Y Tywysogion vs Cadw'r Ffin.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled caeth ar yr odl 'inc'
GOLYGFA
Yn erbyn wybren eurbinc
Onid clown fai'n codi clinc?
Mei Mac
8 ½ pwynt
Cwpled caeth ar yr odl "inc".
Tywys Siân at glwt a sinc
'wnai'r deliaf ?r hudolwinc.
Dafydd Franklin Jones
8 pwynt
Pennill Mawl /Dychan i unrhyw elusen.
TENOVUS
Od sut gall ychydig gelloedd
O'r holl sydd yng nghorff g?r iach
Ledu a lledu trwy'r miloedd
A'u newid yn ddistaw bach,
A chreu er gwaetha'r dagrau
Dyfiant all newid y lli,
'Mond deg ohonom oedd eisiau,
'Mond wyth, a chdi a fi.
Sian Northey
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan i unrhyw elusen
Tri deg pum biliwn o bunnau -
dyna gyllideb amddiffyn,
ond briwsion i arbed bywydau
sy'n disgyn i bowlen cardotyn.
Gwêl eto'r hen hanes cynefin:
daw achub yn ail i arfogi,
ni welwn ni'r fyddin yn trefnu
ffair sborion i brynu bwledi.
Les Barker
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gofyn Cymwynas.
RHOWCH I MI...
Rhowch i'r byd eu heirch drudion,
dewch i wledd, duwch y lôn.
Dewch mewn car o bedwar ban.
i grïo uwch eu graean.
Ar flodau a llestrau llwch
ac ar gerrig oer gwariwch;
prynwch yr elor orau'n
ein gwlad i'w powlio i'w gwlâu.
Rhowch y môr yn arch i mi,
rhowliwch fy nghnawd i'r heli,
ac yn ôl i'r eigion af
i gwrdd â'r diwedd gwyrddaf.
Mei Mac
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) : Gofyn Cymwynas.
Obama, os bu amau
dy hyder, daeth her parhau
â'r daith i'r gobaith o'r gwyll
a gwarchae'r Llwynog erchyll.
Ein byd o'i warth enbydus
fyn godi, a'r holi ar frys
ydyw'r un gan bob rhyw dras
yn mynnu'r un gymwynas:
dy wlad tro i adeiladu
uwch gormes ei hanes h?,
â'r byd yn unfryd ein her
o fendio â chyfiawnder.
Siôn Aled
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â thrwsio.
Gor-fenthyg, cyfalaf a gwario
Wnaeth i farchnadoedd y byd i gyd gwympo,
Ond mae dull beiddgar iawn
I'n hachub gan Brown:
Gor-fenthyg, cyfalaf a gwario.
Sian Northey
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â thrwsio.
Ar ôl peintio'r Land Rover mewn cuddliw:
clywais ddamwain o flaen y t? heddiw.
Clywais sawl, deud y gwir;
Rhaid ei drwsio cyn hir,
ond lle mae o? Does yna ddim arlliw!
Les Barker
8 pwynt
Englyn yn enwi dau fath o gerbyd.
GERAINT JARMAN
Yn y Tacsi, yng nghrio Ambiwlans,
Dwn i'm ble yr aiff-o
 ni: reggae'n ein rhwygo
Ar daith ei gymeriad o.
Guto Dafydd
8 pwynt
Englyn yn enwi dau fath o gerbyd.
I lôn gul, un Sul, es fel saeth - ar feic
fi ar fawr anturiaeth,
a chwbwl ddi-achubiaeth
pan welais i lori laeth.
Dafydd Franklin Jones
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Feddyginiaeth
Dywedodd y meddyg wrthyf, wedi i mi ddal rhyw bla
"Gwaed newydd yw'r ffordd i wella. Gall fod yn newydd da."
A draw ym Mangor bûm i mewn 'stafell fechan fwll,
Yn gorwedd am bythefnos â pheipan ym mhob twll.
Ond gwaed pwy ges i dybed o dop fy mhen i 'nhraed?
Dywedodd y nyrs wrthyf mai bardd oedd piau'r gwaed.
Ond bardd o le meddyliais? Bardd mawr o Feirion draw,
Neu howfardd o Fethesde, bardd gwirion ar y naw?
Dechreuais deimlo'n rhyfedd, am fy awen nid oedd sôn,
Dechreuais ofni pontydd. Tybiais ai bardd o Fôn
Oedd piau'r gwaed a gefais? Neu hwyrach Bardd o L?n?
Neu 'fallai'r hunllef waethaf - rhyw fardd o Glwyd myn dyn!
Mi es yn araf, araf bob dydd wrth fynd a dod,
Gwaed bardd o Sir Drefaldwyn oedd ynof si?r o fod.
Heneiddias cyn fy amser, datblygais wyneb tin,
A methais â barddoni: gwaed aelod o Gadw'r Ffin!?
Ac one p'nawn in the 'Steddfod whilst cysguing in my tent
Mi ro'n yn certain 'mod i â gwaed a bardd from Gwent.
Ond pan godais i rhyw fore yn feirniad ffeind a chraff
Mi wyddwn nad gwaed Meuryn a ges mae hynny'n saff.
Mei Mac
8 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Feddyginiaeth
Nid wy'n gofyn bywyd moethus
aur y byd na'i berlau mân;
' mhroblem ydy, yn anffodus,
os dw i'n onest, calon wan.
Calon wan; dw i'n llawn tabledi
Aspirin am byth, di-os;
Mwy na allech fyth ei gredu
Gyda'r dydd a gyda'r nos.
Ni ddymunwn olud bydol,
dim ond gobaith bod yn rhydd,
Ramipril a Bisoprodol
yw fy ngormes i bob dydd.
Glas y bore fel aderyn
esgyn poen ar draws y wawr;
pam raid imi fyw ar Warfarin,
peth sy'n lladd y llygod mawr?.
Calon wan; dw i'n llawn tabledi
Aspirin am byth, di-os;
Mwy na allech fyth ei gredu
Gyda'r dydd a gyda'r nos.
Les Barker
8 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Wrth y llyw yn carthu llau
Mynych y ceir damweiniau.
Ateb llinell ar y pryd:
Mynych y ceir damweiniau
O garu ffrî, dwli dau.
1 pwynt
Englyn Cywaith: Gwers.
GWERS YSGOL SUL
Yn hawdd, âi gwirioneddau ffansïol,
Deniadol adnodau
Aeth yr emynau'n
dawel fel capel 'di cau.
Guto Dafydd
8 pwynt
Englyn Cywaith: Gwers.
Deifio gwyrddfyd a'i dyfiant - y gwynnaf
begynau yn doddiant;
pwy wel hawl i yrru'n plant
i fedel eu difodiant.
Dafydd Franklin Jones
8 pwynt
Telyneg : CYMUNED
tafarn yn y Bae, ychydig flynyddoedd yn ôl
Cawsom rybydd,
fod y noson lenyddol (uchelael,
llawn cerddi tywyll a chyfeiriadaeth),
i ddod i ben.
Ar y dot o ddeg.
Am fod y carioci'n cychwyn.
Ac ar ol y cwpled olaf
oedais wrth y bar
a'u gwylio'n cyrraedd.
Hen ac ifanc,
cyplau, chwiorydd, nain a'i hw?r,
yn cellwair, edliw, tynnu coes a herio.
Dim ond manion megis iaith,
lliw croen rhyw dri neu bedwar,
oedd yn gwahanu rhain
a phobl Blaena'.
Cywilyddais uwch fy ngwin gwyn sych,
blasu hiraeth,
a'u gadael,
a'm hadlewyrchiad wedi 'stumio
yn ffenestri'r fflatiau moethus
dros y ffordd.
Sian Northey
8 ½ pwynt
Telyneg: Cymuned
Mae'r pentre bach dal yno
Yn glyd wrth droed y bryn;
Ddaw'r un ymwelydd heibio
Na chynnydd i fan hyn.
Mae'n bictiwr, wir, yn batrwm,
Yn ticio pob un blwch;
Brogarwch glew yw'r cwlwm
Sy'n clymu pawn drwy'r trwch.
Na, chododd neb ei olwg
Tu hwnt i ffrâm y llun
Llawn arbenigwyr amlwg
Ar ei fogail bach ei hun.
Cymuned glos a bodlon
Lle mae geiriau, o mor rhad;
Heb fagu ias na chalon
I fynnu bod yn wlad. Meg Elis
8 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Ymddiheuriad
Ar ôl darfod cymodi, mae pob darn,
mae pob dim amdani
yn dweud mai'i chariad ydw i
ond mae 'na hollt o'i mewn hi.
Guto Dafydd
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76
Englyn ar y pryd: Ymddiheuriad
Gwerthwr arfau wrth riant tlawd
Mae mawrhau ar f'arfau i - doniau dyn
A'i dwt waith difodi;
Ganwaith 'rwy'n dweud "drwg gen i"
Os daw ing i'th blantos di
Dafydd Franklin Jones
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 75
Cynigion ychwanegol:
Pennill Mawl /Dychan i unrhyw elusen.
I Gymdeithas Brogaod Estrysaidd Prin mae ynhawdd,
Fel i Warchodwyr Epaod, sicrhau nawdd.
Ond rhaid yw i iaith sydd yn llithro i'w thranc
Dderbyn dihidrwydd pob busnes a banc.
Limrig yn ymwneud â thrwsio.
Mae'n sicr yn syrthio yn ddarna',
'Di cracio, yn chwalu yn dipia',
Ond dyna fo'n de?
'Roedd o isio'r diawl lle,
Mi fedri di 'neud o, Obama.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl "inc".
Ês, arwres y rhew-rinc
â chwr i'r 'sbyty mewn chwinc.
Englyn yn enwi dau fath o gerbyd.
Rownd a rownd mewn ffair o hyd - hobi hors
hwb a hwyl yw'n bywyd;
ysgafn elor a'i hysgwyd:
dawel bach mae gadael byd.
Englyn Cywaith: Gwers.
"Gochel hen chwant di-fantais" - yw ei siars
"Paid â'r sws a'r goglais";
Go lew! Ond, taid, mi glywais
aet, yn dwt, am bwt o bais!
Telyneg: Cymuned.
Lle gwelir gwylltineb natur
ynghanol gwastatir ysgubol,
yn gymysg o'r wildebeest a springbok,
yn dilyn y curlaw tymhorol,
yno roedd teulu o sebras,
yn frodyr a chwiorydd yn unol;
ond o edrych o gwmpas yn ddyfal
roedd Smot dipyn bach yn wahanol.
Mae natur yn aml ei chastiau
a weithiau mae'n mynd ar ddisberod:
pan mae gweddill dy deulu yn 'barcodes'
a thithau yn fwy fel atalnod.
Efallai roedd Smot yn garedig
yn gyflym, yn gall, yn ddymunol;
ond bu raid iddo adael, oherwydd
roedd Smot dipyn bach yn wahanol.
Y broblem oedd, roedd o yn llewpart;
chynigiodd o ddim ond daioni,
ond doedd neb eisiau bod ar ei gyfyl
yr eiliad y gwnai sylweddoli.
Roedd rhaid iddo dorri cwys unig,
heb gymar ar lwybr tragwyddol,
a thrigo heb gysur cymuned;
roedd Smot dipyn bach yn wahanol.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

