Beca vs Aberhafren.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
Beca.

Aberhafren.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'AT':
Lle bu'r hen Gymry mae gât
A rhyfyg y gair 'PREIFAT'.
Rachel James
8 ½ pwynt
CWPLED CAETH AR YR ODL 'AT':
Rhyfel sy'n frwydr breifat
i'r wraig sy'n syllu i'r grât.
Rhys Iorwerth
9 pwynt
PENNILL YMSON: MILFEDDYG
Â'm braich lan tin buwch
Am y milfed tro,
Rwy'n ddom hyd fy sodle
Yn tynnu llo.
Fe es y filfeddyg
Am y rhesyme gore,
Ond mae'n anodd 'u cofio
Am dri y bore.
Eifion Daniels
8 ½ pwynt
PENNILL YMSON: MILFEDDYG
Â'm braich lan tin buwch
Am y milfed tro,
Rwy'n ddom hyd fy sodle
Yn tynnu llo.
Fe es y filfeddyg
Am y rhesyme gore,
Ond mae'n anodd 'u cofio
Am dri y bore.
Eifion Daniels
8 ½ pwynt
ENGLYN BEDDARGRAFF WARDEN TRAFFIG:
Enbyd yw cosb y penbwl, - ar ei ben
Parcia'r byd heb drwbwl
Yn ddibaid, heb lein ddwbwl
Ar y ffordd i gofio'r ffwl.
Wyn Owens
8 pwynt
ENGLYN BEDDARGRAFF WARDEN TRAFFIG:
Dilynais ôl dwy linell hyd eithaf
y daith, gan roi ambell
rybudd, neu gerydd, er gwell,
ond achwyn ges a dichell.
Owain Rhys
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYSBYSEBU:
A minnau nos Wener yn gwrando
Yn slafaidd ar seiniau y radio,
Ce's yffach o sioc
Pan gynhoeddwy toc
Bo'r Talwrn nos Fawrth yn recordio.
Cathryn Gwynn
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYSBYSEBU:
Os am feuryn yn awr cewch sawl bargen,
fe all Dylan neu Dwm goethi'ch awen,
ond i gael gwerth eich bucks
ewch am y de-luxe
a mynnwch yr ultra Lloyd Owen!
Llion Pryderi Roberts
8 ½ pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DAU
Ar lan afon aflonydd
Daw dau ym machlud eu dydd,
Yn erfyn dilyn y daith
Anorfod, siwrne hirfaith
Dan guddlen gwernen a gw?dd
I waun hudol ehedydd,
Yn isel a thawel ei thôn
Yn ddig dros gerrig geirwon,
Cyn araf gyrraedd hafan
Yn glyd dan gysgod y glan.
A'r daith yn angori dau
Yn nedwyddwch eu dyddiau.
Rachel James
8 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DAU
L'Aquila, yr Eidal - gweld llun o fam a'i mab ifanc yn cofleidio ar ôl cael eu hachub, ond wedi colli'r tad.
Haf a'i haul ar adfeilion
yn ei dro ddaw i'r dre hon
yn llawn prynhawniau llonydd,
i hel yn y rwbel rhydd;
Ond haul diarbed wedyn
yn y llwch i'r ddau'n y llun
yw'r haul ddaw dros yr hewlydd,
ac o haf i haf fe fydd
mis Ebrill a'i weddillion
yn dal â'i waed hyd y lôn.
Rhys Iorwerth
9 ½ pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): TRO TRWSTAN
Unwaith y flwyddyn fyddai'n mynd am drip
Ar ddydd Iau Mawr i Aberporth i gael dip.
Rwy'n cofio hi'n iawn fel tase hi'n ddo
Mynd am siant yn y bws a hwnnw heb do.
Dechrau yn brydlon tua marce saith
Sefyll yn Plwmp er mwyn torri'r daith.
I mewn a ni gyd heb lawer o ffws
Rhwng Mam a ni'r palnt fe lanwo ni'r bws.
Cyn hir cyrhaeddo ni'r traeth a'r cerrig
I ni fel plant, doedd dim byd tebyg.
Roedd mam yn gwybod fod 'na fath go deidi
Lle galle ni gyd fynd mewn gyda'n gily'.
Mam a'th miwn gynta a'r teid yn mynd mas
Pan welo ni'n sydyn bysgodyn mawr cas.
Ac fe lyncodd e mam o ganol y dwr
Fe gaiff weneyn bywd mae hynny'n reit siwr.
Chi sy'n gwrando ar Radio Cymru
Os gwelwch yn Aberporth rhyw fenyw lysti,
Mam fydd honno, peidiwch neud lot o ffws
Danfonwch hi nol blwyddyn nesa ar y bws.
Howell Mudd
8 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): TRO TRWSTAN
Fe ges i day off nôl ym mil wyth tri naw,
ro'n i am y sêls DIY oedd gerllaw,
ond diawch, fe anghofiais ei bod hi'n ddydd golchi
a'r wraig wedi mynd â phob cerpyn oedd gen i;
ond cefais i syniad - fe wisgais ei sgert
a'i phais fach, a'i bonet i edrych yn bert,
a ffwrdd â mi'n syth draw i Homebase Clynderwen
i brynu dau fwrthwl, un fwyell a hoelen,
a phwy weles yno, ond sawl un o'm ffrindiau
'di cael yr un syniad, mewn bonets a ffrogiau;
bu'n ddiwrnod i'r brenin, ond och, wrth fynd adre
fe faglais wrth dollborth, â'm mhais rownd fy sodle,
disgynnodd y fwyell ar gât nes ei hollti
a mas ddaeth 'rhen borthor yn bygwth a rhegi;
fe geisiom egluro am y sêl Black and Dekker
ond credodd y ff?l i ni ddweud 'merched Beca';
wel, fe alwodd y milwyr, a bu 'na derfysgoedd,
ond adre'r es i i fildo fy silffoedd;
a dyna yw sail yr holl helynt a'r hanes,
a pham na wnaf fyth eto wisgo fel dynes!
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Y mae'r d?r yn gynnwr gwyn
A dail y coed sy'n dilyn.
½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Y mae'r d?r yn gynnwr gwyn
Ai neidio a wna i wedyn?
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: GALWAD FFÔN
Mae golud i'r munudau - a fynnir
Sydd yn fwy na'r biliau,
Daw gwefr ar hyd y gwifrau
Drwy B.T. yn sibrwd dau.
Wyn Owens
8 ½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: GALWAD FFÔN
Yn nhywyllwch llinellau - sieryd sain,
sieryd saib dieiriau
lle y deil anneall dau
i hofran rhwng y gwifrau.
Llion Pryderi Roberts
9 pwynt
TELYNEG: CYMWYNAS:
I'r Swisdir
Ers canrifoedd daethant yma i ddechrau
ar eu taith fawr, oleuedig.
Artistiaid, beirdd efallai,
anturiaethwyr ac ymwelwyr dethol
yn hamddena yn yr heulwen,
a chwilio
am wefr yr olygfa aruthrol,
am y llethrau heriol, gwynnaf,
am y dolydd sy'n gyforiog o flodau'r mynyddoedd
ac am lonyddwch y llechweddau
lle mae tincial clychau'n cludo'r gwanwyn
yn falm ar yr awel.
Fe ddaw teithwyr eraill yma,
weithiau,
erbyn hyn,
i Swisdir y goleuni tawel,
mewn stryd gefn,
i chwilio am y llonyddwch
mewn ystafell wen
lle mae dwylo'n anwesu'n dyner
a lleisiau'n sisial ffarwel at y daith
yn gymwynasgar, urddasol.
Bore o Wnawyn
a'r heulwen cynnar yn erlid y barrug
o'r glaswellt a'r dail;
a minnau'n gaeth
i'r gadwyn gofidiau a wingau'n ddifaol
yn eu celloedd du, -
yn ddall i orfoledd lliwiau'r bore,
yn fyddar i fwrlwn canghennau'r coed, -
pan sefaist yn dalog
ar sil y ffenest', a'th fanblu fel sidan
yn cyffwrdd fy llaw,
cyn hedfan yn feiddgar
o amgylch y 'stafell, a glanio wedyn
ar frithwallt fy mhen;
ysgafnder troed
lle bu nos o bwysau,
a bywyd
eto'n gân "yng ngwreiddyn bod".
Cathryn Gwynn
8 ½ pwynt
TELYNEG: CYMWYNAS
Yn nharan
yr awr dywylla'
eisteddaf
heb siôl
ar erchwyn gwely
yn trio mwytho'r nos
a thi yn fy nghôl.
Cesair o elynion
yn taro'r ffenest,
yn bygwth ein siarad,
yn chwarae â'n straeon.
Dy iaith yn ddarnau bach
wedi eu benthyg
o deledu ac yn bytiau
ddaeth atat gyda'r gwynt.
Iaith y cymylau...
Wrth sibrwd hafau o straeon a chlywed dy gyffro
drwy'r tywyllwch,
gwnïaf y darnau clwt o eiriau
a rhoddaf iti
flanced i'w chadw
drwy bob storm.
Mari George
8 ½ pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: CYFRINACH
"Dywed dy gwyn yn dawel, - ar fy ngwir,
rhof fy ngair, bydd ddiogel".
Rhyw dridiau bu'r geiriau'n gêl,
I gyfaill aeth o'm gafael.
Eifion Daniels
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNIAU: 75
ENGLYN AR Y PRYD: CYFRINACH
Hunan-Niweidio
Mae'n llwyddo i guddio'r gwir, - y crafu
a'r gwadu a gedwir
yn dawel, am na welir
ei loes hi dan lewys hir.
Aron Pritchard
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'AT':
'Apeliwn ar y Peilat'
Hyn yw cri y biwrocrat.
PENNILL YMSON: MILFEDDYG
Wrth drin anifeiliaid mewn piswail a dom
I gadw'r perchnogion rhag dioddef siom
A'r 'gentleman farmer' yn lordio'i drwy'r fro,
Rwy'n amau bryd hynny mai fi yw'r llo.
Ces flynyddoedd o goleg a 'marfer
Ar wella pob salwch a chlwyf,
Ond nawr caf fy nhalu am ddifa,
Rwyn holi o ddifri 'Pwy wyf?'
LIMRIG YN YMWNEUD Â HYSBYSEBU:
Deled a sylled; dyheued.
Simsaned ac oeded; meddylied;
Credwch a phrynwch;
Mwynhewch ac ymlaciwch...
Nes canfod y twll yn y boced.
Drwy gyfrwng y 'Beano' a'r 'Dandy'
Fe wnaeth Mr Pod hysbysebu
Fod ei ferch hena Sena
A'i chwaer hi Cascara
Yn dda iawn am redeg yn handy.
CYNIGION YCHWANEGOL::
CWPLED CAETH AR YR ODL 'AT':
Ofer yw pensiwn preifat,
dwyn dy fil o dan dy fat.
I Mamgu
Emyn yn dynn amdanat,
y Groes yn drwm uwch y grât.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DAU
I Dad, ar ein tymor olaf ym Mharc Ninian
mae ias y terasau
yn dal i'n tywys ni'n dau
i dir glew yr adar glas,
dau enaid brwd mewn dinas,
heibio'r awn ar balmant bro
i drydar y pêl-droedio.
Ac er mai gorffen leni
wna'r hedfan i'n hafan ni,
yn ddi-os ar ddiwedd ha',
yn gynnwrf drwy Dreganna
awn ein dau, o'r bron un dydd
â'n hawen i nyth newydd.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): DAU
O nwydau iau eu nodiant
Y canu sy'n tynnu tant
Caru yn fiwsig cywrain -
Priodi'n symffoni sain.
Daeth cri'r dwmi, a dyma
Eu haul yng nghanol eu ha'.
A bu uniad dau benwyn
Yno'n dal i gordio'n dynn
Er y trai. Y gair a'r traw
Yn dal, a nodau alaw
Cariad dau yn mwynhau hedd
Eu deuawd hyd y diwedd.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): TRO TRWSTAN
Rown wrthi'n barddoni â mhen yn y gwynt
Ar gyfer ryw Steddfod am wobr o bunt,
A cherdded yr o'n i yn braf ling-di-long
Pan drawodd fy mhen ar bolyn â 'Bong!'
Fe neidiodd fy sgerbwd reit allan o 'nghroen
Ac yn sicr i chi, ges i 'rioed y fath boen,
Na'n wir, nac embaras, doedd hyn ddim yn iawn,
Fod bardd yn cael damwain, nid dyna ei ddawn.
Ni lithrodd y bardd lawr y clogwyn a boddi
Wrth 'hela meddylie' ar erchwyn Pwllderi
Na cholli ei lwybr i Ynys Afallon
Na gwlychu ei sanau wrth sefyll mewn Afon.
Fe stopiodd y car cyn cyrraedd y Môr,
Ac arhosodd yn ifanc wrth agor y Ddôr
ar Aberhenfelen. A beth am y tro
Y neidiodd fel wiwer dros gymoedd y glo
Heb golli ei afael na disgyn i'r llawr?
Mae 'mharch at feirdd felly yn hynod o fawr,
Ond chawn nhw fyth farciau gan gawr o Feuryn
Am sgwennu cerdd wirion am ddamwain â pholyn.
ENGLYN CYWAITH: GALWAD FFÔN
Ar noson Trwyn Coch
Wyf lond elusen heno, - ar unwaith
cyfrannaf o'u gwylio,
ond er hyn, 'fory'n ei dro,
un wyf sy'n eu anghofio.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

