C?ps v Taeogion

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gogynderfynol y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'OM':

Yn y dafarn rhad arnom
A dau beint yn costio bom.

Huw Meirion Edwards
8½ pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'OM':

Gwledd haws i'r t? a gawsom -
Têc-a-wê yw'r bwyd dot.com.

Emyr Davies
8½ pwynt

PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL

Tawelwch sy'n clecian gan eiriau
Ein mil o flynyddoedd o hud
A thra maen nhw'n dawnsio ar dafod
Ni fydd y tawelwch yn fud.

Arwel Jones
8½ pwynt

PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL

Mae gen i bennill ymson.
Rwy'n barod nawr i'w ddweud.
Ond rheol aur y llyfrgell
sy'n f'atal i rhag gwneud!

Ceri Wyn Jones
8½ pwynt

CYWYDD SERCH (HEB FOD DROS 12 LLINELL)

Tra bydd Llanddwyn, myn Dwynwen,
A'r Frenni'n fawr dan wawr wen,
Tra halen yn lli'r Fenai
A chân Teifi'n moli Mai,
Fe fydd (o bob rhyfeddod
Ym mhen bardd y mwya'n bod)
Rhyw ran fach o'r hyn a fu
Yn aros. Deil, yfory,
Ein geiriau'n atgo oerias
Yn sisial hesg Ynyslas;
Deil ôl ein troed hyd lan traeth
A'r môr yn drwm o hiraeth.

Huw Meirion Edwards
9½ pwynt

CYWYDD SERCH (HEB FOD DROS 12 LLINELL)

(I Mam)

Hi'r fynwes gynnes i gyd,
a Mai bob mis o 'mywyd,
hi siarad lawn cysuron,
hi wawr liw, ac ar y lôn
hi ddal llaw pob taith lawen
yn dynn iawn... cyn mynd yn hen.

Mae Mai yn dawel mwyach
hyd lôn hir y feidir fach,
ond yma â'i gwên daw i'm gwydd,
dod i dorri'r distawrwydd
yn awr gan rannu'r stori:
y mae fy Mam efo mi.

Tudur Dylan Jones
9½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "HENO Y MAE'N WAHANOL

I'r Taeogion

Neithiwr 'doedd neb mwy 'tebol - yn y tir,
Y tanc yn llawn petrol
A'u hyder nhw'n ddi-droi'n-ôl.
Heno y mae'n wahanol.

Huw Meirion Edwards
8½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "HENO Y MAE'N WAHANOL

T. Llew (ar draeth Llangrannog)

Dywedai'i stori'n dadol, a'r ogof
rugl, fel merch ysgol,
oedd yn hoff o'i hadrodd 'nôl -
heno y mae'n wahanol.

Ceri Wyn Jones
8 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YR OCSIWN

'Tai i bobol leol' oedd y slogan
A frithai ei ddadleuon pan yn iau,
Nid oedd arwerthwyr ond rhyw genfaint aflan
Na faliai am barhad ein bröydd brau.
Y dyddiau hynny 'rhaid rheoli'r farchnad'
I atal y mewnlifiad, doed a ddêl,
Ac wrth herio'r gyfalafiaeth anfad
Fe ddaeth yn agos iawn at fynd i'r jêl.
Ond nawr, ac yntau'n hen fe gymedrolodd,
(Mae'r frwydr wedi'i cholli, dyna'r ffaith).
Ac ar ei bensiwn pitw sylweddolodd
Fod angen pres i fyw hyd ben y daith.
A dyna pam na theimlodd fawr o gwbwl
Pan aeth ei etifeddiaeth dan y morthw'l.

Dafydd Morgan Lewis
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YR OCSIWN

Mi es i safle ocsiwn, y gorau ar y we,
Ac mae pawb yn sôn amdano, o'r gogledd lawr i'r de.

Safle i brynu cerddi, rhai'n rhad, rhai'n costio bom,
Cewch afael ar drysorau yn cerddic?l.com.

Mae'n safle i werthu cerddi yn gain mewn llawysgrifen,
Aeth 'Fy Ngwlad' am ugain mil gan y Prifardd G. Lloyd Owen.

Ymweld mae Dafydd Pritchard â'r safle ar adegau,
Ddim i brynu yn yr ocsiwn, dim ond i ddwyn syniadau.

Ond mewn sesiwn wythnos dwytha' aeth pethau'n reit annifyr,
Caed rhegi a chaed ffraeo er mwyn ennill 'Y Tangnefeddwyr'.

A rwan mae 'na ocsiwn am wreiddiol 'Y Gododdin'
Wedi'i arwyddo ar y gwaelod yn gymen gan Aneirin.

Meddai Dafydd Morgan Lewis, dwi ddim am fidio gormod
Gan fod llun gan Aneirin gen i ar wal y lownj yn barod.

Er gwario ar Dinistr Jeriwsalem, mae Oernant dal am ennill,
Mae am fynd a'i siswrn ati, a'i gwerthu fesul pennill.

Mae trysorau o gerddi yno gan feirdd o wir arddeliad,
Ac mae un o rigymau Rocet yno mewn camgymeriad.

Tudur Dylan Jones
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â THORRI'R GYFRAITH

Clywais ddoe o le dibynadwy
Fy mod i o dras Gwyllied Mawddwy
Tra bod y Meuryn
I'r Barwn yn perthyn -
Gall heno droi'n noson gofiadwy.

Dafydd Morgan Lewis
8½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â THORRI'R GYFRAITH

Am gafflo a gwneud 50p
o Dalwrn y Beirdd BBC
drwy hawlio'r cost teithio
o Blwmp i Langeitho,
gobeithio ca'i fynd yn MP.

Ceri Wyn Jones
9 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Nid y dryll ydyw'r allwedd
Drwy yr oen y daw yr hedd

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Nid y dryll ydyw'r allwedd
Na nid y dryll, ond yr hedd

1 pwynt

ENGLYN CYWAITH: SAT NAV

Yn arf ar siwrnai hirfaith, - a oes Llyw,
A oes llais Cydymaith
Yn dy gynnal di ganwaith
Hyd y doi i ben dy daith?

Iwan Bryn James
9 pwynt

ENGLYN CYWAITH: SAT NAV

Er gwbod gwerth adnode swrth y llais
wrth y llyw, dwi withe'n
gwbod yn iawn fod fy ne'
ffor' go whith i'w phregethe.

Ceri Wyn Jones
9 pwynt

TELYNEG: GORWEL

Rhywle yn fan'cw ar fôr dychymyg
tu hwnt i afael emosiynau ffyrnig
rhyw gerdd sy'n stwyrian, mae'r geiriau'n styfnig;

yn rhy ystyfnig. Ym mrig y tonnau
eu gweld nhw'n codi, gostwng, diflannu weithiau,
yn boddi fallai hwnt i'r ymchwyddiadau;

yn rhy bell i'w cyffwrdd, rhy amwys i'w nabod
na'u cystrawennu. Ond yn s?n gwylanod
y mae blas yr heli yn hallt ar dafod,

a phawb ym myd eu prysurdeb yn pasio,
a'u cotiau'n dynn, fel cysgodion heibio
i synfyfyrion stond yr un fynnodd stopio ...

A rhywle rhwng fan'cw a'r gwynt a'i rethreg
yn chwip ar wyneb, a diferion aestheteg,
yn ochenaid rhyw don fe ildir telyneg.

Dafydd John Pritchard
10 pwynt

TELYNEG: GORWEL

(wrth edrych o ysbyty Aberteifi tua'r afon)

Daw haid o elyrch o hyd i hwylio
Ar hyd y d?r dan y ceir didaro;
A thua'r aber dan lithro heibio,
Daw'r elyrch fel gwarchodwyr i wylio
Un lan sy'n annwyl yno, yn encil
I frwyn eiddil rhag llif yr heneiddio.

Mae llygaid araf yn gwylio'r afon
O'u hencil hafaidd yn ward y cleifion,
Er gwael eu gafael ar ffrâm atgofion
Fel adlais, adlais... maent eto'n fodlon
Unwaith daw'r elyrch gwynion - i'w dychwel
Oddi yno'n dawel at orwel tirion.

Emyr Davies
9½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD:

Canlyniad

I Nick Griffin

A siwt ei glochdar garw'n - rhy raenus
Ar sgriniau, fe glywn
Am eiliad y chwe miliwn
Yn fud o hyd ym mhen hwn.

9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD:

Canlyniad

"Fy ngwlad, fy ngwlad", eu pader: am hynny,
er meined eu baner,
y mae, yn nüwch ein mêr
BNP 'n rhannu p?er.

9½ pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'OM':

CANGÁRW (fel naid drwom!) -
CANGAR? heb acen grom.

Huw Meirion Edwards

Erys sen a llawer siom
Ein hanes yn boen ynom.

Iwan Bryn James

Yn y dre rôl noson drom,
Huno wna rhai ohonom.

Iwan Bryn James

I bob un sydd am wneud bom,
Hitiwch a holltwch atom.

Iwan Bryn James

PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL

Mae dyn 'fo mwstash fatha brwsh
Sy fodfedd o nghyrru o ngho'
Â'i gytgan ddiddiwedd o 'SHWSH'! -
Dwi jyst a deud 'SHWSH wrtho fo!

Arwel Jones

Tawelwch sy'n clecian gan leisiau
Ein mil o flynyddoedd o lên
A thra maen nhw'n dawnsio 'r fy nhafod
Ni fydd run cymeriad yn hen.

Arwel Jones

Yma mae dysg a dychymyg
Yn plethu trwy'i gilydd yn lli
Yn rhedeg dros greigiau'r ymwybod
I hebrwng yr awen i ni.

Arwel Jones

CYWYDD SERCH (HEB FOD DROS 12 LLINELL)

(Hyder)

O dan ei gôt, dyn i gyd,
Yfwr heb ei ail hefyd.
Yn ddihareb o rebel
Yn un jarff dan haen o jel.
Ryw adyn tra siaradus
Yn Russle Brand crand mewn crys.
Ond â Gwen yn llgadau'i gyd
A'i gwen fel hufen hefyd
Yn dwyn ei awen, Gwen gu
Aflonydd ... gwêl diflannu
Y mae'r ffrwd o hiwmor ffraeth,
Y llew yn troi'n oen llywaeth.

Gruffudd Owen

ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "HENO Y MAE'N WAHANOL

Er ffyniant ein gorffennol, - yn erwau
Mieri'n presennol,
Ni ddaw i ni ddoe yn ôl,
Heno y mae'n wahanol.

Iwan Bryn James

LIMRIG YN YMWNEUD Â THORRI'R GYFRAITH

Fe glywodd fy hen Wncwl Pitar
Fod Gwynedd yn si?r o gael carchar.
Mynte fe: "Ma' North Wêls
Bob wan jac off ddy rêls
Os yw pawb 'no'n y jêl, ie myn yffar."

Geraint Williams

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'OM':

Erys holl fileindra'r Somme
A'i riddfannau'n reddf ynom.

Emyr Davies

PENNILL YMSON MEWN LLYFRGELL

Ym mhabell geiriau (ac ambell gorryn),
pan fo s?n gorchest yn inc pob testun,
twrw dinodedd ymhob troednodyn,
a bloedd fel miloedd gan hen ddail melyn;
na holl frawl y llyfrau hyn yn fy nghlyw,
huotlach ydyw tawelwch wedyn.

Ceri Wyn Jones

LIMRIG YN YMWNEUD Â THORRI'R GYFRAITH

Cael fy ngwneud am lên ladrad wnes i
ond dwedais wrth y Barnwr o fri,
"Duw cariad yw,
a gwae fi fy myw,
ac felly - Beth yw'r ots gennyf fi."

Tudur Dylan Jones

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.