Penrhosgarnedd vs Bro Alaw.
Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dim o feirdd yn y rownd gyntaf o'r Talwrn.
Penrhosgarnedd.

Bro Alaw.

Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'potel'
Nid yw potel mewn selar
O bwys i'r dyn wrth y bar.
Llion Jones
8 ½ pwynt
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'potel'
Tair shot o waelod potel
Wna pladras yn ddynas ddel
Ioan Roberts
8 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'Cyflwynwyr Teledu'
Dw i wedi cyflwyno ambell raglen fy hun
Er na dw i ddim yn ifanc - nac yn hardd o lun,
Ond ma Nghymraeg i'n o lew, gin i chydig o ddawn,
A fedrai actio 'smalio diddordeb' yn iawn.
Efallai daw newid, pan fydd plaen a phrofiadol
Yn cymryd lle y di-glem ond deniadol,
Mewn ugain mlynedd ella ca' i 'Wedi Saith'
Pan fyddai'n h?n, ac yn hyllach, na Bruce Forsyth.
John Ogwen
9 pwynt
Pennill Mawl/Dychan: 'Cyflwynwyr Teledu'
Mae 'da ni gwledd ffantastig
Pob raglen yn eiconig
A'r llediaith hyfryd mae fi gen
Yn rîli bendigedig
John Wyn Jones
9 pwynt
Englyn yn cynnwys enw archfarchnad
Y mae Iceland yn handi ac Asda
lawn cystal ag Aldi
fel testun i'n henglyn ni
a Lidl i gael odli.
Llion Jones
8 pwynt
Englyn yn cynnwys enw archfarchnad
Mi gawn ddewis amgenach - a disgownt
Mewn rhyw Desco bellach
Ond superstore ragorach,
Er y gost, yw'r hen bost bach.
Richard Parry Jones
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â cholli
Mae colli'n hen air bach anniddig
A chyfaddef y weithred yn chwithig!
Os colli i Fro Alaw
Awn o 'ma yn ddistaw -
Gyda llaw! Mwynhewch eich Nadolig!
Lynn Davies
9 pwynt
Limrig yn ymwneud â cholli
Un noson cyn syrthio i gysgu
Fe gollais fy sbectol'n y gwely
Ymbalfalais â'm dwylo
Ym mhobman wrth chwilio
Mae 'ngwraig yn ei chuddio ers hynny!
Ioan Roberts
9 pwynt
Cân (heb fod dros 20 llinell): Pobol Od
Dewch gyda mi gyfeillion hoff am dro i fangre dlos,
I le rhyfeddol pobl od sy'n byw ym Mhentre'r Rhos;
Mae'r acen yn un od a ma'ne iaith wahanol iawn,
Fe glywch chi fory bore, fory nos a fory pnawn.
Nid yw hi'n bwrw eira ond mae'n odi hyd y llawr,
A wir llygoden ddiarth yw ac nid llygoden fawr;
Rhoir sur ar tships nid finegar, a wagen goits yw pram,
Os wyt ti'n magu lleche rwyt ti'n teimlo reit di-âm,
Ac os am ffeit mi gei di hws, a dygyd ydi dwyn,
A gwintio mae yr ogle, os nad yw hwnnw'n fwyn.
Mae'n lle am roi blasenwau, a dyma restr deg,
Sef Dic dau dad a Jac dau fol a John un llais ar ddeg.
Wil fel yr oen a Jac ddim byd a Daniel hanner dyn,
A stori wreiddiol yn datguddio tarddiad bron bob un!
Roedd pump ar hugain lle addoliad yn y Rhos un waith
A chwech ar hugain tafarn - bob un Cymraeg eu hiaith;
Cerddorion a chantorion yma i'w cael ymron bob stryd
Oes ryfedd fod y pentre'n cael ei alw'n od o hyd?
Rhos 'uffe'n' yw yr enw gaiff y lle gan iobs di-ri,
Rhosllannerchrugog, hyfryd le, paradwys yw i mi.
Morien Phillips
8 ½ pwynt
Cân [heb fod dros 20 llinell]: 'Pobl od'
Er mwyn cael selebs i'r jyngl
Maen nhw'n talu cyflog hael
Am rai od, ac odia'r gora -
Mae yng Nghymru lwyth i'w cael.
Plismon camp o'r Noson Lawen
Methiant mawr er maint ei dâl
Chlywyd 'run hyena'n chwerthin
Ar ben jôcs mor hen a sâl
Aeth pwysigyn Llys y Sdeddfod
Draw i'r lleithder mawr a'r gwres
Cwynai nad oedd ei siwt Tarsan
Efo poced i ddal pres
Tarwyd un cyflwynwraig gegog
O flaen camra'n hollol fud,
Pan ddihangodd Maud ac Alys **
Rhwng y dail ger bron y byd.
Ac aeth canwr o Lanrwla
O Gefn Gwlad am glamp o bris
Cafodd gais gan y brodorion
Peidiwch canu eto, plîs.
Geraint Jones
8 ½ pwynt
Cafwyd ar ddeall i gyflwynwraig barablus gyhoeddi maiMaud ac Alys yw enwau ei bronnau. Cafodd hyn beth sylw - ee yng ngholofn Colyn Pigog yn 'Y Cymro'.
Cywydd (heb fod dros 20 llinell): Newid
Fy mhoced yn ddi-gredyd
a'r banc ym mhen pella'r byd,
a thrai neithiwr a'i ôl
hyd yr afon hydrefol,
y llanw'n llwm a llonydd
a rhyw dawch yn llethu'r dydd,
Ond pan mae'r golau'n gwanio,
a'r haul yn cefnu â'r fro,
dyma hwy, fel newid mân,
y sêr yn fwclis arian,
yn gyfoeth heb un gofid,
yn groes â sylltau'n eu gwrid.
Iwan Llwyd
9 pwynt
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): 'Newid'
Ddoe a'r haul ar gloddiau'r haf
Yn felyn, a chyfalaf
Yr adladd lond yr ydlan,
I ninnau rhoed fwy na'n rhan
O neithdar y ddaear dda
Yn foethus i'n difetha.
Ond i bawb daw newid byd,
I'n haf daeth terfyn hefyd:
Daeth ias rhew o'r gorllewin
Gwynt dwyrain milain, a min
Eirlaw oer i fferru'r wlad
I'w hesgyrn - daeth dirwasgiad !
Richard Parry Jones
9 pwynt
Ateb llinell ar y pryd:
Â'r llestri'n torri'n y t?
Anodd iawn maddau hynny.
Ateb llinell ar y pryd:
Y ciaidd, ffiaidd a ffy-
Anodd iawn maddau hynny.
1 pwynt
Englyn Cywaith: Taith
Yn ôl mae heol o hyd yn dirwyn
trwy diroedd ein symud,
llinell wen o ben draw'r byd
â'i chalon ar ddychwelyd.
Llion Jones
9 pwynt
Englyn Cywaith: 'Taith'
Er dadlau'r doe a'i edliw - yr herio
Arwraidd a'r distryw,
O'r diwedd teithient heddiw
Law yn llaw - y ddau 'run lliw.
Geraint Jones
9 pwynt
Telyneg: Mam
Rhwng y fflat a'r diflastod,
rhwng t? golchi a'r gwaelod,
rhwng y dwfn a'r dydd sy'n dod
mae 'na freuddwyd yn darfod:
rhwng stepen drws a'r wythnos,
rhwng llechen lân a chyfnos,
rhwng y sglein rhyngddi hi a'r nos
mae 'na urddas yn aros.
Iwan Llwyd
9 ½ pwynt
Telyneg 8 llinell mewn mydr ac odl: 'Mam'
Rho i mi lun o lwybr
drwy'r goedwig: dal fy llaw
a thywys fi at lannerch,
at gysgod pan ddaw'r glaw.
Gad atgof ar yr awel,
Cynghorion rhwng y coed...
Un dydd, daw dail yr hydref
i guddio ôl dy droed.
Siân Owen
9 ½ pwynt
Englyn ar y pryd: Joe Calzaghe
Rhyw wrid o haul yr Eidal - a darodd
Ar deras a chynnal
 dwrn ei gysgod i'n dal
Drwy hin y crinder anial.
Iwan Llwyd
9 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 79 ½
Englyn ar y pryd: Joe Calzaghe
Prif chwaraewr y flwyddyn 2008?
Pencampwr pob arwriaeth - i'r rhai h?n
A'r iau heb wahaniaeth
Erbyn hyn mae'r hyn a wnaeth
Yn haeddu cydnabyddiaeth.
Sian Owen
8 pwynt
CYFANSWM PWYNTIAU: 80
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'potel'
Aeth y ddwy'n un eneth ddel
O hitio'r ddegfed botel.
Cynigion ychwanegol:
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'potel'
Er syml swydd brys aml sy
I botel mewn ysbyty
Pennill Mawl/Dychan: 'Cyflwynwyr Teledu'
Mae 'na lu o gyflwynwyr teledu
Rhai doniol, rhai da a rhai del;
Rhai sy'n ddoeth a phrofiadol
'Di arfer cyflwyno ers sbel,
Ambell un sy'n llwyr broffesiynol
Yn gwneud eu gwaith yn ddi-fêth.
Pam goblyn fod Dai Jôs a Iolo
Yn cyflwyno pob diawl o bob peth?
Englyn yn cynnwys enw archfarchnad
Y g?r boldew, Garibaldi - rodiodd
Drwy'r Eidal dan weiddi
Mae'r pryfed mewn bisgedi
Yn y tun dan garantî. p> Limrig yn ymwneud â cholli
Am ffonio am funud neu ddwy
Bu'n golled o filiwn neu fwy
I Jonathan Ross
Bydd nawr yn ddi-os
Sawl wythnos yn byw ar y plwy!
Wrth gofio pregethu yn ddyddiol
"Colli'r bws, colli'r ffordd, colli'r ysgol -
Nid methu rhen hogia"
Dwi'n falch o gyfadda
Na chollais i'r cyfla'i ymddeol.
Roedd na chwinc yn ei daid, 'nol y llun,
A'i nain ddim llawn llathen, ta p'run,
Ni fu'i fam, o ran hynny,
Ym mhen draw y popdy -
S'dim rhyfedd fod o'n colli arno'i hun!
Englyn Cywaith: 'Taith'
Shane Williams yn bencampwr byd
Ar wib wych â'r cawr bychan - i oriel
Prif arwyr byd cyfan,
Daw'n Llew cry' i fynnu'r fan
Yma i fois yr Aman.
Chwilio
Amserlen
Ar yr awyr nawr
05:00Richard Rees
Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

