Tywysogion v Howgets

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn ail rownd y Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'EC':

Hudolus fel tôn Dalek
'di'r iaith ar S4C.

Guto Dafydd
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'EC':

Plato aeth i'r Polytech
A Barbie aeth i Birbeck

Endaf ap Ieuan
8 ½ pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Mae cwmni Arriva am enwi un fflyd o'u bysus ar ôl pymtheg ochwareuwyr rygbi enwog o Gymru.

Dwi'm isio dal bws wedi ei enwi
ar ôl rhywun fel Shane ar fy myw.
Mi wn am sawl bws yn barod
gyda chowboi wrth y llyw!

Mei Mac
8 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Bws, bws, bws bach annwyl
Tyrd fel anwes i ni,
Fe wyddom am dy anian,
Ac y doi yn d'amser di.

Meirion Jones
8 ½ pwynt

ENGLYN BEDDARGRAFF - PREGETHWR HIRWYNTOG

'Mlaen a 'mlaen mor amal aeth: - ragarug
yr oedd hyd farwolaeth.
Yn hwyl un oedfa helaeth
dal 'nôl rhag anadlu 'wnaeth!

Mei Mac
8 pwynt

ENGLYN BEDDARGRAFF - PREGETHWR HIRWYNTOG

Cyn pob gwledd dy hir weddi - i ddiolch
I Dduw am y jeli,
Barodd i dwr o'th braidd di
Agor tun cyn dôi cyni.

Llyr Gruffydd
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DAMWAIN

Fe gollais fy meiro'n y bora',
Y ci 'di cnoi'r laptop yn ddarna';
Aeth yr Awen yn brae
I dri llew mewn cae.
Mae'r tasgau yn hwyr eto tro 'ma!

Siân Northey
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DAMWAIN

"Annwyl Mr Jones" - llythyr i athro

Dwi'n sgwennu i ddweud nad yw Debra
'Di anghofio, wir yr, ei gwaith cartra,
Ond wrth wasgu sôs coch
Ar ei brechdan cig moch
Gwnaeth uffar o boits dros ei llyfra.

Rhys Llwyd
8 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): MYNYDD

Daeth yma'n denau'i faneg,
hyd lonydd y tywydd teg
a swbwrbia gydag o.
Mynyddoedd fel Môn iddo.
Cwynodd am enw'r ceunant,
pob pwll, pob cilfach pob pant,
o'r wlad anynganadwy.
Yn y môrg mae'r c'radur mwy.

Aeth y g?r neithiwr yn ôl,
ar ei hyd o'r tir hudol,
Pan aeth y dyn derfyn dydd,
"Amen" oedd sylw'r mynydd.

Mei Mac
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): MYNYDD

I ni ym Môn roedd mynydd
yn wawr dân ar ruddiau'r dydd,
copa dan eira'n arian
yn y gwyll; llechweddau'n gân
i'r haul, ac Eryri'r ha'
yn em o banorama.

Mudo i fro sy'n friwiau
o fargeinion. Briwsion brau'r
mân lechi'n ddringfa giaidd,
eco'r rhwyg yn nwfn eu craidd.

Ai craith neu aceri rhydd?
Y mae ynom sawl mynydd.

Annes Glynn
8 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DIHANGFA

Modelau cain o goesau matchis,
Trwsio clociau, perffeithio cyris,
Chwarae golff a magu cwningod,
Tyfu rhiwbob, dangos c'wenod,
Brodio rhosod ar bob cerpyn,
Hyfforddi c?n a chanu'r delyn,
'Sgota brithyll, casglu stampiau,
Chwarae snwcer ac odli geiriau,
Ac am awr yn llwyr anghofio
fod 'na rhywbeth bach yn brifo.

Siân Northey
8 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DIHANGFA

Efallai na chlywsoch chi hanes
Y criw ddaeth i aros i'r Plas,
Cofrestrodd pob un ar gwrs carlam
A phawb bron yn dysgu ar ras.

Fe wyddoch yn siwr, ym mhob dosbarth
Mae 'na un eisiau gwybod pob dim,
Rhaid cael pob gair o'r geiriadur,
Un poenus o ddysgwr oedd Tim.

Yng nghanol y nos aeth y larwm
O'r tân cerddodd pawb yn reit chwim,
Er gwaethaf pob ymgais i'w atal
Dychwelyd i'r plas a wnaeth Tim.

Daeth allan o ganol y fflamau
Yn debyg i Daniel o'r ffwrn,
Dim blewyn o'i ben wedi deifio
Yn gwenu a llyfr yn ei ddwrn.

Roedd o wedi nôl ei eiriadur
Heb boeni am losgi ei hun,
Am byth y mae ystyr dihangfa
'Di serio ar 'mennydd y dyn.

Rhys Llwyd
8 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Un llaw yn trywanu'r llall
Onid yw'n anodd deall?

½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Onid yw'n anodd deall
beth ydyw llun i'r dyn dall

½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: SIOM

Hillsborough

Syberwyd llais y bariau - o wasgu
esgyrn ar derasau,
malu cyrff yn ymyl cae:
darniwyd ein holl Sadyrnau.

Guto Dafydd
8 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: SIOM

Unwaith dy law a fynnais - dy gariad
Di-guro a gefais
Heno cledr yw siap y clais
A melyn yw lliw'r malais.

Endaf ap Ieuan
9 pwynt

TELYNEG: GWOBR

Roedd distiau beudy'r Aber
yn llawn rhubannau.
Tair neu bedair enfys sidan
yn dyst
o hafau a hafau crwn
o gylchoedd sioe.
Y rhai pella'n drwch o lwch a gwe
a thlysau 'leni'n lân a ffres.
A thanynt y gwartheg duon
yn rhes,
yn cnoi eu cil,
Llinach fel cadwyn nionod,
pob un ar aerwy.

A chefais innau fy rhwymo rhywsut
yn chwarae yno,
yn sgwrsio.
Rhywle ynof mae rhubannau.
Dwi ar fy ennill.

Siân Northey
9 pwynt

TELYNEG: GWOBR

"A'r enillydd yw ..."

yr un all weld
y tu hwnt
i frwdfrydedd undydd y dorf,
sioe Pafiliwn,
sylw gwresog y Wasg,
i neuadd ddiawen yr olwg
yng ngwyll y mis bach
a'r gaea'n drwch.

Criw bychan yn disgwyl amdani
a chân ei cherddi.
Rhannu profiad,
panad,
a'r diolchiadau'n gynnil, ddi-lol.

Ar gychwyn adre
a daw un â'i chyfrol ac ôl bodio arni
i'w llofnodi.
"Mi fu'n lot o gysur imi.
Teimlo'ch bod chi wedi 'nalld i."

Y cyffwrdd swil
mor gynnes â sofren ar gledr ei llaw,
yn werthfawrocach
nag unrhyw Goron.

Annes Glynn
9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: GWERSYLL

Mae'r llwyth mewn tymor llethol - mae'n dywyll
Ym mhebyll fy mhobol,
Ond daw tân eto i'r canol
fin nos - ond ei fynnu'n ôl.

Guto Dafydd
8 ½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: GWERSYLL

Yn y Bae bu trais yn ben - hawliau'n rhacs,
olion rhwd ar weiren,
i garcharor siwt oren
hybu'r twyll wnaeth No. 10

Ieuan Parri
9 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DIHANGFA

Yr ydych, foneddigion, yn bobol hyfryd, wyn,
heb ddicter yn eich calon am achos bach na mawr.
Ond os newidith hynny, eich waldio efo ffyn
fydd unig ddewis ceidwaid gwareiddiad Prydain Fawr.

Mae sbio'n gam ar heddwas yn haeddu mis dan glo,
neu os yw'n llai o drafferth, eich leinio'n hollol racs.
Maen nhw yn eich trystio ond, 'mond i wneud yn si?r,
mi wrandan ar bob galwad, a darllen pob un ffacs.

Ry'm ffodus fod llywodraeth y dydd mor uniawn, ddoeth,
ac felly does dim angen protestio - llawenhawn!
Y nhw sy'n iawn bob amser, ac mae hi'n dda gen i
nad yw yr heddlu r?an ond henshmyn Gordon Brown.

Mae pethau yn y byd 'ma y mae hi'n llawer gwell
i'r cyhoedd beidio â'u gwybod - trystiwch chi'r
grymusion efo hynny. A daw heddweision clên
i chwilio trwy eich pethau os meiddiwch ddweud y gwir.

A does dim dianc, ffrindiau, y Wlad yw'ch ffrind yn awr:
caiff sbio ar eich lluniau ar gamerâu drwy'r dydd,
a darllen pob cyfrinach o'ch eiddo ar ei sgrîn,
a hyn er mwyn eich cadw yn fodlon, saff a rhydd.

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'EC':

Am swél yw stadiwm SWALEC!
Yn sail i'w sioe mae sawl siec.

(Rhyw styrbans mewn gwisg ffansi)

"Y ffwlbart! 'Rhen siwt Startrek
a STAES?! Cei fynd fel Mus Têc!"

Ar hen lyn y Marîn Lêc
Lil hwyliodd i gôl Alec.

Un hwylus meddai Alec -
Uwd brys ydi Ready-Brek

Yn o siwr, piswyd pob siec
Yn latrine Toulouse Lautrec

A'i rebel ydoedd Brubeck*
Neu glown na ddarllenai'r glec

(*Bu bron i Dave Brubeck gael ei daflu allan o'r Coleg Cerddorol pan ddarganfuwyd na allai ddarllen cerddoriaeth)

Daeth yr hawl wedi sawl siec
I Barbie fynd i Birbeck

Y Creawdwr

Y mae'n bod a'i glod yw'r glec,
Ef yw Arglwydd y Fawrglec.

PENNILL MAWL/DYCHAN - TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS

Bysus bach y wlad
A bysus mawr y gwaith
Naill ai 'run o gwbl
Neu dri a wna'r un daith.

Fy annwyl gynghorwyr cyflwynaf i chi, fy mholisi newydd arloesol
Mae'n ateb gofynion ein targedau lu, a chael bendith y criw amgylcheddol
Mae'r is-bwyllgor Amaeth o'i blaid gant y cant, fel hefyd Cynllunio a Iechyd
Ac Addysg a Hamdden a Chyfraith a Threfn, a hyd yn oed y pwyllgor Cyllid.
Ystyriwch yn ddwys a phledleisiwch yn ddewr, a mynnwch dro da i'ch cymuned
A phasiwch i roi i bob un yn ein sir, bar newydd o esgidiau cerdded.

ENGLYN BEDDARGRAFF - PREGETHWR HIRWYNTOG

Llwch i'r llwch, rhown fis Mai i'r llawr - y gwr
Na garai ei oriawr.
Aiff adref i'w Nef yn awr.
Hunodd ar ddechrau Ionawr.

Tragwyddoldeb mae'n ei wnebu, - a ni
Bob nos bu'n pregethu;
 hedd diddiwedd o du
Cawn - o cawn - "Ddechrau Canu...".

LIMRIG YN YMWNEUD Â DAMWAIN

Dannedd gosod William ddiflanodd
A'r henwr yn gyflym anghofiodd,
Wrth eistedd ar sofa
Heb sylwi bont yna
Fe gafodd Wil frathiad o danodd.

Merch ifanc o Fethel oedd Eirlys
A pheintiodd ei thinws fel rosus,
Roedd y lliwiau yn iawn
A'r ffurf yn reit llawn
Ond yr 'ogle - roedd hwnnw yn wallus.

Mae pawb weithiau'n gwneud camgymeriad
O Feuryn! Mi wn nad ar fwriad
Y buoch yn slac
A rhoi i Mei Mac
Y deg marc ac yntau'n ddibrofiad!

Mi glywais i sôn fod Sian Northey
Yn cael trafferth mawr efo'i hodli
'Mond drwy lwc neu ddamweinia'
Mae'n creu ei limriga'.
Ond dwi'm yn un i gario stori.

Ar ei wyneb rhodd flewiach hen frws
A'i dîn sydd fel hanner ôl bws
Mae'n rhaid fod y creawdwr
Yn chwil fatha barnwr
Pam arall y gwnaeth Blatypws?

Nawr Feuryn, 'dwi ddim yn foi barus
Na'n amau eich bod yn un ffwndrus.
Ond ai damwain neu hap
Oedd rhoi wyth i'r 'Ap'
A deg marc i rybish Twm Morus?

Un Sadwrn,'rôl angladd, roedd bwffe
A huliwyd yn neuadd y pentre
Ond yn y porc pei
A gafodd John Mei
Roedd pen bys a bawd yr hen Sieffre.

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): MYNYDD

Y fynwent yw ei fynydd,
Ni fyn ffoi, Ef yw ein ffydd,
Ei ddameg, yna'i bregeth
Ddaw a'i fyd i ni'n ddi-feth;
O'i angau, deddfau ein Duw
Ddônt eglur, a ddônt hyglyw
I weinion ddynion, i ddyn
I atal yr ynfytyn:
Y gwan ei fyw, gwyn ei fyd,
A'i afaith n'fendith hefyd.
Gwen ei waed am byth a'n gwna
Yn gaethion i'w Golgotha.

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): DIHANGFA

Roedd cwningen mewn labordy
Lle y ganwyd a'i fagwyd o,
Ond dihangodd o'no un diwrnod
Ac i'r byd yr aeth ar ffo.
Gwelodd ei laswellt cyntaf
A'r wawr yn torri yn ddydd,
Aeth dan wrychyn ar antur
A gwelodd gwningod rhydd.
Fe ddwedodd wrthynt ei stori
A hwythau groesawodd ef.
Gofynodd iddynt be wnaethant
A disgrifiwyd iddo eu nef -
Mewn caeau agos roedd moron
A letys a phopeth yn rhydd,
A hefyd bwnis merched
A bu'n bwyta a charu drwy'r dydd.
Cafodd gynnig i aros yno
Pan wrthododd - 'styriwyd yn jôc,
Ond rhaid roedd mynd 'nôl i'r labordy
Roedd rhaid - Roedd bron marw am smôc.

ENGLYN CYWAITH: SIOM

Mor groch ydoedd y Cochion cyn y gêm,
Cyn y gamp arswydlon;
Ond eu hawch aeth dan y don
O rwydd gerddi y Gwyrddion.

Rhydd ras i enaid urddasol, - yn dd?r
Ar ddur poeth uffernol;
Tymhera, nertha'n wyrthiol
A byth yn rheibio o'i ôl.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.