Y Rhelyw vs Ffostrasol
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL'
Sawl Swyddog euog a wêl
arwyr ofer ei ryfel?
Karen Owen
9 pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'el':
Gwell na thebot yw potel,
Yr wyf ar y 'Bitter ale'.
Dai Rees Davies
8 pwynt
PENNILL YMSON WRTH FODDI
Dug Clarence, a gafodd ei ladd mewn casgen o win, yn ôl William Shakespeare
Rwyf yng ngwaelod y gasgen
yn ddwfn yn y gwin;
ond os mai hyn ydi boddi,
pam na wnes i o'n sicstîn?
Dafydd Williams
8 ½ pwynt
Pennill Ymson wrth foddi:
Mae'n well gen i foddi
Mewn pwll y fan yma
Na boddi mewn ymryson
A hynny yn Biwla.
Emyr Davies
8 ½ pwynt
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): BWLCH
cofio Roy Davies
Ym Mhen-bre mae un yn brin,
un â'i werthoedd mewn chwerthin;
y Talwrn sy'n tawelu,
heno 'i ddweud sy'n neuadd ddu.
Un yn llai sy'n llonni'n llên
a llai o odlau llawen,
y stori a'i gerddi'n gur
a'i ddwli yn troi'n ddolur.
Ei ddawn ef ni ddaw yn ôl,
y ddawn i ganu'n ddoniol,
heb Roy a heb yr awen,
un gadair wag ydyw'r wên.
Geraint Roberts
10 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bwlch
Pan fo galar yn aros
yn hir, a holl oriau'r nos
yn galw ar ei gilydd
i ddifetha toriad dydd;
Hen ddagrau anniddigrwydd
hyd fy arffed red yn rhwydd.
A phan fod lefel fy ffydd
i lawr yn y selerydd,
a'r distawrwydd yn llwyddo
i beri ing a'i b?er o;
I mi yn yr oriau mân
O hyd, mae'r bwlch yn llydan.
Dai Rees Davies
9 pwynt
LIMRIG: 'MI GLYWAIS AM ?R O FFOSTRASOL'
Mi glywais am ?r ddyn o Ffostrasol
gymysgodd blwm pwdin a phetrol;
fe daniwyd y brandi
ar ôl profi'r twrci
a nawr mae e'n pobi i'r diafol.
Harri Williams
8 pwynt
Limrig: 'Mi glywais am ?r o Ffostrasol'
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
a chanddo rhyw ynni trydanol,
o roi weiren i'w glun
A'r llall yn ei dîn
medrai shafio cyn codi yn ddyddiol.
Emyr Davies
8 ½ pwynt
ENGLYN YN CYNNWYS TRI BARDD CYMRAEG
Bois Parc Nest
O glywed Aled ein dalen, - mae Jim
a John o'r un acen,
y tri'n un llais yn trin llên,
y triawd sy'n troi'r awen.
Geraint Roberts
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys tri bardd Cymraeg:
Ffrindiau yw Jim a John ac Emyr,
maent gymaint prydyddion.
Â'r rhai rhwysgfawr sy'n fawrion
yn y grefft feistrolgar hon.
Dai Rees Davies
8 pwynt
CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): BREUDDWYD GWRACH
Ufudd-dod ydyw pris y breintiau bas
a daflwyd atom fel conffeti ffair,
llwch cyfalafiaeth estron ddaeth â ias
o falchder ein haileni yn y pair;
y gwych neuaddau clebran gyda'u bri
a'r sgrafell daeog dalodd rent y dydd
gan fentro "creu y gwir" drwy aml sbri
a'n cloi i wynfydedig fory rhydd.
Nid oes lyffethair heddiw ddeil ein traed
na'r un cywilydd chwaith i'n cadw'n ôl,
cawn chwifio lluman hyder lle bu'r gwaed
a gwasgu pob gwahaniaeth hil i'n côl.
O'n cymoedd glo i felyn draethau Ll?n,
mae darn o'r Jiwdas ynom ni, bob un.
Harri Williams
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Breuddwyd Gwrach
Mae sôn am dim Ffostrasol bob tro yn codi braw,
sef beirdd y Talwrn cyntaf, yn mil naw saithdeg naw.
Nid oedd bryd hynny olwg ar Danygroes a'r Sgwod,
yr oeddynt yn eu clytiau, babanod swnllyd od.
Trwy niwl yn fy nychymyg fel dywed bardd o fri
breuddwydiaf am anrhydedd, John, Dai a Jim a fi.
Un dydd yn cael ein derbyn i'r orsedd gyda'r wawr,
rhyw ddiolch ar ran Cymru am ein campweithiau mawr.
Fe welaf Jim yn esgyn,sef prydydd llawer cerdd
fel ffermwr tyfu porfa yn gwisgo y wisg werdd.
A Dai tu ôl yn dilyn heb dd'wedyd be na bw,
gwisg las o barch fel gwerthwr yr enwog Esso Blw.
Rhyw hanner cam chiwawa John Pinion mewn gwisg wen,
yn cerdded yn urddasol a thyrban am ei ben.
A minnau fel pencampwr y gân, boi'r cerrig bedd,
yn eistedd yn y gadair, Prifardd mewn perffaith hedd.
Y wasg am gael ein lluniau a phawb yn gofyn pam,
mewn Talwrn beth yw'r rheswm fod rhain bob tro'n cael cam.
Efallai dim ond breuddwyd, i mi mae'r oll yn glir
mae breuddwyd gwrach yn aml yn medru dod yn wir.
Emyr Davies
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
O dan y coed yr oedaf
Ac yn eu hiaith, gobaith gaf.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
O dan y coed yr oeraf
 'woman's own' un nos o haf.
½ pwynt
ENGLYN CYWAITH: FFOLINEB
ai ffolineb yw anfon fy ?yr i ysgol gynradd Gymraeg?
Nwyfus dafodiaith Dwy Afon - a feddai'n
rhyfeddol; ond heno'n
eitha' lysh, bratiaith y lôn
yw geirfa addysg Arfon.
Dafydd Williams
8 pwynt
Englyn Cywaith: Ffolineb
Rhoi'r bonheddig bwysigyn - yn y tail,
cicio tîn a dychryn.
Rhywrai dwl, a herio'r dyn
anfarwol sydd yn Feuryn.
Jim James
8 pwynt
TELYNEG: GWENWYN
yr Iddew a'r Arab
Sancteiddrwydd sy'n y tywod, traddodiad ar bob bryn,
rhodd Duw yn ddigyfamod pob ffynnon a phob llyn.
Mor gaeth yw ddoe a'i ddefod, gwahaniaeth coel a hil:
fe lladdaf i rhyw ddwsin, fe leddi dithau fil.
Er dyfned traddodiadau, rhyngom mae mwy na mur,
atgasedd y canrifoedd sy'n para'n wenwyn pur.
Harri Williams
9 pwynt
Telyneg: Gwenwyn
Yn nrama'r holl ganrifoedd
a'r mynych fynd a dod,
Ceir sôn am rywiogaethau
nad ydynt mwy yn bod.
Ond ers ei llwyfan gyntaf
yn stori dechrau'r byd,
fe ddeil y sarff i lygru'n
bywydau ni o hyd.
Dai Rees Davies
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Arian
Er rhoi gweddill fy enillion - i wneud
buddsoddiadau cyson,
yr oll sy'n ddiystyr bron
yw neges fy meddygon.
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Arian
Cynilwr
Yn ei lawnder materol - a'i elw
ar fantolen ffafriol,
fe ?yr yn iawn gyfri'n ôl
ei geiniogau'n unigol.
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 76 ½
Cynigion ychwanegol:
CWPLED CAETH AR YR ODL 'EL'
Gwariwn, a'm llog yn ddiogel;
gwario'n wag arian i'w hel.
Wyt heno yn y twnel
ar drac arferiad y rêl.
Rhwydded dywed yn dawel,
amau wyf ei eiriau mêl.
Synau heniaith sy'n anwel
heb yr iaith ym mysedd Braille.
Ni wnawn (sythed ei anel)
wario punt ar giciwr pêl.
Pa oes a welai apêl
hen heip addoli'r capel?
A oes si yng nghragen Shell,
rhyw ofid du am ryfel?
Llygaid ei enaid a wêl
yn uwch, o ddringo'n uchel.
PENNILL YMSON WRTH FODDI
Mi roeddwn i yn hollol sobor
wrth adael drysau'r argae ar agor,
bob dydd yn eistedd yn y t?r
yn edrych lawr ar ddim ond d?r,
ac wrth y Cantre'n dweud 'gwd-bei'.
A dyna pam mae môr yn Cei.
Boddi Cath
Yn llygad y plantos, rydw i'n galon galed,
ond boddi neu suddo ydi gwaelod bwced.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): BWLCH
y tîm yn ei dalwrn cyntaf ar ôl marw Roy
Bobol Beulah, be' welwch
hyd y rhes, a beirdd yn drwch?
Heibio i'r wên heno a barha,
be' welwch, bobol Beulah?
Pedair cadair ein codwm
ac un sêt ddi-gân i'n swm,
un lle gwag mewn llinell goll,
od o fainc, a'n difancoll.
Mae gweithio cân yn anos,
a Roy nawr yn hiwmor nos;
canwn, ond ni allwn heb
ei weld mewn absenoldeb.
CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): BWLCH
BwlchRoy - mewn llai na hanner blwyddyn, meddiannodd canser y t?
Daeth mor llechwraidd un dydd
i hawlio'n ddigywilydd
ei drychwant, cael tenantiaeth
yn rhad; a thrwy frad yr aeth
i ddwyn, yn bowld feddiannus,
heb roi unrhyw arwydd brys.
Heb dwyll daw'r didwyll i d?
a heb eisiau tresbasu,
ond twyll ydoedd bwriad hwn
a daeth, 'mhen megis dwthwn,
y glwth i hawlio'r bwthyn
a'r diawl yn landlord ei hun.
LIMRIG: 'MI GLYWAIS AM ?R O FFOSTRASOL'
Mi glywais am ddyn o Ffostrasol
fesurai ddwy lath rownd ei ganol,
a phan gafodd flocej
ym mheipen ei siwrej,
bu'n rhaid cael mynediad drwy'r airhole.
Mi glywais am ddyn o Ffostrasol
fesurai ddwy lath rownd ei ganol;
ond fe dorrodd o wynt
a daeth nôl fel bu cynt
ar ôl cael dwy dabled colestrol.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
a groesodd ei asyn 'da'r ebol;
ac i'r Tivyside
cael enw oedd raid:
mewn ysbaid, fe'i galwyd yn 'asol'.
Dw i'n chwilio am gymar addawol,
golygus a chlyfar a doniol,
bonheddig ei lais
a heb fod yn Sais.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol.
ENGLYN YN CYNNWYS TRI BARDD CYMRAEG
Colled ffermwr
Ymweliad nos y cadno, - ac yna
ni gawn ar ei ôl-o
hanes fyned ohono
â d'elw di i'w wâl, do.
ENGLYN CYWAITH: FFOLINEB
Un ddawn na roddodd ei Dduw - i ddyn
oedd honno i weld ystryw
ei wraig, ac oferedd ei ryw
yw mynnu deall menyw.
Cynigion ychwanegol:
Pennill Ymson wrth foddi:
Sut ddiawl mae d?r yr afon hon
Lan fry yn uwch na 'nhalcen?
Rwy'n si?r nad oedd, funudau nôl,
Yn cyrraedd tîn hwyaden!
Rwyf yma nawr yn boddi
Mewn casgen fawr o gwrw,
Ac eto nid wy'n hollol si?r
Ai boddi 'rwyf neu'n feddw.
Limrig: 'Mi glywais am ?r o Ffostrasol'
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
ddaeth wedyn yn fardd cenedlaethol,
enillodd ar limrig
pedair llinell yn unig.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
a chanddo rhyw allu rhyfeddol,
i roi pobol od
fel beirdd bach y Sgwod
yng ngwaelod y dosbarth barddonol.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
a wisgai'n drwsiadus yn ddyddiol,
ymhen blwyddyn neu ddwy
ei fol aeth yn fwy
a'i olwg sydd nawr yn uffernol.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
all wisgo ei wats am ei ganol,
heb fod yn rhy dynn,
mae'n medru gwneud hyn
am fod e' yn denau uffernol.
Mi glywais am ?r o Ffostrasol
sy'n berchen dau barot diddorol,
mae un, pan fo'n flin
Yn dweud "Twll dy dîn",
Dwed y llall sydd yn Sais air gwahanol.
Englyn yn cynnwys tri bardd Cymraeg:
Cawod ar fesur cywydd, a mynydd
o emynau celfydd.
Elfed Dyfed a Dafydd
Roes o'u dawn yng ngwres eu dydd.
Englyn Cywaith: Ffolineb
Tân Gwyllt
Honni croeso gwahanol, a chwydu
fflachiadau egniol.
I'r awyr yn ddireol;
miri o awr, dim ar ôl.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

