Y Garfan vs Crannog.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'ANS'

Naw hosan, dyna niwsans,
y mae un dan wely'r Mans!

Aled Evansr9 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'ANS'

Rhowch lôn ddibris i'r Nissans
A'r M un i lorri Mans.

Dai Jones
8 ½ pwynt

PENNILL MAWL /DYCHAN - RHEOLAU DIOGELWCH:

Iddynt hwy rhown fawl i'w hymdrechion
am daflu rheolau i'r pair
gan roddi eu hunain yn gyntaf
cyn emyn, a gweddi a'r Gair.
Fe'u molwn am dorri traddodiad,
a hawlio pob sylw a chlod
nes llwyddo i gau ambell Gapel
fu'n iach a diogel erio'd.

Beti-Wyn James
8 pwynt

PENNILL MAWL /DYCHAN - RHEOLAU DIOGELWCH:

I achub eneidiau
Bu raid diffodd y gân
Gan nad oedd yn Seilo
Allanfa dân.

Idris Reynolds
9 pwynt

ENGLYN YN GORFFEN GYDA LLINELL ADNABYDDUS:

Mewn Oedfa

Yn fynych, a mi'n gweddïo, rwy'n mynd
hyd bren moel i grwydro,
a gweld, yn ei ffisig o,
ôl anfarwol dy feiro.

Mari Lisa
8 ½ pwynt

ENGLYN YN GORFFEN GYDA LLINELL ADNABYDDUS:

Yr awdl heb unrhyw odle, - beiro hesb,
Bwa'r arch heb liwie,
A Santa'n brin o sane,
Hynny yw dim onid e.

Dai Jones
8 ½ pwynt

LIMRIG - PAN OEDDWN MEWN TALWRN YN HERMON:

Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon
a'r Meuryn yn trafod englynion,
estynnais ddwy law
i'r bwrdd oedd gerllaw
a dwgid cream horn rhwng penillion.

Beti-Wyn James
9 pwynt

LIMRIG - PAN OEDDWN MEWN TALWRN YN HERMON:

Pan oeddwn mewn talwrn yn Hermon
Yng nghanol llond cegin o feirddion,
Y llinell rwy'n cofio
Yw lein y wraig honno
A dd'wedodd 'Dewch mhla'n, bytwch ddigon'.

Dewi Pws Morris
9 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - GÊM:

((Gêm olaf ar Barc y Strade)

Un erw dan faneri,
un llwyth hyd ei hesgyll hi.
Un dras heno'n troi o'r drin
a dyddiau ein Gododdin.
Un werin na fu'i dewrach,
yno'n fôr o Sosban Fach.
Un maes a'i holl sgarmesi
yn brolio tro bu'r naw tri.
Un gair hwyr i gofio Grav -
yn deulu'r eiliad olaf.
Un eiliad ddi-ddychwelyd
ar ga' fydd yma o hyd.

Aled Evans
10 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) - GÊM:

Coedlan a cheulan a chae
Herwa yw ei faes chwarae,
A ffrwyth y past a'r wastfach
Yn nyfnder syber y sach
Ar ei war. Nid yw fyth bron
Yn gadael y cysgodion.

Ni ?d i'w droed dorri ust
Y weirglodd lle mae'r hirglust,
Nac allt serth y berth lle bo
Ieir ffesant yn gorffwyso.
Yn oriau mân y bore
Mae'i fywyd i gyd yn gêm

(Gwastfach = night-line)

Dic Jones
10 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) Y DATHLIAD:

Dathlu Priodas Ddiemwnt

Yn hwyr y dydd, rhwng muriau'r co' ar gôl dwy gadair glyd
eisteddai dau yn dawel rhag s?n a bwrlwm byd;
a fflam y tân wrth fagu'r glo
yn galw'n ôl hen wreichion ddo'.

Mewn ffiol ger y ffenest fach mae blodau'r maes yn wên,
petalau'n dawnsio'r orig rhwng llwydni'r llenni hen;
a phersawr mwll y dyddie fu
yn olrhain blagur ddoe'n y t?.

Rhy newydd, rhwng hen lestri'r seld, yw lliw ei darlun llon
yn gysgod ar y diwrnod, sy'n llwm heb gwmni hon;
a'r hiraeth rhwng y wên a'r fflam
yn cynnau beunydd, gam wrth gam.

Bu ambell un yn galw draw i ddathlu'r byw cyhyd,
ond 'steddai'r pâr yn dawel ar gôl dwy gadair glyd;
a'r fflam yn uno meddwl dau
wrth gofio'r daith - ac un yn llai.

Beti-Wyn James
9 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) Y DATHLIAD:

Roedd mynachod Trapistaidd Cwmcoed
Yn dathlu canmlwyddiant eu sefydlu,
'Ron nhw'n sect itha difyr a hapus
Ac enw'r arweinydd oedd Dudley.
Nawr wy'n si?r fod y faith i chi'n hysbys
Nad yw Trapists yn cael siarad o gwbwl
Ac felly yn y cinio a drefnwyd
Rodd e'n amlwg i bawb base trwbwl.

Fe fyton nhw'r bwyd yn hamddenol
Ac yna daeth y gwledda i ben,
Fe ddiolchon i'r Tad, ' yn feddyliol wrth gwrs',
Ond ni chlywyd s?n unrhyw 'Amen'.

Fe gododd y pennaeth yn sydyn
A'i lygaid yn ddisglair a chwim
'SSSS-SSSS' medde fe, a 'S-S-S-S'
A deallodd y gweddill i'r dim.

I eilio yr araith daeth y Deon
'S-S', medde'n fusgrell a hen
Ond yna cododd lleian ddireidus
'S-S' ebe hi gyda gwên.

Gadawaf y gweddill i'ch dychymyg,
Daw pethe yn glir maes o law
.......sdim mynachlog i gael erbyn hyn yng Nghwmcoed
ond......mae'r Trapists yn joio mas draw.

S-S-S = s?n chwibanu

Os nad yw'r meuryn yn gallu chwibanu mae'r awdur yn barod i
lanw'r bylchau gyda phleser.

Dewi Pws Morris
9 ½ pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Yr un o dyf yw'r hanes
Yn ôl yr a nid yn nes.

1 pwynt

ATEB LLINELL AR Y PRYD:

Yr un o dyf yw'r hanes
Nid yw nef yn dod yn nes.

ENGLYN CYWAITH- TRUGAREDD

I'n cynnal pan ddaw'r galw, yn yr hwyr
fe ddaw rhai i'n cadw.
Daioni o hyd ydyn nhw
y daioni di-enw.

Meirion Jones
9 pwynt

ENGLYN CYWAITH- TRUGAREDD

Mae 'na b?er mewn bywyd - yn eiriol
dros dymheru'r ddedfryd.
A fo'n gyfiawn, a gyfyd
boenau y gosb i ni i gyd.

Dic Jones
9 ½ pwynt

TELYNEG - GWRTHOD:

Ar ôl anrhegu'i baban
i arall lond ei siôl
fe gaeodd ddrws ei chywilydd
yn glep, heb edrych nôl.

Ychydig a wyddai'r bychan
y byddai'r drws a roes
y glep yn nyddiau'i febyd
yn glep ar hyd ei oes.

Mari Lisa
9 pwynt

TELYNEG - GWRTHOD:

Am nad yw gair Jehofa
Yn cynnig caniatâd
I dderbyn y diferion
O nodwydd yr iachâd

Mae calon y gydwybod
Am gadw gair ei deddf.
Ar allor diniweidrwydd
Mae'r gredo'n drech na greddf.

Howell Rees
9 pwynt

ENGLYN AR Y PRYD: CHWYDDWYDR

Ni welais i, er sbio, am hynny
mae ynof chwant chwilio,
a dal yn ei lygad o
y manion sy' ddim yno.

8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 81 ½

ENGLYN AR Y PRYD: CHWYDDWYDR

Ar adegau'r gred egwan - â gwenau'r
gannwyll yn bur wantan,
Bydd dyn sy'n parchu'i hunan
eto am weld y print mân.

Idris Reynolds
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 82

CYNIGION YCHWANEGOL:

Cwpled caeth ar yr odl 'ans'

Eco iaith ydyw'r cof, cans
ei siarad yw'n hinsiwrans.

Pilyn sy'n cynnal balans
rhwng noeth a moeth ydi mhans.

I mi, y mae odli ans
yn ormod o berfformans.

Heddiw, mae menyw'n y Mans,
Un neis, ond weithiau'n niwsans!

Hoffai weld, o bell, ei ffans;
yn nes, maen nhw yn niwsans.

Heb Wil i gadw'i balans
yn y ffos mae'n nos ar Nans

Di-dwf y bu ei lwfans,
A mwy, nid oes deulu'r Mans.

Pennill Mawl/Dychan: Rheolau Diogelwch

Rhaid glynu yn gaeth wrth reolau,
Er nad yw glud yn ddiogel bob tro.
Mae gan yr "Health and Safety"
Bwerau godidog sbo.
A dyna pam dwi'n feudwy
Yn byw mewn ogof laith,
Ymhell o fwrlwm bywyd
A heb 'run cymar chwaith.

Rwyf yma yn fy ngwely
Yn ofni symud cam
Yn gwisgo bwts a helmed
Rhag goddef poen a nam.

Englyn yn gorffen â llinell adnabyddus

I deiau crand daw cryndod i afael
ar gyfoeth o wactod;
a nawr adfeilion di-nod
yw'r teiau ar y tywod.

Lluniau

Bu rhywrai'n bodio'r stori a rhoi'u stamp
ar starts y corneli;
rhyw ennyd a wêl rheini
eu haul fyth a welaf i.

Limrig: Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon

Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon
Cafwyd toriad i gael hysbysebion
Gohiriwyd y bwyd
aeth y Meuryn yn llwyd
ac aethpwyd yn syth i'r Newyddion

Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon
fe gymrwyd y Meuryn yn wystlon
Gofynnwyd yn syn
Oes arian â'i pryn?
Roedd paladr englyn yn ddigon.

Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon
Fe gwrddais â menyw reit gomon
A dyna chi strach
Pan wasgodd y wrach
Nes bod fy nhraws fantach yn yfflon.

Pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon
Fe gwrddais â gwerthwr englynion
ac meddai yn dalog,
Fe gei di rai Crannog -
'mond ceiniog yw gwerth eu goreuon.

Mae'r cwpwrdd yn wag, dim ond briwsion
sy nawr, ond mae llu o atgofion
am sgoniau a jam
a ffroes fel rhai mam
pan oeddwn mewn Talwrn yn Hermon.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Dathliad

Fe ddaeth yn amser dathlu priodas Platinwm
i ddau 'rol saith deg mlynedd o fyw eu hoes ynghlwm.
'Roedd Wil dros gant, a gwanllyd, a'i "zimmer frame" gerllaw
ond Mari oedd mwy bywiog - roedd hi ond naw deg naw.
Fe chwifiwyd y baneri, ca'th gwledd ei pharatoi
cawd jeli coch a chwstard - dim byd rhy tyff i'w gnoi.
Daeth ffrindie a pherthnase, selebs a babi blwydd
yn gardie a phresante - daeth dros dri chant yn rhwydd.
Gwleidyddion a phwysigion a ffotograffwyr lu
Ffeiradon, gweinidogion, "Hello" a Sky TV.
Fe yfwyd llawer sieri, edrychwyd nôl ar oes
o lawnder ac o gyni, ar lawer gwên a loes.
Agorwyd yr anrhegion - pob un yn ffito'r bil,
"Nintendo Wii" ac "i pod" llawn albyms Jac a Wil.
Ond i'r ddau y pecyn gore oedd bocs o bils bach glas
i'w cymryd 'da'r llwnc-destun, a hynny wnawd ar ras.
Ond codwyd mwy na gwydrau, a chynnwyd rhyw hen dân
ym mynwes wan yr henwr- fe gofiodd eiriau'r gân.

Englyn cywaith: TRUGAREDD

Branwen ar lan Afon Alaw

Fe af at lan yr afon, i'w dwndwr
i dendio fy nghalon.
Ond ei d?r ddwed yn dirion
na allai hi wella hon.

Jade Goody

Enwogrwydd a dry'n ddagrau, a'i hysbryd
yn fyd o ofidiau.
A wnawn ni a hi'n hwyrhau
aros i leddfu'i horiau?

Telyneg - Gwrthod

Drws yn cau
ac awel ei glep
yn llosgi'r wyneb.

Duwch du
lle bu
afon o olau gobaith
yn llifo trwy ei gil,
a hanner gwahoddiad
i'w wthio led y pen
a chroesi'r aelwyd
i gynhesrwydd newydd.

Ond yn y cau
mae bollt a chlo ar freuddwyd,
a dim i'w wneud
ond troi cefn
a cherdded i lawr llwybr arall.

CYNIGION YCHWANEGOL:

CWPLED AR YR ODL -ANS:

'Esu , mae'r ffôn yn niwsans
A mi yn fy fest a'm mhan's.

Yn nhermau ei berfformans
A oedd Mudd yn haeddu mans.

PENNILL MAWL /DYCHAN - RHEOLAU DIOGELWCH:

Pan own i gyda'r bilders
Yn gweithio 'slawer dy'
Doedd gwisgo rhyw hat galed
Yn cyfri dim i fi
Ond pan own i'n dod adre
Heb groeso ar y mat
A swper neis yn ulw
Yr own i'n falch o'r hat.

Reit eisteddwch lawr bobol,
'Wy moyn eiliad o heddwch
I bawb yma glywed y rheole diogelwch.
Os fydd tân yma'n digwydd
Trwy'r drws DE ewch yn syth
Ne os chi'n sefyll ffordd hyn
Mae De yn troi'n Chwith.
Os bydd clyche yn canu, bydd 'Terrorist Attack',
Cydiwch yn eich tasge a dianc mas y bac,
Ewch allan yn bwyllog a sticiwch i'r cynllun,
I ddechre y beirdd , ac yna y Meuryn.
Ond y cyntaf i adael, wrth gwrs, cyn chychwi,
Bydd y Swyddog Diogelwch - ie hynny yw - FI.

LIMRIG - PAN OEDDWN MEWN TALWRN YN HERMON:

Pan oeddwn mewn talwrn yn Hermon
Fe gwrddais ? Meuryn o G'narfon
Roedd ei feddwl yn chwim
A'i dafod yn llym
Ac os nad oedd e'n fawr - roedd e'n ddigon.

Pan oeddwn mewn talwrn yn Hermon
Fe gwrddais ? chriw o ynfydion,
Beirdd cocos ac aflan,
Sef proestwyr y Garfan....
A Meuryn bach neis o Gaernarfon.

Pan oeddwn mewn talwrn yn Hermon
Yn gwrando ar dimau bach common
Cas neb mwy na saith
Am ddarllen ei waith
Ond rhoddwyd sawl deg i'r danteithion.

ENGLYN CYWAITH- TRUGAREDD

'Roedd yn drugaredd' meddai, - ond yr oedd
Y tu draw i'r fintai
Yno'n glaf uwch haen o glai
Eto un na chytunai.

I ddwylo hael yn nh? gwaeledd - fe ddaw'n
Ufudd iawn i'w annedd
O enau Duw yn y diwedd
Air o barch i agor bedd.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.