Llanrug vs Caernarfon.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Llanrug

Caernarfon

Cwpled caeth ar yr odl 'os'.
Er ei aur, er ei euros
un rhad yw Jonathan Ross.
Dafydd Williams
8 ½ pwynt
Cwpled caeth ar yr odl 'os'.
Y mae bwlch yma, heb os
Lle unwaith y bu Llinos
Ifan Prys
8 pwynt
Pennill Mawl/ Dychan - 'Banciau'.
Dacw d? a dacw do
Dacw ffatri'n cynnal bro;
Dacw'r llogau heb eu talu,
A chymuned wedi chwalu.
Medi Wilkinson
8 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'Banciau'.
Oherwydd eu hawch i hapchwarae â'n prês
Oherwydd eu poeri yng ngwyneb ein lles
Oherwydd eu traha a'u twpdra a'u gwanc
Byth mwy ni ddywedir: "yn saff fel y banc".
Emlyn Gomer
8 ½ pwynt
Englyn Cildwrn ar yr odl 'e'.
Gobaith gwerin Mugabe - ydyw hel
y diawl o Zimbabwe
i rywle!
Dafydd Williams
8 ½ pwynt
Englyn cildwrn ar yr odl 'e'.
"Eneth blaen, ond noeth, o ble - y daethost
dithau dan fy nwfe?"
"O Dre (ia)."
Ifan Prys
8 pwynt
Limrig yn ymwneud â gwleidyddiaeth
Roedd gwleidydd o Fôn yn un blaengar ,
Cais cynllunio gyflwynodd yn eiddgar
Am dai sy'n gyfforddus
I drigolion anghenus
Ddaeth yma'n niferus - o Loegr.
Dafydd Whiteside Thomas
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â gwleidyddiaeth.
"Oi, Darling!" medd Brown, "Wyt ti'n cresi?
Be ddiawl ti di neud efo mhres i?
Does genna'i ddim sentan,
mae o i gyd wedi went, 'chan!
Mond troi nghefn am funud bach wnes i!"
Geraint Lovgreen
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Y Sw
" Annwyl Syr", dyna'r dull o gychwyn yn ffurfiol
Ar lythyr a'i naws â thuedd swyddogol;
I Weinidog y Goron rhowch " Gwir Anrhydeddus",
A " Hybarch Archdderwydd" mewn cyfarfod cyhoeddus.
Caiff y dyn bach cyffredin ei gyfarch â " Mistar";
Mae'n swnio'n gartrefol ac yn eitha cyfeillgar;
Ond os yw yn faer ar y ddinas fwyaf
Rhaid ei gyfarch â pharch ac " Eich Ardderchocaf".
Mae gweinidog a rheithor yn " annwyl barchedig",
Ond dwi rioed wedi cyfarch neb sy'n farwnig,
Ond gwn fod eu teitl bob tro yn dod gynta',
A'u henwau yn dilyn, tu ôl, braidd yn swta.
Ydi meibion brenhinol yn galw'u rhieni
Bob amser yn ffurfiol gyda " Eich Mawrhydi" ?
Mae'r Pâb, wrth gwrs, yn " Sancteiddiolaf"
A rheolwr eich banc: galwch ef " Drucarocaf".
I bob un o'r rhain daw eu teitl yn gynta'
Ond unwaith yn unig fe ddaw hwnnw'n ola'
Heb yr acen grom, a thu ôl i bob enw
Ar amlen gyfeiriol rhowch y gynffon " Ysw".
Dafydd Whiteside Thomas
8 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): 'Y Sw'
Yr Ozymandias modern greodd fan
I droi'i elynion yn fwystfilod dynol
Eu gwisgo'n unffurf fel orang-utan
A chloi'u pawennau mewn gefynnau nerthol
Ac arnynt ddwyn perswâd â geiriau miniog
 phastwn, cyffur, neu anwesu clwyfau
 gwydr, sigarets neu weiren bigog
I udo iddo ef eu cyfrinachau
Ond tymor y gofalwr sydd yn darfod
A chydag ef ei s? a dry yn adfail
A phan fo'i ymerodraeth ar ddisberod
Ni fydd na ffau na gwâl i'r arch-anifail
Caiff pob creadur eto fod yn ddyn
O weld y Pharo yn ei gaets ei hun.
Emlyn Gomer
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell) - ' Galwad'
O'r pulpud Gair i'w hudo'n
llu i bridd ymhell o'u bro
yn enw Duw, i'r uffern dân
i achub gwledydd bychan.
Cawn adlais mewn cenhedlaeth,
olion ddoe yn gelain ddaeth;
i buro nawr, siamberi nwy
a hadau'r bom ofnadwy.
I'n dydd yr un waedd sy'n dod,
eu haberth yw'n cydwybod;
a gwn mai bedd heb ei gau
yw'r maen sy'n drwm o enwau.
Richard Lloyd Jones
8 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Galwad'.
"Dring dring"...
yna, "dwi ar drên!"
Rhegaf a mynd i 'nghragen
wrth i'r hy' wasgaru sgwrs
y dwthwn i'w gyd-deithiwrs.
"O! Afiach! ...A fi hefyd!...
Faint gath o?...dwim 'bo!... dim byd?!"
Hefo hwn, gwn am ei gi,
ei "hair-do", fod o'n Gardi...
A phawb isio mynd ar ffo
rhag ei wichian a'r gwawchio!
Twnel ddaw; a dwi'n llawen...
Yna: "dring dring": "dwi ar drên!"
Ifor ap Glyn
Ifor ap Glyn
Ateb Llinell ar y pryd
Un crand, sy'n hoffi brandi
Un call yw Sionyn y ci.
½ pwynt
Ateb Llinell ar y pryd.
Un call yw Sionyn y ci
A Sal y gath sy'n sili.
½ pwynt
Englyn Cywaith - Cwestiwn
Haeriad gwyddonydd sy'n aros, - mai fflach
ac mai ffliwc yw'r cosmos.
Os yw pawb yn datrys pôs,
mae Un a phroblem annos.
Medi Wilkinson
8 ½ pwynt
Englyn Cywaith: Cwestiwn.
(i THP-W)
Honnodd nad oedd gofynnod - y diwedd
yw düwch y gofod.
Yn y bedd, a ydyw'n bod
o gwbwl? Dw'isio gw'bod.
Ifan Prys
8 pwynt
Telyneg: Camp
Wedi gwahoddiad i Glwb y Deillion)
I'r unlle daw'r chwe choes,
a cham wrth gam
tynheir eu ffydd
trwy cyd-dynnu.
Edrychant i fyw fy llygaid
drwy eu gwên
ddi-sur,
a'u balchder mewn normalrwydd
yn goleuo'r ystafell.
Edrychaf, gwrandawaf
A drachtio
o'u positifrwydd
am eu plant, eu swyddi
eu hamdden
a'u barn.
Âf am adref,
a'm meddwl
yn fy nhywys
ar hyd ffordd o obaith
y caf weld
fy nallineb.
Richard Lloyd Jones
8 ½ pwynt
Telyneg: 'Camp'.
Daeth niwl ar lannau'r Mississippi gyda'r hwyr,
a'r arwyddion neon yn nofio,
wedi gollwng angor o'r strydoedd islaw...
Ac ar y teledu, yn ôl yn y gwesty
daeth hud ar genedl gyfan
a chyd-ddathlais y jiwbili fawr
wrth i ddyn o'r hen gyfandir
gynnig ei obeithion powld
i genedl gyfan gyndyn
o wynion a chyngaethion...
Ond ar sianel arall
yng nghannwyll llygad rhyw stadiwm peldroed
gwelais gewri duon
yn hyt-hyt-hyrddio'n chwyrn i'w gilydd,
ac enwau fy hil,
yn Evans a Griffiths a Davis a Jones
yn warthnod ar eu gwarrau llydan...
A champ i'r mab darogan hwn,
roi cnawd am esgyrn etholiad,
chwythu anadl i'r gobeithion powld,
ac impio croen yfory
ar greithiau ddoe
ond rhaid,
er mwyn y genedl dduvac er ein mwyn ninnau
wyn...
Ifor ap Glyn
9 pwynt
Englyn ar y pryd: Gofal
Yn wan, ond triw i'n henwad - ni'n llusgo
Yn llesg i ddirywiad.
I arbed cloi, rhoi yn rhad
I'n duw halog - adeilad!
Richard Lloyd Jones
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77 ½
Englyn ar y pryd: Gofal
A wnaf drachefn y trefniant - a wnaeth hi
A'i thad mor ddiffuant.
A rhoi yn ôl i riant
Yn ei phlyg anwes ei phlant?
8 ½ pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 77
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth ar yr odl 'os'.
Gwn hyn, wedi caddug nos
swyn y wawr sy'n ein haros.
Nid yw ffydd yn gwarchod ffôs,
y mae'r meirw am aros.
Nid yw rhai am weld y rhos
yn blwy' antur i blantos.
Aeth rhamant byd y plantos
o'n t? clyd, heb Santa Clôs.
Englyn Cildwrn ar yr odl 'e'.
( Lee Halfpenny)
Â'r bêl mae'n ddawnsiwr bale, - dyn a dawn
a dania'r eisteddle.
Ein dime.
Englyn Cywaith - Cwestiwn
Y Talwrn, pêl-droed a'r teli - siopa,
sawl sôp a gêm rygbi;
G?yl Gerdd Dant, claddu anti,
wnaiff rhywun englyn i ni?
Dduw Iôr, rhoddais wlad ragorol - inni,
i gynnal dy bobol;
ond ffei, onid gweithred ffôl
rhoi hafau mor ddifrifol?
Telyneg - 'Camp'
Triais fy ngorau
i dy gadw di'n llosgi
gyda fy nwy law
amddiffynnol
o dy gwmpas di...
Triais
dy warchod...
Ac ni lwyddais,
nes y daeth
rhyw awel
a barodd i ti
ddechrau crynu
mor ddirybudd
cyn y diffoddodd d'oleuni...
Camp
yw cadw fflam
yn llosgi.
Cynigion ychwanegol:
Pennill Mawl/Dychan: 'Banciau'.
Diolch i Dduw am y banciau
sy'n cadw ein harian yn saff
fel na allwn ni grogi ein hunain
trwy gymryd braidd ormod o raff.
Mae'r banciau'n gofalu amdanom,
mae'n cynilion yn ddiogel dan glo,
a phan fyddwn yn hen, mi gawn gelc bach
i ymddeol mewn cysur.... Be? ... O.
Ddoe roedd iddynt ddelwedd syber
Os ychydig yn ddifenter
Heddiw rheitiach yw hapchwarae
Gyda'n harian a'n bywydau.
Limrig yn ymwneud â gwleidyddiaeth.
Nid oes yn ei groen egwyddorion
Ma'i safbwynt yn hynod anghyson
Mae'i foesau heb alffa
A'i dwyll heb omega
Y fo gaiff fy fôt yn saff ddigon.
Mae'n wr egwyddorol a thirion
Mae'n daer am gyfiawnder i'r tlodion
Mae'n siampl o foes
Yn eicon o'i oes
Y fo gaiff y groes yn saff ddigon
Cânt redeg y wlad am ryw hyd
A datrys problemau y byd
Mae'r gwobrau yn hael
Am actio tra gwael
A geiriau olygant ddim byd.
Gwleidyddiaeth 'di bywyd, me' nhw.
Wel os felly, y Senedd di'r sw,
mae Rhodri fel lama
Nick Bourne fatha panda
a Mike German yn debyg i gnw.
Di Rhodri'm yn hoff iawn o Nick
ac mae Kirsty'n gwneud Ieuan yn sic.
Mae'n rhyfel ddi-baid
rhwng aelodau pob plaid,
Mae'n bryd i rywun alw Hans Blick.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

