Penllyn vs Bro Ddyfi.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Penllyn.

Penllyn.

Bro Ddyfi.

Bro Ddyfi.

CWPLED CAETH AR YR ODL 'onc'

Pen isel oedd pwy noson
Cyn i Sian roi winc yn sionc

William.J.Williams
8 pwynt

CWPLED CAETH AR YR ODL 'ONC':

I iâr-eistedd go drisdonc
Ei chlwc clwc ar wyau clonc!

Dafydd Wyn Jones
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DATHLU

Enillodd Twm raffl fawr Seilo,
Sef trip un ffordd draw i'r Bermo.
Doedd 'na'm lle ar y traeth,
Ac i 'neud petha yn waeth,
Mi ddwynodd hen wylan ei chips o.

Haf Llywelyn
8 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â DATHLU:

Bûm yn dathlu penblwydd Anti Hannah
Yn gant tri deg wyth wythnos d'wetha',
Cefais wisgi a chwrw
Er nad oedd hi acw -
Bu farw yn nechrau'r saithdega'.

Hedd Bleddyn
8 pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENW GWALL CYNGHANEDD

BYWYD

Un daith, yn llawn bendithion, - ehedodd
Yn garedig ddigon,
A holl hynt y lleddf a'r llon
Yn gyfoeth o atgofion.

Dylan Davies
8 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENW GWALL CYNGHANEDD E.E TRWM AC YSGAFN

Gweithio englyn

Twyll Odl, Gormodd Odlau, - 'ew a'r we',
Di-rif y rheolau,
Mae y dasg yn ormod iau
Im rhagor - gwnaf limrigau!

Dafydd Wyn Jones
8 ½ pwynt

PENNILL DYCHAN: NEWYDDION TYWYDD

"Diwrnod cymysglyd"
medde'r lefren fwyn.
"Glaw ar y tafod,
Rhew dan y trwyn;
Haul yn y llygad
Gwynt yn y bol
Bryniau dan gyfar
O luwch yn Del Sol".

William J.Williams
8 pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN: NEWYDDION TYWYDD

Rhyddhad i'r holl gyfryngau,
Boed aeaf neu yn ha',
Yw tywydd drwg a'i helbul
Yn gwneud newyddion da.

Elwyn Breese
8 ½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

CAIS AM SWYDD

Annwyl Syr,
Fe sylwais i,
Eilwaith, wrth studio'r Daily
Post y bydd angen cael Pab
Cyn hir, yn Ianc neu Arab
Neu unrhyw hil ! Sgwennu rwyf
Ar dân ! Fe rwydwyd ynwyf
Y doniau i gyd - dyn o'i go
A'i Ladin 'di hen lwydo
Yn briod i Fethodyn,
Yn ddiawl, protestiwr o ddyn,
Hala, heno'r, ffurflenni
A oes a fedd well CV ?

Iwan Bryn Williams
8 pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL):

CAIS AM SWYDD - cyfarwyddwr banc

Ystyriwch 'nghymwysterau.
Y dyn fu cystal â dau
Am fynnu mwy o fonws;
Un â'i ffi yn fwy na'i ffws
Dros arian y gwan. Y g?r
A huriwyd fel consuriwr
I greu arian syfrdanol.
Dyma'r rhith - 'does dim ar ôl
'N y blwch, aeth fel gwynt bal?n
Y balans o ddeg biliwn.
Gofynnaf, a gaf y gwaith
O'u rheoli yr eilwaith?

Tegwyn Jones
8 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): YFORY DDAW

Pan ganai'r côr morthwylion
I Siwan yn ddi-daw
Wrth lunio crocbren Gwilym
Fe ganent 'Fory ddaw'.

Yn nuwch clos ei garchar
Â'r nos yn ddibendraw
Yn gannwyll i Mandela
Roedd hud y 'fory ddaw.

Wrth grwydro muriau Harlech
Â'r sêr yn suddo draw,
Pa gysur oedd i Owain
Mor wag oedd 'fory ddaw.

Ar doriad gwawr ym Medi
 phedwar law yn llaw,
Fe lifai hyder trwyddom
Wrth ganu 'fory ddaw.

Beth bynnag sydd o'n blaenau,
Boed fory'n wefr neu 'n fraw,
Un sicrwydd fu trwy'r oesau,
Yn ddiau, fory ddaw

Dylan Davies
8 ½ pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL):

YFORY DDAW

Es i sgwennu cân Ddydd Sadwrn
Ond daeth i fwrw glaw,
Es allan i bysgota
Gan wybod 'fory ddaw.

Dydd Sul glanhau llu pysgod
A'u rhewi nhw bob un,
"Yfory ddaw", meddyliais,
"Mi sgwenna i gân Ddydd Llun.

Dydd Llun yr Odliadur
Oedd wedi mynd ar ffo,
"Mi sgwenna i pan ddaw 'fory
Os galla i ffeindio fo".

Dydd Mawrth fe ffoniodd Tegwyn
Heb gywydd yn ei law,
Mi wnes i'r cywydd iddo
Gan feddwl, "Fory ddaw".

"Ymddiheuraf Mr Meuryn
Am nad oes cân i'w chael,
Ond chi sydd yn gyfrifol
Am blwmin' testun gwael!".

Hedd Bleddyn
8 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Geiriau doeth ein gw?r dethol
Mae 'na lot o blwmin lol.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Geiriau doeth ein gw?r dethol
yw'r rhai sy'n aros ar ôl.

ENGLYN CYWAITH

PARCH

Yn ei dîm a'r hin yn deg - rhedai hwn
I sbarduno'i ddeuddeg
Heno'n nos ein byd anheg -
Rhannu cur gwely carreg.

Iwan Bryn Williams
8 pwynt

ENGLYN CYWAITH:PARCH

PARCH

(Nain)

Ni roddwyd gwychder iddi - nag achau
Yn goch yn ei gwythi,
Ond cynfas ei hurddas hi
A ymdaenwyd amdani.

Gwilym Fychan
8 pwynt

TELYNEG: CWMNI

Cwmni (Y Bala, Calan 2009)

Tyrd
gafael ynof heno,
rho dy fraich
yn dyner, fwyn
amdanaf,
dal fy maich.

A'th gorff
yn oer a garw
cymer fi,
caf gysur
yn dy gysgod
tywyll di.

Bydd barrug
ar dy frigau
gyda hyn,
nawr gwarchod fi
rhag rhêg
y bore gwyn.

Daw'n Galan eto,
ac mi wn pan ddaw,
bydd dagrau
yma'n g'lennig -
yn y baw.

Haf Llewelyn
9 pwynt

TELYNEG: CWMNI

Rwy'n eu hadnabod yn dda
erbyn hyn,
fy ffrindiau o bell;
maent yma bob Dydd Mercher -
fel finnau,
does fawr o gysur mewn cragen o d?
oer,
unig;
rhyw baned bach cynnes
wrth y bwrdd canol,
ac yno, yn ddiarwybod iddynt,
dof i'w hadnabod yn well.

Nid edrychant ddwywaith
ar wreigan gwag-ei-bywyd
yng nghanol
bwrlwm eu sgyrsiau a'u bywydau
llawn.
Mae enwau eu gw?r,
eu plant
a'u hanturiaethau
yn bwydo darluniau'r
dychymyg, -
daw eu dyheadau hwy yn ddyheadau
i mi,
a'u blinderau i lenwi
fy nyddiau
gweigion...

Ann Fychan
8 ½ pwynt

Englyn ar y pryd: Etifedd

Un fynwes i'w anwesu - yn ?r bach
a her byd o'i ddeutu;
Dolen o hil hen deulu
yn eilun tad, sy' lond t?

William J Williams
8 ½ pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 74 ½

Englyn ar y pryd: Etifedd

Ddoe fe rannodd fy rhieni - yr iaith
a'i rhoi'n gyfoeth inni,
yn gynunrodd i'w noddi
a'i rhoi'n awr i'm hwyrion i.

9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 75 ½

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'onc'

Nid yw Nef y Porsche gorsionc,
O Hades boeth, ddim ond sbonc.

LIMRIG YN YMWNEUD Â DATHLU

("Shwd y'ch chi'n mynd i ddathlu?"
hoff gwestiwn pobol y cyfryngau)

Enillais ar ganu un solo
Yn erbyn soprano ac alto;
Daeth merch yn sgil hynny
I fwydro a rhygnu
Am "ddathlu" a "dathlu", y lembo.

Roedd Wil wedi trio a thrio,
A thrio, a thrio, a thrio
Ei brawf gyrru mul,
Mi lwyddodd ddydd Sul,
A rwan mae o am ddysgu fflio.

Ennill wnaeth Siwsi 'fo'i thartan
A churo 'fo'r potas plu chwadan,
Ei jam dalar poethion
Oedd y gora' o ddigon,
Ond diawcs, chath hi'm lwc efo'i sgonsan.

Roedd sêr hyd y carped yn sgleinio,
Ac roedd pawb sydd yn rhywun yno,
Cadwenni pris tai
A ffrogiau fawr llai
I sôn am Mwmbai dros eu cinio.

ENGLYN YN CYNNWYS ENW GWALL CYNGHANEDD

BYD A BRO

Rhyw edliw a chamliwio - mae y gweisg
Trwm ac ysgafn. Mentro
Gwyngalchu nid pardduo
Wneir a brwsh y papur bro.

RHOSYN

Heibio eto, nid botwm - yw'r awch lliw
Crych a llyfn o batrwm
Wna hyglod o flodeuglwm
A'i rudd coch yng ngardd y cwm.

PENNILL DYCHAN: NEWYDDION TYWYDD

Pa le yr aem, pa beth a wnaem
Heb dy arweiniad, Derek fwyn,
Fe fydde'n dyddie oll yn ddwl,
Ein haul dan gwmwl, Derek fwyn.
Er nad yw'th ragolygon fawr o gop
Fe fyddwn yn dy wylio yn ddi-stop.

ENGLYN CYWAITH

PARCH

PARCH (Nyrs)

Hardd yw byw â gwefr ddi-ball - o weini
Gwasanaeth i arall;
Yn ei diwyg mae'n deall
Na ?yr un llaw straen y llall.

PARCH (Mam)

Er i henaint ei chrino - a'r gornel
Ei thawel gaethiwo,
Draw yr af o hyd am dro
Mae enaid fy mam yno.

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR YR ODL 'ONC':

Alaw aur o weflau ionc
A wna ddadwrdd o ddeudonc!

PENNILL MAWL/DYCHAN: NEWYDDION TYWYDD

Mae Ewrop yn ymdopi
Ag eira mawr o hyd,
Ond sgiffen fach ym Mhrydain -
'Mhen dim mae'n ddiwedd byd!
Ffyrdd ac ysgolion sydd ar gau,
Halen a synnwyr sy'n prinhau.

ENGLYN CYWAITH:PARCH

( I gofio Martin Luther King)

Arwr y caeth a saethwyd, - ni bu 'rioed
Barch a bri i broffwyd,
Ond wedi'r gwarth dewr a gwyd
I wireddu y 'Freuddwyd'.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.