Crannog v Taeogion

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn ail rownd y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

(I'r Taeogion)

Nhw i gyd all odli'n gwic
Er so-nhw'n supersonic.

Owen James
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Idris, Dai, Hywel Rees, Dic:
ai dyma yw pandemic?

Emyr Davies
8 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYWIRDEB GWLEIDYDDOL

I fod yn wleidyddol gywir dau beth sy'n rhaid eu gwneud
Yw peidio â dweud eich meddwl na meddwl beth chi'n ei ddweud.

Idris Reynolds
9 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYWIRDEB GWLEIDYDDOL

Edmygwn y gwleidyddion
a gododd yn ein tir,
a ddysgodd ddweud yn gywir
rhag iddynt ddweud y gwir.

Ceri Wyn Jones
9 pwynt

ENGLYN CILDWRN - BEDDARGRAFF BOWNSAR

Ei anfon gas o Wynfa - â ffárwel
Hoff air Casablanca, - Sgidadla.

Hywel Rees
8½ pwynt

ENGLYN CILDWRN - BEDDARGRAFF BOWNSAR

Hwn yw'r dydd i'r Bownsar Da hynaf oll
roi'i farn ger y giatia'...
'NA!'

Tudur Dylan Jones
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DWEUD FFORTIWN

Roedd Carlos yn sipsi o nôd
Yn rhagweld pob troad o'r rhod.
Mae nawr yn ei fedd
Yn gorwedd mewn hedd
Wedi methu gweld y lori yn dod.

Dewi Pws
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DWEUD FFORTIWN

Mewn ffair at y sipsi'r es i:
"Fe gollwch chi ffortiwn," medd hi.
A'r gwir a lefarodd
wa'th am a broffwydodd
fe gododd hi ganpunt o ffi!

Ceri Wyn Jones
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GWESTY'R EMLYN

Rhaid i ardal wrth galon
I greu un gymuned gron.
A John a staff y caffi
Yw calon ein henfro ni.

Y lloriau hyn yw lle'r oed
I'r awenydd a'r henoed,
I rai brwd ein papur bro
A chân a chwist a chinio.
Ar agor i gôr a gig,
Pryd-ar-glud neu hwyl gwledig,

A'r heniaith frau ei heinioes
Mae'n ei grym yn Nhan-y-groes.

Dic Jones
10 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GWESTY'R EMLYN

I gael hwyl yng nghefen gwlad,
Gwyddom am un gwahoddiad,
A 'Than-y-groes' o groeso
Yn frith ar ieithwedd y fro.
Cawn eistedd wrth wledd ddi-lol
Yn rhyfedd o gartrefol;
Seiadu dros laseidiau
Yn ddoeth wedi peint neu ddau,
A'u rhannu â'r rhai annwyl
Gynt fu yma'n rhan o'r hwyl.
Awn yn h?n, ond gwn, ni waeth;
Awn yn iau drwy'r gwmnïaeth.

Emyr Davies
10 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): SYNIAD DA

Am syniad da! ryw ddiwrnod ga'dd rhywun
Am gael timau o feirdd a meic a meuryn
I lenwi ein hamdden â rhaglen fach rad
A fyddai'n uchafbwynt holl lên y wlad.

Ond i gychwyn dechre roedd yn rhaid cael poets
I wneud englyn a chywydd a phob math o sbloets,
A rhai roedd telyneg iddynt yn dodl
Yn mynd mla'n a mla'n heb fydr nac odl,
Gyda rhai'n arbenigo mewn tribannau neis-neis
A chaneuon t? bach neu limrigau amheus.

Ac yn goron y cyfan daeth rhywun i gredu
Byddai'n syniad gwell fyth ei roi ar deledu
Rhag ofn nad oedd 04 Wal a rhagflas
O Bobol y Cwm yn ddigon diflas,
I bawb weld y beirdd yn gwneud tasgau byrfyfyr
A gawsent ers wythnos ar ddalen o bapur.

Ryn ni wrthi ers deng mlynedd ar hugen i 'leni
Ac mae e fel pechod, diolch byth, heb ddibennu.

Dewi Pws
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): SYNIAD DA

Di'r awen ddim yn ffrind i mi,
fel arfer mae'n dweud 'Na!',
ond tro'ma wrth geisio chwilio cân
mi roth hi syniad da.

Mi wna' i soned sy'n llawn geiriau coeth,
fel 'iaith' a 'swyn' a 'bro',
mi ga' i naw heb unrhyw os
a deg os daw yr 'O!'

Soned am Gerallt fydd y gerdd,
fy soned orau i,
a'r syniad da: ei gynnig o
i dderbyn yr MBE.

Ac i wneud yn si?r y caiff y clod
mi fydda i'n disgrifio'r dyn;
mi rof 'hen foi iawn' yn y llinell glo
a dau 'wylit' yn llinell un.

Ond waeth mi heb â malu mwy,
mae'r deg yr un mor bell,
waeth pa mor dda yw fy syniad i
bydd gan Crannog syniad gwell.

Tudur Dylan Jones
9 pwynt

ENGLYN CYWAITH: CASINO

Os try'r bêl lle rhoist ti'r bet - trwy ryw hap
At y rhif a fynnet,
Herio lwc yw'r bwrdd rwl?t,
Llwyth anesmwyth yw kismet.

Dic Jones
8½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: CASINO

O golli, colli cyhyd hafau'n ôl,
rwyf yn awr trwy 'mywyd
yn cael ofon fod clefyd
y roulette ar ôl o hyd.

Emyr Davies
9½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Anodded cynganeddu
A'r meuryn fel deryn du

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Anodded cynganeddu'n
Nhanygroes a'r haul yn gry'

1 pwynt

TELYNEG: PERSAWR

Mae'r t? o'r ffrynt i'r cefen
Yn wag o'r shang-di-fang,
Y celfi wedi llwytho
A'r lori dan ei sang.

Wrth hel rhai trugareddau
A chydio yn y siôl
Am eiliad fe ail-lanwyd
Hen gartref eto'n ôl.

Hywel Rees
9 pwynt

TELYNEG: PERSAWR

(Y tro olaf i mi weld fy mam-gu oedd yn yr ysbyty rai dyddiau cyn y bu iddi farw ddiwedd Ebrill llynedd, ychydig yn brin o'i phen-blwydd yn 95 oed. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i mi ei gweld heb na cholur na phersawr arni.)

Cyn bod blodau cain y bedd
yn llenwi'r llwyni llynedd,
y ddraenen wen a wenai
fel ewyn môr o flaen Mai,
yn glychau g?yl a golch gwyn,
blawd mân rhwng blodau menyn;
cwmwl gwlan oen dianaf,
eira glân â'i arogl haf.

Ond ymhen dim yn ei dail
gwywai gwynder y gwiail
digolur a digalon;
a thra'r oedd yno'n ei thro'n
bren noeth yn yr hwyr brynhawn,
ni wisgai'i phersawr ysgawn
â'i flas fel golch a grasai,
fel maes a môr, fel mis Mai.

A heno, wrth gofio'i gwedd,
rwy'n llawn, fel rown i llynedd,
o'r arogl nas aroglwn
y tro cyntaf olaf hwn.

Ceri Wyn Jones
10 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: TWYLL

Er rhoi'r hâd yn nhir Eden - yn gryno
 graen ar y gleien.
Ni thâl, ym Mawrth a'i heulwen
Gyfri bod gaeaf ar ben.

Dai Jones
9½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: TWYLL

G?yr y wlad y gwir, wleidydd, it hawlio
Pob tâl i fyw'n ddedwydd
Hyd yma...wa'th dyma'r dydd
Y cei hawlio cywilydd.

Emyr Davies
9 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Ym mhobman mae'r slogan slic
Yn dwymyn epidemic.

Cwpled i baramedic:
Bachan saff pan boch chi'n sic

Wy'n amal yn anaemic,
Heb 'run go, yn brin o gic.

Gochelwch y salwch sic,
Daw yma fel pandemic.

Tir wast ein gwerthoedd plastic
Yw erwau'r sloganau slic.

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYWIRDEB GWLEIDYDDOL

'Dyw'r gwleidydd cywir
Sy'n parchu hawliau
Ddim mor ofalus
Wrth hawlio'i dreuliau

Cywirdeb gwleidyddol, dyna derm diystyr,
Ble welsoch chi wleidydd erioed sy'n gywir.

Roedd angen gwleidydd
I gywiro'n hiaith
I ddwedyd rhywbeth
Heb ei ddwedyd chwaith.

Rhag digio eich cyd-ddyn
Rhaid bod yn ofalus
Os nad ych wleidydd
Yn byw ar 'expenses'.

ENGLYN CILDWRN - BEDDARGRAFF BOWNSAR

Fe droes i'r Stag am lagyr - ond yr oedd
Wrth y drws hen fownsyr, - Pedr

Pedr, mwyn ei gymwynas, - yn y drws
Wnaeth ei droi o'r Deyrnas, - MAS

LIMRIG YN YMWNEUD Â DWEUD FFORTIWN

Roedd plentyn ifanca' Twm Gwndwn
Yn methu dweud 'eff' o flaen 'ortiwn',
Ond cafodd hyfforddiant
Gan sipsi o'r Garnant
A bellach mae'n medru dweud 'ffortiwn'.

Yr oeddwn ychydig yn tipsy
Yn Ascot pan gwrddais â'r sipsi;
Rhoes aur yn ei llaw
I weld beth a ddaw,
Ond thala'i byth mwy am ei thips hi.

Wy'n ffaelu dweud 'th' fel yn 'thipthwn',
Na swnio dwy 'l' fel y dylwn,
Ac mae 'na rhai geire
Dwy'n ffaelu dweud weithie,
Ond 'dwy byth yn cael ffwdan dweud 'ffortiwn'.

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): SYNIAD DA

Ro'dd Beti gwraig Dai yn fenyw reit fawr,
Yn pwyso ugain stôn jest yn ishte lawr.
Roedd hi fel rowndabowt - bola mawr, coese stowt
A phen ôl o'dd bron cyrra'dd y llawr.

Un diwrnod ga'th hi syniad - colli pwyse o'dd y bwriad
A phenderfynu creu yn yr ardd
Rhyw fath o fashîn i leihau ei thîn
A'i throi hi yn fenyw slim, hardd.

O fewn tridie o'dd e'n barod - BATH mawr wrth y shed
A phren, dur a chans coca-cola,
Injan fawr drydan, cordyn beindar a weiran
A belt rwber i fynd rownd ei bola.
Yna gwisgodd yn sydyn mewn siwt nofio coch
A mewn i'r contraption â hi.
Troi'r switsh mla'n i 'ON' - dechre siglo fel ton
(Ar scale Richter ro'dd hi'n mesur tua THRI)
Ond O! OCH! (a gwae) - r'odd y ffiwsus ar fai
A dechreuodd y peiriant gyflymu
A mynd â Bet lan a lawr, fel rhyw Foby Dic mawr
A phob modfedd o'i chorff yn byrlymu.

Buodd yno am ddyddie yn woblo yn y bath
Fel jeli coch chwislyd mewn jwg
A'r peth d'wetha welodd Dai o'dd hi'n wefo 'bye-bye'
Cyn diflannu gyda gwên lawr y plwg.

ENGLYN CYWAITH: CASINO

Yn ofer yma heriaf - Hen Adyn
Y tafliadau olaf;
O nos i nos colli wnaf
I'r olwynion creulonaf.

Ymgollaf yn y stafell - yn nileít
Bwrdd roulette a'r dröell,
Ni wn i am fan yn well
A all wagio fy llogell.

TELYNEG: PERSAWR

(Susan Boyle, y gantores ganol oed a synnodd feirniaid 'Britain's Got Talent' )

Yn ôl y panel beirniaid
Nid yw yn ddynes bert,
Dim colur, dim mascara,
Gwallt ffug na mini sgert.

Dim arian mawr marchnata
I'w heipio yn ei bla'n,
Dim noethni, dim rhywioldeb,
Dim byd ond ceinder cân.

A rhag ei glamoreiddio
Gadawer hi i fod,
Achos mae'r persawr gore
O flodyn gwyllt yn dod.

------------------

Mae llwch a chwys yn gymysg
 heulwen crasboeth Haf
A'r fedel sydd yn rwsial
Wrth gynaeafu'n braf.

Y gwartheg heddiw'n pesgu
A'u gwedd yn sgleinio'n iach,
Mae awel y cynhaeaf
Yn sawru ym Mis Bach.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.