Bro Alaw v Howgets

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn rownd gogynderfynol y Talwrn.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'WAL':

Un fendith wnaeth y fandal -
Rhoi'i lun ei hun ar y wal.

Arwyn Roberts
8½ pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'WAL':

Ddoe yfais mor ddiofal
Fod rhaid, gwir raid, gwlychu'r wal.

Ieuan Parri
8½ pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - RSPCA

Âr-es-pi-si-ê yn casglu.
Achos teilwng, pwy all wadu?
Ac fe gaen nhw swllt gen inna'
'Tasa'r blydi R ddim yna.

John Wyn Jones
8½ pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - RSPCA

Nodyn i gydnabod y daeth eich cais i law
Ond roedd yr inc 'di rhedeg (a fuodd hi mewn glaw?)
Mae'ch cais am Drwydded Cludo Anifeiliaid ar hir daith
Wedi cael ystyriaeth fanwl a'i adolygu'n faith.
Mae gennym ein pryderon, rhagwelwn y bydd strach
O roi'r holl anifeiliaid i gyd mewn lle mor fach
Felly, waeth gen i pwy 'di'ch bos chi, nac eich cymhellion da
Yn syml Mr Noa, yr ateb ydi 'Na'!

Endaf ap Ieuan
8½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENWAU DAU DÎM PÊL-DROED

Top y gr?p ond un gwpan - i Man-U
Ond mae'n waeth ar Wigan;
Er rhoi gwledd o chwarae glân
'Tyff lyc' - ni chawsant ffliwcan!

Arwyn Roberts
8½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENWAU DAU DÎM PÊL-DROED

Eto'n eu bro ni ddaw bri - i'r Gleision
o glôs Ninian 'leni
Ac o stand grand clywaf gri
Robinod mewn trybini.

Llyr Gruffydd
8 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): NEWYDDION BRO

Stop press!Caed het galed a sgidia
Ar ganol y sgwâr fore Llun.
Canfuwyd ar ôl ymchwiliadau
Fod rhywun 'di bwyta ei hun.

Chwi ferched!Mae prinder affwysol
i ddod ar bwyllgorau y plwy.
'Dan ni'n lwcus iawn yn y pentre
Efo dau sydd yn ymddwyn fel dwy.

Merch wedi'i diarddel o'r capel!
Mae pawb 'di ffieiddio yn llwyr.
(Ni aned y baban yn fuan -
ei phriodas oedd ddeufis yn hwyr.)

'Run cennad sy'n Gad unwaith eto;
'Run neges, ond mae o yn rhad.
Y ni yn cydadrodd ei bregeth
Ac yntau yn darllen Ein Tad.

Trist nodi - doedd neb wedi marw,
Na'r un weithred ddrwg am y tro.
Ond gwell lwc mis nesa gobeithio -
Mae sôn bod ffliw moch yn y fro.

Geraint Jones
9½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): NEWYDDION BRO

Roedd popeth yn dawel, dim mymryn o st?r, cyn s'mudodd O yma i'n plith,
Cyn hynny ecseitment i bawb yn y fro oedd gwybedyn yn boddi mewn gwlith.
Ond ers iddo symud ei gartref i'r Plas, mae'r lle 'ma 'di mynd goriwaered
B'nawn ddoe roedd y plantos yn martsio lawr stryd, yn protestio am fwy o bres poced.
Arestiwyd y person gan blisman y plwy', am ffidlo ei ffurflen egspensus
(Roedd disgwyl i'r capel roi un deg chwech mil am 'moat' rownd y Mans braidd yn farus).
Mae Undeb y Mamau i gyd nawr ar streic, am gontract mwy teg meddan nhw,
Cwtogi eu horiau fel ffarmwrs yn Ffrainc, a dim mwy o handlo p?-p?.
Mae Merched y Wawr wedi troi yn ffanatics, mae 'na sôn fod y CIA
Ar eu ffordd yma fory i 'restio nhw'i gyd a'u halltudio i Guantanamo Bê.
Fe saethwyd pob dafad, pob buwch a phob llo, pob gerbil, pob iâr a phob caseg
Am fod 'na un mochyn ar fferm Tyddyn Llan yn tishian a'i drwyn o yn rhedeg.
Felly toes ond un ateb, dewch nawr gyda mi, i'r Plas awn i fyny am dro
Ac yn garfan unedig â'n neges yn glir, fe yrrwn Huw Edwards o'r fro!

Endaf ap Ieuan
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): RHWYG

Daw i'r hon fu'n tendio'r ?yn
Yn oerni geni'r gwanwyn,
A'u pesgi'n hin dyner haf
Hyd ochor y ffald uchaf,
Heno'r hen wae ddirdynnol
Y neb yn ateb yn ôl;
Awr wedi awr mae'n aros,
Ei bref hir yn hollti'r nos,
A'i s?n hiraethus yno,
Yn y gwyll, sy'n dwyn i go'
Mai'r un loes gaed drwy'r oesau
Yn yr ing o ddyfnu'r iau.

Richard Parry Jones
8½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): RHWYG

Yn swp ym mhen draw cwpwrdd
llawn o baent, llieiniau bwrdd,
mae'r peisiau brau'n lluniaeth brys
a bair i wyfyn barus
ddarnio'r wisg a'i haddurn rhad,
cyweirio amdo'u cariad.

Dwy ran oedd i'w freuder o,
y wên braf, yna'r brifo,
a'r hollt yn ei gwefus friw
yn hunllef dan y minlliw.

Rhoi cip ar garpiau'r cwpwrdd
a wnaiff hi, cyn gyrru ffwrdd.

Annes Glynn
9½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW CYFRINACH

Pan fydda' i'n codi'n y Bala
a'r Corn Gwlad yn canu'n fy nghlustia',
Wrth ofyn 'Pwy ydi o?'
Mi fyddwch yn cofio
Mai heno y clywsoch chi gynta'!

Ioan Roberts
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW CYFRINACH

D'wed Ann iddi gadw i'w chalon
Gyfrinach ei hoedran yn gyson,
"Rwy'n ugain", medd hi
"Ers blynyddoedd di-ri,'
Wel, hanner can mlynedd yn union."

Meirion Jones
9 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Mewn enw mae 'na einioes
Ym mhob hynt mae corwynt croes

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Mewn enw mae 'na einioes
I'r Crist sydd yn cario croes

1 pwynt

ENGLYN CYWAITH: DDOE

Os mynn y balch wyngalchu - yn ddeheuig
Feiau ddoe a'u celu,
Anodd er hyn ailwynnu
Ôl y cen hyd dalcen t?.

Richard Parry Jones
9 pwynt

ENGLYN CYWAITH: DDOE

Rhyw adeg, rown beldroediwr dihafal,
Da hefyd fel rhedwr,
Ac yn eitha da'n y d?r;
I'r wyres Taid yw'r arwr.

Rhys Llwyd
9 pwynt

TELYNEG: LLWYBR

[I'r jetsgi yn Nhraeth Bychan...]

Ci gwyllt, ci ewyn-gynffon,
un ar ras ag ef ei hun
liwia'i ôl yn yr heli,
bwa hwyl dan bawen hyf.
Swnian mae wrth sodlau'r dydd,
blino diadell ar dywod;
chwarae mig rhwng brig a chafn,
swch ei drwyn yn rhychio'r don,
yna glafoer, lliw dant yn llifeirio:
un gwyllt yn sgyrnygu heibio.

Gwên gam rydd ar groen y d?r,
un ael wen yn arnofio.
Ond byrhoedlog fydd olion ei gnoi o:
bydd yr eigion yn ochneidio.

Sian Owen
9 pwynt

TELYNEG: LLWYBR

Mae'r lôn na ddilynais yn cymell o hyd
a'i glesni'n addewid, fel dalen
ddieiriau, yn irder sy'n fyd
i'w ganfod a'i droedio ag awen.

Mae persawr ei blodau'n bryfoclyd fel gwin,
yn cosi fy ffroenau'n synhwyrus,
yn edliw fy swildod, fy nhynnu at ffin
sy'n antur, yn her yr anhysbys.

Y lôn na ddilynais! Fe ddof ati hi
ar wadnau prynhawniau hydrefol,
ond er ei hatyniad troi'n ôl a wnaf i
at gysur rhigolau cartrefol.

Annes Glynn
9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD:

Brecwast

Bob dydd mi gâf wledd sylweddol - o dost,
Mewn dau d? fel rheol,
A phob tro ei hawlio'n ôl
Yn hawdd drwy fraint seneddol

9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD:

Brecwast

Huliodd, yn nryswch galar, - le i ddau,
arlwy ddoe'n ei gwatwar,
a'r bwrdd fu'n angor i bâr
yn ynys ar aur gynnar.

Meirion Jones
9 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'WAL':

Nid yw cyfrifoldeb dyn
Yn darfod wrth wal derfyn.

Nid yw'n hawdd i glawdd neu glwyd
Na'r un wal rannu aelwyd.

Fesul maen mae wal Faenol
Yno'n awr i'w hawlio'n ôl.

Ar y wal, llaw'r fandal fydd
Yn boen i'r llygad beunydd.

PENNILL MAWL/DYCHAN - RSPCA

Mae hi am wneud marc yn y dreflan -
Cadeirydd 'Râr-es Pi-si-ê.
Ei chi rhech hi sy'r un mor effeithiol
Am adael ei farc hyd y lle.

Wrth warchod pob madfall a phryfyn,
Pob llwynog neu fochyn a'i ffau;
A fyddai'u hymgyrchu mor ffyrnig
Tasa llygod yn cario'r diciâu?

ENGLYN YN CYNNWYS ENWAU DAU DÎM PÊL-DROED

Cwpan Ewrop

Daeth mawrion Barcelona - ar eu hynt
Ond Rhyl oedd y gora';
Un i ddim, a gwnaeth gôl dda
Yn saff o dlws UEFA.

Yn astrus ddulliau llawn ystryw - y cawr
O Fryn Coch a'i edliw;
Yn ei waedd o'r lein heddiw
Mae 'na wers i fòs Man-U.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW CYFRINACH

Ma' Wiliam dydd Sadwrn yn credu,
A Tomos dydd Sul, a Goronwy,
Dic, Harri a Jo
A Gwyn, dyn y glo,
Mai fo ydy'r tad - ac yn talu.

Maen nhw'n deud fod 'na Aelod Seneddol
Heb hawlio'r un draul anghyfrifol,
Ond er i'r Wasg balu
'Sdim enw i'w ddatgelu,
Mae hynny yn rhy gyfrinachol!

ENGLYN CYWAITH: DDOE

Rwyt yno pan ddeffroaf - yn hawlio
Fy nilyn i'r eithaf,
A gwn y doi i'm cnoi'r cnaf
Eto yn gwmni ataf.

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'WAL':

I wlad â ffin anwadal
cadw hedd yw codi wal.

Mae'n drist, pethau'n mynd i'r wal,
a gwendid yn troi'n sgandal.

Annes Glynn

Berlin 1961 - 1989

Lle'r dyddiau braf, dihafal?
Daear rydd? Daw wedi'r wal.

Ieuan Parri

"Cythral o wal" medd William,
"Yn dweud yr un blincin dam"

Fe flysiaf am yr afal
O'i weld y tu draw i'r wal.

Rhys Llwyd

Dihafal wal ydi'r un
a ddeil i'r rhai a ddilyn.

Maen wrth faen ar i fyny
y cwyd wal, 'mhen dim cei d?.

Llyr Gruffydd

Ai wal yr ymddialydd
Fel Jericho eto fydd?

Wal eto wna'u ghetto'n gaeth
A'u hanes gwyd wahaniaeth.

Y wal a ddwed, wrth Wil, ddim,
Ddoe a heddiw, sy'n ddiddim.

Meirion Jones

PENNILL MAWL/DYCHAN - RSPCA

Mae dwy elusen i'n cymdeithas
Sy'n atal creulondeb i blentyn neu gi,
Er, dim ond un ohonynt sy'n Royal
A National yw'r NSPCC.

Cawn ganmol ei gwaith archdderchog
Yn amddiffyn y gath a'r ci,
Ond gwae y bodau dynol
Sy'n mentro'i beirniadu hi.

"Pws, pws, pws bach annwyl
Tyrd yn anwes i ni
Mae cymdeithas dda i'th warchod
Os ceisiwn dy frifo di."

Meirion Jones

ENGLYN YN CYNNWYS ENWAU DAU DÎM PÊL-DROED

Dacw Lerpwl a'u coch liw - y cochaf
O'r coch, maent yn unlliw
Ond heb anrhydedd heddiw,
Mae'n wir mai cochach Man U.

Endaf ap Ieuan

Caerdydd o un gôl sy'n suddo - i siom
Safle saith dan gwyno;
Wele'n Abertawe 'to
Yn wyth, lan yn gobeithio.

Cardiff City sy'n fflio'n is na'u nef
 swyn nyth gobeithion;
A Swansea City sy'n son
I'w helyrch gael gorwelion.

Er croch yw'r diawliaid cochion, - a thaeog
I theatr breuddwydion,
Barca'n bader i berson
Gaiff Fergie, Rooney a Ron.

Meirion Jones

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): RHWYG

Wrth ofyn medraf uno
Un fer oes â'r eang fro;
O fflamau tanau y t?
Daw aelwyd imi'n deulu.

Pwy yw hwn, a Pwy yw hi?
Amau os perthyn imi;
Hwn o'r llun, a yw o'r llwyth,
A yw'n aelod o'r tylwyth?
Ffoi ennyd at y ffynnon;
Mae'r llaw fu'n meithrin mor llon?

Ond ni fynnaf dân finag'
A'r ing wrth weld cadair wag.

Ieuan Parri

Vincent Van Gogh

Llun melyngoch heb ochain,
Yn brifo, a'i guddio'n gain,
Ei glust yn biws o'r glusten
A'i wall dan yr hances wen.

Cawl y diawl gochodd ei dân
I gega efo Gauguin;
Ai ffrae undydd rhwng ffrindiau
Neu hir ddadl fu'n lliwio'r ddau?

Y dur ar wrid a dry'i wres
A fo'i hun yn fai hanes.
Ei lid dry'r awyr yn las,
Yn ynfyd rhwyga'r canfas.

Meirion Jones

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW CYFRINACH

I siopa mi af yn wythnosol
Gan gario fy ngherdyn defnyddiol,
Ond wrth y ddesg talu
Bob tro rwyf yn methu -
Be ddiawl ydi'r rhif cyfrinachol?

Pan fydda i'n mynd draw i siopa
Dwi'n cario fy ngherdyn bach Visa,
Ond wrth geisio talu
Bob tro rwyf yn methu,
Dwi'm yn cofio be ddiawl ydi'r rhifa'.

Rhys Llwyd

'Sg'wennais i San Steffan am gyngor
A gofyn ble gadwant egwyddor.
Daeth gwahoddiad am ddim
A gwelais yn chwim
Mai eu cabinet ffeilio oedd gogor.

Mae cadw cyfrinach yn ddyrys
Ac anodd â chlociau a watsys,
Gofynnir paham
Bod ganddynt y nam -
Dywedir mai amser a ddengys.

Meirion Jones

Roedd si bod Wil Jôs, Tan y Bondo
Am herio Miss James mewn gêm l?do
Ond wedi taith hir
Rownd clecwyr y sir
Fe drodd y gair herio yn ..... sgorio.

Llyr Gruffydd

Rhyw feuryn ga'th ddamwain go flin
Efo pladur oedd ger ei ben-glin
Nid 'mod i'n hen fusnes
Ond - yn ôl yr hanes -
Meurynes yw ein Geraldine.

Y llw hippocratig yw 'mhiler
Dim rhannu cyfrinach, dim dicter,
Cadwaf fobol yn iach
Ond diawcs byddai'n strach
'Tawn i'n feddyg ar Blair, Brown neu Thatcher.

Endaf ap Ieuan

ENGLYN CYWAITH: DDOE

Er i lwch guddio'r lechen, er i oes
Bylu rhos ei seren,
Er i boen wyro ei ben,
Hyfyw yw ei ysgrifen.

Ein herio, fel o garreg, ein gwawdio
Trwy gydol ein rhedeg,
Rhyw weiddi ymhob brawddeg,
Addo'r oll a haeddu rheg.

Ieuan Parri

Fe ddyliwn yn feddyliol - fod â'm bryd
Ar fyd y dyfodol,
Ond rwy'n well am droi yn ôl
I'm ddoe, wedi ymddeol.

Rhys Llwyd

O fêr fy heddiw, 'fory fyddi'n nef
O atgofion di-ri',
A thrwy sbectol didoli,
Daw dy wedd im gofio di.

"I odro, rhaid mynd adref" - y nodia
Dan adain y Cartref,
A nawr llanc yn morio "Llef"
Yn ei ddydd a'i ddioddef.

Meirion Jones

Llyncaf fy het os daw eto - yn chwap
ni chaiff heddiw wawrio
A heddiw rwyf yn addo
yn fory a dry'n ei dro!

Llyr Gruffydd

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.