Talybont vs Glêr.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'coch':

Rhowch lipstic coch ar fochyn,
Ond hwch yw hwch er gwneud hyn

Phil Thomas
8 pwynt

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'coch':

Yn y coch mae'r banc o hyd
A'm arian i'n ymyrryd.

Osian Rhys Jones
8 pwynt

Limrig: 'Gerllaw Aberangell 'roedd plismon':

Gerllaw Aberangell roedd plismon
yn spîdo a spîdo yn gyson.
Aeth yntau o'i go
'rôl methu y tro
a glanio ar do y Plistesion.

Roland Griffiths
8 pwynt

Limrig: 'Gerllaw Aberangell 'roedd plismon':

Gerllaw Aberangell roedd plismon,
Gerllaw Aberangell mae plismon,
A'r tro nesa'n slei,
Reit si?r mewn lay-by,
Gerllaw Aberangell bydd plismon.

Osian Rhys Jones
8 ½ pwynt

Englyn yn cynnwys enw dwy afon:

Masgara'n gwau hyd ruddiau'r wrach - yn hagr
 dagrau'r hen fasnach;
Llifa drwy byllau afiach
Rhondda Fawr a Rhondda Fach.

Gwyn Jenkins
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw dwy afon:

(ymuna Afon Brennig ag Afon Teifi ger Tregaron)

Ym Mrennig ein tymor heini - llifwn
Yn llafar ag egni'r
Gân iau, cyn y rhygnwn ni
Yn do ifanc i Deifi.

Hywel Griffiths
9 pwynt

Pennill Dychan: Trawscambria:

Mae gan yr Almaen Autobahn,
A'r Ffrancwyr TGV
Mae gan Japan ei Shinkansen
I fynd o A i B,
A sut mae Cymru'n uno'r wlad?
Mewn blincin bysus - neno'r Tad!

Phil Davies
8 pwynt

Pennill mawl/dychan: Trawscambria:

"Y Gerallt Gymro"
yw'r enw a fydd
ar y trên cynnar
o Gaergybi i Gaerdydd.
Ond ni bu i Gerallt
erioed, ar fy llw,
deithio i'r de
drwy orsaf yng Ngrewe.

Osian Rhys Jones
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Darlun

Yn ffenest haf fy 'stafell
y mae'r byd i mi mor bell.
Haul y bae yn hwyl y bad
a heulwen ola'r eiliad
yn lliwio byd ym mhob man
â'i golau adain gwylan.

A chiliaf a chau aelwyd
a chodi fy llenni llwyd.
Yn y gwyll caf gau allan
funudau y golau gwan,
nes daw eto'r cynfas du
yn fôr o liw yfory.

Gwenallt Llwyd Ifan
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Darlun

Rwy'n bod fel rhes o godau,
Yn un rhif mewn cyfrif cau,
Gwnaed i mi, yn gnawd mwyach,
Y data mân, bychan, bach,
O'u cau yn y ffeiliau cudd,
O'u creu nhw fel croen newydd
Mae lluniau a'm holl hanes
Yn rhifau llwyd, er fy lles.

Y sgrîn hon yw f'esgyrn i,
Wyneb a wnaed ohoni,
Wyneb yr holl ddarluniau
Sy'n un rhif mewn cyfrif cau.

Hywel Griffiths
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyngor:

(Stori wir)

Un tro fe sefais lecsiwn, am sedd ar Gyngor Bro.
Wrth edrych nôl, gyfeillion, dyfaru wnaf bob tro.

Er siarad da'r etholwyr nes bod fy mhen i'n troi,
Ac addo chwynnu'r palmant a chodi y gwm cnoi,
Ymrwymo i glirio'r llwybrau, rhoi camfa yma a thraw,
Cael warden cwn â'i rhaca i glirio'r lwmpe baw,
Peidio â diffodd golau stryd rhwng un o'r gloch â phump,
Ac ysgwyd llaw da Saeson nes bod fy llaw yn limp,
Er addo rhwyd i'r gôl-post a seddi saff i'r swings,
Rhoi côt o baent i'r shelter, gofalu gwagio'r bins,
Cytuno mynd â'r henoed am drip bob haf i'r Cei,
Rhoi arwydd ger y fynwent i nodi ffordd one way,
A chynnig gosod meinciau pob canllath hyd y cwm,
Ar noson yr etholiad fy nghalon oedd fel plwm.

Dosberthais lawer taflen gan dderbyn sawl wên deg,
Ond well petawn i wedi, am unwaith, gau fy nheg.
Roedd un deg saith yn ceisio am un deg tri o seddi,
Des i yn ail ar bymtheg . Rwy'n gwybod, naw, fy seis i.

Phil Davies
8 ½ pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Cyngor

A'r gwynt ar fy ngwarthaf y noson o'r blaen,
Wedi cau cil y ffenest ar wacter y waun
Mi glywais rhyw s?n, rhyw s?n ar y paen,
Tap-tap ar y ffenest, tap-tap unwaith 'to,
Tap-tap, tap-tap-tap nes i mi fynd o 'ngho,
Ai'r Tystion fu'n pestro, tap-tap ddoi bob tro,
Ai ysbryd fu'n tapio, tap-tapio drwy'r nos?
Agorais y llenni ar dduwch y rhos
Ac yno'r oedd pioden - mi waeddais i "Dos!
Y 'deryn dig'wilydd!" Ond troi wnaeth y pi
A syllu'n ddig'wilydd yn syth arnaf i,
Cyn taro, tap-tap, unwaith 'to, un-dau-tri;
I mewn ddaeth y paen efo crac y tro hwn
A'r pi ar ei ôl (pe bai gen i wn
Fe'i rhown wrth fy ysgwydd fel Gerallt, a gwn
Na fyddai'r pi fyw yr un diwrnod yn hwy),
Hedfanodd y bioden o'r t'wyllwch reit drwy
Y ffenest a chrawciodd yn eofn, "Dim mwy!
Dim mwy y cei dithau, y bardd gwirion, ffôl,
Fodloni ar 8 yn y Talwrn a stôl
Mewn rhyw stomp, na, ni chei bygyr ôl
Am werthu dy ddawn yn rhy rhad," meddai'n hallt,
"Y cam cynta', washi, fydd torri dy wallt,
Yna ceisia greu cerdd y gall pob un ei dallt,
Rho ynddi drosiadau y gallai Dai Jones
Eu deall yn eglur (a, plîs, pryna drôns
Yn y sêl, wir i ddyn), cana gerddi sy'n sôn
Yn hiraethus am bethau a fu 'slawer dydd,
Defnyddia'r gair 'hil' ambell dro (fel 'Caerdydd'),
Mi gei di well marciau os doi di o'r cudd!"
A dyna, bob gair, yr holl gyngor ges i
Yn reit ddu a gwyn; ac mi oedd, wir i chi,
Roedd blas anghyffredin ar gig yr hen bi!

Eurig Salisbury
8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Anlwc a ddaw i'm canlyn
Yn gosb am f y enw Gwyn.

½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

O ganu'n hir gwn i hyn
Anlwc a ddaw i'm canlyn.

½ pwynt

Englyn Cywaith: Dagrau:

(Wrth weld ymateb Elin, blwydd oed, wrth iddi deimlo glaw ar ei hwyneb mis hydref y llynedd)

Ei hymateb mor ebrwydd - i'r oer wefr
oedd rhoi'r wên gyfarwydd
yn ei blys, llawen ei blwydd
a'i hydre'n ddiniweidrwydd.

Anwen Pierce
8 pwynt

Englyn Cywaith : Dagrau

(Tawelodd y newyddion am Gasa pan ddaeth yr eira mawr, er bod yr ymladd yn parhau)

Am fod gwarchae y gaea' - a galar
Ac wylo dan eira,
Geiriau'n oer a'r dagrau'n iâ,
Gwn yr euog ni rewa.

Hywel Griffiths
9 pwynt

Telyneg: Gobaith:

Yn swnllyd o blant
dan drwch o gotiau,
dringom yr allt i hel yr eirin duon bach.

Roedd pob bwlch yn y clawdd yn gôl
a phob llwyn yn cuddio bwci.

A'r Sul yn llithro trwy fysedd haul yr hydref,
Cyrhaeddom y llwyni llawn glain,
ein perlau glas.

Arnynt roedd ffurfafen yr haf a aeth,
yn ein denu ni i'w cyffwrdd.
Ond wrth i ni afael ynddynt
diflanodd y lluwch tenau
o lasbaill o dan ein bysedd.

Wrth droi am adref a'n basgedi'n llawn
o gynnyrch wres yr haul;
a gadael dim ar ôl ond olion traed a'r ddreinen noeth,
daeth c?n y gwynt.i hollti llechen y wybren
a rhyddhau haenen las o'r nen lwyd.

Phil Thomas
9 pwynt

Telyneg: Gobaith

I geisio cadernid
y dof â'm lluoedd
at ddrysau Hengist heno,
fel nifer o'n blaenau,
i wledd, heb ein harfau,
a'r byd i gyd yn gwylio.

Mae eleni'n corddi
yn y rhyd hynafol,
ond taerwn fod yn rhaid troi'r dudalen
tros gadernid
a thros heddwch;
a thros fy ngwendid at Ronwen.

Ond heno, drachefn,
mae dwylo cochion
gan y gwleddwr i'm chwith,
a gwyliadwriaeth
am gyllyll hirion
y cyfeillion yn ein plith.

Osian Rhys Jones
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Siop y Gornel

Siop ar y we

Trwy ewin ei dewiniaeth - hir rythwn
ar rith o wasanaeth.
Cyn syrffio i giwio'n gaeth
hyd eigion digymdogaeth.

Anwen Pierce
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 75 ½

Englyn ar y pryd: Siop y Gornel

Ar hyd pob stryd mae'r ystrydeb ar glo,
a'r gloch heb ei hateb.
Hwy heno yw'n derbynneb
o wario'n hael yn nhir neb.

Iwan Rhys
9 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'coch':

(yn dilyn tanau De Awstralia)

Y ddaear goch ddaw â'r gwae
erchyll, a'r wlad dan warchae.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'coch':

Y dyrnau sy'n llwyd arnoch
Sy'n rhy gas i'n wiwer goch!

Mae sôn bod rhai ohonoch
Wedi clywed cwpled coch!

Mae sôn bod un ohonoch
 sied i wneud cwpled coch!

Chwi Robin Goch ar y giât,
O's wiwer yn eich seiat?

A welwch fel ers talwm
Wylliaid coch yn llwyd y cwm?

Mae'r angau, Gymry, rhyngoch;
Draw'n y lloc mae cadno coch.

Limrig: 'Gerllaw Aberangell 'roedd plismon':

Gerllaw Aberangell roedd plismon
Yn dweud, wrth arestio g?r estron,
"I'r orsaf, gwboi."
Ond daeth ateb yn gloi,
"I'm sorry, I don't speak any Klingon."

Gerllaw Aberangell roedd plismon
A daerai fod ganddo fo gynffon,
A phrofwyd o'n iawn
Pan y'i defnyddiwyd un pnawn
I atal llofruddwyr a lladron.

Gerllaw Aberangell roedd plismon
Yn chwilio am ôl gwylliaid cochion,
Ei drwyn ar y sent
Ond ei brae wedi went
A theiars ei gerbyd yn yfflon.

Englyn yn cynnwys enw dwy afon:

Ni chei, Ystwyth, na chastell - na phrom hir,
Na ffair, mul na Llyfrgell,
Rhoed i Reidol heol well
Ond i'th rith rhoed ei thraethell.

Pennill mawl/dychan: Trawscambria:

Os wyt am weld ble cafodd Waldo'i syniad,
Nid y Preseli ddylai ddenu'r llygad,
Cama ar y bws ym Mangor, yna cer
Ar yr yrfa faith ar drofa fer.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Darlun

('Trearddur' - Kyffin Williams)

Drwy'r haf, mae'r artist ar draeth
yn aros i ymyrraeth
yr haul a'r chwerthin dreulio;
drwy wres o hyd erys o,
ac erys i'r gwynt garw
gario'n uwch na'u clegar nhw.

Heb arni liw wybren las,
gwag o'i hanfod yw'r gynfas,
a'i frwsh sy'n dawnsio, heb frys,
y ddefod rhwng ei ddeufys
hyd nes y daw'r glaw â gwledd
lliw'r awr dywyll o'r diwedd.

Englyn Cywaith : Dagrau

Ni thyr ust hir a thristáu - ran o fur
Fy nghronfeydd cudd innau,
Llenwi o ias llawenhau
A ry ergyd i'r argae.

Telyneg : Gobaith

(Mae confoi o gymorth ar ei ffordd i Gasa ar hyn o bryd, ac ar fin hwylio ar hyd rhan olaf y daith)

Cyhyd y bu'r cyrcydu
O dan wybrennau dur,
Ni rannwyd o daranu
Cawodydd ond eu cur,
 gwlad yn gwylio wrtho'i hun
Holl donnau dall dienaid dyn.

Cyhyd â bydd rocedi
Bydd gobaith yn y gwynt,
Ac angen eto'n llenwi
Yr hwyliau ar eu hynt,
I'r wlad fu'n gwylio wrtho'i hun
Ar donnau dewr daw enaid dyn.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.