Bro Alaw vs Llanrug.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn yr ail rownd o'r Talwrn.

Bro Alaw.

Bro Alaw.

Llanrug.

Llanrug.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Dichon rhydd jin an' tonic
Yn y gwin un diawl o gic

Arwyn Roberts
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Aflwydd o dasg ddieflig
Gweithio odl ar yr odl ic.

Dafydd Williams
8 pwynt

PENNILL YMSON WRTH DDRWS SWYDDFA:

Tro dwytha yr oeddwn i yma
Yn sefyll wrth ddrws dyn y Banc,
"Be galwa'i chi?", medda fi'n foesgar
"Gei di ngalw fi'n syr", medda'r llanc:
Mae'r rhod wedi troi erbyn heddiw
A'r bancia mewn dipyn o gawl -
Ac os na cha' i banad a sgedan
Ro'i mo siec y Talwrn i'r diawl!

John Wyn Jones
8 pwynt

PENNILL YMSON WRTH DDRWS SWYDDFA:

'Rol teithio teirawr i Fangor
i weled Dr. A.R. Agor,
Yma rwyf 'di llwyr dristhau,
ar y drws mae A.R.Gau.

Richard Llwyd Jones
8 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'ANODD DOD ODDI YNO':

Does dim rhaid, a gwell peidio - â myned
Am un amser cinio,
Yno'n glyd o flaen tân glo -
Anodd dod oddi yno.

Arwyn Roberts
8 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS 'ANODD DOD ODDI YNO':

Unig â'm blodau heno, - ddoe, yma,
bu'r ddamwain i'm sigo;
i yrru'r cur rewa'r co',
anodd dod oddi yno.

Richard Llwyd Jones
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD AG ADDYSG:

'Set Un' yn 'Biol' oeddwn i
Ac Annabel May yn 'Set Thri'.
Ond un amser chwara'
Rownd cornel y gampfa
Hi roddodd yr addysg i mi!

Ioan Roberts
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD AG ADDYSG:

'Dach chi'n cofio y wers mathematic?
y boen o wneud mental 'rithmetic?
powns-hillings an pens
oedd yn gwneud fawr o sens,
a'i fi oedd yn dens neu dyslecsic?

Dafydd Whiteside Thomas
8 ½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) : GOFAL

A hi'n llwm ar awdur llên,
Ym myd oerllyd ein darllen,
Hithau'n iaith ond bratiaith brin
Hefyd, yn ei chynefin;
Dal ati drwy'r oerni hir
Ar erwinder y rhandir
A wna'r bardd, nes daw'r awen,
I ryddhau o'r gwreiddiau hen
Y geiriau a dry'n gweryd
Grintach yn harddach o hyd;
A thrwy'i waith ein heniaith ni
Rywsut, ddeil i oroesi.

Richard Parry Jones
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GOFAL

Dyddiau olaf Jade Goody

Yn niweddu ei dyddiau
ei rhodd hi oedd rhoi i'r ddau
ei chred a grym o fedydd,
rhodd o dd?r â oerodd ddydd;
rhannu'r llif o'r un i'r llall,
y Duw tu hwnt i'w deall.

Y wyrth o'i rhoi, cael croth rydd
o boen uwch y gobennydd.
Yn benmoel, hi a hoeliodd
sylw byd, yn sâl, o'i bodd.
Daw arfaeth ar ddydd dirfawr,
rhoi dau mwy yn llaw 'Brawd Mawr'.

Richard Llwyd Jones
8 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y GOFGOLOFN

Patriarch Tregaian

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
Dyw'r cais i Gaerdydd ddim yn ffôl,
Cofgolofn i Batriarch Tregaian -
Mae'n si?r fod 'na gyllid ar ôl.

Hwn ydy hen-daid y Monwysion,
'Does d'wysog, uchelwr na sant
Wnaeth fwy dros yr heniaith a Chymru -
Cenhedlodd dros ddeugain o blant.

Roedd Wiliam yn dipyn o dderyn,
Ni welwyd ei debyg erioed,
Tair gwraig a dwsina o gariadon
A byw tan yn gant a phump oed!

Plac bach sydd ar ochr yr Eglwys,
Annheilwng o'r brawd deud y gwir,
Gan nad oedd yn dod o Gaergybi
Gwrthodwyd y cais wnaed i'r Sir.

Ond cawn, gyda nawdd y Cynulliad
Gofgolofn haeddiannol i'r g?r,
O leiaf cyfuwch â Th?r Marcwis
Ond beth fydd ei siâp - dwi'm yn si?r!

Dyfynnir y canlynol o "Nabod Môn"

Patriarch Tregaian - Wiliam ab Dafydd ab Hywel ab Iorwerth (1466-1571). Bu'n briod deirgwaith. Cafodd ddau blentyn ar hugain o'r wraig gyntaf, deg o'r ail a phedwar o'r drydedd. Nodir ar y plac uwchben ei fedd iddo gael saith arall hefyd. Ar ei farw, yn 105 mlwydd oed, yr oedd tri chant o'i ddisgynyddion yn fyw a'i fab hynaf yn 84 mlwydd oed.

Geraint Jones
9 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): Y GOFGOLOFN

( Ffatri Ferodo)

Cyn chwalu'r ffatri segur
Sy'ar lannau'r Fenai'n fud;
Cyn ail-gyfeirio llafur
I godi carchar drud;
Cyn i chwi lwyr waredu
Sawl briw a chlais a chraith;
Cyn i chwi orffen carthu
Budreddi yr hen waith;
Cyn claddu'r gwenwyn oedd'no
A glasu anial dir;
Cyn llyfnu a thirlunio
I'w droi yn werddon ir;
Rhowch wrth y brif fynedfa
Un golofn dalsyth, fain
Ac arni naddwch enwa'
Y gweithlu i gyd yn gain
I gofio gwerin Arfon
A heriodd drais a stremp,
A mynnu nad aent gaethion
I gyfalafiaeth rhemp.

Dafydd Whiteside Thomas
9 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Fe ddaw dydd pan fyddi di
yn y Llan a ni'n llonni.

Ateb llinell ar y pryd:

Fe ddaw dydd pan fydd di
Heb addurn 'mysg y beddi.

1 pwynt

ENGLYN CYWAITH: LLYTHYR:

Geiriau bach cyfrinachol - a welais
Yng ngwaelod 'mag ysgol,
Yn frawddeg gyfareddol -
Leciwn i droi'r cloc yn ôl.

Geraint Jones
9 ½ pwynt

ENGLYN CYWAITH: LLYTHYR:

Ei sgrifen 'mysg amlenni'n ail gynnau
hwyl gwanwyn cyn colli.
Daw hiraeth drosta'i dorri,
erys lôn rhwng Môn a mi.

Dafydd Williams
8 ½ pwynt

TELYNEG: CYFRINACH

Ai o'r nos y daw'r syniad - hedyn
y llun sy'n llenwi cynfas y dydd?
Ai'r düwch sy'n dewis? Chwiw sydyn

a'r bore sy'n baent; o ailfeddwl,
mae'n gwmwl graffit ac egin bnawn
yn b?l, yn blwm. Llinellau manwl,

miniog, heddiw yw'r oriau i gyd;
ôl rhyw fawd fydd hyd yfory. Ond
pwy piau'r penderfyniad? Ai penyd

yw'r gorwel llwyd? Ai gwobr yw gwres
enfys? Pont y glaw; ddoe yn olew
ar fy llaw; blagur brwshys; hanes

palet; ôl y rhwbiwr ar fy rhawd;
lliain tynn; styffylau teulu; pry'
dan haenau o aur yn fframiau ffawd.

Oes 'na artist sy'n paentio rhosyn
ein dyddiau ni oll? Pwy pïau'r llun?
Llaw pwy ond fi sy'n lliwio'r blodyn?

Siân Owen
9 pwynt

TELYNEG: CYFRINACH

'Does yna neb
yn y byd
sy'n cadw cyfrinach
cystal â chdi...

Dim ots be'
dwi isio'i rannu
hefo chdi ...

Ti mor fud
a dibynadwy...

Mor anhygoel
o benderfynol
o'i gadw fo
i ti dy hun...

Er ,weithia,
ei bod o'n anodd,
ond ti'n llwyddo
bob tro...

f'annwyl
bapur lapio.

Medi Wilkinson
8 pwynt

Englyn ar y pryd: Llwch

Yn haf y cynaeafu - 'roedd 'na bres
'roedd 'na bris i'w dalu;
'ernes oedd peswch dyrnu
'a'i dâl oedd y cadach du.

Geraint Jones
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Englyn ar y pryd: Llwch

Rhoddwyd gwael suntur iddo, i'w hadu
Ond cododd ohono.
'Rol dyfal maith wrteithio
Ardd werdd o'i deneu-bridd o.

Dafydd Williams
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 75 ½ pwynt

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Oblegid y Glenfidich
Mae fy nghloc yn mynd toc tic

Fy nghyfeillion yw'r tonic
A wna'r cloc i fynd toc-tic

Wedi ffidlan mecanic
Y mae'r cloc yn mynd toc-tic

Nythfa'r clegar gwag a'r clic
Yw'n senedd, medd y sinic.

Problem i'r academic
Yw: "Be 'di hyd Moby Dick?"

Mae 'na ddynes yn Keswick
Wedi priodi mwnci pric

Oblegid y Glenfidich
Mae fy nghloc yn mynd toc tic

ENGLYN YN CYNNWYS 'ANODD DOD ODDI YNO':

Henaint sydd yn fy mlino - a'i aflwydd
Annedwydd boenydio
Mynd drachefn tu cefn i'r co';
"Anodd dod oddi yno".

Henaint sydd yn fy mlino - oherwydd
Annedwydd freuddwydio
Mynd drachefn tu cefn i'r co';
"Anodd dod oddi yno".

Er i'r ddrycin fy mlino - daw yr haul
Gyda'r haf, ond curo
Y mae drwm cwlwm y co'
"Anodd dod oddi yno".

Rwy'n mynd i'r toilet eto - y riwbob
A'r rybish dwi'n feio.
Rwyf fan hyn ers cyn co' -
"Anodd dod oddi yno".

LIMRIG YN YMWNEUD AG ADDYSG:

Roedd hi'n swrth, a dechreuodd Wil chwyrnu
A'r ddarlithwraig yn filan sgyrnygu
"Rhowch sgwd" oedd ei chri
Ond gwrthod wnes i
Y hi ddaru'i yrru fo'i gysgu!

Roedd sdiwdant bach gor-gydwybodol
Efrydydd ar gwrs diwinyddol
'R ôl tair blynedd galad
Yn dal efo'r syniad
Fod darlithoedd i fod yn ddiddorol

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'IC':

Oerodd maes, fe rewodd Mic
ein tân fel y Titanic.

Y Cae Ras yn diodde cric
a'r reffio yn horrific.

O'r fath gosb o fethu'i gic,
y loes ar ddiwedd classic.

PENNILL YMSON WRTH DDRWS SWYDDFA:

Ar ddrws Swyddfa Waith

Mae'n rhyfedd mod i'n ciwio
fan hyn ers amser maith
ymysg ugeiniau'n chwilio
am unrhyw fath o waith.
Colli'n swydd wnes yn y wasgfa
sy'n poeni gwlad a thre';
tan ddiwedd wythnos dwytha'
y fi oedd bos y lle.

ENGLYN YN CYNNWYS 'ANODD DOD ODDI YNO':

O hyd y mae cerbyd y co' - yn mynd
a mi'n ôl i'r henfro.
Rwyf ar hynt barhaus drwy'r fro
anodd dod oddi yno.

LIMRIG YN YMWNEUD AG ADDYSG:

Ffarwel i ddysgu ein tabla'
a sgwenu yn dwt rhwng llinella';
rhoi oriau i ddarllen
sillafu, - a clatsien,
pa ddiben i rhain dyddiau yma?

ENGLYN CYWAITH: LLYTHYR:

Wedi'r llith Deio o'r Brithdir, - yn annog
inni grwydro'r hensir;
trwy'r wlad fe fydd coffâd hir
o'n hirdaith i'r arfordir.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.