Y Cwps vs Y Rhelyw
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.
CWPLED CAETH AR YR ODL 'W':
Yn y llan hawdd tyngu llw,
Wedyn daw'r dasg o'i gadw.
Iwan Bryn James
8 ½ pwynt
CWPLED CAETH AR YR ODL 'W':
Mae 'na hanes mewn enw
a ddoe'n hiaith na wyddan nhw.
Dafydd Williams
8 ½ pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: GWERTHWYR TAI:
Mae'r hinsawdd yn anodd, y banciau'n chwit-chwat
a'r gwerthwyr cartrefi, wel, damaid yn... fflat.
Mae'r esgid yn gwasgu. Mae sibrwd a sôn
am gau rhai canghennau. Distaw yw'r ffôn.
Mae'r iypis a'r rheini sy'n gwario'u pensiynau
yn aros yn Lloegr i gyfri'u ceiniogau.
Ni throdd Rhydyronnen yn Dingle View
ar fympwy dau hipi o ochrau Crewe.
Nid Mountainside Farm mo Esgair Draw
i gyn is-reolwr o Swindon neu Slough.
ac nid oes hen Saesnes a'i chwe Phecinî
yn galw Penclogwyn yn Sound of the Sea.
Mae'r hen, hen enwau yn dal ar ein tai,
a'r sawl sy'n eu gwerthu, am y tro, ar drai.
Geraint Williams
8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: GWERTHWYR TAI
Ei enw e fu'r arwydd
o werthoedd ac o'u gwerth,
a ddoe fe welais arwydd -
ei fusnes e ar werth.
Geraint Roberts
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS UNRHYW DDIOD:
Panad
Mai'n hwyr, ac mai'n mynd yn hwyrach - ond dod
Wnawn ni'n dau drwy geriach
A holl De y bore bach
Un gusan yn agosach.
Gruffudd Owen
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS ENW UNRHYW DDIOD:
wrth weld hysbyseb Americanaidd ym Morocco
Mae'r un pleser wrth swpera, - un wlad
sydd ym mlas y gwledda
ac un iaith o'i ganiau ha':
cywilydd Coca Cola.
Geraint Roberts
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â DIY:
Roedd Duw am roi trefn ar y nefoedd
Trwsio to, glanhau'r drens, codi silffoedd
Gan fod hoelion a phren
Yn 'banned' fry uwchben
Mae'n siwr bydd o wrthi'n Oes Oesoedd
Dafydd Morgan Lewis
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â DIY
Amhosib, yn siop B&Q,
yw prynu un hoelen na sgriw;
fe ddônt mewn pacedi
sy'n llenwi eich troli,
a wedyn dwy awr yn y ciw.
Harri Williams
9 pwynt
CYWYDD GOFYN HEB FOD DROS 12 LLINELL:
I ofyn llwyth o dail gan fy mrawd-yng-nghyfraith
Amheuthun fyddai, Mathew,
Gael un llond berfa go lew,
Nid o ben dy domen dail
Ond o chwysiad ei chesail.
Hel drwy Lanfihangel lwyth
I ddeffro fy ngardd ddiffrwyth.
Chwâl â'th raca'r caca cob
A rho obaith i riwbob.
Yn dâl am hyn o deilwaith,
Mathew, os doi (moethus daith),
Wedi chwalu dychwela
I hawlio rhan o liw'r ha'.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
CYWYDD GOFYN HEB FOD DROS 12 LLINELL:
Dalen wen, cyn fy ngeni,
ydyw'r oll o'm crwydro i
a'm map yn helyntion mud
yn y byw cyn cael bywyd;
ond rwy'n dod i ffawd-rodio
â Duw, gyda'i gwmpawd o.
 mi'n hen, gwn eleni
mai un tro sy' i'm hantur i,
ar fapiau'r dyddiau, nid oes
inni ond cwrs un einioes;
a dymuniad, am hynny,
na fu f'oes yn wefr na fu.
Karen Owen
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y GYFRINACH
Un gyfrinach fechan, fach,
Yn cosi 'ngwadan esgid,
Llychyn bychan, lleia 'rioed,
Na haedda hoe i'w erlid.
Un gyfrinach fechan, fach,
Mewn esgid dynn yn mynnu
Cosi, ac yn mynnu cael
Y pleser brwnt o grafu.
Un gyfrinach fechan, fach,
Yng nghudd, ond eto'n llosgi
Croen tyneraf un y droed
Nes peri iddi gloffi.
Un gyfrinach fechan, fach,
Un llychyn bach sy'n pwyso,
Pwyso'n drwm ar enaid dyn;
Y llychyn sydd yn llorio.
Un gyfrinach fechan, fach,
Yn cosi 'ngwadan esgid,
Llychyn bychan, lleia 'rioed,
A haedda hoe i'w erlid.
Arwel Jones
10 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): 'Y GYFRINACH':
Fe gelwyd y gwir ar hyd y canrifoedd
am ddirgelion yr arch uwchben y llifddyfroedd;
aeth yr holl anifeiliaid i mewn iddi'n deidi
ond beth a ddaeth allan yw testun fy stori ...
Dau gobyn Cymreig gafodd hyd i byjamas
Ac, wedi eu gwisgo, troi'n gwpwl o sebras;
roedd y jiraff yn reit normal pan aeth lan dros y stâr,
ond stretshiodd ei wddw mewn pwl tyg 'o'war;
Ac wir, yma hefyd caed gyntaf elastig
a thrwyn yr hen eliffant mewn trwbwl trybeilig,
fe'i tynnwyd o allan am dair lath a rhagor
pan aeth yn sownd yn linkej yr angor.
A fo'r cangar? a gwympodd mewn cariad
â chot ffwr gwraig Noa - a chael ei ddymuniad;
pan fentrodd yr epil i'r awyr agored,
yn sownd dan ei fola, roedd ganddo fo boced!
Can mlynedd a hanner 'rôl cyhoeddi llyfr Darwin,
mae'n ddiogel datgelu yr hyn a fu gyfrin;
ac rwyf newydd gofio - i mewn yr aeth mwnci
ond dyn a daeth allan yn borcyn fel babi.
Harri Williams
9 pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Y robin fach yn robin ddu
Anodd yw deall hynny.
½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Gwn nad oes na gwyn na du
Anodd yw deall hynny.
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: BREUDDWYD
'With this faith we will be able to hew out of the mountain of despair a stone of hope' - Martin Luther King
Gwelai, tu hwnt i gelwydd - eu byd gwyn,
Er bod gwynt y mynydd
Yn griau dig, wawrio dydd
Pan âi i gopa newydd.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: BREUDDWYD:
(Martin Luther King)
Er i fwled ladd y dwedyd, - un g?r
a gariodd y ddelfryd,
rhoi ar waith yr awr o hyd
wedi deugain y dwgyd.
Geraint Roberts
8 ½ pwynt
TELYNEG: ADDEWID
Roedd y pnawn dydd Gwener yn grochlefain brain
yn ddu dros y ddinas; a choron ddrain
yn ben ar y mwdwl. Roedd pyllau heb geulo,
picelli gan filwyr a gwaed ar eu dwylo.
Roedd yno dorfeydd â lladd yn eu llygaid,
a'u geiriau cerrig yn llabyddio pob enaid.
Roedd yno dywyllwch a lyncodd y byd
a delwau yn cuddio ar gornel pob stryd.
Mae heddiw dawelwch a bore newydd
a merched yn wylo a chwilio'n y bronydd,
gan lusgo godre eu dillad drwy'r gwlith
heibio i rywun oedd rywsut ond rhith
yng nghornel eithaf eu llygaid llaith ...
I ganol amheuon daeth heddiw â'r ffaith
i'r rhain trwy eu dagrau weld maen wedi'i dreiglo
a'r ogof mor wag gan yr un nad oedd yno.
Dafydd John Pritchard
9 pwynt
TELYNEG: ADDEWID:
Bu'r adar to a'r mwyalch du
yn ôl a 'mlaen o gylch y t?,
ac ambell jac a gwylan wen
yn gyson stwrllyd iawn uwchben;
dim ond eu s?n fel Babel gynt
drwy'r gaeaf hir ar donnau'r gwynt.
Un fflach a gefais fore ddoe
yn dweud fod arall yn y sioe.
A'i gweld hi wedyn? Na. Fel saeth
a'i chynffon hir, i ble yr aeth?
Ni wna un wanwyn, gwn yn iawn,
ond arall ddaeth cyn diwedd p'nawn.
Harri Williams
8 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: CWYMP
Y Daeargryn diweddar yn L'Aquila, yr Eidal
Er rhofio llwch canrifoedd - lle lloriwyd
allorau yr oesoedd.
Mewn ennyd awr, mwy nid oedd
ond murmur d?r dyfnderoedd.
Huw Meirion Edwards
9 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
ENGLYN AR Y PRYD: CWYMP
I un gollodd bopeth yn naeargryn yr Eidal
Os oes nifer dan gerrig - ym mhennawd
Tomenni'r colledig,
Yn L'Aguilar ddaear ddig
Dirgryniad yw'r g?r unig.
Karen Owen
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
CYNIGION YCHWANEGOL:
PENNILL MAWL/DYCHAN: GWERTHWYR TAI:
A gredwch chi hyn? Fe glywais i sôn
am gwmni arwerthwyr ar Ynys Môn
a werthodd hen dyddyn, yn ddistaw bach,
i bâr ifanc lleol. Wel dyna beth iach!
LIMRIG YN YMWNEUD Â DIY:
Gwnes arch fach ar gyfer fy arwyl
Bûm wrthi am oes efo morthwyl
Gwnes leinin a choban
a chlustog fach sidan
A gola i ddarllan tra'n disgwyl.
Un garw 'di Huwcyn drws nesa
Am dori pob cornel, a medda:
"Dwi'n giamstar o ddyn
Mi wnai'r peth fy hun...."
Mae'r angladd bnawn llun ym Methania.
CYNIGION YCHWANEGOL:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'W':
Y mae dillad i gadw
gêr ei ach gan gangar?.
Ynom, mae'r tardis hwnnw
a dry'r awr i Doctor Who.
Nantafallen fu'r enw,
ond hwn yw eu 'Bow Street' nhw.
Roedd g?r o Eglwyswrw'n
cwotio Yeats yn Nhimbyct?.
(i dîm Y C?ps)
Karen yw'r unig enw
a ddaw'n un ofn ynddyn nhw!
Haneri ar y cwrw
yw moddion oes, medden nhw.
Gwell i mi dd?r na chwrw
a llai o win, ar fy llw.
PENNILL MAWL/DYCHAN: GWERTHWYR TAI
'For Sale'oedd ar ffenest y swyddfa
ac felly y bu am dros fis,
ond ddoe, pan es heibio, fe sylwais
fod gwerth yr hen le'n llawer is.
Reduced efo vacant possession
ddywedai yn eglur i'r byd
fod o'r gwerthwr tai, yntau'n gwerthu
a'r hwch gyda'i siop ar y stryd.
Chwi yw'r rhai sydd yn addurno conglau'r stryd a pherthi'r wlad,
ac yn llywio pob disgrifiad er mwyn sicrhau perswad;
peidiwn ni, a wnaeth ymddiried ynoch am yr uchaf bris,
eich condemnio pan fo'r farchnad heddiw lawer iawn yn is.
A ninnau, bob un, mor ariangar ac am y pris ucha' bob tro
rhown ei arwydd 'Ar Werth' hynod liwgar ar y wal yn o agos i'r to;
go brin y gall neb sydd o'r pentra wneud cynnig derbyniol go iawn
ond os hwn fydd yn gwerthu mi wranta y caiff y pris gofyn yn llawn;
a phan ddaw yr estron o Brighton i fyw yn eich t? chi'n eu tro,
gallwch leddfu'ch cydwybod yn burion a rhoi'r cyfan o'r bai arno fo.
ENGLYN YN CYNNWYS ENW UNRHYW DDIOD:
wrth gyfrannu at Cymorth Cristnogol
Ei chadw rhag afiechydon - a wnaf,
a nos heb bryderon,
rhof fwyd, nid arfau i hon,
a d?r yfed o'r afon.
Lager a'i gwnai'n olygus - a hudol,
hi wedyn fu'r Musus;
a rhoes nes aeth hi'n grisis
oriau mwyn am gryn dri mis.
LIMRIG YN YMWNEUD Â DIY
"Jen, gwna fo dy hun," oedd 'peth ola'
ddywedodd 'rhen Huw cyn cau'i ll'gada.
A hyn sydd yn rhybudd:
pob dyn, byddwch ufudd
i'ch gwraig, neu chi fydd y nesa'.
"Mae'n amlwg," dywedodd y Crwnar
"mai chydig a wyddai'r diweddar
am drydan na dim -
bu ei ddiwedd yn chwim
a hynny yn llawer rhy gynnar."
Mae'r wraig 'co mo'yn wardrôb, 'run fwya' ...
nid yw'n si?r ... pa fath ... ai'r un leia'?
Ond wrth droi ambell sgriw
mae'n bosib, jiw jiw,
y caiff un bob lliw o Ikea.
CYWYDD GOFYN HEB FOD DROS 12 LLINELL:
Gofyn am achub 'Sian' - y ferch ar yr hysbyseb teledu sy'n ein hannog i roi ein horganau
Gwylia, tra 'mod yn gwelwi
ar y ward, fy nolur i;
er y ddôr sydd yn rhyddhau,
a pheiriant y cyffuriau'n
un olwyn fesul eiliad
am oriau hir fy mharhad,
rwy' byw trwy bibau o hyd
fy achau o afiechyd.
Rho dithau mewn dyddiau dig,
a rhanna'r gadair unig,
i weld oes mewn cornel du,
fy aren a'm hyfory.
ENGLYN CYWAITH: BREUDDWYD:
(Martin Luther King)
Tros orwel llid a gofidiau - y caeth,
gwelodd cai'n ddiamau
rai o'i hil, 'rôl maith sarhau,
leisio mewn gwyn balasau.
(wrth wylio cystadleuaeth golff y Masters)
"Ar y ti, ai fi neu fo?" - Yn ei grys
Tiger Woods mae'n tybio
y daw i'w ran, yn ei dro,
hud ei arwr i daro.
TELYNEG: ADDEWID:
Ai am fy mod i'n hapus
y gwenais lond y llun,
neu am na wyddwn, eto,
fy mrifo gan 'run dyn?
Ai am fod aur yfory
yn fodrwy ar fy llaw,
neu am na theimlwn innau
y rhwd yn nagrau'r glaw?
Ai am i mi weld gobaith
trwy adrodd y gair 'Gwnaf',
neu am na chlywn y gwatwar
yn holl gelwyddau'r cnaf?
Neu ai anghofio wnes, dros dro,
o ddallt yn iawn, a'i gredu o?
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

