Garfan v Ffostrasol

Gerallt Lloyd Owen yn pwyso a mesur cynnyrch dau dîm o feirdd yn y rownd gyntaf o gyfres y Talwrn.

Garfan

Garfan

Ffostrasol

Ffostrasol

Cwpled Caeth-Ar fedd Parot

Pws rhy agos un noson
Plu a gwaed a poli gon.

Beti Wyn James
8 1/2 pwynt

Cwpled Caeth - Ar fedd Parot

Ni ddaw y parot tawel
O oes oer ei 'Polycell'.

Dai Rees Davies
8 pwynt.

Pennill Dychan-Hawliau Anifeiliaid

Bu dathlu ymhob buarth
Pan ddaeth y newydd cudd
Fod senedd anifeiliaid
I ddod i Fae Caerdydd.
Bydd gwartheg yn rheoli
Mewn clymblaid medde nhw
 defaid William Morgan.
Ac ambell gangarw.
Cadno'n arwain clymblaid
Â'i feddwl miniog chwim.
Pawb â'u swch yn y cafnau
- Dyw pethau'n newid dim!.

Huw Edwards
8 pwynt

Pennill Dychan-Hawliau Anifeiliaid

Mae'n berffaith iawn i'r tarw coch
Fynd drwy ein gerddi weithiau,
Oherwydd y mae'r "right to roam"
Yn ran o'i hawliau yntau.

Jim James
8 1/2 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell)-Croeso

Yr Ardd Fotaneg
Nid oes gardd mor hardd â hi
na'n fwynach ei cholfenni
Yn ei llwyni mae llinach
a dewder y border bach.
Ein holl iaith sydd yn ei llys
a'r siarad yn bersawrus.
Daw ei rhin o flodau'r allt,
a'i Chymru'n wych o emrallt.
I groeso'r enwau grisial,
dere wir tu draw i'r wal
at glai hen dan y t? glás
i balu'r ardd yn balas.

Aled Evans
8 pwynt

Cywydd (heb fod dros 12 llinell)- Croeso

Yn y ward estynnai'r nos
Yn hir, a minnau'n aros
Yn dynn wrth erchwyn erchyll
Y truan gwan yn y gwyll,
Hwnnw'n hedfan yn adfyw
Ar y bont rhwng marw a byw.

Yna ar draws ei wyneb
Dan lygaid cêl, na wêl neb,
Ar ei fin, rhyw gynnwrf oedd
Yn dirwyn o'r dyfnderoedd
Yn wên drwy ein dagrau ni,
Yn wên o groeso inni.

Dai Rees Davies
8 1/2 pwynt

Englyn yn enwi dwy wlad

Yn ffaith bu dyn yn difetha'i diroedd
ac yn daer fe lwydda
i droi'r haf yng Ngwlad yr iâ
yn rhywle fel Awstralia.

Aled Evans
8 pwynt

Englyn yn enwi dwy wlad

Alban Arthan amdani-'na'r adeg
Mae'n bryd chwilio twrci
Lladdwn hwn, a'n gwala ni
A gawn dros ?yl Y Geni.

Dai Rees Davies
8 pwynt.

Cân (heb fod dros 20 llinell)-Yr Ymddeoliad

Un awr o ddymuniadau lond fy nghol,
brawddegau teyrnged wedi lapio'n dynn
mewn plygiad werthfawrogol, ac ar ôl
nid oes gwacter rhwng y geiriau hyn.
Dros donnau'r dymuniadau clywaf gân
i minnau weld y byd'r ôl gyrfa faith,
a hwylio i rhyw fan na fûm o'r blân
a'm pensiwn i mi'n gwmni ar fy nhaith
heb droi yn ôl na phoeni am y sawl
sy'n eistedd yn gartrfeol yn fy lle;
'Mwynha dy hun 'medd pawb,'gen ti mae'r hawl
i owedd o dan haul dy seithfed ne'.
Fe hoffwn, er yr heulwen, weled drwy
y niwl sy'n dweud nad oes fy angen mwy.

Beti Wyn James
10 pwynt.

Cân (heb fod dros 20 llinell)-Yr Ymddeoliad

Mae'n bryd i ni ymddeol o'r Talwrn erbyn hyn,
Bydd hynny'n weddol fuan os yw y marciau'n brin.
Rhyw sylweddoli wnaethom nad ydym ni ein tri
Yn cael ein gwerthfawrogi gan fod ni'n feirdd o fri.
Meddyliwch am y golled, y bwlch fydd ar ein hôl
O ardal Pentrecagal hyd gyrion y North Pôl.
Bydd rhai sy'n gwrando'r Talwrn yn siwr yn dipyn llai
Rhyw diwnio mae'n debyg i glywed rhaglen Dai.
Fe fydd y Meuryn druan yn wir tan deimlad mawr,
Peth diflas ydyw rhaglen a'r safon yn mynd lawr.
Mae'n debyg y cawn dysteb a derbyn wnawn sawl siec
can's bydd ein byd yn dlotach heb bres y B.B.C.
Ond medrwn roi gwasanaeth a hynny yw am dâl
I gwblhau y tasgau'r i'r llu o dimoedd sâl,
Ond byddwn yn rhy brysur, fe fyddwn ni yn sêr
Yn agor archfarchnadoedd a siopau Mother care.
Ni fyddai amser hamdden , rhyw fynd a dod o hyd
Yn waeth na gwneud tasgau a'u gyrru nôl mewn pryd.
Efallai. ar ôl meddwl, a fedrem ddal y straen
Gwell peidio ag ymddeol, fe wnawn ni gario 'mlaen.

Emyr Davies
9 pwynt.

Limrig yn ymwneud â darllen

'Sgrifennais fy nhasgau ar hast
Heb adael yr un eiliad yn wast
'Pam yr holl frys?
Ti'n laddyr o chwys,'
'Wel am fod Gerallt yn darllen mor ffast.'.

Heddwyn Jones
9 pwynt.

Limrig yn ymwneud â darllen

Ym mhapur bro misol Sahara
Nid oes un atalnod na choma,
Dim llun na dim sgandal,
dim hanes am fandal
Ond mae'n gwerthu'n reit dda draw yn Biwla.

Emyr Davies
9 pwynt.

Ateb llinell ar y pryd

Ni wn i ac ni wyr neb
Ai her yw pob dihareb?.

1/2 pwynt

Ateb llinell ar y pryd

Ni wn i ac ni wyr neb
Arwydd y wir dihareb.

1/2 pwynt

Englyn Cywaith; Porthladd

Mae Awst ymysg y mastiau i'n denu
ni'n dyner i'w donnau;
Heb weld yn bell bell o'r bae
Y niwl sy'n llenwi'r hwyliau.

Aled Evans
9 pwynt

Englyn Cywaith; Porthladd

Yn angof aeth ieuengoed,-a'n y niwl
Ni welir ein maboed
Pan ddaw'r awr i gadw'r oed
O fewn rhyw gartref henoed.

Jim James
8 1/2 pwynt

Telyneg-Arian- Arian

Dwin arllwys f'arian i ofal meithrinfa,
Aeth 'chdyig mwy ar drip-hanes Awstralia.

Aiff llif bob mis ar wersi piano
A thannau newydd ffidil a cello.

Diflanodd diferion ar wisg yr ysgol,
A mwy fyth ar gredyd ffonau symudol.

Dihangodd y trochion ar git tîm pêl-droed,
A d'oes dim byd yn tyfu ond dail ar goed.

Er gwaethaf y sychder fe wn i yn iawn
Mod i'n wraig gyfoethog a 'nghwpan yn llawn.

Meirion Jones
9 pwynt

Telyneg-Arian- Arian

Rôl chwarter canrif gwelsom liw
Yr arian ar y cerdyn,
A thros d'ysgwyddau yr oedd aur
Yn fôr o donnau melyn.

Ond nawr rôl hanner canrif fer
Yr aur yw ein dathliadau,
Ac erbyn yr arian sydd
Yn addurn ar d'ysgwyddau.

Emyr Davies
10 pwynt

Englyn ar y pryd- Newid Hinsawdd

A welwn eto'r lili yn gynnes,
gyda'i gwên eleni
yn brydferth hyd y perthi
a'r haf wedi'i ffwndro hi.

Aled Evans
8 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU-78 PWYNT

Englyn ar y pryd- Newid Hinsawdd

Gadwch i'r môr godi- a rhedeg
Ar hyd yr aceri
A gall'rhen Loegr golli
Lot o'i hawch-gwlad fflat yw hi!.

Jim James
8 1/2 pwynt

CYFANSWM PWYNTIAU-78 1/2 PWYNT

Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Her Pum Copa

Her Pum Copa

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.