Tir Mawr v Dinbych
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gogynderfynol y Talwrn.
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL':
Ni ddaw'n s?n na ffydd na sêl,
I'r rhai glyw mae Duw'n dawel.
Huw Erith Williams
9 pwynt
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL':
O Dduw, pam gwnaeth Dafydd Êl
roi heibio bod yn rebel.
John Glyn Jones
8½ pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - RHAGLENNI GARDDIO
Decking drud a blodau hardd
Es Pedwar Ec sy'n talu
Myfi sy'n siarad am fy ngardd
Ac eraill yn ei phalu
Gareth Jones
9 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - RHAGLENNI GARDDIO
Rhaglen i'r teulu sydd dda i ddyn:
Dwi'n plannu'r musus o flaen pob un;
Mae hi'n Byw yn yr Ardd
Fel rhyw bicsi bach hardd
Tra 'mod innau'n mwynhau fy hun.
Eifion Lloyd Jones
8½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS TEITL DAU LYFR CYMRAEG
O heneiddio fy nyddiau'n ara deg,
Rhoi 'Dur yn y Nerfau'
Fynnwn i, cael ail fwynhau
'Ugain Oed a'i Ganiadau'.
Gareth Williams
8½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS TEITL DAU LYFR CYMRAEG
Tryweryn
Ni fu yr un chwalfa waeth - na honno
a unodd gymdogaeth,
a hyd lôn ein chwedloniaeth
yn garreg wrth garreg aeth.
Berwyn Roberts
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BAI AR GAM
Dwi rioed wedi canfod pa mor fach ydi bach
na faint o blant fasa'n llenwi sach
fasa tri o rei bach yn ddigon ta be?,
ne ella bump o rai bach bach ynde,
faint tybed sydd isio i gael sach llawn?
a aiff na ddeg o rai bach iawn iawn?,
neu ella yr ai na heb fawr o sdrach
fwy o lawer sa nhw'n fach, fach, fach
a pha fath o greadur ydy'r brawd ron bach
ydy o'n llai na mawr am nad ydy o'n iach?,
fasa dau ron bach tena' yn gneud un tew?,
fasa tri ron bach yn gneud un go lew?,
a tydwi'm yn siwr yn fama yn awr
am genod mawr bach na genod bach mawr,
a beth am fymryn, be di hanas hwn
neu'r mymryn lleiaf, ydy o'n sgwar ta chrwn?,
ydy corrach yn fychan, pa mor fawr ydy cawr?,
ydy hwy yn rhy hir, ydy mwy yn rhy fawr?;
felly os cewch chi sach boed ei lond neu lai
fyddai di trio ei lenwi, nid fi fydd ar fai.
Huw Erith Williams
8 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BAI AR GAM
Myfi fu'n gi bach ffyddlon
I'r bos, Llywelyn Fawr,
Nes i mi orfod gwarchod
Ei fab am hanner awr.
Ac yntau'n frenin cefnog,
Ni fyddai hi'n job ddrud
Cyflogi'r "Super Nanny"
Neu'r Mary Poppins hud.
"Pwy ga'i i warchod heno?"
Medd Llyw, "Rhaid meddwl, ym . . ."
Pwy ga'th y cyfrifoldeb?
Ei "bedigyri chum".
Ni fûm yn gwarchod babi
O'r blaen, fel rhan o'm gwaith,
Ni chaf ei wneud o eto,
(Na dim byd arall chwaith.)
Ces fai ar gam oherwydd
Y llabwst flaidd mawr 'tyff'
Rwyf Gelert nawr yn gelain -
Mewn gair, dwi'n teimlo'n 'wyff'
Gwenno Davies
8½ pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GOLYGFA
Mae'r tarth yn codi'n ddiog;
Ochr y Garn dan glychau'r gog;
Ninnau'n agor i'r bore
A glaw nos ac arogl ne'
Ar wên meillionen; mae llun
O wlad Mai'n flodau menyn
Ar liain haul drwy lwyn onn:
Daw â'i gân i'r coed gwynion,
Mae'n chwerthin mewn eithin aur
A'i egin, ond mae pigau'r
Piod yn barod uwch ben
Yr ?yn a nyth y ddraenen.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GOLYGFA
(bryniau Clwyd o'm cartref yn blentyn)
Wal i gynnal y gwanwyn
a'r wledd o flagur ar lwyn
oedd hi, gyda'r tiroedd âr
yn egino yn gynnar.
Ein mur rhag y gwyntoedd main
a heriai'r fro o'r dwyrain.
A minnau'n h?n daw min hallt
y rhewynt drwy fwlch Rhuallt
a deifio y cnwd ifanc,
a'r ias yn prysuro'i dranc.
Heddiw y clawdd gadwodd Clwyd
yn iraidd a faluriwyd.
John Glyn Jones
8½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOSBI
Mae'r gwnidog, sy'n folgi o frid
'Di larpio'r te cnebrwng i gyd
Yng nghefn capel Wesla
Mae'n llyfu ei wefla'
Gan wybod yn iawn geith o stîd
Gareth Jones
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOSBI
Yn wleidydd, bûm innau yn ffynnu
Cyn sgandal y gwario a'r prynu.
Rhag suddo yn is
Mae'n rhaid talu'r pris,
(A chadw'r 'receipts', ar ôl hynny.)
Gwenno Davies
8½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Tawaf yngl?n â'r tywydd
Erbyn hyn - derbyn bob dydd
½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Tawaf yngl?n â'r tywydd
Daw hwn i'm poeni bob dydd
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: OLWYN
Y geiniog annigonol a wariwn
Yn y ffair dymhorol
Ar ei thro ynfyd, hudol
A rown i, i'w throi yn ôl.
Gareth Williams
8½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: OLWYN
Fry yn araf i'r awyr - y codai
a'r cofio yn gyffur
yna'i hastio diystyr
a'n hawr fawr yn dro mor fyr.
Berwyn Roberts
9 pwynt
TELYNEG: TRÊN
Dwy flynedd, ac yna gwahanu,
Ac yn y clindarddach cawn i'r
Holl brofiad yn gyllell drwy 'nghalon,
Mynd adra a wnai'r 'faciwî.
Ac er i mi'n ddewr ymwroli
Wrth addo 'sgrifennu, mor rhwydd
Y llithrodd drwy 'nghof lawer blwyddyn
Heb nodi milltiroedd ei flwydd.
Na, 'does 'na'r un rheswm arbennig
'Mod i heddiw yn crwydro'r lein
Ar darmac mor llyfn â'r atgofion,
Dim ond bod y tywydd yn ffein.
Gareth Williams
10 pwynt
TELYNEG: TRÊN
(i gofio 'nhad, fu farw'n 69 oed ym 1982)
Trên fawr oedd yn y Port ym mhum deg saith,
Ac yntau fry'n y signal bocs fel duw
Yn tynnu lifars gloyw i agor taith
Am Dyfi Jyncshyn, Afon Wen a Chriw. *
Ar lwybr gyrfa'n Arolygwr bu'n
Rheoli lein y Bermo, Mach., Builth Rôd...
Gan adael efo'r Mêl ben bore Llun
Â'i gês bach brown am wythnos ar y tro.
Dan fwyell Beeching, i'r ciw dôl - neu waith
Yn dâl am lafur oes... i ffwrdd yn Stôc!
I'r seiding aeth o - at y rhydu maith
Gan weld hen stêm yn troelli wrth gael smôc;
Ac er bod lein fach newydd ar y stryd **
Ni ddaw'r un trên yn ôl o ben draw'r byd
* Tair cyffordd bwysica'r trenau o Borthmadog bryd hynny, a Crewe y bwysica' ym Mhrydain
** Rheilffordd yr Ucheldir yn croesi'r bont am y Cob
Eifion Lloyd Jones
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD:
Swper
Heno mae'n ras a hanner - pawb â'i blât
Pawb â'i lofft a'i bellter,
T? â blas at fwyta blêr,
Pawb â'i bryd, pawb â'i bryder.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD:
Swper
Er o raid mai go gyffredin - y bwyd,
roedd llond bol o chwerthin
gynt; ond swper y werin
a aeth yn sgram wrth ein sgrîn.
John Glyn Jones
9 pwynt
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL':
Mor sownd, pan fo'r ffarm ar sêl,
Yw'r beindar ar bob bwndel.
Diau mae golau nas gwêl
Yn nos sawl un penisel.
Wyched yw'r haf, anochel
Y byrhá dan ymbarél.
Ar fôr, draw o'r d?r tawel
yn y chwa mae gwerth ei chel
Cyn nabod unrhyw fodel
rhaid cofio archwilio'i chel
PENNILL MAWL/DYCHAN - RHAGLENNI GARDDIO
Rwy'n trafod tail i'r B.B.C.
Mae popeth ar i fyny
A fwya'n byd siarada i
Mae nghyfrif banc i'n tyfu
.........................................
Mae'r hadau wedi hedeg
y maent yn ddiflas braidd,
mae'n amsar dechrau tocio,
a hynny yn y gwraith
....................................
Eu plannu'n dwt mewn rhesi
a ch'neuaf da a geir
ond cofia mai y popty
yw'r lle i gau y ieir
..................................
Bethan Gwanas, Russel Jones
Alan Tichmarsh, Charlie Dimmock,
mae'r rhaw ar fforch draw yn y cwt,
mi fydda i yn yr hammock
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BAI AR GAM
Roedd Pero mewn trwmgwsg mewn basged, yn fodlon a braf ger y tân
Breuddwydiai am esgyrn a Marged, gast ddefaid ddeniadol a glân.
Anwesai y ddau yn gariadus gan s'nwyro a gwneud llygid llo
Pan glywodd o'r pellter Sian Eirlys yn galw drwy'r niwl arno fo.
Dow-dow daeth o'i drwmgwsg gan 'stwytho, uwch ei ben o'n bytheirio roedd Sian
A'i ffon ddaeth i lawr ar ei war o a neidiodd o'r fasged i'r tân.
Daeth allan heb flew ar un ochor, a lawr ar ei gefn ddaeth y ffon
Roedd Pero yn meddwl yn sobor "Be gythraul sy' matar ar hon?".
"Wir i chi Sian" ebe Pero, "Bum yma heb symud drwy'r p'nawn"
Ni chymrodd r'un sylw ohono gan na fedra fo siarad go iawn.
"Rwy'n credu yr af i" me' Pero, a ffoi wnaeth y mwngrel mewn braw
Gan adael y wraig yn glafoerio a'i goler ar ôl yn ei llaw.
Mi roedd y graduras 'di myllio, doedd yna ddim dianc i fod
A Sian ddaeth i chwilio amdano, a'i guro fo'n iawn oedd ei nod.
Fe stelciodd drwy bobman fel llofrudd, dan bwrdd a chypyrddau di-ri
Ac wedyn fe chwiliodd drwy'r llofftydd ond doedd 'na ddim golwg o'r ci.
Roedd Sian erbyn hyn wrthi'n ffalsio "Tyrd wân Pero bwâch" ebe hi
O'r fangre ble'r oedd o yn cuddio "Dim peryg" atebodd y ci.
Yn rhyfedd, fe glywodd hi hynny, ac fe lusgodd o gerfydd ei gwt
O focs yn y garat dan gwely r'holl ffordd i lawr grisia i'w gwt.
"Arhosa di'n fanna yr uffar! Symuda un cam gei di stid!
O'th herwydd s'gen Dennis ddim swpar, fe larpiaist y potas i gyd.
Aeth ati i lyfu ei glwyfa' yn chwythig oherwydd y tsaen
A sylwodd fod ganddo fo lympia' ble doedd 'na ddim lympia o'r blaen.
A phwy oedd ar wal uwch ei ben o, yn folgrwn ond Shinach y gath
Yn llygad yr haul yn torheulo a'n gwybod mai dim y fo wnath.
Gareth Jones
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GOLYGFA
Y sêr aur dros Eryri
A dannedd Lliwedd fel lli;
Cusan o dân cynta'r dydd
Yn agor drwy'r Rhinogydd
A gwegil Craig Cwm Silyn
Dan fflachiad o gariad gwyn.
Mileinig do'r Moelwynion
Yn groen deg ar wên y don
A chyda dwrn y Cnicht du
O'i ddolydd yn meddalu,
Llaw fwyn y wawr sy'n llyfnhau
Ei ludded ar Foel Bleiddiau.
...................................
(wrth weld dramâu Wil Sam y gwanwyn hwn)
Llenni, ac amser llonydd;
Switsus o weld, a sét sydd
O'i chefn wedi'i dodrefnu;
Ust hir ar wefus y t?.
Cymeriad yn siarad; siôl
O eiriau dwys a siriol
Wil Sam a holl ffrils ei iaith -
Y Wil Sam â'i lais ymaith.
Y mae 'na, Wil, rhyngom ni
Ddau len neu ddau oleuni
Ond ar y llwyfan, rhannwn
Yr eiliad hir o weld hwn.
...............................................
Meirch y môr a chaeau mân
O Anelog i Gilan
D?r byw o belydrau bach
Yn fae aur yn Nhalfarrach.
Mileniwm yn melynu
Yn suo gân llepian llu
O fân donnau fu'n ieuo
Ei nwyfau 'nghudd yn fy ngho'.
Mi wn yn nyfnder fy mod
Fae eiddil ei rhyfeddod
A Duw yn f'arswydo i,
Rwy'n un sy'n rhan ohoni.
LIMRIG YN YMWNEUD Â CHOSBI
Bu Pero yn rhedeg r'ol ceir
Yn poetsio'n y t? a lladd ieir
Dydd Sadwrn oedd hynny
Mae wedi diflannu
Pan ddaw yn ei ôl geith o gweir
Am ddwyn brwshis paent Anti Debra
A phaentio ei chath 'fath a sebra
Lwc owt Dafydd Alan
Rwy'n dweud wrthyt rwan
Mi cei hi pan g'rhaeddan ni adra!
Mewn Talwrn ym Mwnt cafodd Elfed
Ei ddal yn limriga heb drwydded
A llys cynganeddu
Sy' wedi'i ddedfrydu
I odli er lles y gymuned
Roedd Mot y cenna budr
'Di poetsio yn y ffreutur
A Wil Cae Crin
Yn chwipio'i din
Tra'n rhwbio'i drwyn mewn pupur
Mewn rasus c?n defaid y llynedd
(Y rasus pwysicaf yng Ngwynedd)
Roedd Wil bron â churo
Pan gafodd ei ruthro
A nawr does gan Pero ddim dannedd
"Cym hon! am roi gliw hyd y gath
A'i haddurno â dail o bob math
A hon! am roi Vim
Ar frechdanau'r hen Jim"
"Ond Miss Tomlinson, dim y fi nath"
Fe fwytaist gyw iâr a biffbyrgar
A deg bechdan ham a ciwcymbar
Ac wy wedi'w chwalu
Ar dost ar ôl hynny
Cei fynd i dy wely heb swpar
Corcyn sy'n canu'n rhy gynnar
A Chorcyn sy'n poetsio drwy'r amsar
A Chorcyn sy'n pigo
Pwy bynnag ddaw ato
A Chorcyn sydd heno i swpar
ENGLYN CYWAITH: OLWYN
Daeth gwennol yn ôl, ac yn iau - am un
Mai annwyl wyf innau,
Ond trwy'r haf hwn, gwn, trofâu
Y byd sy'n ei gwibiadau.
.................................
Un ac echel ei gychiwr - yn ringian
ar angor men harbwr,
caeth i gadwyn dynn y d?r
ac alaw llaw y llywiwr.
TELYNEG: TRÊN
S?n canol Mai o Dal y Fan
A phennau'r rhedyn bach yn gyrliog;
O Dal-y-cafn, s?n trên yn wan,
S?n canol Mai o Dal y Fan,
Mydryddu fesul pedwar ban
Cyn diflannu i darth Dolgarrog.
S?n canol Mai o Dal y Fan
A phennau'r rhedyn bach yn gyrliog.
Hen ?r wrth giât, yn dal yn dynn
Wrth hen arwyddion 'braf yfory';
Y pell yn agos erbyn hyn
Hen ?r wrth giât yn dal yn dynn
A'r haul yn gadael Foty-gwyn
A s?n y trên yn mydru, mydru;
Hen ?r wrth giât, yn dal yn dynn
Wrth hen arwyddion 'braf yfory'
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL':
Rhannu ofn wna'r hwn a wêl
ateb yng ngheg y botel.
Pan fo glaw ar yr awel
y mae brys am ambarel.
Yn golyn i ddyn pan ddêl
ydyw ergyd o'r dirgel.
Berwyn Roberts
ENGLYN YN CYNNWYS TEITL DAU LYFR CYMRAEG
Ei baradwys yw pwyso - ar y giât
a rhoi gwerth i sgwrsio
hefyd ac i anghofio
oes y mynd, aros mae o.
Berwyn Roberts
ENGLYN CYWAITH: OLWYN
Yn blant 'roedd cylch ei hantur - yn wreichion
a phob sgrech yn gysur
a'n reiat lond yr awyr
a haf o hwyl yn rhy fyr.
Berwyn Roberts
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

