Merched v Bechgyn

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm arbennig o feirdd mewn rhifyn arbennig i ddathlu pen-blwydd y Talwrn yn 30 oed.

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'TO':

Wrth ddathlu'r Awen heno
ni yw'r tîm wna godi'r to!

Annes Glynn
8½ pwynt

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'TO':

Waliau'r t? sy'n dala'r to,
cyfanwaith yw'r cyfuno.

Geraint Roberts
8 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - LLAWDRINIAETH GOSMETIG

Mae 'ngwyneb i'n farmor
mae 'ngwyneb i'n llym
mae 'ngwyneb i'n dynnach
na Chardi heb ddim;
fy wyneb yw'r llyfna
a'r oera'n y sir,
nid brolio yr ydwyf
ond d'wedyd y gwir.

Mari Lisa
8 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - LLAWDRINIAETH GOSMETIG

Mae'n ddeg ar hugain eto
Er tynnu at ei chant,
Mo'yn edrych ar ei gore
I gwrdd â Phedr Sant.

Dai Rees Davies
8½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS TRI RHIF

Gwybod

Y mae 'na un mwy na ni, - un rhy fawr
i'w fyd allu'i enwi;
ond Duw a ?yr fy mod i'n
un â'i ras yn goroesi.

Karen Owen
8½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS TRI RHIF

Gwahanu

Yn y drôr, mae dau neu dri o'th bethau
byth, rhag ofn y deui
rhyw ddydd yn ôl i holi
a oes 'na un siawns i ni...

Rhys Iorwerth
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW'N HEINI

Aeth bachgen o Plwmp mas i jogio,
ei fola yn wiblo a woblo.
Fe hoffai pe bai
ddeg modfedd yn llai.
Bu'n rhedeg am flwyddyn cyn stopio.

Mari George
8½ pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW'N HEINI

Â'r dillad iawn amdano
Fe wyrodd i ystwytho
Pan sythodd Paul
I fyny'n ôl
Yr oedd o wedi nogio.

Gareth Jones
8½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): CYFARCHIAD PEN-BLWYDD

Cyfarchiad pen-blwydd i mi fy hun

Wrth i'r blwyddi dorri'n don
ar chwâl dros fân orchwylion
rhegaf, wrth deimlo'r trigain
ynof fi, yn groglath fain
yn dwyn yn nes, wrth dynhau
orwel y byw dieiriau.

Ond ynof y mae'r deunaw'n
dal o hyd i godi'i law
yn ddwrn, gan fy ngwahodd i
i ras tu hwnt i'r tresi.

 Mai hyd berthi 'mywyd,
Codaf - y mae'n haf o hyd.

Nia Powell
9½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): CYFARCHIAD PEN-BLWYDD

Mae G Ll O'n magu llên
Rhagor ers deg ar hugen
O flynyddoedd, cydfloeddiwn
Ein cri hwrê i'r cawr hwn.

Ef yw'n hen gof ni i gyd
A safon barddas hefyd,
A'r eicon i'r cywion iau
Anelu at ei sgiliau.

Ac ef yw llathen gyfiawn
Mesur didostur ein dawn
A'i allu mawr, felly, mi
Wnes bennill i'w seboni.

Dic Jones
9½ pwynt

PENNILL YMSON: TALYRNWR/TALYRNWRAIG

Er mor hardd yw dail y coed
a'r blodau ar y rhos
ac er fod swyn yng ngeiriau'r dydd,
daw'r gerdd yng nghanol nos

Mari George
8½ pwynt

PENNILL YMSON: TALYRNWR/TALYRNWRAIG

Rwyf 'leni eto'n cymryd rhan
Fel bum am dri deg mlynedd,
A gwn o brofiad, anodd yw
Cael beirniad sy'n ddiduedd;
Ac un peth arall, gwaethaf modd
Sy'n dal i godi 'ngwrychyn -
Mae'r arian ddaw o'r BBC
Mor brin â marciau'r Meuryn.

Dai Rees Davies
8½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): PROFIADAU PLENTYNDOD

Yn Eden diniweidrwydd, pan oedd saith
o hafau'n mesur hyd fy nyddiau i,
doedd dim yn well ar b'nawn, nag arfer iaith
y gemau pêl i ddysgu Smot y ci.

Un dydd, a minnau wedi'i anfon o,
ac yntau'n ddall i bawb ond gwneud ei ran,
daeth sgrechian pedair olwyn rownd y tro
a thrawyd pedair pawen yn y fan.

Ac yno, wrth i'r dagrau foddi'r haul,
a'r tarmac yn ei glwyfau'n ddyfnach lliw
a minnau'n oer a chynnes am yn ail
y profais ddwy o wersi halltaf byw:

Fod pethau da yn gallu suro'r geg
ac nad yw angau fyth yn chwarae'n deg.

Mari Lisa
9½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): PROFIADAU PLENTYNDOD

Huw T?'n Ddôl a Dei a fi
Am yr ycha'n gwneud pi pi

Chwarae cuddiad, llichio cerrig
Mynd i lefydd oedd yn beryg

Hel Cocfelfets i wneud ffagla'
Tynnu coesau Jac y Bagla'

Chwarae rhyfel, saethu Huw
Ticio Huw yn ôl yn fyw

Chwarae rhwyd a rasus malwod
Mynd mewn bocs i fyny i'r gofod

Gwneud gwn pegs a chychod brwyn.
Cael cefn llaw am bigo 'nhrwyn.

Dwyn afalau a chwsberis
A chael tshês gan Dafydd Lewis

Dianc yn fy ôl dros wal
Huw T?'n Ddol yn cael ei ddal

Torri ffenest efo pêl
Cael ein bygwth efo jêl

Gwyliau'r haf yn dod i'w diwedd
Cael ein sgwrio'n ddi-drugaredd

Daeth y cwbwl oll yn ôl
Ddoe, r'ôl claddu Huw T?'n Ddôl

Gareth Jones
9½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: CEGIN

Rwy'n disgwyl, mewn gwael hwyliau - i gogydd
y gegin dymhorau
agor y ddôr i ryddhau
aer ei wanwyn i'm ffroenau.

Philippa Gibson
10 pwynt

ENGLYN CYWAITH: CEGIN

Nid rhes bert ei drysau pîn - na golwg
Ei waliau dilychwin,
Na'i sawl ffwrn ac nid silff win
Ond cogydd sy'n gwneud cegin.

Dic Jones
9 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Synais o weld Sion a Sian
Y ddau'n rhy hoff o ddynion

Karen Owen
1 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Synais o weld Sion a Sian
Ym mresys yr ymryson

TELYNEG: PENTREF

Llangrannog yn y gwanwyn

Heddiw
gwelais y Gwanwyn
yn daclus
heb bêl yn agos
i sgwaryd clecs y dail.

Cerddais hyd glogwyni
a chlywed cân y gwersyll
yn hofran dros dro
uwch Lochtyn...

Drws t? yn gwichian,
a chwpwl crwm
yn sgwrio'r gaeaf yn hamddenol
oddi ar eu trothwy diarth.

Dof yn ôl.
Dof a'm plant
i fyw stori
Cwm Tydu,
cwrso geiriau
mewn ogofau
a'r dyfodol yn draeth.

Heno,
mae fy straeon eithin gwyllt,
yn staen ar ffenest.
Rwyn poeri fy iaith
ddyrys
at wynebau poleit
fydd yn aros
trwy'r gloch olaf.

Unig wyf
ar stepen oer
yn rhannu ffag gyda'r gwynt,
yn gweiddi geiriau
mewn cragen
am fod y machlud wedi ei brynu
a'r dyfodol yn dywodyn.

Dof yn ôl.
Dof yn ôl
drwy'r broc môr
i fagu, i fyw
efallai....

Mari George
9½ pwynt

TELYNEG: PENTREF

(Tafarn Bessie, Cwm Gwaun, Nos Galan Mai)

Hen ddynion ar y bar yn sobor iawn
wrth gofio meirw'r gaeaf - beddau'n agor,
drysau'n cau'n y cwm, eu sgwrs yn llawn
o'r ddamwain car a heintiau ola'r tymor;
Rhieni'n gwerthu raffl dros ferch o'r llan
sy'n wael, a chyfri'r pennau sy'n yr ysgol;
Sais yn taro heibio yn y man
â ffafr o bost y dre - eu swyddfa leol.
Mam-gu'n ei chwman wrth y grât, yn rhoi
bwyd llaw i'r fflam fach felen fesul brigyn,
ac at yr eneth ar ei glin mae'n troi
a dweud bod clychau'r gog yng ngallt Cilrhedyn.
Hen wraig a babi'n syllu'n hir i'r tân
a gwylio'r goelcerth ola'n llosgi'n lân.

Myrddin ap Dafydd
10 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'TO':

Cael to, cael cwmni, cael tân
Cael y cof, cael y cyfan.

Mari Lisa

Na ofyn taw'r to ifanc,
hen law, buost tithau lanc.

Nia Powell

Y to iau a rydd i ti
beiriant sy'n wych am bori.

Philippa Gibson

Un di-do heno yw hwn,
Artaith fu colli'i ffortiwn.

I'r to h?n byd hurt yw hwn,
a'i elw'n "ddim ond" miliwn.

O do i do aeth beudai
anwastad yn rhes plastai.

Annes Glynn

ENGLYN YN CYNNWYS TRI RHIF

O enau plant bychain ...

Rhaid dal i ochel, mae gelyn - un dau
wyth dau ym mhob plentyn
uniaith, a'i iaith erbyn hyn
yn ysgol o oresgyn.

Nia Powell

Wedi Efrog Newydd

Liw haf daeth 'nine eleven' - ac mae'i fwg
am fygu'r ffurfafen:
ni welsom un golomen
a wnâi'i nyth ym mryntni'n nen.

Philippa Gibson

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): CYFARCHIAD PEN-BLWYDD

Y Talwrn

Fe fu dod yn draddodiad
i lu ieir pluog y wlad
ers erioed, ers i arwyr iaith
y genedl bigo'u heniaith;

a dod wnai ceiliogod loes
i rannu clochdar einioes,
rhoi o waed eu trawiadau,
bwrw'u hing i gerdd barhau.

Y mae dod yn draddodiad
h?n na loes hynaf y wlad,
a geiriau'r hwyl mor greulon
am mai rhaid Cymru yw hon.

Karen Owen

ENGLYN CYWAITH: CEGIN

tebyg i Hell's Kitchen, Gordon Ramsay

Os "cynnil" yw'r saws cennin - agor briw
â gair brwnt wna'r pwdin,
â'i reg yn llenwi'r gegin
ias o ofn yw haute cuisine.

Annes Glynn

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH YN CYNNWYS Y GAIR 'TO':

Mae'r cyfan oddi tano,
waliau'r t? sy'n dala'r to.

Campwaith y cyd-weithio,
waliau'r t? sy'n dala'r to.

Fe rown un llais i farn llanc,
ond tyfu wna'r to ifanc.

PENNILL MAWL/DYCHAN - LLAWDRINIAETH GOSMETIG

(I'w ddarllen â llais main)

Mi gefais y llawdriniaeth
I 'ngwneud i'n fenyw bert,
Ond nid wy'n barod eto
I wisgo blows a sgert -
Mae'n broses araf, ond er syndod
Mae'r llais yn dechrau troi yn barod.

----------------------------

Mae'n tynhau haenau'i hwyneb - oherwydd
yn awr ei meidroldeb
trichanwaith y trychineb
yw croen slac ar ên seléb

ENGLYN YN CYNNWYS TRI RHIF

Cenhadwr

Yng ngrymusedd y weddi - hwn a aeth
lle roedd neb yn moli
a throi'r un yn ddau a thri
a'i fyd yn ddirifedi

----------------------------------

Dau, un - mae'n mynd i danio - Yna - dim,
Cwyd ymaith i rwygo
Yn nhrefi'r drin ar fyr dro
Ugeiniau yn gig yno.

LIMRIG YN YMWNEUD Â CHADW'N HEINI

Rwy'n berchen car Volvo o safon
A welir yn segur yn gyson
Waeth rwyf yn ymdrechu
I gadw yn heini
Drwy gerdded bob nos i'r siop sglodion.

Fe aeth ar gyflymder dychrynllyd
Fe gerddodd am un ugain munud
Bron hanner can medr
O gwmpas Llanbedr
Ac rwan ni fedr o symud

Y doctor ddywedodd wrth Dennis
I chwarae pêl-fasged a thennis
Cychwynnodd y chwysu
A'r swnllyd fystachu
Ond ildiodd r'ôl torchi ei lewys.

I gadw yn heini a rhadlon
Mae Now yn ymwneud â chwaraeon
Fel snwcer a dartia'
Neu gêm fach o gardia
Neu ddominos weithia'n y Leion

Rôl ymarfer am ddeufis o'r bron
Fe redais i ffwrdd oddi wrth Non
R'holl ffordd o Laredo
Ond Duw a'm gwaredo
Ni allaf i ddianc rhag ofn.

Bu bwyta anialwch yn yrfa
I Angela Fawr o Gefn Morfa
Ar gais Doctor Wilias
Mae'n rhedeg o gwmpas
A'i bogel o'i blaen hi mewn berfa

Fe irodd bob sbrocet a sbôc
Anelodd ei feic tua Stoke
Roedd can milltir drosodd
Yn sialens rhy anodd
A'n Llithfaen fe gafodd o strôc

Mae'n rhedeg am oriau drwy Grymych
Ac eto, mae'n grwn fath â bresych
Cyflymdra Wil Dennis
Sy'n wir dwyllodrus
Mae'n fwy ara' deg na mae'n edrych

Cyn belled â fedraf i gofio
Bu Undeg yn rhedeg a nofio
A'n cymryd rhyw gyffur
Ond n'awr mae hi'n segur
Ma'i llawer rhy brysur yn shafio

Drwy gydol ei hoes fe fu Leusa
I mewn yn y t?'n codi pwysa
Yn awr mae hi'n gryfach
Na phobun yn Solfach
A'i breichia' hi'n hirach na'i choesa'

Er gwaetha' fy ngwrol ymdrechion
Fy fitness regime sydd yn deilchion
Mae'r beic a'r siwt redeg
'Di ildio i'r bloneg
A'r glorian lan llofft yn grybibion

PENNILL YMSON: TALYRNWR/TALYRNWRAIG

Bum wrthi ers deg mlynedd ar hugain
gyda'r meic 'ma'n dynn wrth fy ngheg,
sai'n un sy'n disgwyl rhyw farciau uchel
ond mod i yn cael chwarae teg.

-------------------------

Nid wyf yn gynganeddwr
Na phrydydd y wers rydd
Ond rhois y strac sy'n cyfri
Mewn englyn slawer dydd.
Nid ydwyf yn limrigwr
Nac yn dribannwr chwaith,
Ond rwy'n Dalyrnwr pwysig -
Y fi sy'n 'darllen gwaith ... '

ENGLYN CYWAITH: CEGIN

Trwy ffrwtian y sosbannau - ni welwn
wylo y miliynau
yn y nos, a ni'n mwynhau,
na newyn mewn ciniawau.

TELYNEG: PENTREF

(Cathays - pentref myfyrwyr neu studentsville Caerdydd; Maci - enw tafarn)

Mi oedd yna adeg ar y strydoedd hyn
â hithau'n bwrw hen wragedd a ffyn
a finnau â darlith am chwarter i dri
yn meddwl am ddim, ond amdanach chdi;
doedd bwys gan y dyddiau am fynd nac am ddod,
wrth hel eu cawodydd dros Woodville Road,
a'r hogiau yn sownd yn y Maci drwy'r pnawn,
traethodau yn wag, a'n gwydrau yn llawn.

Heddiw a hithau yn hwyr ar ddydd Llun
dwi'n ôl yn y gongol, ond rywfaint yn h?n,
yn sbïo drwy'r ffenest ar griwiau yn hel
cyn y ddarlith ola', o dan ymbarél;
yn s?n y glaw, mae eu lleisiau nhw'n bell
ac mae Woodville Road yn gwybod yn well:
fyddi di ddim yno, a thrwy 'ngwydyr sy'n llawn
mae'r Maci yn wag, er ei bod hi yn bnawn.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.