmeirion
A'r Manion o'r Mynydd, fyd-enwog.
Edgar Parry Williams
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD AG ENWOGRWYDD
Fe gawn ni ddeddf iaith yn reit handi
heb gyfaddawd nac angen am oedi,
a chael goruchafiaeth
ar Brown a'i lywodraeth
os ffendiwn gwrs Wlpan i Lumley!
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Ym mhob cwr y mae baw ci
Cic o ergyd gei'r corgi
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Wrth redeg, rwyf yn rhegi
Ym mhob cwr y mae baw ci
1 pwynt
ENGLYN CYWAITH: FFWLBRI
Afonig yn llifo i fyny - byw'n gant
Heb un g?yn, a Chymru'n
Rhydd o faich taeogrwydd fu,
Unwaith mi gredwn hynny.
Nia Watkin Powell
8½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: FFWLBRI
(y digrifwr)
Yn hysterics pob un stori hwyliog,
ni welwn pan chwerthi
golyn dwfn dy galon di'n
rhoi ei ddagrau mor ddigri.
Ifan Pleming
8½ pwynt
TELYNEG: CWRTEISI
(Y Newyddion)
Am ddeg o'r gloch mae'r drwmiau'n seinio'r awr
A llef penawdau brwnt yn llenwi'r t?;
Fy ll'gadau'n llawn helbulon plant y llawr
Sy'n boddi'n nagrau oer eu dyddiau du;
Cysurlon, antiseptig yw y llais
Sy'n datgan bod trychineb yn rhyw dir,
Rhoi rhybudd corfforaethol rhag gweld trais
Gan aros ar yr ochor lan i'r gwir.
Ac yna cawn anwesu'r seren wib
Sydd heddiw'n meddwi ar ei thalent drud
A chlywed am y wasg yn torri crib
Y seren a fu ddoe yn dallu'r byd.
Yn wylaidd, diolch wnaf i'r BBC
Am warchod pawb rhag fy hunllefau i.
Cynan Jones
8½ pwynt
TELYNEG: CWRTEISI
Trwy gil dy ddrws
fe'u gweli
yn camu'n rhwydd i'w haf,
yn agor drysau'n dawel,
ysgwyd matiau
a llwch eu tarfu ysgafn
yn dy dagu.
Mae'r byd o glecs
dros stepen drws
a radio fach
mewn poced ffedog
'di pylu, erbyn hyn,
'da clêr
wrth droed y llenni.
Mae'r siarad nawr
dros glawdd
yn bell a chwrtais.
Ond,
rwyt ti'n cynhesu dipyn bach
ar ôl gaeaf
o eira heb olion traed
a llenni llonydd.
Ac er gwaetha'r hyn a gredaist
hyd dy oes,
er gwaetha iaith dy fam,
rwyt ti'n derbyn gwres eu lleisiau
yn dy wal.
A phan ddôn nhw draw i fenthyg
hwn a'r llall
agori di dy ddrws
a'u gadael mewn
i gymryd
beth y mynnant.
Mari George
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD - TALU'N ÔL:
Cofia heddiw, os procio fyddi - fôn
Tomen faw gwrthun i
Eraill, er ymglodfori,
fe ddaw dydd dy faeddu di.
8½ pwynt
ENGLYN AR Y PRYD - TALU'N ÔL:
Cododd wal rhwng dwy galon - o hawlio
ei heiliad anffyddlon,
a thrwy'r wal, mae hi'n ei thro'n
dal i waedu dyledion.
Rhys Iorwerth
9½ pwynt
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED YN CYNNWYS Y GAIR 'OFER':
Nid yn ofer bu'r herio
Â'r iaith yn cropian trwy'r fro
PENNILL MAWL/DYCHAN - TECHNOLEG
(Emyn mawl i'r Tom-Tom)
Wrth i'm grwydro yn fy ngherbyd
Mil filltiroedd rownd y wlad,
Cael dy gwmni wrth fy ymyl
Sydd yn gysur a boddhad.
Rwyt ti wedi mapio mywyd,
Ti sy'n arwain rownd bob tro,
Galli enwi yr holl lwybrau
Rwyt ti'n nabod pob un bro!
Gwyddost ti yr awr a'r eiliad;
Beth i ddisgwyl ar fy hynt.
Gocheli di yr holl drafferthion
Er mwyn gwneud fy nhaith yn gynt.
Ti sy'n dweud fod rhaid arafu
Os yw'r droed yn gwasgu'i lawr.
Ti sy'n gweiddi i rybuddio
Goruchwyliaeth camra mawr!
Ac wrth ddiodde ffordd-gynddaredd
Pan 'rwy'n sdyc mewn traffig jam,
Mae dy lais gerllaw i'm tywys
I'r lôn arall heb un nam.
Cyfarwydd mawr pob trac a thraffordd
Pan fo'r siwrne'n hir a maith,
Gwn caf ynot ti ymddiried
Nes i'm gyrraedd pen y daith.
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YN ARAF IAWN YR AF I"
Yn huno'n noethlymun o'n i - am awr
Ar 'y mol yn poethi,
Â'm dwyfoch wedi cochi
Yn araf iawn yr âf i!
LIMRIG YN YMWNEUD AG ENWOGRWYDD
Dirmygwn yn awr ein gw?r enwog
Y rhai fu'n pocedu dau gyflog,
Eu rhaib ar dren grefi
Gwleidyddiaeth sy'n peri
I'w henwau nhw ddrewi'n gynddeiriog.
Aelodau seneddol ysywaeth
Sy'n enwog am lygru llywodraeth,
A'r haid ddirifedi
Yn cuddio'u bwcedi
Wrth odro tren grefi gwleidyddiaeth.
Mae'r Meuryn yn enwog am farcio
Ein tasgau yn deg, ac egluro
Gwaith tywyll beirdd mân,
Telyneg neu gân
A limrig fach lân sy'n ei blesio.
Mae'n anodd dallt sut mae'r Gweinidog
Yn gwybod am gyni'r newynog
Ac yntau yn pesgi
Fel bustach mawr lysti.
Am gladdu bisgedi mae'n enwog.
Mi wn i am ddyn aeth yn enwog
Wrth chwenych mam merch ei gymydog,
A'i chwaer a'i dwy nain,
Rhai tenau fel brain,
Ond toedd o'n gi drain dau wynebog.
'Rwyf fi, ac mae pawb yn cytuno,
Y gwaetha'n y byd am rifersio,
Mae nghar i yn wreck
Am fod gen i stiff neck,
Pan glywa'i glec fyddai'n brêcio.
Os Elen a'i gwewyr angerddol
Roes enw i Groesor yn wreiddiol,
Mae adlais o'i chri
Am "groes awr i mi"
Eleni rhwng meini'r hen ysgol.
(ON Mi gaewyd Ysgol Croesor eleni)
TELYNEG: CWRTEISI
Dan felltith dydd ei huniad
a hi'n sglyfaeth
ym mhawen llw.
Brathiadau geiriau
yn gwasgu
drwy feinwe'i chnawd creithiog,
a'u brad
yn nofio ar ferw'i gwaed.
Dialedd cusannau
yn ffrwydro'n gawod o ddyrnau.
Tyndra'i fraich
yn cofleidio'i chleisiau,
a hithai'n gaeth i'w gesail oer.
Picelli ei lygaid
yn trywannu'r twyll,
a'i wên yn treisio'i ffydd.
Ond yng ngrym ei thawelwch
a'i hymbil diolchgar,
mae'r sgrechiadau mud
yn rhegi'r cwlwm aur.
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED YN CYNNWYS Y GAIR 'OFER':
Heb gof mae heddiw'n ofer,
a bywyd yn funud fer.
Mari George
Nid ofer yw'n bwyd hefyd
i rai bach ym mhen draw'r byd.
Aron Pritchard
PENNILL MAWL/DYCHAN - TECHNOLEG
Wrth lunio llafn o'r garreg
orweddai yn ei gol
ni welodd oblygiadau
i'w ddisgynyddion ffôl
dim ond y ceirw'n crwydro'r paith
a'r haul yn teithio'r gorwel maith.
Owain Rhys
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - DINAS
(Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd)
Yn y ne'n tywynnu'n ir
mae'r haul yn ymwroli'r
haf a'i lais, er dwyn ei floedd
i anwesu'n dinasoedd;
a haul bach yn hawlio bae,
yn ei chaer mae ei chwarae'n
rhoi cân ar farrug heniaith
a rhoi gwên Gymraeg ei hiaith;
ond deil o hyd ei wawl o,
er i'w ?yl ein ffarwelio,
i weu'i huodledd heddiw
drwy y lle'n belydrau lliw.
Llion Pryderi Roberts
(Dinas Dinlle)
Ti'n cofio'r tro ar y traeth
un ha, cyn bod amheuaeth?
Sbliffs a chaniau lagers blêr
a'r rheini ar eu hanner,
a'n Hawst yn toddi'n glwstwr
o liwiau ar donnau'r d?r.
Cwrw a mwg hwyr y môr,
tamaid o ddiwedd tymor,
a sêr y nos, o roi naid,
yn agor yn dy lygaid.
Hyn oll sydd wedi'i golli
yn s?n a llais hen y lli.
Rhys Iorwerth
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YN ARAF IAWN YR AF I"
Baby 'P'
O'u cofio yn dy daro di - y loes
a'r cleisiau 'mhob stori,
at y bedd lle gorweddi
yn araf iawn yr af i.
Aron Pritchard
LIMRIG YN YMWNEUD AG ENWOGRWYDD
Roedd hi'n freuddwyd gan Enoch y draenog
i dyfu yn ddraenog mawr enwog
ond ers i Enoch y draenog
fynd dan lori yn grempog
nid yw nawr yn enwog na'n bigog.
Rhys Iorwerth
(y cyfle mawr)
Bu bron i Dai ni fod yn enwog,
Negesydd ddaeth ato yn dalog
'Jest deud ydw i,
for a small fee,
mi gewch chi fod yn Brif Weinidog.
Ifan Pleming
Cai gog aeth i fyw yn Llangrannog
y drafferth ryfedda 'da'i falog,
roedd ei blant hyd y lle
o'r gogledd i'r de.
Yn llyfr Guinness mae'n hynod o enwog.
Mari George
ENGLYN CYWAITH: FFWLBRI
Try hanes iâr mewn cariad, a gwennol
yn gwau oen o ddafad,
a llo yn lliwio'r lleuad
yn wir doeth drwy stori dad.
Owain Rhys
TELYNEG: CWRTEISI
(pasio tref sianti yn Varna, Bwlgaria)
Fe wegiai ar ei hestyll yn y gwres
a dymchwel drosti'i hun o dop y dre,
yn breniau a sgaffaldiau res wrth res
a'i chytiau yn cofleidio dros y lle;
fe syllem ac fe gyfrem bob un sgwâr
o'r blerwch a ddisgynnai fesul to,
cyn estyn draw drwy ffenest gefn y car
i dynnu llun wrth yrru heibio'r tro.
Ni thynnais lun, lle ildiai'r ffordd i'r llwch,
o'r criwiau yn sefyllian efo'u c?n,
yn cyfrif llif y traffig oedd yn drwch,
yn syllu ar ein ceir yn cadw s?n,
gan imi gymryd arnaf edrych draw
pan welson nhw fod camera yn fy llaw.
Rhys Iorwerth
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

