Taeogion vs Glannau Teifi.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
CWPLED AR YR ODL 'ES'
Un ffrae dros un gacen ffres
Yn Hermon drodd yn 'sgarmes!
Emyr Davies
8 ½ pwynt
CWPLED AR YR ODL 'ES'
Nye Bevan sy'n hen hanes,
Ble'r aeth y Wladwriaeth Les?
Joan Thurman
8 ½ pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: DIGRIFWYR
A'r llwyfan oll mewn golau,
mae'r ddawn gan rai o hyd
i'n gwneud i ninnau chwerthin
â hwythau'n ddagrau I gyd.
Tudur Dylan Jones
8 pwynt
PENNILL MAWL/DYCHAN: DIGRIFWYR
'Rwyf wedi treial popeth,
Trydanwr, dysgu, gwaith pren.
Ond wedi gorfod idlio
- dim digon yn y pen.
Ond nawr bydd pethau'n gwella,
fe ddarganfyddais ddawn.
Ac 'rwyf yn gwbl sicr bod
y cymwysterau gen i'n llawn.
Mi fyddaf yn Ddigrifwr,
mi af i'r brîg ar ras.
Oherwydd 'rwyf yn gwybod sut
mae rhegi a bod yn gas.
Terwyn Tomos
8 pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR CYLLELL
Creithiau
Yn ei gwên nid oedd un gwae, na cholled,
na chyllell, na chlwyfau;
er hyn roedd dwy freichled frau
yn addurno'i garddyrnau.
Ceri Wyn Jones
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS Y GAIR CYLLELL
(I hen amaethwr)
Yn llwyd fe gwyd o'i gadair, - i'w feddwl
Ni fydd yn cyniwair
Un ystyr, dim ond llestair,
A holl awch ei gyllell wair.
Gwen Jones
8 pwynt
CAN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) PWY FYDD YMA....
Pwy fydd yma ar y Talwrn
'Tae'r vers libre yn cael ei dydd,
Pan ddaw taw ar y gynghanedd,
Pan fydd 'caeth' 'di troi yn 'rhydd'?
Ble fydd Dic a'i Groes o Gyswllt?
Lle fydd Twm a'i Lusg a'i Draws?
Lle fydd Sain beirdd bychain bachog
'Taen nhw'n gwneud bob dim yn "haws"?
A beth gythrel fydd y rowndiau
Os aiff pethe o ddrwg i wa'th?
Ar ôl rowndyn o vers librio,
Fydd y lleill i gyd 'run fath!
Ac am beth y rhoir y Gadair
 phob mesur yn y llaid?
Lot o leins di-fflach dirythm
Ag ambell glec...wel, os oes raid?
Bydd dim cywydd, fydd na'm englyn
Bydd yr Awdl ar ei thîn...
A phwy fydd yma ar y Talwrn?
Wel neb... oherwydd fydd na'm un
Caryl Parry Jones
8 ½ pwynt
CAN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) PWY FYDD YMA....
Wrth ddringo'r Himalayas wythnos diwetha ar Ddydd Sul,
Mi welais ôl traed enfawr yn yr eira ar lôn gul.
Pwy fydd yma i fy achub os ca i nal 'da'r Yeti noeth?
Wedyn cofiais air o gyngor a ddywedodd Sherpa doeth.
Rhaid darganfod rhyw y Yeti ar y llethrau dan y lloer,
Ond nid yw hyn yn syml pan yw'r tywydd yn eitha oer.
Gwendid Yeti gwryw yw ei dalcen ar ei ben -
Mae hwn mor fawr a hirdrwm ni fedr weld y nen.
Wrth neidio i lawr y bryniau mae'r pell i weld yn glir,
Ond mae'r gorwel ond llatheidi pan rhed yn erbyn tir.
A nawr i'r yeti fenyw, dwy broblem sydd 'da hi -
Eu bronnau sy'n anferthol, yn fwy na 'Double D'.
I ddatrys y lletchwithdod o'r rhein yn bwrw'i thraed,
Mae'n eu taflu dros ei hysgwydd fel sach o dato had.
Wrth frasgamu lan y mynydd, 'na olygfa credwch fi,
Mae popeth yn ddiogel dan b?er 'gravity'.
Ond gwahanol yw y stori pryd try ei phen am lawr,
A chwympo wna'r sach dato a'i baglu hi i'r llawr.
'Da'r Yeti, fel mewn bywyd, rhaid sylwi, os am fyw,
Pwy sy'n sefyll neu yn eistedd pryd mae'r eira'n newid lliw.
Richard Jones
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLIJNELL): FFAIR
(Reid y bympyrs yn Ffair Aberteifi)
Yn ias wen fesul synnwyr,
yn ogle oel a glaw hwyr,
goleuai a drysai'r dre
â'i chawodydd sgrechiade;
ac uwch ei cheir a'i seiren
dawnsiai'n ddrwg, fel gwg a gwên,
wreichionen a weiren wan
ar drawiadau o drydan.
Fel clatsien i'm hasennau,
fe ofnwn ei s?n a'i swae;
eto o hyd down nôl at hon:
yr oedd nefoedd mewn ofon.
Ceri Wyn Jones
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLIJNELL): FFAIR
Rhai'n turio yn y tyrau
O ddillad rhad a'u sicrhau,
A dwy esgid i wisgo
Ae droed rhyw un bach ar dro;
A'r holl arian i'w rannu
'N hapus haelionus i lu
O dlodion sy' hyd wledydd
Lleia'u bai ond llai ei budd.
Un agwedd o Gristnogaeth
Yno'n chwim o ddim a ddaeth,
A diwedd oriau diwyd
Ddaw â balm i'r Trydydd Byd.
Gwen Jones
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD A THWYLLO:
Mae peiriant arbennig gen innau,
dwi'n ei iwsho i lunio cywyddau,
gall wneud soned ac englyn
neu yn wir bennill telyn,
ond mae'n hopeless am lunio limrigau!
Caryl Parry Jones
8 pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD A THWYLLO:
Dyw twyll ddim yn addas i limrig,
Beth bynnag, fe geisia i roi cynnig
Ar dwyllo y Meuryn
I feddwl mai englyn
Yw hwn - ond mae'n rhaid cael dychymyg!
Reggie Smart
8 ½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Hen hen gar sydd gan Harri
Mewn sbel mi wneith genel i gi.
½ pwynt
ATEB LLINELL AR Y PRYD:
Hen hen gar sydd gan Hariet
Un na fu yn fan i fêt.
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: TAL
(Diswyddo)
Siec hael oedd y siec ola'; - ond o hyd
Gwell yw dwst y swyddfa
A'r oriau hir yn yr ha'
Nag arian i segura.
Emyr Davies
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: TAL
Ei werthoedd oedd yn wrthun; - yn ei wanc
Bu'n erch yn ei gynllun
I rawio arian rhywun
Yn daer i'w boced ei hun.
Gwen Jones
8 pwynt
TELYNEG: GWAITH
Mae ar ei ffordd i'r swyddfa'n
rhyw hanner ar ddi-hun,
'run lôn, a'r un hen gerbyd,
ac ar ei ben ei hun
yn teimlo unwaith eto
ddiflastod bore Llun.
Mewn mis, a drysau'r swyddfa
yn cau o un i un,
mae'r gweithiwr yn ei gartref
ac ar ei ben ei hun
mewn hiraeth am gael teimlo
diflastod bore Llun.
Tudur Dylan Jones
10 pwynt
TELYNEG: GWAITH
(Wedi ymweld a gwersyll Auschwitz, Hydref 2008)
Mae'r lle'n diferu tristwch,
a'r muriau coch yn gwegian dan atgofion.
Yma, hyd heddiw,
y tu ôl i'r ffens,
lle mae'r wynebau'n ymbil
a dagrau'r domen wallt
yn creithio'r tawelwch,
mae traed y miloedd esgidiau'n dal i gerdded
tua'r siambr nwy,
a'r iard yn atseinio creulondeb.
Mae'r ffwrn wag yn cyfogi mwg
ac yn tagu'r adar,
a chyrff yr annerbyniol yn bridd llwyd.
Yn y distawrwydd hwn,
yng nghysgod wal y tanio
a'r grocbren,
llafuriodd bugeiliaid Uffern
i ddwyn y diniwed i'r lladd-dy.
Terwyn Tomos
9 pwynt
ENGLYN AR Y PRYD: TIM
"Pan fo'r chwiban ola'n canu, rhedwch"
oedd credo'r hyfforddwyr,
"i faw'r parc ar fore pur
i hyfrydwch y frwydr".
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79
ENGLYN AR Y PRYD: TIM
Ateb her, a derbyn cerydd, a wnawn
yn unol, er cynnydd;
Ar dân, mewn ffwdan neu ffydd,
un galon gyda'n gilydd.
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75 ½
CYNIGION YCHWANEGOL:
Cwpled ar yr odl 'es':
Annoeth fu'r siârs a brynes:
Enw'r banc oedd R.B.S.
Limrig ym ymwneud â Thwyllo:
Bu Mari yn caru 'fo Gari
Mewn car parc wrth ymyl Llanharri
Tu ôl i gefn Barri
A Harri a Larri...
Snam syspension ar ôl ar 'i char hi!
CYNIGION YCHWANEGOL:
Cwpled caeth ar yr odl 'es':
O'r rhai oll oedd yn y rhes
Yr orau oedd yr wyres.
(Ghandi)
Ei wrhydri dirodres
Ddaw â ni at Dduw yn nes.
Pennill mawl/dychan : Digrifwyr
Mae ensyniadau wir i chi
Yn eitha siom i wraig fel fi
Sy wedi'i chodi ar y Pethe,
A byw rhyw fywyd eitha dethe -
Dim rhegi na dweud jôcs rhy goch,
Na chwiban ar Ddydd Sul yn groch.
Ond erbyn heddiw mi a fynnwn
Mod i'n andros o hen ffasiwn,
Waeth jocan brwnt sy'n ennyn chwerthin
I ryw rai mas o'r cyffredin.
Dy'n nhw ddim yn swnio'n ddoniol
Nac yn bobol sy'n geidwadol.
Iddyn nhw ma lot o regi
Yn rhywbeth y maen nhw'n ei edmygu,
Ni sy'n talu trwy y drwydded -
Allwn ni eu stopio, tybed?
Englyn yn cynnwys y gair Cyllell:
Ai ffieidd-dod sy'n rhodio - yn y gwyll
A'i gyllell yn herio?
Ai gwamal fandal yfo?
Neu idiot â "bravado"?
(Hiraeth mam am ei mab)
O'i golli i lafn y gyllell - wylodd,
A'i galar yn fflangell;
O achos siom ei ddichell,
Ei hiraeth sy'n gaeth i'w gell.
Cân (heb fod dros 20 llinell) : Pwy fydd yma......?
Pwy fydd yma yn meuryna
Yn lle'n Gerallt annwyl ni?
Pwy fydd 'ma i roi canmoliaeth?
Pwy fydd 'ma i roi gwên i fi?
Pwy fydd 'ma i gadw trefen
Ar daeogion Ceri Wyn?
Pwy fydd yma'n cynnal Talwrn
Mewn ardaloedd hoff fel hyn?
Pwy fydd yma'n cadw'r marciau?
Ble fydd Dwynwen loders hardd?
Fydd hi 'ma o hyd a'i gwenau
I ryw dipyn bach o fardd?
Pwy fydd yn y fan yn gwrando
Ac yn gwneud yn eitha si?r
Fod pob rhaglen o'r hen Dalwrn
Eto'n dod i glyw pob g?r?
Pwy fydd yma yn cystadlu?
A fydd rhywrai wir ar ôl?
Chi gaiff chwilio yr atebion,
Fentra i ddim bod mor ffôl.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffair
(Yn yr hen ddyddiau cafodd y gweision ffermydd a gawsai eu cyflogi am chwe mis yn unig yn Ffair Calangaeaf eu hail-gyflogi yn ystod Dydd Sadwrn Barlys.Dethlir Sadwrn Barlys o hyd yn Aberteifi ar ddiwedd Ebrill)
Bwrlwm dydd Sadwrn Barlys
Ffermwyr a brolwyr mewn brys.
Dai â'i bac, gwerth Llwyd bicweirch,
Rhai'n swmpo a mwytho'r meirch.
Cân cryts am serch i ferched.
Mae sôn am ladron ar led.
Rhydd crwt fagl i blant gwaglaw.
Gwerth hen wraig rython a rhaw
Mae hen weision, am noswaith,
Yn glaf 'rôl cael haf o waith.
Adda yw un o'r meddwon,
Hen ff?l yn dawnsio a'i ffon
Limrig yn ymwenud â thwyllo:
Roedd Edwin yn dwlu ar Leisa
A hithau heb ddangos 'run ysfa,
Medde fe mewn llais pêr
"Rydw i'n filiwnêr"
Fel yna bu iddo ei dala.
Er mwyn cael ei hwyneb heb grychni
Heb smotyn na dim fe aeth Mari
Am driniaeth y gyllell
I gael gwared pob llinell,
A nawr mae ei chroen fel tîn babi.
Aeth Ceri i lawr at yr afon
'Da taclau reit werthfawr o safon
Ond ni ddaliodd eog
Nes gwariodd e geiniog
Cans mwydyn yw'r gorau am samon.
Rwy'n hoff o lunio limrige
Cael dwy linell hir ar y dechre,
Dwy linell fach brin
Yn odli fel hyn -
Ond wedyn - dim fi 'naeth e!
Englyn cywaith : Tâl
(I ?r yn ymddeol ar ôl oes o waith)
I ?r a roes o'i oriau - heb holi,
Heb eiliad o amau;
Y mae hud y munudau
Yma yn awr i'w mwynhau.
Cysuron llon o'i llaw hi - a gefais,
Ac afiaith ei chwmni;
Gras y Nen, er cau'r llenni
I Mam am bob rhodd i mi.
Telyneg : Gwaith
Bu ef yn gweithio'n galed
Mewn hindda ac mewn glaw,
Roedd gobaith yn ei galon
A phicas yn ei law.
Doedd dim a wnai'i ddiffygio,
Na rhoddi iddo fraw,
Fe ddaliai'n llon ei galon
A phicas yn ei law.
Ar ddiwedd oes o weithio
Yn galed ar y naw,
Fe aiff i gwrdd â'i Feistr
Â'i bicas yn ei law.
Telyneg : Gwaith
Nid oes s?n un morthwyl
Yn taro'r "ergyd fach",
Na megin yno'n chwythu
Na cheffylau mawr y crach.
Diflannodd mwg y simnai,
Y glo nid yno mwy,
Mor dawel yw yr efail
A oedd yn rhan o'r plwy.
Ond weithiau yn yr awel
Mi glywaf yn y cwm
Adlais o'r hen ergydion
Yn dod o'r adfail llwm.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

