Howgets vs Ysgol y Berwyn.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Howgets.

Ysgol y Berwyn

Cwpled caeth ar thema dihareb
'Cenedl heb iaith, cenedl heb galon'
Heb ei hiaith, gwlad hesb yw hon
A'i hach ond esgyrn sychion.
Annes Glyn
8 ½ pwynt
CWPLED CAETH AR THEMA DIHAREB
Yn y Rhyl â'r glaw'n parhau
un wylan ni wna wyliau.
Huw Dylan Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Sensoriaeth
Anfonwyd gohebwyr o Gaza,
Rhoddwyd taw â gynnau a gwg,
Caewyd holl ffiniau gwybodaeth,
Ond deallwyd yr arwyddion mwg.
Meirion Jones
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan : Sensoriaeth
Chai ddim defnyddio Taffi
Na galw neb yn gog,
Chai ddim defnyddio Swti
Na sôn am goliwog
Ond llestri gwag yw geiriau
Nid ydynt ddim byd mwy
Y ni sy'n rhoi casineb
Neu gariad ynddynt hwy.
Gruffudd Antur
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau "Yr oedd"
Sefydlu Barack Obama, Ionawr 20, 2009
Yr oedd, yn hyder ei wên,
Rhyw obaith yn nhir Reuben,
Yn y Llain, gynnau'n llonydd
A hoe i anadlu'n rhydd,
I Tehran daeth awgrym trai,
O "Ni allwn" i "Fallai?..."
Newid ar droed, er y drin,
Agor llaw wna'r Gorllewin.
Yr oedd penllanw breuddwyd
Yn ei wedd, a grym ei nwyd:
"Yes we can!" Ailfeddiannwn
Yr hedd sydd yng ngeiriau hwn!
Annes Glynn
9 pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU Â'R GEIRIAU: YR OEDD
Yr oedd blynyddoedd yn ôl
tir na nog o gymdogaeth
cymeriadau, ffrindiau ffraeth,
hon yw'r afallon o fyd
hafan hirfelyn hefyd.
Ond drwy'r sbectol hudol hon,
efallai nad Afallon
yw hiraeth byw'n gymharol
a'n ddoeau ni na ddaw'n ôl,
eithr yr un fath yw'r hen fyd
hefo'i newydddeb hefyd.
Arwel Emlyn
8 pwynt
Limrig yn ymwneud ag arian
Cyn 'Dolig aeth Dei ar ei wylia'
-Pythefnos o sgïo yn Awstria,
Mi aeth fel y gwynt
Ond cwympodd y bunt
Mae o'n methu fforddio dod adra'.
Rhys Llwyd
8 ½ pwynt
LIMRIG YN YMWNEUD AG ARIAN
Wil dlawd aeth am dro mewn i'w 'fanc'
ond welodd ddim byd ond sgrîn blanc
Heddiw mae ganddo fo blant,
Nôl y sôn bron i gant,
Sy'n reit dda i foi sy'n dal yn hen lanc!
Gruffudd Antur
8 pwynt
Englyn i'w osod ar arwydd
Arwydd mewn ffenest siop wledig
YN EISIAU:
gwraig fanesol, annwyl iawn
I hen lanc ystyriol
 thyddyn amaethyddol
Ar rent. Fawr amser ar ôl.
Annes Glynn
8 ½ pwynt
ENGLYN I'W OSOD AR ARWYDD:
RHYBUDD IECHYD I'W ROI O FLAEN POB BANC
Na rhowch ddim mwy eich wyau - ym masged
cymysgedd y banciau,
rhai ?nt na allant barhau
i ddodwy'r buddsoddiadau.
Arwel Emlyn
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Alergedd
Mae angen amynedd i fyw efo alergedd
'Does dim cydymdeimlad - 'dwi'n siarad o brofiad;
Wrth gyffwrdd tomato mae 'nhafod yn chwyddo,
Ac os wela' i letus 'dwi'n gwneud yn fy nhrowsus,
Gwnaiff tamaid o omlet fy rhwymo yn solet,
'Rol bwyta pysgodyn 'dwi'n nadu fel asyn,
Os basia 'i dy cyri rwy'n crynu fel jeli,
'R ol darllen y fwydlen 'dwi'n chwyddo fel swigen,
Mae 'nghroen i'n troi'n blorod os fyta i nionod,
'R ol cegiad o fwsli rwy'n siarad yn sili,
Os wela i sbigoglys 'dwi'n frwnt efo'r misus,
Mae ogla cig eidion yn 'ngyrru i'n wirion,
A gwell aros adra os flasa'i fanana,
Wrth weld Casa Dudley 'dwi'n cosi a chrafu,
"Dwi'n siarad yr ara' os fyta i basta,
Mae son am stwsh rwdan yn gwneud i mi disian,
Ac heno, plis ferched, dim brechdan na phaned
Rhag ofn i alergedd brysuro fy niwedd.
Rhys Llwyd
8 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL) : ALERGEDD
Roedd meddyg yn sbyty Maelor
Arferai holi ei hun
Y cleifion ddeuai am driniaeth
Beth oedd alergedd pob un.
Ac yna yn ddeddfol daclus
Fe ysgrifennai'n ddi-ffael
Ar fand o amgylch eu garddwrn
Yr hyn nad oeddent i'w gael.
Ond unwaith aeth i drybeini
Pan ddaeth rhyw saesnes go grach
I mewn i'r sbyty am chydig
A rhyw nam meddyliol bach.
Pan ddaeth ei mhab fel ymwelydd
Draw i'r ysbyty rhyw bnawn
Gwylltiodd pan welodd ei garddwrn
A mynnodd esboniad llawn.
"Gwn bod hi'n drysu rhyw chydig
Bod ar ei 'menydd rhyw nam,
Ond wir dwi'n credu mai dirmyg
Yw rhoi 'bananas' ar mam.
Huw Dylan Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Eira mawr geir ym Meirion
Ond mwyn ydyw aelwyd Môn.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Eira mawr geir ym Meirion
Eira mwy na geir ym Môn.
½ pwynt
Englyn cywaith: Côr
Yn eu moliant mae heulwen y bore,
mae bara'r afrlladen,
mae pader eu hofferen
a'u côr fel môr o Amen.
Ieuan Parri
9 pwynt
ENGLYN CYWAITH: CÔR
Os i'r gân rhai siwr o'u gwaith - yw Only
Men Aloud a'u hafiaith,
Côr Glanaethwy, hwy a'u hiaith,
hwy yw ynni yr heniaith.
Arwel Emlyn
8 pwynt
Telyneg: Ateb
Y "Paid â holi gormod"
yn ei llygaid pell,
y graith o wên sy'n sgrechian,
"Sut mae torri'r garw?"
Y "Dwi ar frys"
yn fflach ei chusan chwim,
y "Gad fi'n llonydd"
yn ei mur o gefn, y mwythau pitw.
Do, fe welodd o'r cyfan.
Ond pan glywodd o hi'n datgan:
"Dwi'n gadael,
mae'n rhy hwyr",
fe'i dallwyd gan ddagrau ei syndod
yn llwyr.
Annes Glynn
8 ½ pwynt
TELYNEG: ATEB
Syllais i lygaid y sêr
gan holi'n hir
am fodolaeth
a chreadigaeth,
ysywaeth;
Sylwais fod y lleuad
yn llawn,
yn orlawn o olau
ac eto'n goleuo dim;
ac eto,
yno,
rhwng y lleuad a'r sêr,
yn nuwch y nos,
yno yng ngwacter
y gofod diddiwedd,
cefais gip
ar wirioneddau
sydd y tu hwnt
i bellter
ac eglurhâd.
Gruffudd Antur
8 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Argyfwng
Â'r eira hyd yr erwau'n peri loes
Yn parlysu'n dyddiau.
Mae 'na fam mewn llwyn fflamau
Yn gaeth, a'i llwybr ar gau.
Ieuan Parri
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 78
Englyn ar y pryd: Argyfwng
Yn wynfyd ar hen gynfas - rhoi halen
ar heolydd diflas,
pluen wen ar lechen las,
Hynny barlysith ddinas.
Arwel Emlyn
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar thema dihareb
'Gwyn y gwêl y frân ei chyw'
Rhyw "hedyn o ddireidi
iach iawn" sy'n ei gwalch bach hi.
'Pawb â'i fys lle bo'i ddolur'
Gwaed yn llif sy'n ei brifo,
Nid yr un ei bryder o.
Hen hylif a dry'n felyn
Nad yw aur i dwyllo dyn!
Os nad ffôl yw'r Portffolio
Cyngor iawn yw'i Gyngor o.
Graddau yw dyddiau ar din,
Rhodia synnwyr cyffredin.
O fwydo cyfrifiadur
Yn gau, camdreuliad sy'n gur.
Pennill Mawl/Dychan : Sensoriaeth
Dau gi bach yn mynd i'r coed
Esgid newydd am bob troed,
Dau gi bach yn d?ad adra...
Chawn ni'm mwy,rhaid gwarchod data.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau "Yr oedd"
Yr oedd o'n arwr ei ddydd,
Yn ?r llawn nid g?r llonydd.
Y berth aflan a daniodd
Ef a'i w?r, ac wrth ei fodd
Yn llosgi, llosgi yn llwch
Weddau oedd groes i'w heddwch;
Ystryw o gorlan estron
I daenu'n tir o dan ton.
Ond ei werin , 'mhell bellach
Yn eu byd sy'n fas a bach,
Yn gynnes a digynnwr';
Nid yw hi am danllyd ?r.
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn dechrau â'r geiriau "Yr oedd"
Obama - Meseia newydd?
Yr oedd un, a chreodd o
Hanes yr adeg honno.
O hen gam daw cyfamod
I newid, a newid nod,
A'i neges dd'wed am degwch
A rhoi llaw yn help o'r llwch;
Ni welwn liw yn ei lais,
Yntau sy'n rhannu mantais,
A ni'n un â'r dyn ar daith
Fel gwybed am fêl gobaith.
Gwadu'r Iesu wnaeth ei oes,
A gofiwn un sy'n gyfoes?
Limrig yn ymwneud ag arian
Bu Gordon mewn trafferth â'i gyllid
A llyncodd ei arian mewn gwendid,
Fe holais amdano,
A beth ddaeth ohono,
Sefydlog yr oedd o - dim newid.
A gaf ddweud nad gwybod yw'r cyfan
Er gweithio yn galed rwy'n hofran,
Fy nwsin o raddau
Wna argraff rwy'n amau, -
I mewn 'da chi'n bwyta neu allan?
Englyn i'w osod ar arwydd
Arwydd tu allan i glinig llawdriniaeth plastig
Y noddfa am driniaeth addfwyn - i graith
Neu cewch groen fel morwyn
Ac wyneb ffres y gwanwyn
Neu eich tro i bigo'ch trwyn.
Ar ddrws banc
Dy arian, rhaid ei wario, nid oes log,
'does les iti gelcio
Dimau; mae pawb yn damio'n
Daer a llaes nad aur yw'r llo.
Englyn cywaith: Côr
Blinais ar 'Fil o Leisiau', - a'u hiraeth
Wrth forio'r hen donau,
Erys côr, ond mae drws cau'n
'A-men!' ar ffydd emynau.
I ganu dont yn gynnar, - a'u lleisiau
Fel un llais o drydar
Ry her i gân y gw?r gwâr
A heidia fel yr adar.
Côr - Parlwr godro
Yn nef y criw sy'n brefu ac adrodd
Eu godro heb fethu
A'u tôn trwy beiriant y t?
Gwin gwyn a gawn o ganu.
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH AR THEMA DIHAREB
Os yw byw'n stormus dros ben,
wedi helynt daw heulwen.
Gwell Obama,da, diwyd
na dau Bush am waed y byd.
Pennill Mawl/Dychan : Sensoriaeth
Oherwydd culni'r cwyno
Ddaw bellach yn ddi-ri
Ail enwir y gorfforaeth
Yn bib, bib, bib, bi, si.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL) YN DECHRAU Â'R GEIRIAU: YR OEDD
Yr oedd y moroedd a mi
yn helynt gwyllt a heli,
ac yr oedd corwyntoedd croes
yn fynych uwch fy einioes,
'roedd tymhestloedd rhyw storm hir
yn fyrdwn drwy'r arfordir
ac 'roedd y gwyntoedd i gyd
yn hafoc drwof hefyd.
Ond y mae bae sydd yn bod
ac aber dyfnder gwybod
yn aros im hangori,
angor rhwng y môr a mi.
ENGLYN I'W OSOD AR ARWYDD:
 gofal mawr ac afiaith - rhaid gyrru
dy gar, fel yr heniaith,
a gwibio yn llawn gobaith
neu i dead end daw dy daith.
I'W OSOD YN STRYD GOLUD - LLUNDAIN
Oherwydd rhoi eich harian - i ddynio
y Ddinas gael bloeddian,
a phob un dros ei hunan,
rhaid yw cau holl fanciau'r fan.
TELYNEG: ATEB
Pan fydd y poen
o dan y croen
yn llethol, yn orbwerus,
yn chwys diferol
ynghanol y nos;
a phan y bydd
y ci du
yn udo yn y gwyll,
yn hyll,
ac yn dangos ei ddannedd,
a phan bo amynedd
wedi gorffen ar obennydd,
a phan bo crafangau'r diafol
wedi cyrraedd ei uchafbwynt
anioddefol;
dim ond
ar yr adeg honno
y dylid chwilio am ateb.
Ac heb os
nac oni bai,
mwy neu lai,
yr un yw'r ateb
a ddaw i law;
sef yr hunan ddatguddiad
mai cariad
sy'n torri'r straen
ac yn dangos
yr unig ffordd ymlaen.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

