Manion o'r Mynydd vs Ysgol Dyffryn Conwy.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Manion o'r Mynydd.

Ysgol Dyffryn Conwy.

CWPLED CAETH YN ENWI DAU LYSIEUYN:
Rhowch i mi 'Fadarch a Mwy',
 pherlys, fy hoff arlwy
Nia Watcyn Powell
8 pwynt
CWPLED CAETH YN ENWI DAU LYSIEUYN:
O fwyta llwyth o fetys
O! Moses! Poen! Am oes pys
Andrea Parry
8 ½ pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: MEDDYGON:
Ro'n i yn fy ngwely echdoe yn drwm o dan y ffliw,
Ond pan ffoniwyd am y doctor mi ges fy rhoi mewn ciw!
A ddoe wrth godi'n sydyn mi faglais dros fy nghrys
Disgynnais ar y 'landing' a thorri'n ffê'r a 'mys!
Dwi heddiw yn dioddef- angen sylw yn ddi-oed,
Mae gen i boenau garw o 'mhen hyd fawd fy nhroed!
Mi ffoniwyd y feddygfa a ches apwyntiad yn ddi-strach,
Caf weld y meddyg ymhen mis, os byddai'n fyw ac iach!
Phyllis Evans
8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: MEDDYGON
Dan law y meddyg 'rwyf orweddog
Yn llyncu plîs fel "smarties",
dioddef 'rwyf o ryw afiechyd
sy'n gorffen hefo "-itis".
Fe ddaeth meddygon rif y gwlith
i gynnig deiagnosus,
ond methiant llwyr fu'r cwbwl lot,
'rwy'n dal 'fo'r blydi "-itis"
Gwyn Hughes Roberts
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL: 'ANODD DALLT YMENNYDD DYN'
Anodd dallt ymennydd dyn, - ei reidrwydd
I frwydro i estyn
Awr ei fyned, ond wedyn
Yn y gad, hebog ei hun.
Nia Watcyn Powell
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y LLINELL:
'ANODD DALLT YMENNYDD DYN':
 llaw hael, gwella'i elyn - a wna'n llwyr
Yna lladd ei gyd-ddyn
Yn arwr a dihiryn,
Anodd dallt ymennydd dyn
Andrea Parry
9 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWRISTIAETH:
Pan ddringais i Fannau Brycheiniog
Tu ôl i dwristiaid mawr boliog
Fu'n bwyta brechdana
Sardîns a banana,
Dduw mawr, 'roedd hi'n dda bod hi'n wyntog
Edgar Parry Williams
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWRISTIAETH:
A finna rhyw dro ar fy ngwilia,
Fe gefais i goblyn o grampia.
'Rôl nofio'n y llyn,
Ro'dd fy mol i yn dynn.
Llyn Cwellyn! Lle gwael i gael gwilia!
Ifan Wyn
8 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): TAITH
Gwasgem o'r neilltu gysgod
Â'r un haul wrth gyrchu'r nod,
Torri o hyd yr un tro
A gobaith yn ein gwibio,
Gwelem 'run wlad â'n gilydd,
'Run cloddiau'n rhubanau rhydd
O'n deutu, hwythau'n datod
Yn sborion gwyw byw a bod,
Ninnau'n dal ati'n union,
Ond ar ôl hyn, pen draw'r lôn
Yw darfod, a thrwy derfyn
Fe af ar fy mhen fy hun.
Nia Watcyn Powell
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): TAITH
(teyrnged i'r diweddar Tommy Williams - Sarn Mellteyrn)
Gyrru hyd lôn Crugeran
ddaw â'r hyn fu ddoe i ran
 hen wrych ymysg gwrychoedd;
I un dyn ei damaid oedd.
"Gweithiwr ffor' "o'r math gorau.
Yn ein heth bu'n llawenhau.
Yn gyson, deuai'n gysur
Mewn ffydd at gystudd, at gur,
Yn chwerthinog ei ogwydd,
 gwên, er trallod i'n gwydd.
Rhoddodd er mwyn hyrwyddo
Yn y Sarn ei deyrnas O.
Hywel Williams
8 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): EISTEDDFOD Y CAPEL
Penderfynodd y pwyllgor adloniant rhaid adfer y 'steddfod i'w bri,
Gwirfoddolais i wneud y trefniadau - a gadawyd popeth i mi.
Yn lle unawd i ferched dros drigain- dawns polyn i rai yr un oed,
Miss Huws T? Coch ddaeth yn gyntaf, perfformiodd fel Tarsan o'r coed.
Bu'n ymarfer ar lein ddillad adre' a hynny ddychrynodd y gath,
Hefo'i thong a'i leotard lledar -wna'i byth edrych arni 'run fath.
Wrth wyro i weld y contorsions gwnaeth y gw'nidog rywbeth i'w war,
Rhwng ei boen a'i chwysu diferol bu rhaid inni'i gario i'w gar.
Un drïodd ar unawd y rapio gan edrych fel rhywbeth o'r Fall,
Roedd un llaw'n gwneud giamocs anghynnes- 'na'im dweud be' oedd o'n wneud hefo'r llall.
Dyna le a oedd draw yn y festri , ble gwnaed cerflun "papier maché" a chlai
Copi oedd o "Ddafydd" Meic'langelo, a chopi oedd bron yn ddi fai.
Mae cwyno gan rai arbenigwyr bod dwylo y gwreiddiol rhy fawr
Ond roedd dwylo 'run yma yn berffaith,- rhywbeth arall oedd yn cyffwrdd y llawr.
Ar ôl y steddfod lwyddiannus y fi ga'th y bai , a pheth clod,
Mae rhaglen flwyddyn nesa yn barod a miloedd yn dweud bod nhw'n dod!!
Cynan Jones
9 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): EISTEDDFOD Y CAPEL
Un noson oer a rhewllyd
yn neintîn sicsti thri,
'roedd bron yn amser unawd
yn 'Steddfod Capal ni.
Wili Jôs y tenor main
Oedd yn ei morio hi,
gan woblo'i ddannadd gosod
Wrth drio am top "c".
Yn sydyn a disymwth
fe a'th pob peth yn ddu,
y 'lectric a aeth allan
Ar drothwy top y "c".
'Rhoes Mrs Jones Gweinidog
rhyw wich, un ych a fi,
wrth i Wili Jôs, yn twllwch,
roi' facha arni hi.
Crafangodd dros y gadair,
a lawr ei blows yn hy,
o forio'r uchelfannau,
i blymio'r "double D".
Gwyn Hughes Roberts
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Adda oedd y gwreiddyn
'r nef ddaeth dioddef dyn?
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Ai Adda oedd y gwreiddyn?
Âi un mawr wnaeth ddim ei hun
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: RHEOL
I Samuel Milton Jones - "Golden Rule Jones"
(Un a anwyd ac a fagwyd yn Nanmor yn ail hanner y 19fed ganrif ac a symudodd i Toledo UDA yn ddiweddarach . Dyfeisiodd bwmp arbennig i weithio ym meysydd olew America a daeth yn gyfoethog iawn. Trwy ei oes roedd yn glynu wrth un egwyddor yn ei fywyd personol a busnes sef , "Gwnewch i eraill fel y dymunech i eraill ei wneud i chi", sef y Rheol Aur a roes iddo ei lysenw.)
Er olew yr erwau helaeth- Y Gair
A geiriau'i fagwraeth
Oedd ei Aur , a hwy a ddaeth
Â'r elw i'w reolaeth.
Cynan Jones
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: RHEOL
Un wyth sill neu saith sillaf - yna tair
Onid dwy yw'r gyntaf;
Yna chwech i'r ail a chaf
Hawlio saith i'r ddwy olaf
Hywel Williams
8 ½ pwynt
TELYNEG: CAEL
Un foment
berig felys
yn nhir neb yr arddegau
Un foment
wedi dyddiau
o birwét prifiant
Ysgwydd yn cyffwrdd ysgwydd
a'r trydan yn eu glynu
ac yn torri'r ias
Braich yn clymu braich
a dwy law yn darganfod ei gilydd
yn y gofod gwyryfol
rhwng dau
Dim gair
dim geiriau
dim ond gwen ei llygaid
yn sibrwd
"cei"
Cynan Jones
9 pwynt
TELYNEG: CAEL
Enfys Beijing
(I Liz Johnson o Gasnewydd, a enillodd y fedal aur am nofio yng ngemau Paralympaidd Beijing, er i'w mam farw tra oedd yno)
Tri lliw
Oedd ar y palet cyntaf hwnnw -
Anrheg a gafodd gan ei mam.
A'r fechan teirblwydd
Yn ail-greu, yn ddyfal,
Llun ei gwers nofio gyntaf...
...Mam a merch
Yn goch fel gwaed
Yn llenwi'r darlun.
Glas y d?r yn eu lapio'n
Gwrlid diogel.
Roedd hi'n braf,
A'r belen danbaid, felen
Yn tasgu pelydrau
Aur ei goruchafiaeth.
Dyma sut oedd hi i fod
A dysgodd nad oedd hi ddim gwahanol i neb arall.
Ym mhwll ei mabinogi,
Heriodd ddiogelwch y lliwiau
Gan ollwng llaw ei mam
A phlymio'n orfoleddus i'r dyfnderoedd
A'r fam falch yn annog ei rhyddid newydd.
Breuddwyd o fewn ei gafael.
Treiglodd deigryn hyd ei grudd
Wrth droedio'r d?r yn unig
A'i mam yn ei chymell o bell.
Daeth y gawod olaf
I olchi'r ganfas yn lân.
Deifiodd i'r d?r di-liw gan hiraethu
Am sbloets y lliwiau,
Ond ym mhwll ei dagrau
Taenwyd enfys,
Ac roedd gweld rhith ei mam
Yn drysor dan ei bwa
Yn fwy gwerthfawr na'r aur am ei gwddf.
A gwyddai bellach bod ganddi'r stôr o liwiau
I ail-greu'r llun.
Andrea Parry
8 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: 4 x 4
Baw glan bod dydd i'w orchuddio - rhyw fwd
ar fodur yn sgleinio'n
addurn o gefngwladeiddig
ond baw o diwb ydi o.
Phyllis Evans
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½
Englyn ar y pryd: 4 x 4
Â'r gyriant gyda'r gora - aiff â chi
aiff â chwech i rwla,
Yn brofiad gyda'r brafiaf
Noureau riche i'w nef yr â.
Hywel Williams
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH YN ENWI DAU LYSIEUYN:
Os oes bri ar fwyta sbrowts-
Diguro pryd o garowts.
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWRISTIAETH:
Twristiaid, Twristiaid, Twristiaid.
Mae'n gas gen i weld y locustiaid
Wrth dwrio drwy'r gwledydd
I chwilio am lonydd
'Rwyf beunydd ynghanol estroniaid.
Twristiaid, Twristiaid, Twristiaid.
Mae'n gas gen i weld y locustiaid
Aflafar yn rhuthro
I gael gorymdeithio
Fel byddin drwy fro ein hynafiaid.
Pan glywais i Gelert yn udo
Un Gwanwyn, gofynnais i iddo
Beth oedd yn ei boeni
Atebodd yr helgi
"Y blydi twristiaid na eto"
`Rwy'n amau fod Saeson cyfoethog
Yn dod i Eryri yn dalog,
I ddringo y Wyddfa
Heb wario 'run ddima
Nes byddan nhw adra'n Swydd Efrog.
Cyn mynd ar ei wyliau i sgio
Aeth ffermwr i'r ffridd i bractisio,
Pan drawodd faharan
Disgynnodd yn lledan
A rhoi dian o swadan i'w gi o.
Cyn mynd ar ei wyliau i sgio
Mi aeth. Ffarmwr Ffowc i bractisio
I lawr allt y Fron
Wedi rhwymo ei ffon
Yn de wa wrth gynffon ei gi o.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): EISTEDDFOD Y CAPEL
"Perffaith ddistawrwydd
A phob chwarae teg
I'r nesa gystadlu
Ar ganu dan ddeg,"
Tarana'r arweinydd
A'i wyneb yn goch,
"Rhaid gorffen y Steddfod
Cyn deuddeg o'r gloch;
Wnewch chi gau y drysa
A'u cadw dan glo
Heb agor i neb
Waeth pwy ydi o,
A rwan gyfeillion,
Rhowch bob chwarae teg
I'r nesa gystadlu
Ar ganu dan ddeg."
Rwyf finnau yn dirwyn
Y gân hon i ben,
Dim ond ugain llinell
Yw'r rheol, Amen.
TELYNEG: CAEL
Cael - trawsblaniad
Pigiadau dagrau'n
trywanu'n nodwyddau miniog
trwy groen tynn.
Dwyster gofid yn drwm ar y gwâr -
a chwydfa'r glaw
yn wewyr dros y bedd.
Grym y dewis
yn rhwygo cymylau duon
y colli sydyn.
Ond -
mae angerdd dagrau
yn llosgi'n obaith
ar ruddiau llwyd.
Tyndra'r disgwyl
yn corddi'r stumog wag.
A chryndod gwên
yn diolch
fod haelioni'r rhodd eithaf
yn pwytho curiad i galon newydd.
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH YN ENWI DAU LYSIEUYN:
Anni Puw sy'n hoffi pys
A Loti'n hoff o letys
PENNILL MAWL/DYCHAN: MEDDYGON
Dwi'm angan penesilin,
Na tabledi gneud fi'n flin.
Dwi angan rhywbeth at y boen
I'r d?r yn fy mhenglin.
Doctor! Doctor mae gen i boen!
"Ym mhle? Ym mhle?" O dan fy nghroen.
Mae gen i lwmp mewn lle go gas.
A gweid y gwir ma fe'n stico mas.
Mae'r eli ges i'n chosi rash
Mae'n chosi britho fy mwstash
LIMRIG YN YMWNEUD Â THWRISTIAETH:
A ninnau yng nghanol dirwasgiad,
Mae Môn yn fêl i fy llygad.
Rhad ydi'r gwesty,
Haul i fy nghnesu.
A gorffwys a llonydd o'm cariad.
Twristiaid sydd angen eu blingo,
Er bod rhai Sir Fôn o yn cwyno.
Boed Sais neu yn Ffrog,
Yn Sbaenwr neu Gog,
Rhaid blingo bob ceiniog sydd ganddo.
A finna rhyw dro ar fy ngwilia,
Roedd y gwesty yn wael - Go Damia!
Roedd y lle bach yn damp,
Yn drewi fel tramp.
Dim fel ma oedd o'n y llunia'.
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): EISTEDDFOD Y CAPEL
Helo Mami! Helo Dadi
Rydwi yma. Yma'n cani.
Yn y pwlpud
Sydd yn sdiwpud.
Rydwi'n canu ac yn adrodd am aflendid.
Helo bobl! Sy'n gefnogol.
Da chi hefyd yn Gristnogol
Clywed stori
Seren Dafydd
Ac am hanes tri gwr doeth neu athronydd.
TELYNEG: CAEL
Brau, bregus, yw'r gymdeithas,
yn esgor ar linach grintachlyd,
di-asgwrn cefn, yn crafu byw,
yn wasaidd a gwylaidd
daeoglyd.
Breuach byth yr iaith sy'n ei chynnal.
Sidan main ar fin gwisgo
nes iddo gael ei roi o'r neilltu
fel hen gerpyn
di-werth.
Cael iaith, cael cymdeithas,
cael coron ddrain, a'i gwaed
yn wrid ein cywilydd.
Mor rhwydd, mor esmwyth
oedd cael.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

