Criw'r Ship vs Tegeingl.

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.

CWPLED CAETH AR BACED SIGARETS

'Does unrhyw les mewn pleser
a'r mwg yn tarmacio'r mêr!

Nia Môn
9 pwynt

Cwpled caeth ar baced sigaréts:

Er y drwg, rhai da yw'r rhain
I wenwyno ein hunain.

Moi Parri
9 pwynt

LIMRIG YN YMWNEUD Â GWRANDO

Bu'r treialon yn dreial i Dei
Efo'i ast fach ddibrofiad, sef Fflei.
Roedd hi'n rhedeg fel clown
Pan waeddai 'lie down',
A'n gorwedd pan waeddai 'come by'.

Arwel Roberts
8 pwynt

Limrig yn ymwneud â gwrando:

Mae geneth yn byw yn Y Fali
A radio bach bach yn 'i chlust hi.
Mae'n gwrando o hyd
Ganeuon y byd,
Mae'r erial mewn lle digon digri.

Glyn Jones
8 ½ pwynt

ENGLYN YN CYNNWYS ENW UNRHYW DDILLEDYN

(WARDROB DYN DRÔDD YN DDYNES)

Y mae blows lle bu trowsus - dim Y-ffrynt,
Dyma ffrog gyfforddus,
Boa crand lle gynt bu crys
a brassiere lle bu bresus.

Arwel Roberts
9 pwynt

Englyn yn cynnwys enw unrhyw ddilledyn:

Ffasiwn

Anferth yw chwant eginfardd: eisiau gwisg
ias y gamp mae cywfardd,
G?n rhif un' i unrhyw fardd
ifanc yw mantell prifardd.

Dafydd Morris
8 pwynt

CÂN (HEB FOD DROS 20 LLINELL): ANGHOFIO

Wedi wsnos o waith eitha' calad
dwi'n haeddu dydd Sadwrn i ffwrdd.
Anghytuno mae'r musus, ysywaeth,
fel y tystia y llith ar y bwrdd.

"Mae 'na ddillad i'w golchi'n y fasgiad
a llwyth yn y peiriant i'w sychu;
mae 'na rai ar y lein sydd yn sych erbyn hyn
ac sydd angen eu smwddio a'u plygu.

Ar ôl ti 'neud hynny, dos draw at y sinc -
siâp bowlen, wrth ymyl y tapia.
Mae 'na lestri sydd angen eu cadw.
Gwna'n si?r bod ti'n golchi nhw gynta.

Tria gofio glanhau tanc y pysgod -
tydi d?r ddim i fod y lliw yna.
Gwna rwbath am y bocs 'kitty litter'
dwi'm yn dallt sut ti'n dioddef yr ogla.

Dos rownd efo'r hwfyr a llna'r gwe pry cop
ac ma'r diwrnod yn rhydd i ti wedyn".
Yn anffodus, yr un peth anghofiodd hi roi
oedd "Cofia ddarllen y nodyn".

Arwel Roberts
9 pwynt

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Gan Beti, Bryn Addfwyn, oedd ddwy flynedd yn h?n
Cefais gelpan nes rown i bron crio,
Mi cherthodd yr hogia a ches wawd gan bob un
Mae hi'n lwcus fy mod wedi anghofio.

Un nos Sadwrn yn dre cefais noson o siom
Pan gollais i olwg ar Gwenno,
Fe'i gwelais 'mhen oriau ym mreichiau Wil Tom
Mae'n nhw'n lwcus fy mod wedi anghofio.

Ces gerdyn melyn gan ddyfarnwr un tro
Dim ond am imi'i ddisgrifio,
Rhyw hen ff?l croendenau a hanner pen llo
Mae o'n lwcus 'mod i wedi anghofio.

Dro'n ôl ar y ffordd, minnau'n gyrru fel bom
Daeth heddwas ar f'ôl ac fy stopio,
Ces bwyntiau o warth a dirwy go drom
Ond 'dwi 'di maddau a bron ag anghofio.

Cawsom gweir mewn ymryson rai blynyddoedd yn ôl
'Roedd tri marc o fwlch yn y sgorio,
A phwy allai' feio ond y Meuryn ffôl
A na, fedrai byth, byth bythoedd, anghofio.

Moi Parri
8 ½ pwynt

CYWYDD (HEB FOD DROS 12 LLINELL): GALWAD FFÔN

Lle wyt ti? Mewn lle tywyll?
Rhwng iselder a hyder hyll?

Gwnes fy siâr, bûm Samariad.
Rhy hir yn therapydd rhad
dim rhagor! A dwi'n sori
dwi'n galed i'th dynged di.

Wna'i'm ateb. Wn'ai ddim eto.
Do, bum yn trio ers tro
ond addewidion Ionawr
sy'n rhwymo fy nwylo'n awr.

Nici Beech
8 ½ pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad Ffôn

( gwraig mewn lloches yn dianc o`i g?r oedd yn ei churo)

Dialedd fu`n deialu,
`N agor briwiau`r dyddiau du,
A`r gynnen o`r gorffennol
Ddaeth drwy`r ffôn i`w hawlio`n ôl.
I`w hafan daeth i`w brifo
Yn y dwrn mae`i gariad o.
Heb ei weld, yn treiddo`i byd,
Mae o`n ei phen bob munud.
Celu cweir a wna`r geiriau,
Oeri`r ias, gan sicrhau
Bod gafael cadarn arni
Yn parhau`n ei hofnau hi.

Marc Lloyd Jones
8 ½ pwynt

PENNILL MAWL/DYCHAN: GWYBODUSION

Mae 'na bobol wybodus iawn iawn yn y byd,
Ambell un yma heno o'ch cwmpas,
Ond mae un sydd yn gwybod pob peth am bob dim
Ac mae'n perthyn i mi - drwy briodas.

Arwel Roberts
9 pwynt

Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion

Clywch y doethion heno'n gwadu
Y bu gwyrth yng ngwair y beudy.
Clywch, pan fyddant yn distewi
Mair yn mwmiam si hei lwli

Glyn Jones
8 ½ pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

Wrth y giât mae arth o gi
Pasio ar frys wnaeth Pwsi.

1 pwynt

Ateb llinell ar y pryd:

"Go - get lost" meddai'r postie
Wrth y giât mae arth o gi.

ENGLYN CYWAITH: HALEN

Yng ngwraig Lot ac mewn potyn; - yn nagrau
Unigrwydd ein cyd-ddyn;
Y Fenai a'r ddysgl fenyn
Y mae gwyrth y gemau gwyn.

Nici Beech
8 ½ pwynt

Englyn Cywaith: Halen

(Mewn ffibrosis sustaidd, y mae mwy o halen na'r cyffredin yn chwys y plentyn. Yn aml, gall rhiant synhwyro hyn wrth anwesu'r baban.)

Annifyr blasu'r clefyd, a chusan
o chwys imi'n benyd:
halen ar foch f'anwylyd
a sws hallt yn loes o hyd.

Dafydd Morris
8 ½ pwynt

TELYNEG: CYMOD

Taflwn ddyrnau'n
sarhad,
poeri'n llid,
hyrddio beiau,
gwirioneddau
yn gawod
am glustiau.

Adnabod*
yn fin ar ein cyllyll
sy'n torri i'r byw.

Wedi i'r llwch setlo yn
gymylau hallt;
ysgwyd llaw
lipa,
a chysgod du ein geiriau
yn gleisiau'n y cof.

* Pobl sy'n nabod ei gilydd yn gallu brifo'i gilydd yn haws.

Nia Môn
8 ½ pwynt

Telyneg: Cymod

Mi glywai dy garol di Jerry,
Dwi'n gwybod y geiriau bob un,
A dwi'n cofio'u canu nhw ganwaith
Yn y capel bach ym Mhen Llyn.

Mi glywai dy garol di Tommy,
Mae'r alaw'n gyfarwydd i mi,
Dwi'n aelod o gor y Gadeirlan,
Mi canaf hi nawr hefo ti.

Ac ydi, mae'r nos yma'n dawel,
Am funud neu ddau rwyt ti'n frawd,
Ond yna ar alwad rhyw HerodRhaid hyrddio y bidog i'th gnawd.

John Gruffydd Jones
9 pwynt

Englyn ar y pryd: Barack Obama

Rhoist her pan roist dy araith, - yn dy lawmae dy wlad o glytwaithyn gwybod am y gobaith.Y gamp fydd cyflawni'r gwaith.

Nici Beech
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 78 ½

Englyn ar y pryd: Barack Obama

Yn obaith y taleithiau heddiw rhown
iddo rym gweddiau:
hiraeth sydd yn ei eiriau
a hedd o hyd i'n rhyddhau.

Dafydd Morris
9 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½

Cynigion ychwanegol:

CWPLED CAETH AR BACED SIGARETS

Ar waled fy mwledi
Un drud yw nedwyddyd i

Braidd fel crack yw'r tybaco
mewn ffag, lle bynnag y bo.

Os oes raid, dewisa rhain -
Anhygoel becyn ugain

Un ffag wneith ti'n gaeth i'r ffics
Un ennyd - a sbondonics!

ENGLYN YN CYNNWYS ENW UNRHYW DDILLEDYN

Y Meuryn

G?r cyfrin a phrin ei ffril, a'i osgo
a'i esgyrn yn eiddil
a gwan, ond geiria'n gynnil
yn ei siwt nid yw'n ddyn swil.

Cywydd - Galwad Ffôn 01248 670451 / 671770 (Ceir Cymru)

Mae fy nghar wedi marw,
'di rhoi taw ar 'sylindr two'!
Ac rwy'n brudd oherwydd hyn.
Argyfwng sy'n rhoi gofyn
am eich cyngor rhagorol
a 'deal' iawn mewn steil di lol.
'Rwy'n ?r reit brin o arian
yn byw ar gyllideb wan,
er hyn, mewn ffydd fe brynaf
gar gennych, un gwych a gaf.
Heb os wir, yn ôl pob sôn
hynod yw eich bargeinion.

PENNILL MAWL/DYCHAN: GWYBODUSION

Mae rhai yn ystyried, a hynny yn wallus,
Y dylid rhoi parch i bobol wybodus.
Rydw i, yn bersonol, yn meddwl fel arall -
Mae bwlch go sylweddol rhwng gwybod a deall.

ENGLYN CYWAITH: HALEN

Odlau sydd ar y fwydlen a lluoedd
o ganllawiau cymen,
ond llwm ydyw prydau llên
a bywyd bardd heb awen.

 Manna yn domennydd - mae Gaza'n
galan o gywilydd.
Nid oes ffedog na chogydd
ond ei flas yn gras i'w grudd.

Cynigion ychwanegol:

Cwpled caeth ar baced sigaréts:

Tynna'u gwynt - ond wyt ti'n gall?
Cei o'u sawru focs arall.

G?r heb wynt pob smygwr bach,
g?r ofer a g?r afiach.

Angau oer yw'r gwres ynghyn
ym mwg dwy fil cemegyn.

Byddwch gall: na byddwch gaeth
i elyn y ddyniolaeth.

Os wyt am fyw, mi glywet
Gri o'r eirch am sigaret.

Limrig yn ymwneud â gwrando:

Roedd cannoedd yng nghapel bach Niwbwrch
Yn gwrando ar lais o'r tawelwch.
Daeth swn o'r set fawr,
Fe holltodd y llawr
Ac i lawr aeth y ficer i'r t'wllwch.

Hen gawl fel Pelydrau a Bando
Iaith y de - so i'n yndyrstando
Mae hyn oll yn mingio*
A gwneud i mi wingo
Ie, ar Radio Cymru dw i'n gwrando

*Mingio (ofnadwy, annifyr, cas, diawledig) - Cymraeg Canopl - rhydd yr enw 'ing' y ferf 'ingio' - o'i atblygu ceir 'ymingio' neu 'mingio' ar lafar. Wedi ei fenthyg i'r iaith Saesneg, ceir mewn ymadroddion megis: "The b------- fodd 'ere's f........ minging" (Clywyd yng Nghinio Nadolig Henaduriaeth Bro Aled - 24/12/08)

Roedd Orffeo ym mhen blaen gondola
yn canu can serch ar fiola.
Mor hyfryd y sain
fel i'r cwch daeth hen chwain
Ac ymlwybrodd y rhain i'w ben ol-a.

(Chwedl Groegaidd: swyn telyn Orffews yn denu'r adar o'r coed...)

Englyn yn cynnwys enw unrhyw ddilledyn:

Dan eu swmp mae doniau swil - y trons mawr
Fel trwyn smwt mewn proffil
Rhwyda'r rhain barhad yr hil
A hanfod yr anghenfil.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Hen luniau'n eu lle ar ben y piano
Yr un ar y dde 'di---ym...be' wn i amdano?
Be' haru fy mhen? Pwy ydi hi
Mewn gwn briodas wen, efo...rhywun fel...fi?
Yn tydi hi'n siapus, r'un talcen a thrwyn
Â'r un sy' heddiw'n hapus i'm tendio'n ddi-gwyn.
Ai fi ydi hwn, y milwr pen set
A'i lygaid yn grwn dan ogwydd ei het?
Yn pefrio brwdfydedd, sglein gwên ar ei ddant
Ers pymtheg mlynedd a hanner cant.
Y boi bach taer mewn clos pen-glin
Ar ganllaw'r staer fel march dan ei dîn.
Wrtho'n y llun mae merch tua phump oed
Yn dangos ei hun drwy dynnu ar ei droed.
'Rhen go' ma myn brain! Mi ddylwn'u 'nabod
Mae enwau'r rhain ar ymyl fy nhafod.
Mae nhw'n fanna o gyd. Ydyn nhw'n.....bwysig?
Mi ga'i henwau i gyd...pan ddaw hi efo'r ffisig.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Sgen i'm clem be' ma' Gerallt yn hoffi,
Fum i ddim ar y Talwrn ers tro,
Mae'n siwr bod safonau 'di newid,
Ond dwi'n cofio cael pump ganddo fo.
Ro'n i'n aelod o dîm Abergele,
Allai'm cofio pwy oedda' nhw chwaith,
Ond dwi'n cofio gwneud perl o delyneg,
Fe adawodd y pump marc 'na graith.
A mi s'mudis i draw i Langernyw
At Emrys,..A pwy arall o'r Llan?
Fedrai'm cofio un llinell a wnaethom,
Ond dwi'n cofio cael cweir ym mhob man!

Ond daeth galwad un nos gan Moi Parri,
Tyrd i'r tîm Triongl medda fo?r
Am bod Closs wedi'n gadael ni 'leni
A gei di lenwi'r bwlch am y tro.

Dwi 'di anghofio testun y gerdd 'ma,
Ond mae'n braf bod yn ôl hefo chi,
Ac ella bydd y Meuryn yn cofio
Y bod arno fo farc da i mi.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Am englyn gofynnodd y meuryn si?r Dduw,
Hei di do a hei di dai.
Ond fedrwn ddim cofio'r rheolau'n fy myw,
Hei di do a hei di dai.
Ond fydd neb yn cwyno, mae'r odli'n ddi-guro
A bron bod cynghanedd ym mhob lein ohono,
Hei di do a hei di dai.
Hei di do a hei di dai.

Cân (heb fod dros 20 llinell): Anghofio

Mawr ydyw hud yr hyn a fu, mi gofiaf....yn lled bendant,
Ond mae'r hyd a'r lled yn fwy, ym mhalas ebargofiant.

Mi alwodd Waldo arnynt hwy, hen eiriau.....be' chi'n galw,
A chwilio'r rwyf o hyd am fwy, ond chwilio yn o arw.

A ble mae'r wiwer'n gwneud ei gwâl? Wel, mae'n anghofio'n gyson,
A dyna paham mae'i chnau ar chwâl: ni thâl 'rhen guddio gwirion.

Prif elyn 'sgotwr ydyw cof, mae'n rhwystro twf yr adrodd;
Ond mewn anghofrwydd ni ddaw sen, na phen ar faint a dalodd.

Ac mewn cof gwael mae'r Lotri'n glyd: byrgofus yw ei phennill:
"Na chofia'r myrdd tocynnau drud i gyd - 'mond 'run sy'n ennill".

Ac os diflaswch fyw dan ffawd eich cof o gur a rhamant,
Wel ewch i'r man lle nad oes gwawd - bydysawd ebargofiant.

Anghofiwch hyn, anghofiwch llall, anghofiwch faint a fynnoch,
Ond nad anghofiwch feuryn teg: boed deg o.....rywbeth gynnoch!

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Galwad Ffôn

O hyd, ar draws degawdau
y daw im hen sgwrs rhwng dau;
un awr o benderfynu,
un nos faith, un sgwrs a fu.

Rhois derfyn ar berthynas,
ymryddhau, a'm geiriau'n gas
o raid it. Nid bwriad oedd:
fy eisiau oedd holl fisoedd
ein llesmair, i'w cyfeirio'n
eiriau ffeind i lawr y ffôn,
ond dweud ein dweud ddaru, do
yn alwad ein ffarwelio.

Pennill Mawl/Dychan: Gwybodusion

Fe wyddo' nhw bopeth am Gymru,
Ei hanes, y tirlun a'r iaith,
Heb wybod un dim am y 'perthyn'
A'r briwiau nad oes iddynt graith.

Englyn Cywaith: Halen

(Yn ynysoedd mor y de y mae lefel y mor yn codi ac felly'n halltu'r tir.)

Yn boer o dwymyn ein byd a'r eigion
barugog, gwenwynllyd,
y mae rhew y mor o hyd
yn gorwedd dros ein gweryd.

Y don yw ei ffynhonnell - ei riniau
Sy'n cronni'n ddigymell
O drwyth mewn cafn ar draethell
Y mwyn gwyn, does dim un gwell.

Y mwyn gwyn, does dim un gwell - i gadw
Neu godi blas porchell
O'r don ei hen ffynhonnell
Duw mae hwn yn mynd ymhell.

Telyneg: Cymod

Dim ond ungwydryn arall
I gloi fy llygaid llaith,
Anghofiodd Cwsg y ffordd mae'n siwr
I byrth y bryniau maith.
I byrth y bryniau maith.

Dim ond un gwydryn arall
I folltio drysau'r clyw
Rhag dwndwr y distawrwyddmaith
A ffoi i'r byd nad yw.
A ffoi i'r byd nad yw.

Dim ond un gwydryn arall,
Mae'n rhaid, a'r byd mewn ras,
A'r diawl yn dod a'i fraich ar led
Gan lyfu'i weflau cras
Gan lyfu'i weflau cras.

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.