Hogia'r Ynys vs Dinbych.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw liw:

Nid arfau a rydd derfyn
I'r gwae rhwng y du a'r gwyn.

Robin Huws
8 pwynt

Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw liw

Yn undod fesul nodyn
Daw'r gainc rhwng y du a'r gwyn.

Berwyn Roberts
8 ½ pwynt

Limrig: 'Mewn tafarn gerllaw Abergele'

Mewn tafarn gerllaw Abergele
Roedd ysbryd hen ficer o rywle,
Ynghanol y spirits
Yn cymharu eu merits,
A'r spirits a gafodd y gore.

Isfron
8 ½ pwynt

Limrig: 'Mewn tafarn gerllaw Abergele'

Mewn tafarn gerllaw Abergela
Tim Dartio John Glyn oedd yn chwara;
Aeth y noson yn fflop!
Methodd Ber 'double top'.
Dim cymaint o bop y tro nesa.

Elwyn Wilson Jones
8 pwynt

Englyn yn gorffen â'r gair 'yfory'

Mwyach, nid oes masnachu - na dynion
Yn denu i weithdy,
A'r tân ni chynhesa'r t?
A chaf oerach yfory.

Eurfon
8 pwynt

Englyn yn gorffen â'r gair YFORY

Yn ddi-ffael, a fo'n gwaelu, - af i'w weld,
Ei fyd yw'r ysbyty;
Ond heno rhaid twtio'r t? -
Fe af, hwyrach, yfory.

John Glyn Jones
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Tro Olaf

Does neb yn nhref Llangefni na wyddent am Huw Lloyd,
A'i fab y barbwyr medrus mewn siop ar gwr y coed.
Roedd pawb yn tyrru yno am 'gyt' a 'shave', a sgwrs
Ac O! Seiadau gafwyd tra llenwai ef ei bwrs.

Amaethwyr ddiwrnod marchnad a'u gwragedd alwai draw,
A Huw yn trin a thrafod bob amser yn ddi-daw.
Y ffermwyr dynnai arno, fod arian mewn trin gwallt
A buan deuai ateb chwim, 'nid grant gaf fi - chi'n dallt'.

Dro arall gwelwyd glaslanc â'i wallt yn fawr fel mop,
A Huw yn gofyn iddo, sut hoffai dorri'r crop.
'Ei dorri lawr bob blewyn, rwy'n awr am fod yn foel',
Dechreuodd dorri'r ochor chwith, a'r dde er gwneud ei hoel.

Aeth yna draw o'r stafell i gael ei baned ddeg,
A'r llanc fel Bill Two Rivers, a rhimyn at ei geg.
Ym mysg banllefau chwerthin, daeth ef yn ôl i'r siop,
A chyda'i wên arferol, yn torri'r rhimyn top.

Nid oes 'ma Fart ddim mwyach, fe ddaeth yr olaf fref,
Ac ni ddaw s?n y chwerthin, o'r siop ar gwr y dref
Ac ar ei ddiwrnod angladd, yr oedd pob grudd yn llaith
O weld y barbwr diddan, yn mynd i'w olaf daith.

(Huw Lloyd oedd Jac Olifer Môn - gellid 'sgwennu llyfr amdano. Arferai gadw englynion a darnau o farddoniaeth a fyddai'n eu derbyn mewn hen dun, a byddai'n eu darllen i hwn a'r llall).

Eurfon
8 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell):Y TRO OLAF

Pasiodd ei brawf gyrru yn ddeunaw oed,
Cafodd Ford Focus yn syth ar ei flwydd.

"Cyffwrdd â'r sbardyn yn ysgafn â'm troed
I'r nodwydd neidio dros 'ninety' yn rhwydd !
Mae wedi'i gerio yn uchel am sbid
A'i olwynion aloi yn fflachio tân;
Mae'r bodi hefyd yn strim-leind i gyd,
A'r cornelu a'r stirio'n hynod lân.

Noson ola'r flwyddyn fe awn i'r dre
I'r gig a chael digon o hwyl a sbri;
Clicio â chywen fydd y gamp, onidê ?
A'i danfon adre yn fy Ffordyn i."

Mae pob Calan 'nawr yn hunlle i'r co'
Am ddau aeth am sbin am yr olaf dro.

Elwyn Wilson Jones
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):Stryd

Fin nos bron beunos beunydd
Deuai'r criw at Deio'r crydd,
I'r fan hyn i'r bwthyn bach
I Afallon cyfeillach;
Hoffter cu y crefftwyr cain
Ohonom ni ein hunain
Roddai fraint a urddai fro
Yn swynol yr oes honno;
Holi a'u ceg llawn hoelion,
Nid'r un stryd o hyd yw hon,
Nid r'un iâs, ac nid 'r un iaith,
A rennir mewn estroniaith.

Machraeth
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Stryd

Drwy fy oes fe grwydraf hon
ac oedi'n ei chysgodion
am eiliad; camu eilwaith
a dyheu gweld mwy o'r daith.

Ar dro stryd o rwystrau yw,
neu lydan heol ydyw.
Weithiau rhag stormydd cuddiaf,
ar brydiau mwynhau ei haf.

'R un yw hyd y siwrnai hon
awr heulog, awr treialon.
Ni welaf eto'r niwlen
sy'n dwyn stryd bywyd i ben.

John Glyn Jones
9 pwynt

Pennill Ymson ar gefn anifail:

Nid oes ond Jô a minnau
Sy'n gwybod pwrpas hwn,
Na pham yr ?m yn ffoi o'n gwlad
Ar asyn dan ei bwn;
Ond fe ddaw nos dychwelaf,
A hapus fyddaf i
O wybod fod fy mab bach hwn
Yn fwy na mab i mi.

Robin Huws
8 ½ pwynt

Pennill ymson ar gefn anifail

Bu un o'th hil yn rhodio'n rhwydd
 phalmwydd dan ei draed,
Ond styfnig iawn wyt ti'r hen go:
'Mond nogio sy'n dy waed;
Mae'r lleill yn rhedeg hyd y traeth
I firi ffraeth "Hwrê!",
A thithau'n swrth a'th lygaid p?l
Yn meddwl am dy de.

Eifion Lloyd Jones
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Ni fu chwerwach, tristach tro
Ar y Sul ger drws Seilo.

Ateb llinell ar y pryd:

Ar y Sul mae drws Seilo
Yn galw o hyd, ond ar glo.

1 pwynt

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

G?r o gethern fodern fud - o'r golwg
A dirgelion bywyd
Yn ei feddiant ef hefyd
A gwerth ein cardiau i gyd.

Eurfon
8 pwynt

Englyn Cywaith Y Brawd Mawr

Warden ar bob awdurdod - yw'r duw hwn
â'r diawl yn gydwybod
a gwisga dy holl gysgod -
di-wyneb yw, nid yw'n bod.

Berwyn Roberts
9 pwynt

Telyneg:

Cwm 1995 - 2006

Bu'r daith drwy'r paith o'r Gaiman
I fro Trevelin bell,
Yn daith na ches yn unman
Brofiadau oedd yn well,
Rhwng llusgo drwy'r anialwch trwm
A chyrraedd yr hyfrytaf gwm.

Oherwydd clywais yno
Acenion fy hen iaith,
A'r tarw coch yn peuo
A'i eco'n deffro'r paith,
A gw?r oedd ddeg a thrigain oed
Yn rhannu'r gwin wrth gorlan goed.

Fe dreiglodd y blynyddoedd
A gwelais yr ail dro,
Y condor uwch mynyddoedd
Yn sbecian ar y fro,
A rhyw hen wraig a'i chefn yn grwm
Yn mwmial o ddrws murddun llwm.

Machraeth
9 pwynt

Telyneg:Cwm

Pan adeiladwyd ffordd fawr drwy Gwm Prysor am y tro cyntaf yn y 60au, ro'wn i'n arfer cau fy llygaid wrth deithio arni mewn bws neu gar, rhag dryllio'r llun delfrydol o'r cwm oedd gen i o gerdd Hedd Wyn, Atgo'.

"Dim ond lleuad borffor"
na welodd neb erioed
yn agor clust i luniau
rhamantydd pymtheg oed;
nes i'r lôn bost ei gwneud yn haws
i weld y byd i blant y Traws.

"A s?n hen afon Prysor"
fu'n canu cnul y cwm:
ei Atgo' wedi'i foddi
gan ru cerbydau trwm;
a rhuthro drwyddo'n llanw drud
heb weld y cwm mae plant y byd.

Eifion Lloyd Jones
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Ymddeoliad

Mae'r annoeth gamarweiniad - inni'n boen
yn ein byd yn wastad,
y g?r aeth â'n plant i'r gad,
na welant ymddeoliad.

Robin Huws
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 75

Englyn ar y pryd: Ymddeoliad

O'i swydd , rhyw fywyd rhwyddach - haedda Wil,
Ymddeoliad bellach;
Ond bydd, ymhen ennyd bach,
Yn bur si?r yn brysurach.

John Glyn Jones
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw liw:

Molais ei thresi melyn
Drwy hiroes hallt i'r gwallt gwyn.

Un awr ges o Ionawr gwyn
Un bore ar y Berwyn.

Wil Yr Allt a'i wallt yn wyn
Nofiodd bron iawn i Nefyn.

Curwyd Jac yn "blac and blue"
Myn brain gan hen nain Nanw.

Limrig: 'Mewn tafarn gerllaw Abergele'

'Roedd 'na barot yn medru rhai geiria
Mewn tafarn gerllaw Abergela,
Daeth gweinidog pur enwog
Efor merch fain ewinog
Medd Poli yn bwyllog, 'Dos o ma'.

Englyn yn gorffen â'r gair 'yfory'

Bydd ddyfal yn gofalu - rho'r gorau
O gariad i'th deulu,
Ac ym mhoenau dyddiau du
Difyrrach fydd dy 'fory.

A fagwyd i ryfygu - yn eu doe
Ni ddêl dydd o gredu,
Rhai di sêl yn rhodio sy'
I'w difwriad yfory.

Anodd yw pob gwahanu - yn y byd
Try yn boen i'n llethu,
O wawr deg daw oriau du
I niferoedd yfory.

Byw'n onest heb orchestu - yn dawel
A diwyd wna deulu.
Teg eu barn yn gadarn gu
Yn feirws iddynt fory.

Miloedd yn cael eu malu - yn gyson
Yn Gasa oddeutu
Gerwin drwg yn goron dry
Yn oferedd yfory.

Gwelwn mae'r iaith yn gwaelu - yn warthus
Does werthoedd yn ffynnu,
Yn ein Sir ryw estron sy'
Yn feirws i'n hyfory.

Englyn Cywaith: Y Brawd Mawr

Daethost i bob cymdeithas - yn raddol
A diwreiddio'i hurddas
Ac aethom bawb yn gaethwas
I rym dy faterol ras.

Y g?r ?yr dy rifau'i gyd - un gwarthus
Sy'n eu gwerthu hefyd,
Hwn yw'r 'boi' all yrru'r byd
Yn fynwent unrhyw funud.

Hwn a wêl i ddirgelion - na fynnwn
Ddod i'w fynwes greulon,
Yn ein bro g?yr bopeth bron
Ond golud hen dy galon.

Telyneg: Cwm

Rhowch imi'n ôl hirnosau
A'r mân dyddynnod gwyn,
A chorws o frefiadau
Y praidd ar lethrau'r bryn,
Yn dweud fod Ebrill yn y fro
A'i alwad at ei allor O.

Rhowch imi'n ôl foreau
A'r gwlith ar gadwyn wawn,
A Hydref aml liwiau
Dan draed ar ddiwedd pnawn,
A s?n emynau drwy y dydd
A chlod a mawl i'r weddi rydd.

Rhowch imi'n ôl y darlun,
Na, ni ddaw'n ôl i'r Nant,
Mae'r estron ym mhob tyddyn
A ninnau heb ein plant,
Mae dicter Gaeaf yn y Cwm
Ac nid oes fref o'r Mynydd llwm.

Telyneg: Cwm

Cofiaf y cyfnod pryderus
Pan neddid esgyrn y graig,
Yr unig gynhaliaeth ydoedd
I gadw y plant a'r wraig.

Ond trodd cenhedlaeth gyfan
I'r dre' o rwbela'r bonc
Ac ofer yw cyfarch 'bore da'
'Does yno ond Saeson rhonc!

Telyneg: Cwm

Ni wnaf hiraethu am orffennol pell
Na'i gymharu ag un amser ychwaith,
'Does undyn all ddatgan fod heddiw'n well
Na gwaeth, ar lwybrau pensyfrdan y daith;
Ac ni feiaf neb fod hiraeth yn drwm
Am yr hyn oedd freuddwydion plentyndod,
Does neb ar ôl bellach o hen Gymry'r Cwm
A doedd yr un ohonynt dan orfod
I werthu'r capel, a'r ysgol, a'r post
A gadael y Gymraeg yn y fynwent,
Ond nid yr hen bobl sy'n talu'r gost
Ac nid wyf yn dweud y dysasent.
A chaf weithiau fraw pan af draw am dro
Heb neb i'm cyfarch lle bu senedd bro.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled Caeth yn cynnwys unrhyw liw

Mae'r ymdrech wedi'r pechu
Yn wrid i'w weld drwy y du.

Er ei oed a hir wadu
Y diwedd oedd llygad ddu.

Gwyn ei fyd yr egin fardd,
"Yr Afon" wnaeth o'n brifardd.

Nefi Wen ! Mi welais ful
Sy' hefyd yn was suful.

Limrig: 'Mewn tafarn gerllaw Abergele'

Mewn tafarn gerllaw Abergele
Roedd simsan ieir nos ar eu sodle;
Y Prif Gopyn di-gliw
Roddodd fflip-fflops i'r criw!
Colapsiodd y lot ar eu tine.

Mewn tafarn gerllaw Abergele,
Y gamp ydi cyfri'r meline:
Gwynt y môr yn eu troi....
Ond â'r nos yn crynhoi
Bydd raid ffoi neu eich cloi tan y bore.

Mewn tafarn gerllaw Abergele
Y bu Hogia'r Ynys am orie
Gan honni ar goel
Nad oedd Rhydyfoel
Ond hoel o gymharu â'r Sarne.

Englyn yn gorffen â'r gair YFORY

"Tyrd taid, tyrd i chwarae t?, - ti 'di dad,
Ted a dol 'di'r teulu;"
"Ond wir-yr y mae Taid rhy -
Fy mach, ond hwyrach 'fory."

Fe ddown â chân i'w rhannu - a'i geiriau
fel gwêr yn diferu
ac i'w swae ei neges sy'
yn her am well yfory.

Pennill ymson ar gefn anifail

Fedra i ddim gweld y seren !
'Dwi 'di ffwndro'n lân;
Mae'r camel ma'n drewi
A mhen ôl i ar dân.
Mae'r tri arall wedi heglu hi
Efo'u hanrhegion drud.
Sut fedra i ddarganfod
Gwaredwr mawr y byd ?

'Dwi 'di cael digon yma yn Basra !
'Dwi am 'i hel hi yn ôl am adra.

Englyn Cywaith Y Brawd Mawr

Y mae rhyw un mawr ei wg - yn honni
ei ddylanwad amlwg;
Ai Duw ar waith ai'r G?r Drwg
yn ein gwylio, o'n golwg?

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.