Criw'r Ship v Dinbych

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.

CWPLED CAETH - HYSBYSEBU BUSNES:

Hysbys Ceir Cymru

Garej llawn ceir rhagorol
hwyl iach a dim blincin lol!

Gari Wyn
8 pwynt

CWPLED CAETH - HYSBYSEBU BUSNES:

Tacsidermydd

Os am stoc rhad i'w cadw
ffonia 'nawr i'w stwffio nhw.

Berwyn Roberts
8 ½ pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYFALAFIAETH

Mae gen i filiwn yn y banc.
Cyn hir, mi fydd 'na ddwy.
Be ydy'r pwynt cael ffiol lawn
Os fedri lenwi mwy?

Arwel Roberts
9 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYFALAFIAETH

Dydd Llun, dydd Mawrth, Dydd Mercher,
y bûm i'n gwario'n ofer -
Gwario dim llai pan ddaeth hi'n ddydd Iau
a minnau yn ben bancer;
Mewn dyled drom ddydd Gwener,
ond poeni dim fel arfer -
Mentro yn hy', gan mai'r tlota' ei d?
sy'n talu'r llog bob amser.

Eifion Lloyd Jones
8 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 3 ABER

Ces wyliau symol Dolig - Abersoch,
Bara saim heb selsig,
Maro yn Abermeurig
Brie a bins yn Aberbig

Arwel Roberts
8 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 3 ABER

I Aberdeen am ginio - yna te'n
Abertawe, rhuthro
i Aberdâr am bryd o
salad, a chaf noswylio.

John Glyn Jones
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â BYW YN HEN

Mi fydda i'n ninety ha' yma
A nannedd i'n dathlu ha' nesa
A ma' 'mocha i'n h?n
Na bocha' fy nhin
Gan mai mhen i ddoth allan yn gynta'!

Nia Môn
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â BYW YN HEN

Peth creulon yw gorfod heneiddio,
'Di 'nghof i ddim cystal â'r oedd o,
Fy ngwallt erbyn hyn
Yn ddim ond blew gwyn,
A'm cof i ddim cystal â'r oedd o.

Gwenno Davies
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): ENNILL

[Is-deitl:
Dameg o ben y domen
neu'r Bardd a'i yrfa ar ben.]

Wedi'i ornest bu'r deyrnas
yn bur hoff o'i gamu bras
a hyder ei ganiadau
pêr eu hiaith, a bu'n parhau
i stompio gan floeddio'i flys
a'i ddoniau yn llwyddiannus.

Os lliaws ei alluoedd
llesmeiriol, yn raddol 'roedd
rhyw niwed anweledig
yn crynhoi i freuo'i frig.

O beint i beint, daeth i ben
ei dymor ar ben domen.

Nici Beech
8 ½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): ENNILL

Un ras o gamau breision,
awr ar ôl awr hyd y lôn;
Un ras hir, ac un her sy'
yn rhy unig i'w rhannu;
Unig ymysg ugeiniau
o gyrff o amgylch yn gwau.
Drwy rhyw wal o flinder â
am nos y camau nesa'
a chur un ymdrech arall,
a'r holl wefr o guro'r llall.
Ond erioed daw clod i ran
yr un all goncro'i hunan.

John Glyn Jones
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y CYNGERDD

Wfft i horwth y Mileniwm,
Wfft i opera, wfft i stadiwm.
Mi gaf glywed sêr arobryn
Heb roi crocbris am y tocyn;
Nodau cynnil yw'r da capo
Wrth i'r symffoni ymchwyddo.
Llinos werdd a robin goch
Ddaw i gyfalawu'n groch.
Soprano'r titw tomos las,
Brain yn crawcio'r llinell fas
Ac uwch y cyfan, haid gwenoliaid
Yn pyncio megis pêr denoriaid.
Toc, daw'r mwyeilch mwyn eu chwiban
I goroni'r anthem syfrdan.
Cwyd yr alaw yn grescendo,
Mirain wyrth o harmoneiddio.
Holl fodau pluog LL54
Ymgasglant acw i gyd-drydar.
Synau natur ar eu gora' -
Am bump o'r gloch bob blwmin bora....

Arwel Roberts
8 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y CYNGERDD

I Wil a Jên roedd Ebrill yr ail, dwy fil a saith,
Yn sbesial - ro'n nhw'n briod ers hanner canrif faith.
Roedd Jên am 'sbwylio' William, a chododd cyn c?n Caer
I baratoi ei frecwast, iddo'i fwyta fyny'r staer.
Gosododd dost a chorn fflecs, a dau fwg ar y tre
(Un i ddal ei ddannedd a'r llall i ddal ei de).

Pan ddeffrodd Wil o'i drwmgwsg, ca'th sioc o weled Jên
Yn gafael yn yr hambwrdd, yn gwisgo dim ond gwên.
Medd Jên "Wel, Wil, ry'm heddiw yn dathlu'n priodas hir"
A Wil yn methu deall sut fod hynny'n ddathliad wir.
"Rwy'n cofio dydd ein priodas fel ddoe" medd hi yn syn,
"'Tae fory" Wil feddyliodd "ni faswn i yn mynd".

"Fe fydd y cyngerdd heno'n ffordd wych i ddathlu hyn"
Medd Jên, a wyneb Wil yn troi 'run lliw a'i wallt, sef gwyn.
Medd Wil, gan ddal yr hambwrdd fel tarian, jyst rhag ofn,
"Chei di ddim dod i'r gyngerdd." Roedd hon yn ergyd drom.
Dangosodd mai un tocyn oedd rhwng ei fys a'i fawd,
"Mae'n nodi ar y tocyn, sbia, 'Only Men Allowed'"

Gwenno Davies
8 ½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Nesta aeth i ben ystol
Yn ei phais - am syniad ffol

½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Nesta aeth i ben ystol
Hogan fawr - daeth lawr heb lol

½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: DRWS

Yno dros dy riniog cynnes - rhenais
gyfrinach fy mynwes
a'r gwin a phob gwefr a ges.
Yna, dy gloi mewn hanes.

8 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: DRWS

Ymwared i'r annedwydd - yw eco
rhyw gliced aflonydd
o nos lwyr y selerydd
yn agor dôr tua'r dydd.

Berwyn Roberts
9 pwynt

TELYNEG: FFLAM

O'i echel
mae'r haul
yn troi ein dyddiau
o hyd,
a ninnau'n ein bydoedd benthyg
yn treisio'r tir
â'n gormodedd.

Pluwn ein nythod plastig,
mewn gwlad goncrit
a hercio'n tipyn hachubiaeth
wrth ailgylchu'n byw
dan faner werdd
euogrwydd.

Mae patrymau tryloyw pob ddoe
yn araf
feirioli
yn ddiferion
oer.

Pan ddaw hyn oll i ben,
daw heuldro cyson
i freuo'n hanes ffôl,
ac egin i ymwthio
drwy ddrain ein byw.

Ym mhob machlud
mae gwawr,
a byd newydd
yn cynnau eto
o'r gweryd.

Nia Môn
9 pwynt

TELYNEG: FFLAM

("angerdd pob fflam... yn lludw llwyd")

Crynai fflam
un o ganhwyllau'r allor,
mor nerfus â Maria
yn ei gwisg laes wen,
wrth iddi gamu'n araf
dan gangau'r palmwydd
at groeso Iesws
ar Sul y Blodau.

Ond Sul y Pasg,
nid oedd na channwyll nac allor
yn L'Aquila,
dim ond gwisg laes wen
yn crynu mewn bedd gwag -
ei hamdo'n groeso i Iesws,
os daw hi o hyd iddo
dan ludw'r rwbel.

Eifion Lloyd Jones
9 ½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: CAMEL

Llong weithgar y Sahara - heb ei ail
yw ei dail i Dahlia
ond och! Nid yw'n gradur da
i'w yrru drwy luwch eira.

8 ½ pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: CAMEL

Trwstan dy loncian di-lun - ac o hyd
mae gwawd yn dy ddilyn;
Cofiwn un weithred wedyn -
Cariaist aur i'r Crist ei hun.

9 pwynt

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH - HYSBYSEBU BUSNES

(i ryw gwmni teledu)

Ym miri'r holl gwmnia
'mond hwn sydd yn Gwmni Da.

ENGLYN YN CYNNWYS 3 ABER

Anelaf am Aberafan ar hast
O 'Berystwyth weithian,
Gyda'r 'sat nav' af mewn fan.
O'r ing! Dwi'n Aberengan

Daw Dave o Aberteifi, - dwi'n nabod
Now o Aberhonddu
Y maent yn gwmni i mi
Yn jel, yn Abergele*
(*yngenir fel Ab-y-jel-i)

LIMRIG YN YMWNEUD Â BYW YN HEN

Gin i ast sydd 'di byw ugain mlynedd,
Dwi ddim yn deud gair o anwiredd;
Ac os wnewch chi floeddio -
Tydi'i chlyw ddim be oedd o -
Mi wneith hi ddal wrando ar 'gorwedd'...

Dwi'm isio heneiddio, dwi'm isio!"
"Wel, gwranda," medd Dic "Rhaid 'ti gofio,
Os ti'n teimlo fel ff?l
Pan wyt ti'n chwarae p?l
Bo' ti'n edrych reit c?l ar y radio"

ENGLYN CYWAITH: DRWS

Rwyf yn ôl. Oedaf ac agor - y bollt
ar lle bûm garcharor.
Hen stwff sydd yma yn stôr
o ing, ond mae'n angor.

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED CAETH - HYSBYSEBU BUSNES

Fel CORGI os caf i her,
neidiaf i'r job â hyder.

PENNILL MAWL/DYCHAN - CYFALAFIAETH

O geiniog i geiniog yn ôl y ddihareb
y ceisiwyd ers talwm roi trefn ar gyllideb.
Roedd criw'r nefar-nefar yn rhai i'w diwyllio,
rhaid oedd crafu a gwasgu cyn dechrau ar wario.
Ond mae'r drefn wedi newid os gwir y sibrydion,
aeth criw y sefydliad yn dew ar ddyledion.

LIMRIG YN YMWNEUD Â BYW YN HEN

Cafodd Mary Elizabeth Grant
Fyw am ddeg o flynyddoedd dros gant
Ac ar derfyn ei bywyd
Roedd lot f'engach ei hysbryd
Na phob un o or-wyrion ei phlant.

Rydwi'n naw deg a saith wsnos nesa
A deunaw 'di oed yr hen gath 'ma,
A dyma sy'n syndod
Mai blwyddyn yw'r cyfnod
Sy'n mesur hir oes pili-pala.

Rydwi am helpu nain i ddathlu,
Ma' hi'n gant a rwbath 'fory,
"Cei fyw" medde hi
"Cyn hyned â fi
Dim ond iti gofio anadlu."

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.