Glêr v Manion o'r Mynydd
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn ail rownd y Talwrn.
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WN':
(i'r banciwr Syr Ffred 'The Shred' Goodwin)
Ym myd y cyfiawn mi wn
Y bownsiai siec ei bensiwn.
Hywel Griffiths
8 ½ pwynt
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WN':
Unol Daleithiau America
Rhyddid i'r byd a roddwn
Ni wladwriaeth gaeth i'r gwn.
Nia Powell
8 ½ pwynt
PENNILL YMSON WRTH GOWNTER
Tawelach yw'r dadlau â'r banciwr
Rhyw gymaint, am fy morgais fawr,
Ar ôl gweld fy mrawd ar ei liniau
Yn hawlio rhyw sgwaryn o'r llawr.
Hywel Griffiths
8 ½ pwynt
PENNILL YMSON WRTH GOWNTER
Hyder mewn proffwydi gau,
Banciau'r byd sydd yn prinhau,
A'r dyledion mawr bob amser
Wedi'u cuddio dan y cownter.
Edgar Parry
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "UN GWIRION AR Y GORAU"
Mi wyt ti'n un od, Rodri, - un gwirion
Ar y gorau wyt-ti,
A daw'r adar i oedi
Heb un dowt ar dy ben di.
Eurig Salisbury
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "UN GWIRION AR Y GORAU"
Bardd
Un gwirion ar y gorau - un chwit chwat
A chwil ar adegau
Un all hogi'r gwir a'r gau
Un sy'n adwy syniadau.
Cynan Jones
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH FFORDD
Un tro gwelais ddau ddyn yn gweitho
Ar yr hewl y tu fas i Langeitho.
Dwedodd un wrth y llall
"Gen i syniad reit gall."
"Paid â phoeni," medd hwnnw, "mi eith o."
Iwan Rhys
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH FFORDD
'Rwy'n ceisio fy ngorau gweld heibio
Yr arwydd gwaith ffordd i gael ffendio
Ydi'r dyn 'rochor draw
I'r Jac Codi Baw
A'r fflag yn ei law wedi deffro.
Edgar Parry
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): UNRHYW DAFARN
Wrth ei hagor gefn bore
Ti'n yfed disgled o de,
Rhoi'r stoliau i lawr, eiste' lan
A sgwrio pres ac arian.
Mae'r pren ar lawr yn sawru,
Tyllau'n ei baent lle na bu,
A dau beint o ddiheintydd
Ar y bar. Am oriau bydd
Dy ddwylo'n ei hiro hi
A llonydd yn ei llenwi,
Nes i nawr noson arall
Roi ei llawnder yn lle'r llall.
Eurig Salisbury
9 ½ pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): UNRHYW DAFARN
(I'r Delyn Aur, hen dafarn porthladd Aberglaslyn cyn i'r cob alltudio'r môr i Borthmadog. Adeilad y dafarn yw'r unig un sy'n dal i sefyll yno, ac yn d? annedd.)
Fe fu yno dref unwaith
Yn gei a gw?r a chwys gwaith,
Llond Aber o sgwneri'n
Hepian yn llepian y lli,
A'r byd, fin nos, ger y bar
Yn heigio'n griw chwedleugar,
Hiraeth a rum yn gymysg
 graean mân yn eu mysg.
Ond troes tonnau'n gaeau gwyn
A dialaw yw'r Delyn,
Yng nghwmni neb wynebaf
Un t?, a'r t?'n lluest haf.
Nia Powell
9 ½ pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y BWS YSGOL
Mae'n haul cynhesu concrid, ac mae sgwâr y pentra'n wyn,
mae'r hogiau 'di dod ynghyd i wylio'r byd o fan hyn
tra bo'r llechen o'r bryn yn gynnes inni eistedd arni hi.
Fan hyn bydd taro bargen - pwy sy'n prynu'r cwrw rhad
o'r Londis ar y gornel - cyn daw rhai yn chwilio am eu tad.
Cawn rannu'r ddiod rhyngom, gan mai felly 'n magwyd ni.
Taerwn y clywn hen ffrwydrad yn adleisio'n ôl yn drwm
ond pyliau'r hen fws ysgol sy'n tagu fyny'r cwm;
a gwyn eu byd bach llwm am hanner awr wedi tri.
Bydd mam yn dwrdio dau frawd am ddynwared un neu ddau
o'r bechgyn mawr sy'n mynd i lawr â'u rislas i'r Iard Gau
lle nad oes s?n i'w glywed o bell, 'mond cyfarth ci.
Hen ddynion y Cwari'n crefu, "does dim yn newid o ha' i ha',
dim ond bod y plant 'ma heddiw yn ei chael hi'n lot rhy dda";
ond bydd rhai yn gaeth i'r lle 'ma, ddaw rhai ddim yn ôl am wn i.
Mae haul ar gopa'r hen graig yn dangos fod coron brenhines
a'i llwch heb setlo ar gorun y pentra sy'n anodd ei lloches,
ond mae llechen sydd heddiw'n gynnes ac mi 'steddwn arni hi.
Osian Rhys Jones
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y BWS YSGOL
Yn y blaen y mae'r wers economeg
Dyma Sion a'i bocedi yn llawn,
Siocledi, a beiros a batris
Ac atebion arholiad y p'nawn.
Tua'r canol mae'r wers ddaearyddiaeth
Fe ?yr Robin am bob rhan o'r byd
Gyda'i ddewis o faco egsotig
Stwff rhad Ffrengig a Cholombian drud.
Nes ymlaen, fe gawn y wers hanes
Gan Mair a ?yr pwy di pwy,
Ei thestun heddiw yw Siani
A'i chrwydro i bob rhan o'r plwy.
Ond mae Siani'n y cefn unwaith eto'n
Rhoi gwersi bywydeg i Wil,
Mi ddysgith o lot mewn deng munud
Sy'n ormod i hogyn mor swil.
Ac yna i'r carchar beunyddiol
I ddysgu "life skills" ar Fwr' Gwyn -
Rhaid dioddef nes canu'r gloch dd'wethaf
Caiff yr addysg barhau gyda hyn.
Cynan Jones
8 ½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: GEIRIAU
(ar draeth Castellmarch)
Gyda chorsydd all suddo yn eu d?r
bryderon fy meichio,
byw rhai o hyd ymhob bro'n
frwynen rhy lafar heno.
Osian Rhys Jones
8 pwynt
ENGLYN CYWAITH: GEIRIAU
Hongian ar edau angof - yr ydwyf
Tra rhed lladron trwof
Gan gipio aur cistiau'r côf;
Unwaith bu cyfrol ynof.
Nia Powell
9 ½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Heno ni ddaw yr awen
Tenau yw os wyt yn hen
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Heno ni ddaw yr awen
Y mae'r co' heno mor hen
1 pwynt
TELYNEG: AWR
Mae'n noson oer o Fai,
ond mae'n rhaid mynnu'r haf
pob gafael y dyddiau hyn.
Down i gasglu'r broc sy'n brin ar draeth,
i gynnau a chynnal tân
yn nh? unnos ein sgwrs a'n cân.
Cawn glywed y tonnau'n ysgafn
a theimlo'r cwrw'n drwm
o dan garthen o wres myglyd;
ond clywn ni pob un coedyn
yn crensian ei ddannedd yn ddim
wrth hollti'n y fflamau melyn.
Ac wedi'r nos bydd golosg i'w weld
a'i olion llugoer, llwyd,
tros raean mân y tywod mawr;
gwylanod yn trywanu caniau gweigion
ger y lludw fu'n hir ymaros yr awr
y daw'r un lli hallt i'w oeri'n llwyr.
Osian Rhys Jones
10 pwynt
TELYNEG: AWR
Oedi
ar orwel amser
wrth i awel Awst
gosi cynnwrf canol oed
Gorffwys
yn symffoni'r swigod d?r
yn cogran rhwng y gro mân -
ac anwesu eu parabl.
Aros
uwchben y drych grisial
sy'n byrlymu'n galeidosgop o luniau.
Goglais atgofion o'r pyllau dyfn -
- a'u cofleidio -
cyn ffrwydro'n berlau
yng nghrych y tonnau.
Yna deffro
yn llif yr eiliadau
sy'n troelli tua'r traeth.
Phyllis Evans
10 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: PRIS
(wrth hedfan ar wyliau)
Mewn awyren uwchben y byd, - mor hawdd,
mor rhad yw dychwelyd
heb 'styried bod ein credyd
i'r ddaear hon yn rhy ddrud.
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: PRIS
(i gwpwl sy'n dyheu am blentyn)
Nid aur, ond penyd oriau - nid elw
Ond wylo hen ddagrau,
Nid arian ond paderau
Sy'n dirnad dyhead dau.
8 ½ pwynt
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WN':
I fechgyn gwyn fe ganwn
os gwyn eu byd gymryd gwn.
Tros Fanion digalonnwn
ni'r Glêr a'n cryfder mawr crwn.
'Run boi yw Deryn y Bwn
a Huw Erith, fe daerwn.
Osian Rhys Jones
Ateb gonest i'th gwestiwn
Am gelwydd newydd ni wn.
Iwan Rhys
Yn hwntw ni warantwn
Yr hawl i gog gario gwn.
Yn gog, yn wir, arfogwn
Rhag i'r hwntw gadw gwn.
'Pam ti'n hwyr? Pam?!' taniai hwn.
'Helynt a ges gan aliwn.'
Eurig Salisbury
PENNILL YMSON WRTH GOWNTER
Nid wyf innau'n hoffi Jones y Siop,
Mae e o hyd yn dweud bod gen i 'issues'
Bob tro rwyf innau'n prynu potel bop,
Banana, FHM a box o dishws.
Iwan Rhys
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "UN GWIRION AR Y GORAU
Yn ddi-wynt, canodd yntau'n ganol oed
gân i lodes ddethau;
un gwirion ar y gorau
a wyddai well pan oedd iau.
Iwan Rhys
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH FFORDD
Gan fod gwyriad ar gyrion Maentwrog
ac un arall ym Mlaenau Ffestiniog
ac un arall o dan
y bont rheilffordd yn Llan
gyrhaeddais i fyth mo Porthmadog.
Hywel Griffiths
TELYNEG: AWR
Pan fydd yn ddistaw'r alawon ryw nos,
a'r niwl fel tae'n estron,
a'r deri'n llawn pryderon,
cofia mor fawr yw'r awr hon.
A phan fydd oerfel awelon yn dynn
amdanat, yn cydio'n
galed fel dwrn am galon,
cofia mor fawr yw'r awr hon.
Cofia, fel cofia'r afon, bob ennyd,
bob anadl yn ffyddlon
oherwydd bydd pryderon
rywdro'n fawr wedi'r awr hon.
Iwan Rhys
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'WN':
O am wydraid, pe medrwn,
Ymhell o fanma - a hwn!
Yn wylaidd, Twm, fe holwn
O beth a ddaeth o'r bab?n?
PENNILL YMSON WRTH GOWNTER
Tydi hyder gwlad yn frau
Pan fo'r banciau yn gwanhau,
A'r dyledion sydd drwy'r amser
Wedi eu cuddio dan y cownter.
Mae'n hawdd gwastraffu amser
Yn ffermio llawer acer
Tra gellir ennill llawer mwy
Ar lath neu ddwy o gownter.
Mae'r ferch tu ôl i'r cownter
Yn fwy na llond ei brasier,
A minnau'n bowld yn syllu'n hy
Wrth dalu am giwcymber.
Dwi'm eisiau tyfu'n Hogan Fawr
I weld dros ben y cowntar,
Er mwyn i'r un sydd 'rochor draw
Gael mynd â 'mhres yn eiddgar!
Dwi'm eisiau tyfu'n hogan fawr
A sefyll mewn 'run rhes,
Am fod 'na rywun 'rochor draw
Sy'n mynnu mynd â'ch pres!
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL "UN GWIRION AR Y GORAU
Un gwirion ar y gorau - yw'r Meuryn,
Er mawredd ei eiriau,
Un dewr sy'n barnu rhwng dau,
Un gwirion ar y gorau.
Ym monllef ei hunllefau - a'i fydoedd
Yn fyd o leuadau,
Y mae'r ffwl a'i brebwl brau'n
Un gwirion ar y gorau
Bardd
Un i'n herio â'i eiriau - un yn byw
Mewn byd o ddelweddau,
Un all hogi'r gwir a'r gau -
Un gwirion ar y gorau.
Un hetiog, un o'r hogiau - un chwit chwat
A chwil ar adegau,
Un â'i ddawn mewn gair neu ddau,
Un gwirion ar y gorau.
LIMRIG YN YMWNEUD Â GWAITH FFORDD
Wrth groesi y stryd syrthiodd Beti
Yn sydyn i bwll o fudreddi,
Melltithiodd y Cyngor
Y maer a'r syrfeior
A'r twll dyn ar agor, cyn codi.
Nid torri ei galon wnaeth Moses
Pan welodd o arwydd 'dim acses',
Ond taro ei ffon
A gwneud ffordd newydd sbon
Drwy'r môr mawr yn llon 'nôl yr hanes.
'Rôl disgwyl blynyddoedd a chwyno
Fe gafodd ein ffordd ei tharmacio,
Ond heddiw peiriannau
Sy'n claddu pibellau
A'r mwd at ein drysau ni eto.
'Does dim yn fy rhwystro i basio
Ond Jac Codi Baw wedi'i barcio
Ar ganol y lôn
I'r dyn, 'nôl y son,
Fynd adra i Sir Fôn i nôl cinio.
ENGLYN CYWAITH: GEIRIAU
Rhwygiadau cyfrolau'r co' - a welaf
fel deiliach yn cwympo;
un ddalen ddrylliog heno
a ddeil o'i huodledd o.
Un ddeilen tan fedwen Fai - a welais,
Un ddeilen a grinai
Yn swn haf, ond aros wnai
Ddiwel yr hydref ddeuai.
TELYNEG: AWR
Daw,
fe ddaw yr heddiw hwn
a'i wawr i euro hen furiau anghyfarwydd.
Un dydd o'r miloedd dyddiau
pan fydd lleisia'r bora bach yn dawelach
ac yn didoli geiriau am fod y gwir
yn rhy drwm ar draeth
tawel y gwely.
Ac yna, a hithau eto'n gynnar
daw'r hwyr i ddwyn lliw yr heddiw hwn
nes bydd y byd i gyd yn gaeth
yn un eiliad yr awr olaf.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

