Tir Mawr v Bro Ddyfi
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn ail rownd y Talwrn.
CWPLED CAETH YN CYNNWYS UNRHYW ANIFAIL FFERM:
Pa les gair yng nghlust bustach
A'i hanner drwy'r border bach?
Huw Erith Williams
9 pwynt
CWPLED CAETH YN CYNNWYS UNRHYW ANIFAIL FFERM:
Ni bu gwanwyn heb ?yn bach
I lwynog fwydo'i linach.
Elwyn Breese
10 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - Y CYMRY CYMRAEG
Rhown chydig bres i'w cau nhw yn eu Steddfod;
Rhown sianel fach ynysig at eu dant;
Rhown ffôns bach ar wahân at eu gwasanaeth
A chaniatau ysgolion Welsh i'w plant;
Wrth gadw'u cywion bach nhw i gyd mewn gwaith
Ni chlywn ni fwy o lol am hawliau iaith.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN - Y CYMRY CYMRAEG
Rhaid diolch i Senedd San Steffan
Am ofal a safon eu gwaith,
Efallai nad ydyw'r Cynulliad
Yn barod i ddeddfu ar iaith.
 ninnau yng nhganol dirwasgiad
Mae costau ac elw'n bob peth,
Mae'r Cymry Cymraeg i fyd busnes
Rwy'n ofni yn ormod o dreth.
Elwyn Breese
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YFAIS I LWYR ANGHOFIO"
Yfais i lwyr anghofio - y bore;
Daeth y barrug eto
Liw nos, ac i'w ganlyn o
rew y gwir awr y gwawrio.
Gareth Williams
9 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YFAIS I LWYR ANGHOFIO"
Yfais i lwyr anghofio - y ddyrnod
Oedd arnaf yn pwyso,
Nawr y gwin sy'n fy mlino -
Wyf flin yn ei afael o.
Dafydd Wyn
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â'R HEDDLU
Mae'r heddlu, oherwydd y wasgfa'n
Cwtogi ar offer a lifra
A heddwas Bryn Gro
Yn eistedd ar tô
Yn gweiddi "Nî Nô" 'n draed ei sanna
Gareth Jones
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â'R HEDDLU
Bu i blismon o ardal Pen Ll?n
Bore ddoe arestio fo'i hun,
Yr hyn oedd yn hynod
Nid oedd o yn gwybod
Ble'r oedd o Nos Sul na Dydd Llun.
Hedd Bleddyn
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): FFINIAU
(Wil German, ddaeth i L?n yn garcharor rhyfel, a threulio'i oes yma)
Ddoe'n dawel, yn ddyn dwad,
Ei wal o oedd iaith ei wlad;
Ond o'i ffordd symudai ffens
Ein hurtio, agor cyrtens
Rhai a fu yn atgryfhau
Ein clawdd, ar sail celwyddau.
Ymhell dros borffor gorwel
Llethrau Mai y llaeth a'r mel,
Yno'n ias ein gynnau ni
Hawlio'i waed mae'n bwledi,
A gwyr fu'n disgwyl y gog
Yn agor weiren bigog.
Gareth Williams
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): FFINIAU
Yn ei gae, ac yntau'n gog,
Llain o ddrain oedd y rhiniog,
Yn rhwystr i fynd drosti'n
?r i'r ffalt, tu hwnt i'r ffin
Tros y bont ffy'r trwsus byr
A deifio i'r baw difyr.
 mam yn ôl try'r mwynhad
Yn wylo mewn dwy eiliad;
Â'i ddwy law hel baw'r buarth
O'i esgid; ac onid gwarth
Ei daflu'n gog mawr dwyflwydd
Nôl i'w blu fel doli blwydd?
Tegwyn Jones
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y LLYTHYR HWYR
Fe yrrodd yr Ymddiriedolaeth yn cymell llawdriniaeth ar frys
I Conrad Wyn Jones o Gwm Gwendraeth (Roedd ganddo fo Beils 'fath a phys)
Y llythyr gychwynodd heb ffwdan, i'r Swyddfa Ddosbarthu'n y dre
Ond, diolch i Robat Wyn Postman, diflanodd i wn i ddim ble
Roedd Peils yr hen Gonrad yn grasboeth, yn hongian fel pendil o gloc
A'r llythyr yn cynnig achubiaeth 'di cyrraedd siop jips ym Mangcock
O fan'no fe aeth o i'r Brithdir, Gorllewin Samoa a Sbaen
Am fisoedd, rhwng pedwar cyfandir, bu'n teithio yn ôl ac ymlaen
Roedd arno fo stamp deugain ceiniog er mwyn iddo gyrraedd yn gynt
Pan gyrraeddodd o Rhosllanerchrhugog roedd stamp dosbarth cynta' werth punt
Roedd Conrad yn cerdded fel marchog, ni 'steddodd i lawr am ddau fis
Ei Beils oedd fel llwyn Eirin Gwlanog a'n hongian yn is ac yn is
Y llythyr fel Gwennol mewn gwanwyn a deithiodd am d'wn i ddim faint
A chael ei fyseddu gan bostmyn o Ddwyrain Berlin i Gaergaint
Diflanodd tu ôl i'r Llen Haearn ble stemwyd o'n gorad sawl tro
Cyn glanio un dydd yng Nghefnddwysarn lle dybiwyd taw bom ydoedd o
Fe alwyd y Criw Diffodd Bomia' i'w stemio fo'n gorad drachefn
A'i yrru fo 'mlaen i Bolivia â darn o dâp du hyd ei gefn
Am sbel ni fu golwg ohono, diflanodd am gyfnod o'r tir
Tan iddo ymddangos yng Ngharno cyn mynd dros y môr i Beziers
Pan ddaeth o i ddiwedd ei siwrna doedd yna neb adra'n Nhyn Rhos
Roedd pawb wrthi'n tynny gwyneba' yng nghnebrwng yr hen Gonrad Jôs.
Gareth Jones
10 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y LLYTHYR HWYR
Daeth llythyr i Rosgadfan,
Mae'n ffaith yn wir i chi,
Gychwynnodd ar ei siwrnai
Ym mil naw tri deg tri.
Daeth i Gae'r Gors un bore
Ym Mai dwy fil a saith
A datgelu cyfrinachau
Ar ôl ei enfawr daith.
Bu'n teithio cyfandiroedd
A'r bydysawd yn ei dro,
Ond doedd 'r un Kate yn unman
A wnai ei dderbyn o.
Am fod ysgrifen Saunders
Yn flêr fel bagle brain,
Roedd holl bostmyn y bydysawd
I gyd dan boen a straen.
Ond gan mai ugain llinell
Yw'r cyfan gaf fi wneud
Ni allaf ddwedyd wrthych
Beth oedd Saunders yn ei ddweud.
Hedd Bleddyn
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: RHIENI
Yn dad, trof eto atynt - a'u cofio;
Cefais fy nwyn ganddynt
o'm mebyd ar hyd fy hynt:
siwrnai o bwyso arnynt.
Myrddin ap Dafydd
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: RHIENI
Imi y bu'u hymrwymiad, - rheolent
Yr aelwyd â chariad,
Maeth a help pob mam a thad
Yw gwreiddyn ein gwareiddiad.
Gwilym Fychan
9 pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Fe geir ambell linell wan
Yn nhwll y mwg tu allan
½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Ag yntau'n Feuryn gwantan
Fe geir ambell linell wan
½ pwynt
TELYNEG: RHINIOG
Brasgamodd drwy'r dderbynfa, adar bach
newyddion da yn canu yn ei phen,
y profion drosodd, hithau drwyddi'n iach
er gwaethaf un agoriad cul o'r llen.
Drwy'r drws mawr crwn - heb lai na sylwi bod
y paramèd yn hync, yr un sy'n gwthio'i
ffordd i mewn ar frys. Ond roedd ei rhod
yn troi; roedd camu dros y trothwy'n gyffro.
O flaen yr adran cleifion dyddiol: siwt
yn gorwedd ar ei wyneb mewn pwll glaw,
y bochau'n las a stond ac anterliwt
o staff ysbyty yno'n rhoi help llaw.
Doedd dim a fedrai'i wneud ond mynd 'naill du
a chwilio am oriadau'i char a'i th?.
Myrddin ap Dafydd
9 ½ pwynt
TELYNEG: RHINIOG
(Cyfandir Affrica)
Do, buom yno'n
Addysgu'r brodorion,
Eu swcro a'u dofi
A'u troi yn Gristnogion.
Eu dysgu am werthoedd,
Eu dilyn a'u deall
Yn bobl oddefgar
Sy'n troi y foch arall.
Do, buom yno,
Y blaidd yng ngwisg dafad
Yn mynnu dy groesi
Yn enw gwareiddiad.
Ann Fychan
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: EMYN
Sêl hen dyrfa'r aildaro. Ameniaf
Er i minnau gilio;
Daw, daw yr ias ambell dro,
"O am aros", a'i morio.
Huw Erith Williams
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: EMYN
Yn nhymor deor duwiau - yn gannoedd
Fe ganwn y nodau,
Gylch ar ôl cylch rownd y cae,
Yn gôr heb faich y geiriau.
9 pwynt
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS UNRHYW ANIFAIL FFERM:
Ei gefn, ac angen 'sgafnu
Baich y tad oedd buwch y ty.
Hawdd dal ar drybaeddu dyn,
Y mae'i ach gan bob mochyn
Swn yr unigeddau sydd
I fref oen fry ar fynydd.
Gordon oeraidd, y blaidd blin,
Oen llywaeth y gorllewin.
PENNILL MAWL/DYCHAN - Y CYMRY CYMRAEG
Fel ar hyd y canrifoedd
Yr un hen dacteg
A glywsoch chi 'rioed
Am Saeson Saesneg.
-----------------
Mae nhw'n hawdd eu hadnabod,
Maent yn brin eu cynefin,
Ac yn mynd wysg eu tinau
Tua'r gorllewin
Yn cwyno wrth gilio
Am fygythiad o'r dwyrain,
Ac yn dibynnu ar Saesneg
I fynegi eu hunain.
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YFAIS I LWYR ANGHOFIO"
Yfais i lwyr anghofio - am y cam
am y cwmwl drosto;
Mae'i lwch trist yng nghist fy ngho'
'n gafael; rwy'n dal i'w gofio.
Ym merw'r ty, yn morio'n ei ddiod
Roedd Ieu am gael setlo
Ai fi a yrrai, neu fo,
Yfais i lwyr anghofio.
Daw rhai yn paldaruo yn sobor,
Heb seibiant o'u mwydro;
A diawl ces ddigon yn do,
Yfais i lwyr anghofio.
Ni wel heidden fyth lwyddo un orig
Ei liniaru, eto
I daflu baich, boed fel bo,
Yfais i lwyr anghofio.
LIMRIG YN YMWNEUD Â'R HEDDLU
Yn holl brotestiadau'r dyfodol
Bydd heddlu sy'n dyrnu y bobol
Yn dangos eu henwau
Eu noddwyr a'u rhifau
Yn fawr fel ar grysau tîm ffwtbol
Yng nghanol y ffordd yn Llanfaglan
Disgynnodd, a chysgu'n ei unfan
Mae Wil Rhydyclafdy'n
Y llys bore 'fory
Am yrru dros "sleeping policeman"
Yr heddlu oedd wedi ei 'restio
A'r dyn oedd yn barod i dystio
Fod Now 'di lladrata
Deg crat o Gorona
A'i yfed pan ddaru fo fystio
Myfi sydd yn gwarchod 'Rhif Deg'
Rwy'n ymladd rhag agor fy ngheg
Mae gennyf i bastwm
A phib a chloc larwm
A sgidiau seis pedwar ar ddeg
Yn cadw yr heddwch yng Nghlydach
Mae'r Cwnstabl Winston H. Llywarch
Am draed sy' gan hwnna !
Mi ddylai' rwy'n ama'
'Di dod i'r hen fyd 'ma fel alarch
Roedd heddwas o'r enw Huw Gerwyn
Arferai batrolio Bro'r Berwyn
Y g?r efo'r panda
A drodd yn Miranda
A 'nawr mae'r hedd-wâs yn hedd forwyn
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): FFINIAU
Cwyd ceiliog i'r coed called,
dywed y llais hyd a lled
ei fro, ei hawlio'n ei hôl
â'i hir berfformiad hwyrol;
daeth Mai ar ei duth - 'Amen,'
yw'r gân o frig ei onnen:
Ei fawl sy'n llenwi'i faled;
o'i bulpud hefyd ehêd
rhybudd i adenydd dwl -
rhybudd rhag unrhyw drwbwl;
amddiffyn wna'r deryn du
dir ei genedl drwy ganu.
ENGLYN CYWAITH: RHIENI
Er rhoi iau eu haerwyon i mi'n dreth,
Mae'na draed bach gwynion
Wyr ar led, am fentro'r lon;
Nhw yw'r duw wna'r adwyon.
Pwyllo rhag dyfroedd pellach - ac oedi
a'r gadwyn yn gryfach,
Nid oes angor rhagorach
Yn y byd na baban bach.
TELYNEG: RHINIOG
Pan gamais mewn i gegin
Ddychmygol ei th? bach,
Tynnodd rhyw lun o gadair
Yn haul ei chroeso iach.
Er nad oedd fawr adnoddau,
Huliai ei bwrdd heb stwr,
Ei chacen fwd yn disgwyl,
Tebotiad o de dwr.
Yng ngwefr ei diniweidrwydd
Fe welwn ei hen nain
Yn ddygn wthio'r sachau
Pan dreiddiai'r gwyntoedd main.
Wyres a'i chwarae'n atgo'
Cymdogaeth dda fy mhlwy
Ond iasau sy'n sawl cegin
Nad af i iddi mwy.
---------------
Cyn iddo adael y coleg
Am lwyddiannau gyrfa faith,
Fe rannai'r baich yn y gwyliau,
Yn nyddiau'r prinder a'r gwaith.
Ond magodd ei blant yng Nghymru,
Yn iaith ei lwyddiant, bob un;
A'i fratiaith dychwelai yntau
Ar daith ysbeidiol i L?n.
A bellach ni chlywn ganddo,
Ar gyfoedion fe gollodd flas,
Ac yntau'n ddall gan ei gyfoeth
I'r draul ar y llechen las.
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH YN CYNNWYS UNRHYW ANIFAIL FFERM:
Fe ddeil hen steil y stalwyn
Yn ddi-os mewn ambell ddyn.
I'r bwtsiwr croen yw'r oenig
Draw'n y cae - a darnau cig.
PENNILL MAWL/DYCHAN - Y CYMRY CYMRAEG
Diolch am Gymry pybyr
Sy'n frwd dros wlad ac iaith
A'u llais yn rhannu Gwynedd
Ar derfyn yr hir daith,
Wrth gadw drws ar agor
Mewn ysgol fach neu ddwy
Agorant ddrws yn lletach
A'n rhannu ni yn ddwy.
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "YFAIS I LWYR ANGHOFIO"
Yfais i lwyr anghofio - fy ngofid,
Fy ngafael yn llithro
I ryw rith, ond er trwytho
Nid yw'r cur yn mynd o'r co'.
LIMRIG YN YMWNEUD Â'R HEDDLU
Wrth ddrws Nymbar Ten mae 'na blisman
Yn gwarchod trwy'r dydd wrtho'i hunan,
Rwyf am ofyn yn ewn
Ydy'r peryg tu mewn
Neu a ydyw'r peryg tu allan?
Gwelais Walch Môr draw yng Nglaslyn,
Ehedydd yn ardal Bryn Siencyn,
A dau belican
Ar stryd Aberfan
A phlisman ym mhentre Llanuwchllyn.
(Amcangyfrifir ar noswyl Nadolig bod Siôn Corn yn gorfod ymweld â thua 832 o gartrefi bob eiliad er mwyn cwblhau'r gwaith mewn pryd. Gall trafaelio ar gyflymdra fel hyn arwain at broblemau!)
Wrth rannu anrhegion ger Bala
Eleni fe gosbwyd 'rhen Santa
Efo dirwy reit drom
Gan ryw Richard Brunstrom
Pan ddaliwyd ef gyda'r sbîd camera.
ENGLYN CYWAITH: RHIENI
Hwy yw aberth ein mebyd - ein poenau
Yw eu poen, a'u gwynfyd
Yw ein gwên dry pob ennyd
O'u cur yn gysur i gyd.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

