Cwps vs Waun Ddyfal.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair bocs:
Synnwyr Cyffredin
Waeth heb i Dot gael botocs,
Ddiwedd y dydd bydd mewn bocs.
Iwan Bryn James
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bocs':
Iaith
Fe'i rhown, fel rhyw gyfrinach
Yn ei bocs yn ddistaw bach
Ll?r Gwyn Lewis
8 ½ pwynt
Limrig yn ymwneud â hypnoteiddio:
Mae'ch llygaid yn drwm a blinedig,
dewch, llithrwch dan gwrlid perlewyg;
ymlaciwch, ymlaciwch,
yn sydyn fe ddeffrwch
a chofiwch: deg marc am y limrig.
Geraint Williams
8 pwynt
Limerig yn ymwneud â hypnoteiddio:
Edrychwch i'm llygaid am chydig
Ry'ch chi yn flinedig, flinedig
Pan glywch gymeradwyo
Fe wnewch chi ddihuno
A marcio ein tim yn garedig.
Gwennan Evans
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y gair anodd ddwywaith:
Gwasgfa
Anodd a'r byd 'ma'n crynu - gan ofid,
A'r esgid yn gwasgu,
Ydi'r daith drwy aea' du,
Rhy anodd i rai 'i rhannu.
Huw Meirion Edwards
8 ½ pwynt
Englyn yn cynnwys y gair 'anodd' ddwywaith:
Credit Crunch
Ni â'n cwynion a'n cyni - yng nghanol
Anghenus ein tlodi,
Anodd, rhy anodd inni
Ydi dallt dy gyfoeth Di
Ll?r Gwyn Lewis
8 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gyfrinach
Na syr, rwy'n dod o Preston ac nid oes
Frodorion mwy yn byw yn Pengwern Grove.
Fe fu hen wraig. Roedd honno braidd yn groes
A gwaetha'r modd yn graddol golli 'i chof.
Roedd urddas iddi, cofiwch, er ei bod,
Yn flin ac unig, musgrell, a di-rym:
Fe gadwem olwg ar ei mynd a'i dod
Ond ofnem ddicter balch ei llygaid llym.
Unwaith daeth ataf fel pe bai am rannu
Cyfrinach, dybiaf, o'r blynyddoedd gynt;
Cwbwl ofer fu ein hymbalafalu
A'i geiriau od yn chwalu yn y gwynt.
Fe'i claddwyd dro yn ôl heb rwysg na bri
A phriddwyd ei chyfrinach gyda hi.
Dafydd Morgan Lewis
9 ½ pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gyfrinach:
(Llun o'r teulu)
Edrych i mewn i'r darlun ar y mur
Sy'n crogi'n simsan ar y bachyn cryf,
Fel pren yn cydio yn ei afal sur
Sy'n dal ei dir ac yntau'n bla o bryf.
Mae'r llun a weli di yn werth ei weld,
Ond trig cysgodion hwn o dan y paen.
Er bod y sepia'n gweddu gyda'r seld
Mae'n gwenau ni yn mynd yn groes i'r graen.
Gwn fod y teulu dedwydd yn y llun
Yn pylu gyda'n palu c'lwydde noeth,
Ond paid â phoeni, mae 'na lawer un
Sy'n credu yn ein celwydd celfydd, coeth.
Fe weli di y cariad yno'n glir;
Atgoffa fi bod camera'n dweud y gwir.
Gwennan Evans
9 ½ pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Cyfarchiad ar gerdyn:
I longyfarch un sydd newydd basio'i brawf gyrru
Neidia i gar yn oed g?r,
Anturia 'mlaen, wyt yrrwr!
Bwra'r llawr, ti biau'r llyw,
A hed, dy daith di ydyw.
Saetha drwy'r lonydd sythion,
Agor rych drwy'r ddaear gron.
Hyrddia (dan gadw d'urddas)
Drwyn y car drwy droeon cas
Yr yrfa, dewisa di
Yr adeg a ble'r ei-di.
Llywia dy ffordd yn llawen
Drwy'r byd, nes daw'r wib i ben.
Huw Meirion Edwards
9 pwynt
Cywydd( heb fod dros 12 llinell): Cyfarchiad ar gerdyn:
Bob nos am 1 o'r gloch y bore yn St Petersburg, mae'r pontydd rhwng yr ynysoedd yn codi fel na ellir croesi o un i'r llall tan y bore.
Yn gaeth i hiraeth, haerwn
Ddoe, Mam, yn rhy rhwydd, mi wn,
Mai hawdd fyddai gadael o'm hôl
Na zdarovye'r nos drefol.
Ond mor wen yw hi heno,
A glas yr awyr dan glo
Oer y nos, a'i rhew'n iasol.
S?n sacs o rywle sy'n siôl
O'n cylch, ac yn ei gwisg hi
Un y bore sy'n berwi,
A phob pont fynnont f'ennyn
Hyd y wawr, a'm dal yn dynn.
Ll?r Gwyn Lewis
9 pwynt
Pennill telyn yn ymwneud ag amser:
Daliodd eiliad faith ei hana'l
Yn yr oes rhwng tic a thoc,
Fe ddaeth cysgod dros dy wyneb
Ac fe oedodd bys y cloc.
Arwel Jones
9 pwynt
Pennill telyn yn ymwneud ag amser:
Caerfyrddin
Tra bo sêr uwch tref y dderwen,
Tra bo inc mewn llyfr du,
Tra bo cwrwg ar hen afon,
Bydd fy nghalon ynddi hi.
Hanna Hopwood
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Oedd, yr oedd yn hen ? rod
Yr un fu'n ben meurynod.
½ pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Oedd, yr oedd yn hen ?r od
Un bach oedd hefyd - bechod.
½ pwynt
Englyn cywaith Cusan:
(Cusan ffarwel mewn capel gorffwys)
Mewn galar, nesu'n araf; - yn iasoer
Daeth gwefusau'r gaeaf
I'w rhewi hi; pell yw'r haf
Yn niwl y gusan olaf.
Iwan Bryn James
9 pwynt
Englyn cywaith: Cusan:
Yn daer, dof, a'r byd ar dân - yn y nos
I'th anwesu, 'mechan,
A geiriau'r munudau mân
Yn gysur rhwng dwy gusan.
Llyr Gwyn Lewis
8 ½ pwynt
Telyneg Damwain:
Yng ngolau heulwen wan yn ymyl ffordd
mae swae petalau'n diffodd, ac mae s?n
y ceir di-aros fel ergydion gordd
ar wib o hyd. O bell, daw cyfarth c?n,
ac yn yr awyr las awyren wen
yn rhuthro'n araf eto ... ond i ble?
Daw ambell bwl o wynt, a'r stanciau pren
yn siglo'n ôl a 'mlaen yn sownd i'w lle.
Pan ddaw teuluoedd yn eu ceir ar drip
a digwydd pasio'r man, rhwng cân a ffrae,
fe sylwir ar betalau'n lliw mewn cip
yng nghornel llygad, drwch ffenest o'r gwae.
Yng ngolau heulwen wan nid oes ond llond
y lle o ddigwydd, a phetalau stond.
Dafydd John Pritchard
10 pwynt
Telyneg: Damwain:
Ti'n gorwedd yn gyfrwys
ar slabiau staenllyd dy fod
yn chwilio am
rywun-rywun.
Ti'n clywed ceiniogau'n clindarddach
yn sicrwydd fy mhoced saff.
Chditha'n graff yn mynnu
'Spare change',
Cwestiwn?
Dwn i'm.
Taflu pishyn punt
nid papur pump i'th gap llwyd.
Cerdded ymaith at
Oleuni pen y twnel a sylwi fod y papur pump
wedi ffoi. . .
Troi, gan weld gwyrddni'r gair
yn hofran dan wên falch.
Tynnu'r wên mewn dim o dro -
'Sori. Damwain'.
A throi ar fy sawdl
i gyfeiliant y gwyll
am beint neu ddau . . .
a'r papur pump
yn dreth ar
gydwybod.
Huw Alun Foulkes
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Coediwg
Od o hawdd oedd mynd iddi yn ifanc
Â'r haf ar fy ngwar i,
Ond anodd dod ohoni
 hi yn fawr ynof i.
Dafydd John Pritchard
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80 ½
Englyn ar y pryd: Coedwig
Beth a ddêl o dawelwch oer y llwch
Pan fo'r pren a'i hagrwch
A dail ein hanwadalwch
Ar y llawr, yn un â'r llwch?
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Cynigion ychwanegol:
Cwpled Caeth yn cynnwys y gair bocs:
Hedd a bocs ddaw i bob un,
Ni erys bardd na meuryn.
Beddargraff Cenedlaetholwraig
Er rhoi oes i'w hiaith a'i bro,
Yn ei bocs nid yw'n becso.
Yn syn wyf â'th 'focs' yn wir,
Hogyn, ai 'blwch' olygir?
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'bocs':
Operation Christmas Child
Yn y bocs o bellter byd
Roedd O yno am ennyd.
Limerig yn ymwneud â hypnoteiddio:
Ein bwriad: hypnoteiddio'r Meuryn
I roi deg am limrig 'rhen Huwcyn,
Ar ôl un, dau, tri,
Bydd ei feddwl yn ffri,
Cawn ei ffrïo a'i herio gryn dipyn!
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gyfrinach:
Yma, yma wrth ddrws dy fedd
yn aros ac yn syllu.
Yma, yma wrth ddrws dy fedd
a'm calon fach ar dorri.
Yma, yma yn s?n y gwyll
yng nghusan ffarwél yr heulwen,
mae'n araf nosi arnaf i
wrth gofio geiriau'r gynnen.
Ond gwn na fydd dy glustiau
yn clywed geiriau'r gwir,
ac ofer fydd fy nagrau,
ac ofer fydd fy nghur.
Yma, yma wrth ddrws dy fedd
heb neb i rannu'r gofid.
Yma, yma wrth ddrws dy fedd
dwi'n ymbil yn fy ngwendid
i ti glywed y geiriau na ddywedais erioed,
y geiriau sy'n ddwfn yn fy nghalon,
y geiriau bach, ond ti a'i medd
Yma, yma wrth ddrws dy fedd.
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Gyfrinach:
Yn swn ein synfyfyrio
A miri'r dwthwn hwn,
Mae un a'i stôr o feddwl
A'i awydd i dewi'r gwn.
Yn nuwch gwir ansicrwydd
Ac anobaith llawer strach,
Mae un a'i floeddio'n gaddo
Chwarae mig â'r awyr iach.
Yn chwerthin chwerw rheol
A chleber seiniau llu,
Mae un yn plannu hedyn
Hil wrth hil - y gwyn a'r du.
Ond er pob pleidlais sicr:
Ai gaddo coel hen wrach
Yw'r dwedyd mawr a'r sôn?
Un wyr beth yw'r gyfrinach.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

